tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

logo yr ymgyrch - yr A mawr

Grym yn ein Dwylo!

Rhyddid i Gymru mewn Addysg

Trwy ei threfn addysg y mae unrhyw gymdeithas yn mynegi’i gobeithion am y dyfodol, yn cofnodi’i gwerthoedd ac yn eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Os mynnwn Gymru Rydd Gymraeg, yna mae’n rhaid fod ein Trefn Addysg hefyd yn Gymraeg ac yn rhyddhau ein pobl.

Mae addysg hefyd yn arf i rymuso’n pobl gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r ewyllys i adeiladu dyfodol i’n gwlad ac i’n cymunedau. Yn lle bod yn fyd bach ynddo’i hun, gallai ein Trefn Addysg gadarnhau ein cymunedau.

Y mae pobl Cymru bob amser wedi ymfalchio mewn addysg. Dyma ymgyrch sydd hefyd o ddiddordeb arbennig i lawer o aelodau o Gymdeithas yr Iaith gan fod cymaint ohonynt yn ymwneud â’r drefn addysg o ddydd i ddydd. Yn y maes hwn yr ydym yn raddol adeiladu model Cymreig a Chymraeg ac yn herio rhagdybiaethau’r Drefn Addysg Brydeinig a ddefnyddiwyd i Seisnigo’n gwlad ac i fagu uchelgais hunanol i ddod ymlaen yn y byd Saesneg ar draul ein gwlad a’n cymunedau. Yr ydym yn raddol ennill Rhyddid i Gymru mewn Addysg.

Gwasgwch yma am Newyddion am y datblygiadau diweddaraf yn ein hymgyrchoedd addysg ynghyd â Datganiadau i’r Wasg.

CHWE MAES GWEITHREDU

ADDYSG GYFLAWN GYMRAEG

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros sicrhau y gall myfyrwyr a disgyblion dderbyn eu haddysg yn gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna sylfaen yr ymgyrch hir dros Gorff Datblygu Addysg Gymraeg a arweiniodd at PDAG (Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg). Pan ddechreuodd y Pwyllgor hwnnw bwyso o ddifri am gyllid a datblygiadau sylweddol, gwnaeth y Llywodraeth Doriaidd (ym 1992) ei ddiddymu a rhoi ei waith i gwango diogel – sef Bwrdd yr Iaith. Dyma arweiniodd at ein penderfyniad na fyddai dim llai na Threfn Addysg Annibynnol a Democrataidd i Gymru’n darparu addysg gyflawn Gymraeg. Yr ydym yn ymgyrchu trwy dynnu sylw at fethiant y drefn bresennol i ddarparu addysg gyflawn Gymraeg–

  • Methiant i ddarparu adnoddau digonol i ddisgyblion Cymraeg, nes eu bod o dan anfantais o’u cymharu â disgyblion Saesneg.
  • Methiant i ddarparu addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.
  • Methiant i ddarparu addysg Gymraeg ym mhob sector. Mae hyd yn oed fyfyrwyr sydd wedi derbyn eu haddysg gynradd ac uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn aml yn cael fod cwrs mewn addysg bellach neu uwch ar gael ond yn Saesneg.

Mae Cymdeithas yn ymgyrchu nid yn unig dros hawl unigolion i dderbyn addysg Gymraeg, ond hefyd dros hawl cymunedau i sicrhau fod addysg yn lleol yn naturiol Gymraeg i bawb er mwyn sicrhau parhad cymunedau Cymraeg. Credwn fod potensial gan bob cymuned yng Nghymru ddatblygu’n gymuned Gymraeg, ond cydnabyddwn realiti amrywiol y sefyllfa bresennol. Mewn rhai ardaloedd, ymgyrchwn dros rwydwaith cyflawn o sefydliadau addysgiadol Cymraeg. Mewn ardaloedd eraill, ymgyrchwn dros sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng sylfaenol yr holl addysg. Ymgyrch Cymdeithas yr Iaith a berswadiodd yr hen Gyngor Sir Dyfed i newid eu polisi o ddysgu’r Gymraeg fel pwnc i bolisi o benodi mwyafrif yr ysgolion cynradd yn « Categori A » a olygai mai’r Gymraeg oedd prif gyfrwng yr addysg.

BLAENORIAETHAU DATBLYGU ADDYSG GYMRAEG

Cred Cymdeithas yr Iaith fod perygl gwirioneddol i fyd Addysg Gymraeg ddod yn realiti cyfochrog ac yn nod ynddo’i hun yn hytrach na bod yn gyfrwng tuag at y nod o greu gwlad a chymunedau Cymraeg. Nid ydym am i’r Gymraeg gael ei chyfngu i faes addysg, a chredwn y dylid blaenoriaethu’r datblygiadau hynny ym maes addysg Gymraeg a fydd yn hybu’n uniongyrchol y defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau.

Dyna fyrdwn ein tystiolaeth i ymchwiliad y Cynulliad Cenedlaethol i le’r Gymraeg mewn addysg ym Mawrth 2002.

SEFYDLIADAU ADDYSG I GYNNAL EIN CYMUNEDAU

Llwyddiant Ysgolion Pentrefol – Model ar gyfer Addysg yng Nghymru

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu’n egniol yn erbyn agwedd negyddol Llywodraeth y Cynulliad a llawer o’n Cynghorau Sir tuag at ein Hysgolion Pentrefol Cymraeg. Mae’r Awdurdodau hyn yn eu gweld yn niwsans i gael gwared ohonynt, lle bo’r Gymdeithas yn eu gweld nhw’n asedau i ddatblygu’n cymunedau lleol yn ogystal â chynnig addysg statudol dda. Mae’r Gymdeithas yn arloesi gyda strategaeth flaengar o weld ysgolion fel rhan o asedau Datblygu Cymunedol a ddylent fod ym mhob cymuned. Ymhell o gau ysgolion pentrefol, mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio ymgyrch newydd ym 2004 i ddarbwyllo Llywodraeth y Cynulliad a’r Cynghorau Sir newydd (yn dilyn etholiadau Mehefin 2004) i greu Ysgolion/Unedau Datblygu Cymunedol ym mhob cymdogaeth gan estyn esiampl yr Ysgolion Pentre i’r ardaloedd trefol hefyd.

Pwyswch yma i weld copi o’r Ddogfen Llwyddiant Ysgolion Pentrefol – Model ar gyfer Addysg yng Nghymru.

Gwahoddwn aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas i ymuno yn yr ymgyrch dros ddatblygu ein hysgolion pentrefol. Mae angen ymgyrch ddifrifol oherwydd y mae agwedd negyddol bresennol yr Awdurdodau’n warthus ac yn dwyn anfri ar ddemocratiaeth. Nid yw Cynghorau Sir fyth yn newid eu safbwynt o ganlyniad i Ymgynghori Cyhoeddus, ac nid yw Gweinidog Addysg y Cynulliad fyth yn newid unrhyw benderfyniad ar apêl. Mae bygythiad yn awr i ddegau o’n Hysgolion Pentre Cymraeg.

ADDYSG BERTHNASOL – CWRICWLWM CYFLAWN I GYMRU

Ni wêl Cymdeithas yr Iaith fawr o bwynt mewn cyfieithu cwricwlwm Prydeinig i’r Gymraeg. Rhaid fod y cwricwlwm ei hunan – a’r dull o’i gyflwyno – yn rhyddhau ein pobl a’u harfogi gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i’w galluogi i adeiladu dyfodol i’w cymunedau. Sut all cymunedau Cymraeg – neu hyd yn oed democratiaeth – oroesi os nad yw’r cwricwlwm yn dysgu dim am y drefn gynllunio nac am y cyfryngau newyddion ac os nad yw’r drefn addysg yn rhoi grym i ddisgyblion a myfyrwyr?

Pwyswch ar y dolenni canlynol i ddarllen papurau Cymdeithas yr Iaith a gyflwynwyd i Fforwm Cenedlaethol yn Hydref 2003 o addysgwyr a gwleidyddion yn y Deml Heddwch, Caerdydd.

Y mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i gyllido Fforwm Cenedlaethol cyfamserol o ddisgyblion ysgol Cymru fel bod eu llais nhw’n cael ei glywed yn yr adolygiad hefyd.

ADDYSG BELLACH AC UWCH

Yn niwedd y 90au, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu’n galed i Gymreigio ein Colegau Addysg Bellach gan fod y rhain yn darparu addysg ac hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n debyg o fyw mewn cymunedau lleol a chynnig gwasanaethau lleol. Wrth gwrs mai Saesneg yw prif iaith bancio, gweinyddu, gofal etc hyd yn oed yn ein cymunedau Cymraeg os yw’r cyrsiau hyfforddiant oll yn Saesneg. Gwnaethom arolwg o’r sefyllfa a chael fod y sefyllfa’n drychinebus yn ein Colegau Addysg Bellach gyda hyd at 97% o’r addysg yn Saesneg. Bu Cymdeithas yr Iaith mewn trafodaethau gyda Cholegau Meirion-Dwyfor, Menai, Llandrillo, Llysfasi a Cheredigion ac yn gweithredu ymgyrch ddwys yn erbyn yr hen CCTA. O ganlyniad i’r ymgyrch hon, gweddnewidwyd y coleg hwn i fod yn Goleg Sir Gâr gyda Chynllun 5 mlynedd i droi’n sefydliad gwir ddwyieithog. Y Bwrdd Iaith a oedd i arolygu hyn, a chawsom wybod eu bod wedi rhoi terfyn ar eu cynllun addysg Gymraeg heb unrhyw ymyrraeth gan y Bwrdd Iaith. Rydyn yn awr yn ymgyrchu o’r newydd. Pwyswch ar y ddolen ganlynol am gopi o’n dogfen bolisi o’r 90au Addysg Bellach yn Gymraeg, ac yma am hanes yr ymgyrch weithredol yn erbyn Coleg Sir Gàr. Pwyswch ar y ddolen ganlynol i ddarllen y ddogfen a gyhoeddwyd yn 2005: Cymraeg yn Hanfodol - Cyfnod Newydd i Addysg ôl-16

Mae myfyrwyr Cymru wedi cychwyn ymgyrch egniol – a gefnogir gan Gymdeithas yr Iaith – am Goleg Ffederal Cymraeg tu fewn i’r Brifysgol. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau mai’r brif reswm nad yw’r addysg yn Gymraeg yw’r ffaith nad yw’r addysg wedi’i hanelu at anghenion Cymru. Byddwn yn ymgyrchu dros ailwampio addysg uwch yng Nghymru gan geisio sicrhau mai un o brif amcanion y colegau fydd cydweithio ag Awdurdodau Lleol i ymchwilio i anghenion y cymunedau lleol, a chyfran o’r addysg fydd gwaith mewn cymunedau lleol. Fel hyn, bydd yr addysg o ddiddordeb arbennig i Gymry a bydd llawer o’r gwaith a ‘r ffynonellau’n naturiol Gymraeg.

TREFN ADDYSG ANNIBYNNOL A DEMOCRATAIDD I GYMRU

Mae’r holl broblemau hyn yn codi oherwydd nad oes gyda ni reolaeth ar ein trefn addysg ein hunain. Cafodd y drefn addysg Brydeinig ei defnyddio i Seisnigo Cymru – gallai trefn addysg dan ein rheolaeth ddemocrataidd ein hunain fod yn rym mawr i ailadeiladu ein Cymreictod. Mae’r holl ddatblygiadau pwysicaf mewn addysg Gymraeg wedi dod o ganlyniad i bwysau gan bobl Cymru eu huanin – heb unrhyw ddiolch i’r Sefydliad e.e. ymdrechion i greu ysgolion Gymraeg, ysgolion teithiol gwirfoddol, mudiadau gwirfoddol fel yr Urdd, ymgyrchoedd gwleidyddol i greu ysgolion categori "A". Mae’r wers yn syml – pan sylweddolwn faint o rym sydd yn ein dwylo, gallwn gyflawni pethau mawr dros y Gymraeg.

Ac eto mae peryglon newydd a grymoedd anneomcrataidd yn ceisio dylanwadu ar ein trefn addysg –

O dan Thatcher, collwyd rheolaeth ddemocrataidd ar y gwasanaeth gyrfaoedd ac ar Golegau Addysg Bellach a sefydlodd Fyrddau Llywodraethol anatebol. Rhoddwyd cwangos i’w trefnu’n ganolog. Mae ELWA nawr wedi estyn ei hawdurdod annemocrataidd i 6ed dosbarthiadau gan eu peryglu.

Mae trefn y farchnad nawr yn rheoli’r drefn gyllido addysg. Mae lluaws o fentrau byrfyfyr a di-gyswllt nad ydynt yn cyflawni unrhyw nod strategol amser hir fel adfer iaith. Nid oes unrhyw reolaeth ddemocrataidd drostynt. Y cynlluniau sy’n llwyddo yw eiddo’r rhai sy’n gallu gweithio’r system yn hytrach na strategaethau y penderfynir arnynt wedi ymdrafod democrataidd. Rhaid adfer rheolaeth ddemocrataidd a chydlynus ar y drefn gyllido a rhoi terfyn ar y jyngwl. Gwahoddwn dystiolaeth i anhegwch y drefn bresennol.

Bu cyfle mawr creu trefn newydd wrth sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ymuna yn yr Ymgyrch

Bydd y Gymdeithas yn parhau i ymgyrchu ym Maes Addysg. Er mwyn cyfrannu at yr ymgyrch, darganfod beth yw'r camau nesaf, neu ymaelodi â'r grwp Addysg cysyllta â (Cadeirydd Y Grwp Addysg).

Deunydd Ymgyrchu
Addysg: Posteri i'w dadlwytho


Digwyddiadau'r Ymgyrch
Rhagor...

Newyddion o'r Ymgyrch
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd
29 Mai, 2009
Srategaeth yn cadarnhau fod Addysg Gymraeg yn ymylol
13 Mai, 2009
Cyngor Rhyddfrydol/Annibynol Ceredigion i wasgu allan unrhyw wrthwynebiad i'w cynllun ysgolion
23 Ebrill, 2009
Mwy o newyddion...

Dogfennau Perthnasol
Coleg Ffederal Cymraeg - Cynllun Gweithredu
Tachwedd 2008
Ysgolion Pentre - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol 2008
Mehefin 2008
O ddifri am y Gymraeg? - Yr Her i'r Llywodraeth | Serious about Welsh? - The Challenge for Government
Mai 2008
Ymateb cychwynnol i raglen "moderneiddio" ysgolion cynradd Sir Conwy
Chwefror 2008
Ymateb i Strategaeth Cyngor Gwynedd ar Ad-drefnu Addysg Gynradd
Chwefror 2008
Ymateb i ddrafft-gynllun Ad-drefnu Cynradd Cyngor Gwynedd
Tachwedd 2007
Ysgolion Pentre - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol 2007
Medi 2007
Cymraeg yn Hanfodol: Cyfnod Newydd i Addysg ôl-16
Awst 2005
‘Moderneiddio’ Iaith Sir Gâr - Effaith cau Ysgolion Pentrefol ar gyfrwng yr addysgu yn Sir Gâr.
Mai 2005
Llwyddiant Ysgolion Pentre - Model ar gyfer ein Trefn Addysg yng Nghymru
Mai 2004
Addysg: Dysgu ar gyfer Datblygiad Cymuned
Hydref 2003
Addysg: Gwerth Astudiaethau Cymunedol fel sylfan i Addysg a dealltwriaeth ar gyfer Democratiaeth.
Hydref 2003
Addysg: Perthnasedd ac atebolrwydd addysg alwedigaethol ac ol 16 yng Nghymru.
Hydref 2003
Addysg: Addysg Berthnasol - Cwricwlwm Cyflawn i Gymru.
Hydref 2003
Addysg: Ymateb CYIG i Gynllun Iaith PCA
Hydref 2002
Addysg: Trefniadaeth Ysgolion yn Ardal Pencader
Medi 2002
Adolygiad Polisi o'r Iaith Gymraeg mewn Addysg
Chwefror 2002
Addysg: Her i Ysgolion Gwledig 2000
Gorffennaf 1999
Addysg Bellach yng Nghymru
Awst 1997
Rhagor...

Erthyglau Perthnasol
Coleg Ffederal Cymraeg - y diweddaraf
Mai 2009
Taith o Benllyn i Ben-Llyn - Chwefror 2008
Chwefror 2008
Hanes ymgyrch weithredol Coleg Sir Gar
Ionawr 1999
Rhagor...

Pethau ar y We


Archif yr Ymgyrch
Pob cofnod am yr ymgyrch hwn


nôl i'r brig