tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Gig er mwyn Gasa

Ar nos Wener, Mawrth 13, bydd noson arbennig iawn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon i godi arian i bobl Gasa. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu drwy ddod i gefnogi noson lle bydd Steve Eaves a Gwilym Morus yn chwarae. Steve Eaves ei hun sydd wedi cynnig cynnal noson, ac rydym yn ffyddiog y bydd yn gyfle i nifer fawr iawn o gyfrannu i achos sydd wedi eu cyffwrdd yn ddwfn.

Can i Gasa
Steve Eaves
Gwilym Morus

Gwesty Meifiod, Bontnewydd Caernarfon
8pm Nos Wener, Mawrth 13 2009, £8

Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith
Elw i gronfa DAC i helpu pobl Gasa

Manylion-Angharad Tomos 01286 882134

Meddai Angarad Tomos, Trefnydd y noson -

"Yn ystod wythnosau cyntaf 2009, lladdwyd 1,300 o Balestiniaid yn Gasa, a bron i draean o'r rheini yn blant. Mae 50,000 o bobl yn ddigartref a miloedd heb ddŵr a bwyd. Gyda gwlad lle mae 56% o'r boblogaeth yn blant, roedd ei bomio yn ddidrugaredd am dair wythnos yn weithred anwaraidd y dylid ei chondemnio yn y modd cryfaf bosib. Does dim modd bod yn ddi-duedd ar fater Gasa, rydych naill ai yn ddi-hid i'r tywallt gwaed, neu yn ysu am y cyfle i gael cynorthwyo'r dioddefwyr mewn unrhyw fodd."

Mae Gwilym Morus wedi teithio i Balestina fwy nag unwaith, ac wedi dod yn gyfeillgar gyda cherddorion yno. Y gobaith yw cael noson gofiadwy lle bydd bob ceiniog o elw yn mynd yn syth i Gasa. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn fuan.

Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Angharad Tomos 01286 882134

Mwy yn yr un categori(au): Gwynedd Môn | Newyddion | Rhyngwladol
.

Newyddion
Protest Llundain yn erbyn cwtogiad S4C
9 , 2010
80% o Gymry Cymraeg o blaid hawliau iaith
7 Medi, 2010
Bygythiad 'gweithredu'n uniongyrchol' dros ddyfodol S4C
6 Medi, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig