tafod.jpg hafan cymdeithas.org . pwysig-hannercant.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Adroddiad Mesur Iaith wedi 'dinistrio dadleuon' y Llywodraeth

menna-statws.jpgMae grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad wedi cytuno bod angen cryfhau'r Mesur Iaith Gymraeg yn sylweddol mewn adroddiad heddiw.

Yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor deddfu yn datgan bod angen cynnwys datganiad 'clir a diamwys' yn sefydlu statws swyddogol i'r Gymraeg; Comisiynydd mwy annibynnol oddi wrth y Llywodraeth; a rhagor o rym i unigolion yn y Mesur.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod yr adroddiad yn 'dangos yn glir i'r mesur drafft dorri pob addewid a wnaethpwyd i'r cyhoedd' oherwydd absenoldeb statws swyddogol a hawliau yn y ddeddfwriaeth.

Ynglyn â statws swyddogol, datganiad mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymgyrchu drosto am flynyddoedd, medd y pwyllgor:

"Rydym hefyd wedi ystyried a chydnabod bod cryn dipyn o dystiolaeth o blaid cael datganiad clir a diamwys ynghylch rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru. Cytunwn â'r farn hon. Fel y mae wedi'i drafftio ar hyn o bryd, credwn nad yw adran o'r Mesur arfaethedig yn newid statws yr iaith mewn unrhyw ffordd.... Nid yw'n cynnwys datganiad ynghylch statws y Gymraeg. Yn ein barn ni, mae angen datganiad o'r fath."

Fe ddywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr iaith:

"Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r hyn rydym wedi dadlau ers cyhoeddiad y Mesur drafft: mae'r cynlluniau yn torri addewidion Llywodraeth Cymru'n Un. Yn arwyddocaol tu hwnt, mae'r pwyllgor trawsbleidiol wedi derbyn nad yw'r mesur, yn ei ffurf bresennol, yn sefydlu hawliau i'r Gymraeg, statws swyddogol iddi, na Chomisiynydd Iaith annibynnol ychwaith. A dyna oedd addewidion allweddol y Llywodraeth yn nogfen Cymru'n Un.

"Mae'r llywodraeth yn trin y ddeddfwriaeth hollbwysig un-ym-mhob-cenhedlaeth hon fel ymarfer ticio'r blwch. Roedd y Gweinidog Treftadaeth yn dadlau bod y Mesur arfaethedig yn 'cadarnhau statws swyddogol', ac yn creu 'hawliau' dim ond ychydig wythnosau yn ôl. Mae'r adroddiad wedi dinistrio ei ddadleuon yn llwyr - fel cyllell trwy fenyn. Mae dyletswydd arno i wneud yn iawn am ei gamgymeriadau, neu fe fydd yn hongian fel maen melin o gwmpas gwddf Alun Ffred Jones."

"Mae'r adroddiad yn dangos yn glir i'r mesur drafft dorri pob addewid a wnaethpwyd i'r cyhoedd. Mae pawb yng Nghymru heblaw Alun Ffred Jones [Gweinidog Treftadaeth] yn derbyn nad yw'r Mesur yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol. Mae yna bwysau ar bob Aelod Cynulliad nawr i wneud yn siwr fod gwelliannau ystyrlon i'r mesur yn cael eu cyflwyno a'u derbyn."

"Mae pobl yn dechrau gofyn beth yn union mae'r Mesur arfaethedig yn ei gyflawni? Mae'n waeth na dim byd, fyddai'r ateb onest. Mae absenoldeb hawliau yn y Mesur yn golygu y gallai'r Mesur yma wneud mwy o ddrwg nag o les - dyna'r gwir ofnadwy. Gall y Gweinidog ddisgwyl ymateb ffyrnig wrth ein hymgyrchwyr os nad yw'n cyflawni'r hyn a addawyd gan glymblaid Llafur-Plaid Cymru."

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Y Cofnod: Amser i'r Comisiwn wrando
10 Mai, 2012
Adroddiad Estyn: "Peidiwch ag ymyrryd â democratiaeth" medd Cymdeithas
8 Mai, 2012
Arolwg: perfformiad Cymraeg 'anfoddhaol' cynghorau sir y de
4 Mai, 2012
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Cell Caerdydd
21 Mai, 2012
Cyfarfod Grwp Chwarae Teg i Ferthyr
21 , 2012
"Callia Carwyn" - Ie i ynni adnewyddol, Na i niwclear
5 Mehefin, 2012
Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol
6 Mehefin, 2012
Lansio "Taith Tynged yr Iaith"
7 Mehefin, 2012
Cyflwyno'r Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg
8 Mehefin, 2012
Bryn Fon a'r Band - Gig Deffro'r Dyffryn
8 Mehefin, 2012
Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent
19 Mehefin, 2012
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
8 Medi, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
Rhagor...

nôl i'r brig