Swyddfa Cymdeithas yr Iaith, Ty'r Cymru, 11 Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJ
Dyma'ch cyfle chi i ddysgu mwy am Sianel 62 a chreu teledu gwerth ei wylio!
Ym mis Chwefror fe fydd y Gymdeithas yn lansio gorsaf teledu ar-lein newydd 'Sianel '62'. Fe fyddwn yn dangos rhaglennu o bob fath, heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn pob nos Sul rhwng 8-10yh.
Dyma cyfle i greu teledu sydd werth ei wylio! Sianel teledu chi!
Dyma cyfle i chi felly cymryd rhan, arddangos eich gwaith a datblygu eich sgiliau chi. Dyma cyfle hefyd i bobol gyda diddordeb penodol mewn ffilm/teledu/cyfryngau/cyflwyno/sgriptio defnyddio ei sgiliau at fydd y Gymraeg.
Os oes diddordeb gyda chi ond dim profiad nac offer paid poeni,
dros y mis nesaf fe fyddwn yn cynnal sesiynau hyfforddiant ac yn sefydlu nifer o 'hybiau' ar draws Cymru. Fe fydd pob hwb yn gynnwys yr offer a'r adnoddau i ffilmio a golygu rhaglennu a phytiau o ansawdd (mae'n haws na chi'n meddwl).
Gallwch hefyd cynnig gwaith a ffilmiau byrion rydych eisoes wedi' wneud ar gyfer y sianel neu cynnig eich syniadau neu cyfleoedd rhaglenni/recordio. Fe fyddwn yn edrych am digwyddiadau a gigiau i recordio dros y misoedd nesaf