tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Gwasanaeth Sifil Cymru - prinder o siaradwyr Cymraeg

Dim ond 11% o'r Gweision Sifil ym mhencadlys Llywodraeth Cymru sydd yn siaradwyr Cymraeg, mae ystadegau a ddarganfuwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei datgelu.

Heddiw, dim ond 317 o siaradwyr Cymraeg sydd yn gweithio ym mhrif swyddfa Llywodraeth Cymru, ym Mharc Cathays, Caerdydd mas o gyfanswm o 2,688 - un deg un y cant. Mae hynny tua hanner y canran sy'n siarad yr iaith ymysg poblogaeth Cymru gyfan.

Mae ystadegau hefyd yn dangos fod y canran o weithwyr Llywodraeth Cymru sydd yn dysgu Cymraeg wedi haneru dros y chwe mlynedd diwethaf. Yn 2003 roedd 7.5% o weision sifil yn Llywodraeth Cymru yn dysgu Cymraeg, erbyn heddiw, mae'r ffigwr wedi cwympo lawr i 3% yn unig.

Yn ymateb i'r ffigyrau a ddatgelwyd yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith, fe ddywedodd y Cadeirydd, Menna Machreth:

"Er bod y llywodraeth yn gwneud ambell i beth da i hybu'r iaith, mae'r ffigyrau ynglyn â phencadlys Llywodraeth Cymru yn siomedig. Ar hyn o bryd, mae'r Gymraeg yn cael ei thrin fel rhywbeth ychwanegol, dymunol yn hytrach na chael ei hystyried fel cyfrwng hanfodol yng ngweithrediad y sefydliad."

"Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw eisiau creu Cymru Ddwyieithog - mae 'na ddyletswydd arbennig arnyn nhw felly i ddangos arweiniad da. Yn ogystal, mae'n hollbwysig bod swyddogion y Llywodraeth yn deall materion ieithyddol ac yn gallu gwasanaethu'r cyhoedd yn y ddwy iaith."

Mwy yn yr un categori(au): Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig