LCO Iaith - Ebostiwch eich Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol
English version - A minute of your time!
Ydych chi'n sylweddoli nad yw'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac nad oes gennych chi unrhyw hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich bywyd bob dydd?
Mynnwch bod y pwerau deddfu llawn ym maes y Gymraeg yn cael eu datganoli i Gymru! Gweithred Fechan x Pawb = Gwahaniaeth mawr i'r Gymraeg!
Mae Llywodraeth y Cynulliad newydd gyhoeddi Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) yn galw am ddatganoli grym dros ddeddfu ym maes y Gymraeg o'r Senedd yn Llundain i'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Fideo syml yn esbonio beth yw LCO Iaith i'r chwith. Ond nid yw'r LCO yn ddigon cryf, ac mae ofn mawr y bydd Aelodau Seneddol yn Llundain yn ceisio gwanhau'r pwerau a fydd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad ymhellach.
Danfonwch y llythyr isod at eich Aelod Seneddol a'ch Aelodau Cynulliad i'w hannog i beidio â gwanhau'r pwerau dros y Gymraeg sy'n symud i Gaerdydd ac i sicrhau fod gwneud y Gymraeg yn swyddogol, rhoi hawliau diamod i bobl Cymru a sefydlu Comisiynydd Iaith yn rhan o unrhyw fesur yn y dyfodol.
Y mwyaf o bobl fydd yn gwneud hyn, y mwyaf o bwysau fydd ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli'r grymoedd yn llawn i'r Cynulliad, ac ar Lywodraeth y Cynulliad i roi Mesur Iaith Cyflawn i ni! Copïwch a gludwch y neges isod i mewn i'ch rhaglen e-bost neu gwe-bost, a theipiwch eich enw a'ch lleoliad ar waelod y llythyr.
Gallwch ddarganfod cyfeiriad e-bost eich Aelod Seneddol, eich Aelod Cynulliad Etholaethol a'ch 4 Aelod Cynulliad Rhanbarthol yma (Dogfen PDF).
NEGES DDWYIEITHOG / BILINGUAL MESSAGE
Annwyl Aelod Seneddol ac Aelodau Cynulliad,
Croesawaf gyhoeddiad y Gorchymyn Cymhwysol Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg gan y Gweinidog Treftadaeth ar Chwefror 2il, 2009.
Yn gyntaf, hoffwn bwyso arnoch chi fel fy nghynrychiolwyr yn y Cynulliad ac yn San Steffan, i sicrhau na fydd unrhyw wanhau ar y Gorchymyn fel y mae. Credaf mai Llywodraeth y Cynulliad sydd â'r hawl foesol i ddeddfu dros y Gymraeg ac nid San Steffan. Galwaf arnoch, felly, i roi'r pwyslais ar anghenion bobl Cymru a'r Gymraeg ac i gynorthwyo i beidio gadael i eraill wanhau'r pwerau a ddaw i Gymru.
Yn ail, mae'n gwbl angenrheidiol bod y Gorchymyn yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i lunio Mesur neu Fesurau Iaith Cyflawn fydd yn sefydlu statws swyddogol i'r Gymraeg, hawliau i bawb yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'u bywydau o ddydd i ddydd a Chomisiynydd Iaith fydd â'r grym i erlyn cyrff sydd ddim yn cydymffurfio â'r ddeddf.
Hoffwn ddiolch i chi rhag-blaen am eich ymrwymiad i'r mater hwn, ac er mwyn rhoi hawliau i fi fel unigolyn i ddewis byw fy mywyd drwy'r Gymraeg.
----
Dear Member of Parliament and Assembly Members,
I welcome the publication of the Legislative Competence Order on the Welsh language by the Heritage Minister on February 2 2009.
As my representatives at Westminster and the National Assembly I want you to make sure that there will be no attempt to weaken the LCO. I also believe that it is the Assembly Government is the one with the moral right to legislate on the Welsh language and not Westminster. I call on you therefore to put Wales and the Welsh language first and not to allow others to weaken the LCO.
Secondly it is vital that the LCO enables the Welsh Assembly Government to draft a Language Measure or Language Measures which will give the Welsh language official status, give the Welsh people statuary rights to use the Welsh language in every aspect of their lives, and establish a Language Commissioner with the necessary power to enforce the law and who can prosecute companies that do not keep to the new guidelines.
Thank you for paying attention to this matter and I hope that you will be able to support the campaign for equal rights.
Yn Gywir / Yours
Mwy yn yr un categori(au):
Deddf Iaith
|
Deunydd Ymgyrchu
.
|