tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Agorwch eich trafodaeth ar addysg 14-19 oed o'r cychwyn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Addysg Caerfyrddin i beidio a gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth gyda'i MEP wrth iddynt drafod Cynllun Peilot ar gyfer Addysg 14 – 19 oed yn ardal Dinefwr yn estyn o Landyfri a Dyffryn Aman hyd Cwm Gwendraeth. Lluniwyd papur cefndir gan y swyddogion mor bell yn ol ag Awst 2007, ond ni bu unrhyw drafodaeth gyhoeddus. Yn y ddogfen diweddaraf ar ddatblygu Model Addysgol ar gyfer Dinefwr y mae'r swyddogion yn rhoi rhestr o 'gwestiynnau allweddol' a'r cyntaf yw "Pryd a sut y byddwn yn cyfathrebu yr hyn yr ydym am ei wneud?"

Meddai cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin, Sioned Elin:

"Yr ateb amlwg i'r cwestiwn hwn yw 'YN SYTH'. Dylai'r Cyngor ryddhau'r ddogfen yn syth i'r cyhoedd a galw cyfarfodydd cyhoeddus o rieni, llywodraethwyr ac eraill i drafod y ffordd ymlaen. Rhaid i'r Cyngor beidio ag ailadrodd y dull anemocrataidd y cyflwynwyd y 'Rhaglen Moderneiddio Darpariaeth Addysgol' (MEP), ffurfiwyd cynllun manwl ar dynged pob ysgol gan y swyddogion tu ol i ddrysau caeedig – a'i gyflwyno i'r wasg yn niwedd 2004 gyda thrafodaeth gyhoeddus yn y Cyngor flwyddyn yn ddiweddarach. Ni ymgynghorwyd o gwbwl ag ysgolion na chymunedau lleol hyd nes roedd y Cyngor am eu cau.

Ychwanegodd Ms Elin:

"Mae'r cynllun hwn yn chwyldroadol o ran y modd y cyflwynir addysg a gallau safleoedd mawr yng Nghwm Gwendraeth a Dyffryn Tywi uchaf gau.. Mae nifer o elfennau yn y cynllun i'w croesawu o ran hybu cydweithio, ond rhaid i'r Cyngor infolfio'r cyhoedd a rhieni o'r cychwyn – nid y rhan-ddeiliaid sefydliadol (institutional parties) yn unig – gan ein bod yn son am newid natur ein cymunedau."

"Yn eironig iawn y mae'r swyddogion yn dweud yn ei Hasesiad Risgiau posibl i'r cynllun fod " Methu a chael cytundeb drwy'r broses ymgynghori" yn risg "isel iawn". Bydd rhywrai sinicaidd yn dweud fod hyn oherwydd nad yw'r Cyngor yn cymeryd sylw o'r ymgynghori. Fel cyfraniad tuag at hybu trafodaeth gyhoeddus, y mae Cymdeithas yr iaith yn cyhoeddi'r cynllun."

" O ran dyfodol yr ysgolion Uwchradd, safbwynt syml Cymdeithas yr Iaith yw y dylai unrhyw Ysgol Uwchradd yng Nghwm Gwendraeth fod yn sefydliad swyddogol Gymraeg gan fod yr holl ysgolion cynradd yn yr ardal yn rhai categori 'A' Cymraeg."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Newyddion
.

Newyddion
"Tinsel ar y Goeden... LCO iaith ar y ffordd?" Fideo Nadolig y Gymdeithas
18 Rhagfyr, 2008
Sion Corn yn Rhoi Rhestr Siopa'r Gymraeg i Siop Orange yn Aberystwyth
10 Rhagfyr, 2008
Ymateb i Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig
27 Tachwedd, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Parti 'Dolig Carafan: Mattoidz, Adrift, Lodofois: 3 Eog, Caerfyrddin
29 Rhagfyr, 2008
Rali Calan Hen, Caryl Parry Jones, Pibydd Cymreig, Y Fari Lwyd + mwy! CAERDYDD
10 Ionawr, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig