tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Gyhoeddiad y Pwyllgor Deddfwriaethol ar y Gorchymyn Iaith

senedd-caerdydd.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llongyfarch aelodau Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol am greu adroddiad sy'n datgan yn glir y dylid datganoli pwerau deddfwriaethol mor eang â phosibl dros yr iaith Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bu Cymdeithas yr Iaith yn dadlau ers blynyddoedd y dylid datganoli'r holl bwerau dros yr iaith Gymraeg i Gymru fel bod modd i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno Mesur(au) Iaith cyflawn sy'n gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol, yn rhoi'r hawl i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob sector, ac yn sefydlu Comisiynydd i'r iaith Gymraeg.

Meddai Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

''Rydym yn llongyfarch y Pwyllgor craffu yn y Cynulliad am ddatgan yn glir bod angen ehangu sgôp y Gorchymyn iaith, a datganoli cymaint o bwerau a phosibl dros y Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym yn galw ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan, ynghyd â Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i beidio rhwystro'r alwad hon o du'r Cynulliad, fel bod modd i'r pwerau gael eu datganoli i'r Cynulliad mor fuan â phosibl."

"Beth sy'n hynod o bwysig, maes o law, yw bod defnydd yn cael ei wneud o'r pwerau hynny er mwyn i bobl Cymru weld gwahaniaeth o ddydd i ddydd. Hyd yn hyn does dim byd syfrdanol wedi'i weld gan Lywodraeth Cymru o ran y Gymraeg ac mae'n bryd i hyn newid. Byddai mesur iaith sy'n cynnwys bob sector, gan gynnwys y sector breifat yn ei gyfanrwydd, yn gam ymlaen a fyddai'n rhoi i bobl Cymru hawliau llawn i ddefnyddio'r Gymraeg.''

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros Fesur Iaith cyflawn ers cyn cyhoeddi drafft y Gorchymyn iaith, ond credant fod mater yr iaith erbyn hyn yn nwylo Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd Rhys Llwyd:

''Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn casglu tystiolaeth gan aelodau, wedi bod gerbron y pwyllgor deddfwriaethol ac wedi lobio a gweithredu dros y cyfnod ymgynghori; ond nawr wrth i'r pwyllgor gyhoeddi'u hadroddiad mae hawliau pobl Cymru i ddefnyddio't Gymraeg yn nwylo Llywodraeth Cymru. Galwn eto ar y Llywodraeth i beidio rhwystro hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg yn y sector breifat.''

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig