tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Sion Corn yn Rhoi Rhestr Siopa'r Gymraeg i Siop Orange yn Aberystwyth

Sion CornGall Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgelu bydd Sion Corn yn ymweld â siop ffoniau symudol 'Get Connected', Ffordd y Môr, Aberystwyth ddydd Sadwrn yma (13/12) am 1pm ac yn tynnu o'i sach rhestr o wasanaethau yr hoffai weld cwmni Orange yn darparu yn y Gymraeg. Fe fydd Sion Corn yn trosglwyddo'r rhestr i weithwyr y siop gan ofyn iddynt ei ddanfon ymlaen at gwmni Orange, yn ogystal a gofyn i'r siop i gefnogi galwad y Gymdeithas trwy fynnu gwasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid.

Mae Sion Corn yn ymuno ag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros y flwyddyn
ddiwethaf i weddnewid y sector breifat. Mae'r Gymdeithas wedi bod yn
targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis trwy gydol y flwyddyn gan
ganolbwyntio ar gwmniau ffon Orange a Vodafone ym misoedd Tachwedd a
Rhagfyr. Yn dilyn ymatebion gwarthus wrth y cwmniau hyn, fe fydd y
Gymdeithas dan arweiniad Sion Corn yn cyflwyno'r gofynion i siop
'Orange' yn Aberystwyth ar Ragfyr 13eg ac yna yn mynd ymlaen i siopau
Orange a Vodafone yng Nghaerfyrddin erbyn 11am ar Ragfyr 20fed cyn
hedfan i fyny i Gaernarfon erbyn y prynhawn ac ymlaen i Fangor yr
wythnos ddilynol.

Meddai Sion Corn:

"Mae nifer o bobl Cymru wedi gofyn am ffôn symudol fel anrheg i'w
hosan eleni eto. Os yw'r Gymraeg am fod yn rhan normal o'n bywydau,
rhaid i'r cwmniau hyn roi hawliau teg i'w cwsmeriaid a thrin yr iaith
Gymraeg fel iaith swyddogol."

Wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddisgwyl am gyhoeddiad am yr LCO
sef y gorchymyn fydd yn symud pwerau dros yr iaith Gymraeg o Lundain i
Gaerdydd, meddai Angharad Clwyd:

"Nid ydym yn disgwyl dim llai na gweld yr holl bwerau dros yr iaith yn
cael eu symud i Fae Caerdydd. Dyma'r unig beth sy'n foesol dderbyniol.

Gyda'r grym hwn, disgwyliwn i Lywodraeth Cymru'n Un gymryd arweiniad a
chynnwys y cwmniau ffôn yn y mesur iaith newydd."

Mae Sion Corn wedi trefnu i gyfarfod a'i helpwyr y tu allan i Siop y Pethe yn
Aberystwyth am 1pm ddydd Sadwrn cyn cerdded draw at y siop ffôn ar
Ffordd y Môr.

Manylion pellach

Rhestr o'r gofynion:
1. Arwyddion allanol a mewnol, gan gynnwys arwyddion parhaol a dros
dro, a thaflenni hyrwyddol dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn holl
ganghennau'r cwmni yng Nghymru.
2. Hyfforddi'r holl staff sy'n dod i gysylltiad â chwsmeriaid yng
Nghymru, boed mewn siop neu ar y ffôn, i siarad Cymraeg.
3. Adran Gymraeg ar eu gwefan ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru.
4. Cyfriflen a gohebiaeth ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) i'w ddanfon
at bob cwsmer yng Nghymru.
5. Llinell ffôn penodol ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru, gydag opsiwn
ieithyddol ar gychwyn yr alwad.
6. Hysbysebu'n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yng Nghymru.
7. Yr iaith Gymraeg fel dewis ar eu ffonau symudol, mewn
cydweithrediad â'r gwneuthurwyr ffonau symudol.
8. Gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid yng Nghymru ar gyfer eu
gwasanaethau eraill sy'n bodoli ar hyn o bryd, megis Band Llydan, ac
unrhyw ddatblygiadau newydd gan eu cwmni yn y dyfodol.

Lluniau o'r Biced yn Aberystwyth:
Piced 'Dolig Aberystwyth 2008
Piced 'Dolig Aberystwyth 2008
Piced 'Dolig Aberystwyth 2008
Piced 'Dolig Aberystwyth 2008
Piced 'Dolig Aberystwyth 2008
Piced 'Dolig Aberystwyth 2008
Lluniau: Rhys Llwyd

Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig