tafod.jpg hafan cymdeithas.org . pwysig-hannercant.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cefnogaeth enwogion i atal gor-ddatblygu tai

hywel-griff.jpgMae nifer o Gymry amlwg wedi arwyddo deiseb sydd yn galw ar y Llywodraeth i adalw'r Cynlluniau Datblygu Lleol er lles y Gymraeg.

Mae pryder gwirioneddol y bydd y cynlluniau yma yn arwain at ddatblygiadau tai anaddas, diangen oherwydd nad ydynt wedi eu seilio ar anghenion presennol y cymunedau. Ymysg y bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yw'r awduron Dewi Prysor, Catrin Dafydd, Angharad Blythe a Dr Mererid Hopwood, a'r cerddorion Geraint Lovgreen, Steve Eaves, Ceri Cunnington, Lleuwen Steffan a Gwyneth Glyn.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog eu haelodau i lofnodi deiseb ar wefan y Cynulliad cyn iddi gau ar ddiwedd y mis. Mae'r ddeiseb yn galw am "holl CDLl ... gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.". Cyflwynwyd y ddeiseb gan nifer o grwpiau sy'n cyd-weithio er mwyn newid y gyfundrefn cynllunio bresennol, ymysg y grwpiau mae gr?p Deffro'r Ddraig a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'n holl bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn deall dyfnder y gwrthwynebiad i'r Cynlluniau Datblygu Lleol yma. Dydyn nhw ddim yn mynd i'r afael a'r problemau sydd yn wynebu cymunedau Cymru. Yn hytrach mae'n bosib iawn y byddant yn gwaethygu sefyllfa'r Gymraeg wrth i niferoedd anaddas o dai gael eu hadeiladu."

Ychwanegodd Alun Lenny ar ran Cyngorwr Tref yng Nghaerfyrddin, sydd yn arwain ymgyrch yn erbyn cynllun i ddatblygu mil dau gant o dai yn y dref:

"D'oedd Tryweryn yn ddim, o'i gymharu â'r dinistr y gallai'r Cynlluniau Datblygu Lleol wneud i gymunedau ar draws Cymru. Yng nghefn gwlad Lloegr, mae ymgyrch gref yn cael ei hymladd ar hyn o bryd yn erbyn y fath gynlluniau. Ond mae llawer mwy na chaeau gwyrdd yn y fantol yma yng Nghymru. Byddai codi miloedd o dai, nad oes eu hangen ar bobl leol, yn hyrwyddo mewnfudo ar raddfa hollol ddinistriol i natur ieithyddol a chymdeithasol sawl ardal. Bydd hi'n rhy hwyr protestio pan fydd y teirw dur yn symud i mewn, nawr yw'r amser i wrthwynebu - gan gynnwys y weithred syml hon o arwyddo'r ddeiseb ar-lein."

Dywedodd Dr Simon Brooks o Brifysgol Caerdydd:

"Dylai cymunedau a chynaliadwyedd fod wrth galon y drefn gynllunio. Yn anffodus, fu hyn erioed yn wir yng Nghymru. Ond wedi datganoli, fe ddylai'r dyddiau o orfodi datblygiadau tai mawr ar gymunedau sy'n sensitif yn ieithyddol fod wedi'u rhifo. Dylid seilio targedau ar gyfer codi tai ar anghenion lleol."

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Y Cofnod: Amser i'r Comisiwn wrando
10 Mai, 2012
Adroddiad Estyn: "Peidiwch ag ymyrryd â democratiaeth" medd Cymdeithas
8 Mai, 2012
Arolwg: perfformiad Cymraeg 'anfoddhaol' cynghorau sir y de
4 Mai, 2012
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Cell Caerdydd
21 Mai, 2012
Cyfarfod Grwp Chwarae Teg i Ferthyr
21 , 2012
"Callia Carwyn" - Ie i ynni adnewyddol, Na i niwclear
5 Mehefin, 2012
Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol
6 Mehefin, 2012
Lansio "Taith Tynged yr Iaith"
7 Mehefin, 2012
Cyflwyno'r Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg
8 Mehefin, 2012
Bryn Fon a'r Band - Gig Deffro'r Dyffryn
8 Mehefin, 2012
Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent
19 Mehefin, 2012
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
8 Medi, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
Rhagor...

nôl i'r brig