tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith

hain-francis.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan ei siom fod cyfarfod tyngedfennol i drafod y Gorchymyn Iaith wedi'i ohirio. Roedd Peter Hain wedi datgan y byddai Uwch Bwyllgor Cymru yn cyfarfod ar 8 Gorffennaf i drafod cais y Cynulliad i ddatganoli pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru, er nad yw cyfarfod o'r fath yn angenrheidiol. Ddoe cyhoeddwyd bod y cyfarfod yn cael ei ohirio, gan fod y Pwyllgor Materion Cymreig eisiau i Aelodau Seneddol o Gymru gael mwy o amser i ystyried eu hadroddiad (sydd heb ei gyhoeddi hyd yma) cyn cyfarfod.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn oedi a bod Swyddfa Cymru yn rhoi mwy o rwystrau yn y ffordd er mwyn atal y Gorchymyn Iaith rhag cyrraedd y llyfr Statud cyn yr Etholiad Cyffredinol. Os na fydd y Gorchymyn yn cyrraedd y Llyfr Statud cyn yr Etholiad Cyffredinol, bydd y cynlluniau presennol yn dymchwel, a bydd rhaid ail-gychwyn y broses craffu yn San Steffan. Byddai hyn, yn nhyb Cymdeithas yr Iaith, yn anfaddeuol ac yn dangos yn glir wendidau'r system bresennol.

Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

''Roeddem eisoes yn pryderu y byddai'r Pwyllgor Materion Cymreig yn llusgo eu traed ar y mater, ac mai bwriad y rhai sy'n gwrthwynebu'r cais oedd gohirio'r broses nes ar ôl yr etholiad cyffredinol, a fyddai'n golygu fod rhaid ail-gychwyn y broses craffu yn San Steffan. Mae penderfyniad Peter Hain fod rhaid trafod y Gorchymyn yn Uwch Bwyllgor Cymru, ac wedyn y ffaith fod y Pwyllgor wedi cael ei ohirio yn cryfhau'r pryder. Mae Cymdeithas yr Iaith, fel nifer o fudiadau eraill o Gymru, wedi cyflwyno tystiolaeth ddiamheuol gerbron y Pwyllgor yn y Cynulliad ac yn San Steffan o'r angen i ddatganoli'r holl bwerau dros yr iaith Gymraeg i Gymru, ond mae'r Pwyllgor Materion Cymreig a Swyddfa Cymru dal yn ceisio arafu'r broses.''

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am gyfarfod gyda Peter Hain i drafod y mater ac i ofyn iddo geisio prysuro'r Pwyllgor Materion Cymreig i ryddhau eu hadroddiad yn syth. Cred Cymdeithas yr iaith fod y pwyllgor Materion Cymreig wedi cael hen ddigon o amser i ystyried y dystiolaeth. Mae'r Pwyllgor yn y Cynulliad wedi cyhoeddi eu hadroddiad ers wythnosau, felly nid oes esgus gan y Pwyllgor Materion Cymreig rhag oedi rhagor.

Ychwanegodd Bethan Williams:

''Yn anffodus mae Peter Hain wedi datgan nad oes ganddo'r amser i gwrdd â ni i drafod ein pryderon. Rydyn ni wedi pwyso arno i ailystyried. Galwn arno am gyfarfod i sicrhau fod y broses hon yn cael ei chwblhau cyn gynted â phosibl. Y cynharaf mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyhoeddi eu hadroddiad, a bod cyfarfod Uwch Bwyllgor Cymru yn cael ei chynnal, y cynharaf y gall y broses fynd rhagddi, a gall y pwerau gael eu trosglwyddo i'w priod le, yma yng Nghymru.''

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
80% o Gymry Cymraeg o blaid hawliau iaith
7 , 2010
Bygythiad 'gweithredu'n uniongyrchol' dros ddyfodol S4C
6 Medi, 2010
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig