tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Gair dros y Gymraeg

Annwyl Gyfaill,

'Gair dros y Gymraeg'

Diolch yn fawr iawn i'r sawl ohonoch chi wnaeth ymateb i'r neges ddiwethaf yn galw am dystiolaeth. Roedd yr ymateb yn syfrdanol, ac fe gafodd yr holl dystiolaeth ei gyflwyno i'r Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad heddiw.

OND - Mae rhai Aelodau yn y Cynulliad dal yn meddwl fod neb yn gweld eisiau gwasanaethau Cymraeg yn y sector breifat achos bod dim digon o siaradwyr Cymraeg yn cwyno.

Bydd Aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ar y 23ain o Fawrth (Dydd Llun nesaf) ac rydym am gyflwyno cymaint o dystiolaeth a phosibl yn ymwneud â'r sector breifat.

Byddwn felly yn gwerthfawrogi'n fawr iawn pe byddech chi'n gallu ymateb i'r 3 cwestiwn syml yma os gwelwch yn dda:

(a) Ydych chi'n hapus gyda'r gwasanaeth Cymraeg yr ydych chi'n ei dderbyn gan gwmniau preifat yn gyffredinol yng Nghymru?

(b) A wnewch chi roi un neu fwy o enghreifftiau o gwmniau preifat yr ydych yn ymwneud â nhw yn gyson ac yn dymuno defnyddio gwasanaethau Cymraeg (e.e. siopau, banciau, archfarchnadoedd, Cwmniau trenau, bysiau, tai bwyta) lle mae'r gwasanaeth Gymraeg yn is-raddol, neu ddim yn bodoli o gwbl o ran arwyddion, taflenni, llinell ffon, gwefan neu mewn person.

(c) Ydych chi'n barod i ni ddefnyddio'r wybodaeth yma, yn ogystal a'ch enw, fel rhan o dystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar y 23ain o Fawrth.

Danfonwch eich tystiolaeth at hedd@cymdeithas.org

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth,

Menna Machreth
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

ON. Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Deddfwriaethol y Cynulliad heddiw. Os ydych chi am weld fideo o'r drafodaeth, ewch yma - http://www.senedd.tv/index.jsf -wedyn pwyswch ar Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5... 17 Mawrth.

Mwy yn yr un categori(au): Blog
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig