tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth

Heddiw ar ddiwrnod cyhoeddi argymhellion yr Athro Robin Williams i'r Gweinidog Addysg ar fater polisi y Llywodraeth o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu rhai o argymhellion cryf yr adroddiad ac yn awr yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Coleg aml-safle cadarn ac iddo gyllideb sylweddol.

Meddai Rhys Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Goleg Ffederal Cymraeg:

"Rydym ni'n eithriadol o falch fod adroddiad Robin Williams yn argymell y bod angen sefydliad newydd annibynnol er mwyn datblygu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch. Y mae'r Gymdeithas ac Undebau Myfyrwyr wedi bod yn dadlau hyn ers blynyddoedd bellach ac yn falch fod Yr Athro Robin Williams wedi dod i weld mae dyna'r unig opsiwn credadwy i weld y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cynyddu'n sylweddol yn y sector. Mae'r Gymdeithas hefyd yn falch fod yr adroddiad yn nodi y bod angen cyllido'r datblygiadau yma'n ddigonol."

Fodd bynnag, mae Cymdeithas yr Iaith yn bryderus yngl?n a pherthynas y Coleg Ffederal arfaethedig gyda'r Prifysgolion presennol. Meddai Rhys Llwyd eto:

"Er yn deall fod hi o bwysigrwydd canolog i'r sefydliad Addysgol newydd gyd-weithio ar bob lefel gyda'r Prifysgolion presennol cred y Gymdeithas y bod perygl i bobl gam-ddehongli geiriau'r adroddiad i feddwl mae corff is-raddol, rhyw fath o frawd iau i'r Prifysgolion presennol fydd y Coleg Ffederal. Y mae o bwysigrwydd canolog mae sefydliad o gyfwerth statws a gweddill y Prifysgolion fydd y Coleg newydd gyda Is-Ganghellor ei hun fydd o gyfwerth statws yn y sector ac Is-Gangellorion y sefydliadau eraill."

Ond y mae'r brif her yn awr yn gorwedd yng nghol Llywodraeth Cymru. Meddai Rhys Llwyd eto:

"Rhaid i'r Llywodraeth symud ar fyrder yn awr i gyllido ar gyfer gwireddu'r addewid o Goleg Ffederal Cymraeg. Rhaid gweithredu ar argymhelliad Robin Williams o sefydlu'r Coleg Ffederal cyn diwedd tymor bresennol y cynulliad yn lle llusgo traed. Ond y mae'r Gymdeithas yn galw ar y Llywodraeth i fynd rai camau ymhellach nag argymhellion yr adroddiad mewn perthynas ac awtonomi y sefydliad newydd o fewn y sector addysg."

Cred y Gymdeithas fod sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn gam pwysig yn y dasg o greu cyfundrefn addysg Gymraeg gyflawn sydd, yn ei dro, yn ran allweddol o greu gweithlu cyfan-gwbl ddwyieithog yng Nghymru. Y mae galw cynyddol yng Nghymru am arbenigwyr yn eu meysydd sy'n medru trin eu maes yn Gymraeg yn ogystal a'r Saesneg o Nyrsio, i Gadwraeth Cefn Gwlad, i Therapyddion Lleferydd. Bydd Coleg Ffederal yn gyfraniad sylweddol tuag at economi Cymru ac tuag at greu Cymru ddwyieithog.

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Newyddion
.

Newyddion
Protest Llundain yn erbyn cwtogiad S4C
9 , 2010
80% o Gymry Cymraeg o blaid hawliau iaith
7 Medi, 2010
Bygythiad 'gweithredu'n uniongyrchol' dros ddyfodol S4C
6 Medi, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig