tafod.jpg hafan cymdeithas.org . pwysig-hannercant.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Gweithredu eto dros sianel deledu Gymraeg wedi 40 mlynedd

mast-carmel.jpgMae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith a garcharwyd ddeugain mlynedd yn ôl am 12 mis am ddringo mast teledu a thorri i mewn i stiwdios Granada ym Manceinion wedi dringo mast teledu Carmel, ger Cross Hands, am 7.30am heddiw a chodi baner y Tafod. Gweithredant er mwyn dangos fod S4C eto mewn perygl enbyd.

Yn 1971, carcharwyd tri aelod o Gymdeithas yr Iaith am 12 mis yn Llys Y goron Yr Wyddgrug ar gyhuddiadau o "gynllwynio i dresmasu" trwy ddringo mast deledu Preseli, ac o ddifrod troseddol yn stiwdio deledu Granada ym Manceinion. Bu'r gweithredoedd yn rhan o ymgyrch enfawr i ennill sianel deledu Gymraeg.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae'r un tri aelod - yn awr yn eu chwedegau - wedi dringo mast deledu eto er mwyn dangos fod gwir berygl i ddyfodol S4C - y sianel a enillwyd trwy'r holl ymgyrchu ddegawdau yn ol. Byddant yn aros am rai oriau ar blatfform bach 150 o droedfeddi uwchben y ddaear ac yn dangos baner Tafod y Ddraig er mwyn fel galwad ar i bobl Cymru ailafael yn y frwydr.

Y tri yw Goronwy Fellows, Cynhaliwr wedi ymddeol, 63 oed o Glasfryn ger Pentrefoelas, Ffred Ffransis, Cyfanwerthwr, 62 oed o Lanfihangel-ar-arth ger Pencader a Myrddin Williams, Uwch Swyddog Tai, 61 oed o Clynnog Fawr. Dywedodd Ffred Ffransis ar ran y tri:

"Caled iawn fu'r ymgyrch i ennill sianel deledu Gymraeg, ond hawdd iawn ei cholli trwy esgeulustod. Galwn ar bawb i ymroi i'r ymgyrch i sicrhau fod S4C yn aros yn sianel Gymraeg annibynnol, ac i wrthwynebu'r modd dirmygus y mae'r Llywodraeth Doriaidd yn Llundain wedi gwrthod apel unedig pobl Cymru am adolygiad teg o ddyfodol y sianel. Condemniwn y BBC am gynllwynio gyda'r llywodraeth i gymryd drosodd ein sianel. Ni allwn ni fforddio dychwelyd at y sefyllfa 40 mlynedd yn ol lle roedd Y Gymraeg yn gorfod cystadlu am ei lle ar sianeli eraill. Enillwyd sianel Gymraeg gan bobl Cymru, ac fe fyddwn yn ei chadw, a'i datblygu'n endid aml-gyfryngol deilwng o'r 21ain ganrif"

gweithredwyr-carmel.jpgCEFNDIR

Bu dros 1000 o aelodau Cymdeithas yr Iaith dan glo mewn carcharau a chelloedd heddlu o ganlyniad i ddegawd o ymgyrchu yn y 70au. Cytunodd y Llywodraeth Lafur ym 1974 i sefydlu Sianel Deledu Gymraeg, ond fe ohiriwyd gweithredu'r cynllun am 5 mlynedd "oherwydd problemau cyllidol" (yr un senario a heddiw).

O flaen etholiad 1979, addawodd y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol sefydlu'r sianel yn syth ar ol yr etholiad cyffredinol. Enillwyd yr etholiad gan y Toriaid ac o fewn 3 mis roedden nhw wedi cefnu ar eu haddewid (eto yr un senario a heddiw - gyda Nick Bourne yn mynnu llynedd fod S4C "yn ddiogel yn ein dwylo"). Ail-ddechreuodd y gweithredu uniongyrchol, cyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n ymprydio, ac ymrwymodd 2000 i wrthod talu'r treth deledu. Ildiodd y llywodraeth - un o droadau "U" prin Mrs Thatcher - a sefydlwyd S4C yn 1982.

ffred-baner-carmel.jpgYn ol cynllun presennol y llywodraeth, bydd yn peidio a bod yn sianel annibynnol o 2015 ymlaen a dod yn hytrach tan reolaeth gyllidol y BBC heb unrhyw sicrwydd o adnoddau. Mae'r Llywodraeth yn San Steffan wedi gwrthod cais - wedi'i arwyddo gan arweinydd pob plaid wleidyddol yng Nghymru - am adolygiad llawn o ddyfodol S4C yn hytrach na bwrw ymlaen gyda'r cynllun hwn.


Trio scale mast in wake-up call aimed at Welsh TV supporters - Carmarthen Journal - 02/03/2011
Golygyddol "Cause of S4C deserves full Support" - Daily Post - 25/03/2011
Welsh language campaigners climb mast in protest - Daily Post - 25/03/2011
Three men in their 60s climb 150 ft mast in protest of S4C changes - Evening Post - 25/03/2011
Tri 'hen' ymgyrchydd yn gweithredu eto - Golwg360 - 24/02/2011
Protestwyr iaith yn dringo mast teledu - BBC Cymru - 24/02/2011

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Darlledu | Newyddion
.

Newyddion
Y Cofnod: Amser i'r Comisiwn wrando
10 Mai, 2012
Adroddiad Estyn: "Peidiwch ag ymyrryd â democratiaeth" medd Cymdeithas
8 Mai, 2012
Arolwg: perfformiad Cymraeg 'anfoddhaol' cynghorau sir y de
4 Mai, 2012
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Cell Caerdydd
21 Mai, 2012
Cyfarfod Grwp Chwarae Teg i Ferthyr
21 , 2012
"Callia Carwyn" - Ie i ynni adnewyddol, Na i niwclear
5 Mehefin, 2012
Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol
6 Mehefin, 2012
Lansio "Taith Tynged yr Iaith"
7 Mehefin, 2012
Cyflwyno'r Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg
8 Mehefin, 2012
Bryn Fon a'r Band - Gig Deffro'r Dyffryn
8 Mehefin, 2012
Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent
19 Mehefin, 2012
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
8 Medi, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
Rhagor...

nôl i'r brig