Toriadau Addysg - dinistrio'r Iaith Gymraeg yn y cymoedd
Mae ymgyrchwyr iaith Gymraeg wedi rhybuddio y byddai cynlluniau i gau chweched dosbarth ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn "lladd y Gymraeg" yn y sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ac AC Rhondda Leighton Andrews yn gofyn iddo wrthod opsiynau sydd wedi eu hargymell gan y cyngor i gau ysgolion a sefydlu colegau dwyieithog yn lle.
O dan y cynlluniau, caeiff y chweched dosbarth (blynyddoedd 12 a 13) yn ysgolion Y Cymer, Garth Olwg, Rhydywaun a Llanhari. Hefyd, rhybuddiodd y Gymdeithas am 'protestiadau cryf' yn erbyn y cynllun os nad yw'r cyngor a Llywodraeth Cymru yn newid eu meddwl.

Mae rhaid i Lywodraeth Cymru roi ei sêl bendith i'r cynlluniau cyn i'r cyngor geisio eu gwireddu. Mewn llythyr at y gweinidog, fe ddywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Menna Jones:
"Mae'r Gymdeithas wedi dod i'r casgliad y gallai cynllun Cyngor Rhondda Cynon Taf i sefydlu darpariaeth addysg ôl-16 'dwyieithog' ddinistrio addysg gyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Rydym yn gryf o'r farn mai ysgolion cyfrwng Cymraeg yw'r unig ffordd ddibynadwy sydd yn galluogi disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog."
Ychwanegodd Danny Grehan, aelod o'r Gymdeithas a rhiant o Donyrefail:
"Yn ôl beth rwy'n ei glywed, does dim un rhiant sy'n cefnogi'r cynllun hwn. Disgwyliaf brotestiadau cryf os nad yw'r cyngor yn ail-ystyried ei gynlluniau arfaethedig. Mae'r polisi yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, felly alla i ddim gweld sut y gallan nhw ganiatáu i'r cyngor fynd yn ei flaen gyda'r opsiynau presennol."
"Mae'r cynllun yn peryglu dyfodol y Gymraeg ac ysgolion Cymraeg yn y sir, ond hefyd yn peryglu dyfodol ysgolion uwchradd Saesneg sydd yn mynd i gael effaith ar y gymuned leol."
Mwy yn yr un categori(au):
Newyddion
.
|