Pwyllgor Craffu: Mae dyfodol Hawliau Iaith ieuenctid Cymru yn eich dwylo chi
Heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.
Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.
Erbyn Mehefin 5ed, bydd Pwyllgor Craffu'r Cynulliad yn cyflwyno adroddiad i'r Gweinidog Treftadaeth am y Gorchymyn Iaith Gymraeg.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith y Gymdeithas:
"Gyda g?yl ieuenctid fwyaf Ewrop ar garreg eu drws, mae'n rhaid herio'r Pwyllgor Craffu i feddwl am hawliau pobl ifanc Cymru i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn cyflwyno arwyddion ffyrdd gyda negeseuon arnynt i'r Pwyllgor Craffu oherwydd os na fydd y Gorchymyn Iaith yn ddigon eang, bydd y Llywodraeth wedi dewis rhwystro'r ffordd i'r Gymraeg."
"Nid oes rheswm moesol pam na ddylai'r holl bwerau dros y Gymraeg ddod i Gymru. Pobl Cymru ddylai gael yr hawl i benderfynu ar fesur iaith, nid Llundain. Ein neges i'r Pwyllgor Craffu yw 'Mynnwch fwy i ieuenctid Cymru!"

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymgyrchu am Fesur Iaith a fydd yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol, cyfres o hawliau iaith ar draws bob sector, a chreu swydd Comisiynydd Iaith Gymraeg i reoleiddio'r mesur.
Mwy yn yr un categori(au):
Deddf Iaith
|
Eisteddfodau
|
Morgannwg Gwent
|
Newyddion
.
|