tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ

iceland.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo y cwmni gyda'i wreiddiau yng Nghymru o lusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Ia. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis:

"Yr oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangefni bore heddiw wrth i gwmni Iceland agor siop newydd yn y dre. Gan nad oedd gair o Gymraeg i'w weld ynddi fe ddefnyddiodd ein sticeri gyda'r neges 'Ble Mae'r Gymraeg/Deddf iaith Newydd' i atgoffa Iceland o'u cyfrifoldeb i bobl Cymru. Mae'r HOLL arwyddion yn y siop yn uniaith Saesneg er mai Llangefni yw un o'r ardaloedd Cymreiciaf yng Nghymru."

"Mae hyn yn arwydd pendant fod Deddf Iaith 1993 yn fethiant llwyr a bod holl bwyslais Bwrdd yr Iaith mai yr hyn sydd ei angen i hybu'r Gymraeg yw 'ewyllys da' yn fethiant hefyd. Byddai rhywun wedi disgwyl gwell gan gwmni fel Iceland sydd a'i wreiddiau yng Nghymru."

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ymhellach:

"Mae'r sarhad hwn ar yr iaith Gymraeg a siaradwyr Cymraeg yn brawf pendant o'r angen am Fesur Iaith newydd fydd a grymoedd yn ymestyn i'r sector breifat. Yn y trafodaethau sydd ar droed ar hyn o bryd ynglŷn a chryfhau'r Mesur Iaith ein bwriad fel Cymdeithas yw defnyddio Iceland fel enghraifft o'r angen am ddeddfwriaeth newydd."

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Protest Llundain yn erbyn cwtogiad S4C
9 , 2010
80% o Gymry Cymraeg o blaid hawliau iaith
7 Medi, 2010
Bygythiad 'gweithredu'n uniongyrchol' dros ddyfodol S4C
6 Medi, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig