Strategaeth Iaith - mae angen buddsoddiad
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad strategaeth iaith Llywodraeth Cymru gan ddweud bod angen adnoddau ac ewyllys gwleidyddol i weithredu'r strategaeth.
Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r weledigaeth a'r nod gyffredinol yn ddigon canmoladwy a chalonogol, ond mae angen adnoddau ac ewyllys gwleidyddol er mwyn creu newid. Yng ngwlad y Basg, maent yn buddsoddi tua phedair gwaith mwy na ni yn eu hiaith. Mae'r Gymraeg mewn perygl yn ei chymunedau: mae ystadegau'n paentio darlun argyfyngus, ac mae angen gweithredu radical iawn er mwyn trawsnewid hyn."
"Mae defnydd y Llywodraeth ei hun o'r Gymraeg angen ei gwestiynu. Mae pob ceiniog sy'n cael eu gwario gan y Llywodraeth yn cael effaith ar yr iaith. Ond, ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o wariant y Llywodraeth yn cael effaith negyddol. Mae'r gwasanaeth sifil yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Saesneg ac mae hynny'n tanseilio defnydd y Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae angen gweithredu ar frys i wella sgiliau iaith y gwasanaeth sifil, a chynyddu defnydd mewnol o'r Gymraeg yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf"
"Er mwyn normaleiddio'r Gymraeg mae angen iddi fod yn iaith ar gyfer pob agwedd ar fywyd. Rydyn ni'n croesawu'r datganiad yn y strategaeth ynghylch gosod dyletswyddau o ran yr iaith ar gwmniau telathrebu a thrafnidiaeth, ond mae angen hefyd deddfu ar gwmniau mawr dylanwadol fel yr archfarchnadoedd a'r banciau, lle mae'r ddarpariaeth yn dameidiog iawn ar hyn o bryd: wrth i natur gwasanaethau newid, trwy symud ar-lein er enghraifft, gwelwn ddirywiad pellach yn y ddarpariaeth Gymraeg."
Mwy yn yr un categori(au):
Newyddion
.
|