tafod.jpg hafan cymdeithas.com
deiseb.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Dilynwch esiampl yr Alban - Her i Lywodraeth y Cynulliad

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.

Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:

"Ar hyn o bryd y mae rhagdyb de-facto o blaid cau ysgolion bach ym mhob man yng Nghymru gydag eithriad posibl Gwynedd ers yr etholiad. Rydyn ni wedi llwyddo i gael Llywodraeth y Cynulliad i osod yr holl amodau cywir yn eu canllawiau newydd ar ad-drefnu ysgolion. Dywedir na bydd y Gweinidog Addysg yn cymeradwyo unrhyw gynllun i gau ysgol heblaw am fod y Cyngor wedi ystyried yr effaith ar addysg y plant, yr effaith ar yr iaith, yr effaith ar y gymuned leol a'r holl opsiynau eraill."

"Yn ymarferol fodd bynnag, dim ond un ystyriaeth sy'n cyfri - sef a ellid darparu addysg o dua'r un safon am lai o arian os caeir ysgol. Os bydd yr ateb yn gadarnhaol, yna caiff yr ysgol ei chau. Charade yw mynd trwy'r ystyriaethau eraill. Yn ymarferol y mae rhagdyb o blaid cau ysgolion bach a rhaid i rieni neu lywodraethwyr sefydlu achos eithriadol dros eu cadw."

"Mae'n haws gweld a gwerthuso adeilad ysgol newydd na gwerth sicrwydd addysg yn y cynefin a chefnogaeth deuluol a chymunedol i addysg y plentyn. Mae'n llai o drafferth cau ysgol na llunio gydag amynedd ddulliau creadigol o ysgolion yn cydweithio i sicrhau'r un manteision addysgol ac i lunio dulliau dyfeisgar o wneud defnydd o'r ysgol gan y gymuned leol."

"Rhagdyb o blaid cau ysgolion bach sy gyda ni ar hyn o bryd ac y mae hyn yn creu diogi ymhlith y gwleidyddion a swyddogion sy'n creu polisi ac anobaith ymhlith rhieni a llywodraethwyr ysgolion bach. Ni byddai rhagdyb o blaid ysgolion bach yn golygu na byddai unrhyw ysgolion yn cau. Ond golygai y byddai'n rhaid i swyddogion a gwleidyddion sydd am amharu ar ysgolion, cymunedau lleol ac addysg y plant sefydlu achos arbennig dros wneud hynny. Byddai dyddiau diogi gweinyddol drosodd."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Ceredigion | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Croesawu llythyr cyfreithwyr am fesur iaith cryfach
18 Mawrth, 2010
Llywodraeth yn 'camarwain y cyhoedd' ar y mesur iaith, cwyn swyddogol Cymdeithas
10 Mawrth, 2010
Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Ceredigion i wrthwynebu symud stiwdio Radio Ceredigion i Arberth
8 Mawrth, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Taith Coleg Ffederal - Caerdydd
16 Mawrth, 2010
Dyfodol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor?
17 Mawrth, 2010
Taith Coleg Ffederal - Aberystwyth
18 Mawrth, 2010
Ffair Lyfrau Cell Caerdydd
21 , 2010
Noson Lansio cyfrol chwyldroadol newydd - GAIR I GELL
1 Ebrill, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig