tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Meddiannu Eiddo dros ein Cymunedau Cymraeg

7.jpg
Am 11 yb ar ddydd Sadwrn yr 24ain o Ionawr, meddiannwyd fflat yn natblygiad Doc Fictoria yng Nghaernarfon gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'r weithred symbolaidd hon yn rhan o'r ymgyrch dros ddyfodol cymunedau Cymraeg Cymru, a thros sefydlu'r Hawl i Rentu fel rhan o?r ateb i'r argyfwng sy'n wynebu'r cymunedau hynny. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol i gyd-weithio er mwyn sicrhau cynnydd yn y nifer o dai ar rent sydd ar gael i bobl leol.

Dywedodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd,

"Mae'r fflat yma yn Noc Fictoria yn enghraifft berffaith o eiddo lle gellid bod wedi datblygu tai fforddiadwy ar gael i bobl leol i'w rhentu, a'u galluogi i aros yng Nghaernarfon. Rydym wedi meddiannu?r fflat yma heddiw fel arwydd symbolaidd o hyn."

Ychwanegodd,

"Mae yna argyfwng yn wynebu cymunedau Cymraeg ar draws Cymru ar hyn o bryd, ac mae'n holl bwysig bod polisïau tai a chynllunio yn cael eu llunio gyda'r nod o alluogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae angen cynyddu'r stoc o dai ar rent sydd ar gael, gan gynnwys tai addas i unigolion a theuluoedd. Gyda chyllid gan Lywodraeth y Cynulliad dylid sicrhau bod tai yn cael eu trosglwyddo i fod yn dai ar rent gan ddechrau gyda?r nifer fawr o dai gwag sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Mae angen i awdurdodau lleol seilio polisïau cynllunio ar asesiadau o'r angen lleol am dai."

Dywedodd Hywel Griffiths, cadeirydd grŵp Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith,

"Mae'r ffaith bod 60,000 o drigolion gogledd Cymru yn aros am dai cyngor yn dangos bod angen dybryd am dai ar rent. Mewn cymunedau lle y bu'r farchnad dai allan o gyrraedd pobl leol ers degawdau, ac mewn cyfnod lle mae'n gynyddol anodd i gael mynediad oherwydd y wasgfa gredyd, tai ar rent yw'r unig opsiwn realistig. Yn ogystal, mae angen sicrhau fformiwla deg er mwyn rhoi blaenoriaeth i bobl leol ar y tai yma, ac i ddod a'r farchnad yn raddol yn ôl dan reolaeth leol. Mae'n rhaid i gynrychiolwyr yn yr awdurdodau lleol, y Cynulliad a Llywodraeth San Steffan sylweddoli bod angen newid sylweddol mewn meddylfryd os yw'r iaith Gymraeg i barhau fel iaith gymunedol."

Bydd Hywel Griffiths a Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyflwyniad i Gynhadledd Cefnogi Cymunedau Cymraeg yn y Gymru Wledig a drefnir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, dydd Llun y 26ain o Ionawr yng ngwesty?r Park Plaza yng Nghaerdydd.

1.jpg

2.jpg

3.jpg

4.jpg

5.jpg

6.jpg

Lluniau: Rhys Llwyd ac Elinor Gray-Williams

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Protest Llundain yn erbyn cwtogiad S4C
9 , 2010
80% o Gymry Cymraeg o blaid hawliau iaith
7 Medi, 2010
Bygythiad 'gweithredu'n uniongyrchol' dros ddyfodol S4C
6 Medi, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig