tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Croeso i Flog Hywel

DSCF0884.JPGHywel Griffiths, yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar gyfer tymor 2007-2008.

Mae'n fyfyriwr ymchwil mewn Daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn barddoni tipyn yn ei amser sbâr.

Yn wreiddiol o Langynog ger Caerfyrddin, ond bellach mae'n byw yng nghanol y dref.

16 Tachwedd 2007

Ysgolion pentrefol Gwynedd

Ddydd Mawrth aeth Ffred Ffransis (grwp ymgyrchu addysg) ac Angharad Tomos a Dewi Tomos o Ranbarth Gwynedd i gyfarfod a swyddogion o Gyngor Gwynedd er mwyn trafod y cynllun dadleuol a fydd yn golygu cau dros ugain o ysgolion pentrefol Gwynedd, a fydd yn cael effaith andwyol ar gymunedau'r ysgolion hynny. Bu'n gyfarfod digon buddiol yn y bon, a chredaf inni drosglwyddo ein neges. Yr hyn yr oedden ni'n dadlau oedd bod mynd a'r cynllun yma yn syth at gyfnod o ymgynghori statudol (hynny yw, cyfnod o ymgynghori ar sut i weithredu'r cynllun, ac felly cau ysgolion) yn gamgymeriad difrifol. Wrth gwrs, bu dwy flynedd o ymgynghori gan gyngor Gwynedd cyn hyn, ac yn hynny o beth mae cyngor Gwynedd wedi dangos mwy o barch at eu cymunedau nag aml i gyngor arall yng Nghymru. Ond, bu'r ymgynghoriad hynny yn ymgynghoriad heb gynllun. Erbyn hyn, mae cynllun ar y bwrdd, ac mae ond yn deg i bobl Gwynedd gael yr hawl i leisio eu barn ar y cynllun penodol yma cyn y broses ymgynghori statudol. Yr hyn yr oedden ni'n pwyso amdano oedd cyfnod o 6 mis o ymgynghori anstatudol, anffurfiol, lle byddai hawl gan bobl Gwynedd i leisio barn ar y cynllun yn ei grynswth. Trwy hyn, byddai modd i bobl Gwynedd leisio barn ar ba fath o gynllun sydd yn gweddu i'w cymunedau hwy.

Er engrhaifft, un o'r prif meini tramgwydd oedd federaleiddio - nid yw Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu ffederaleiddio os yw'r dewis rhwng ffederaleiddio a chau ysgol yn gyfan gwbl. Yr hyn sydd ddim yn dderbyniol yw bod un model o ffederaleiddio dogmataidd yn cael ei wthio ar gymunedau lle nad yw'n briodol, a lle nad y cynllun ffederaleiddio arbennig yna yw'r ffordd orau o warchod ysgolion bychain a'u cymunedau. Mae pob math o ddulliau o ffederaleiddio, yn amrywio o ran maint, trefniadaeth a rol penaethiaid - dylid ymestyn cynlluniau'r Cyngor, a gofyn i'r cymunedau lleol am eu barn hwythau am ba fath o ffederaleiddio sy orau i'w cymunedau hwy.

Bydd protest y tu allan i Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ar y 13eg o Ragfyr pryd y bydd y cynllun yma yn cael ei gyflwyno i'r cynghorwyr, a'r gobaith yw y bydd presenoldeb cannoedd o rieni a phlant Gwynedd yn dangos i'r cyngor bod yn rhaid iddyn nhw roi'r cyfle i'r bobl i leisio eu barn ar y cynllun hwn. Dewch yn llu ar y 13eg felly, am 1 0'r gloch y pnawn.

Postiwyd am 11:49 yb

 

16 Tachwedd 2007

Colli Ray Gravell

Ddoe ffarweliodd Cymru a'r Gymraeg ag un o'u cymwynaswyr a'i lladmeryddion mwyaf diwyro. Roedd yn esiampl i bob Cymro a Chymraes o sut i fod yn hyderus am iaith a chenedl, a sut i genhadu trostynt. Hoffwn estyn cydymdeimladau ar ran aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg at deulu a ffrindiau Ray. Heddwch i'w lwch.

Postiwyd am 11:35 yb

 

20 Hydref 2007

Ysgolion Cynradd Gwynedd

Yn dilyn cyhoeddiad Cyngor Gwynedd y bydd hyt at 29 o ysgolion cynradd Gwynedd yn gorfod cau o dan eu cynlluniau newydd, rydym yn galw ar rieni, llywodraethwyr ac unrhyw un arall sydd yn poeni am ddyfodol ysgolion cynradd pentrefol a chymunedau Gwynedd i ymgasglu y tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaernarfon am 1 yp dydd Iau nesaf cyn y bydd Pwyllgor Craffu'r Cyngor yn cyfarfod i drafod y cynlluniau. Trwy wneud hyn gobeithiwn sicrhau y bydd y cynghorwyr a'r swyddogion yn cadw at eu gair o wrando ar lais pobl Gwynedd, yn hytrach na gwneud y penderfyniad y tu ol i ddrysau caeedig fel sydd wedi digwydd yn Sir Gaerfyrddin. Dewch yn llu.

Stori o'r WM

Postiwyd am 1:33 yh

 

19 Hydref 2007

Erthygl ar y Guardian ar lein

Henffych!
Ar gais y Guardian Arlein mi sgwennais erthygl yn crynhoi pwysigrwydd yr iaith Gymraeg ac ychydig o gefndir am ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith. Dyma'r linc cymraeg a'r linc saesneg.

Yn ol y disgwyl mae cymysgedd (anhafal braidd) o sylwadau cadarnhaol, negyddol, a "doniol"......

Postiwyd am 4:38 yh

 

27 Medi 2007

Be sy'n digwydd yn Abertawe?

Ymddengys fod y sefyllfa yng Nghyngor Abertawe yn llawer iawn gwaeth na'r disgwyl. Agorwyd Canolfan Gyswllt yn ddiweddar, gan gyflogi degau o weithwyr newydd, a dim un ohonynt yn medru'r Gymraeg. Nid oedd y Gymraeg yn 'fanteisiol' ar gyfer y swydd hyd yn oed! Does neb o staff y Llyfrgell ganolog yn medru siarad Cymraeg, a bron dim o staff y dderbynfa yn siarad Cymraeg. Mae'n gwbwl amlwg fod Cyngor Abertawe yn esgeuluso eu cyfrifoldebau o ran rhoi dewis iaith i'r bobl leol, ac yn anwybyddu eu cyllun iaith eu hunain mewn i raddau angrhedadwy trwy beidio a chyflogi na hyfforddi digon o staff sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn gyfle hefyd i'r Bwrdd Iaith ddangos cryfder, - mae'r sefyllfa yma yn engrhaifft warthus a sarhaus o anwybyddu cyfrifoldeb cyfreithiol ym maes y Gymraeg, rhaid i'r Bwrdd ymateb i hyn ar frys. Byddwn yn trefnu cyfarfod ymgyrchu yn fuan yn Abertawe er mwyn ceisio tynnu aelodau lleol ynghyd i bwyso ar y Cyngor. Gwyliwch y gofod!

Postiwyd am 10:28 yb

 

25 Medi 2007

Arwyddion peryglus Cyngor Abertawe

Mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu codi arwyddion uniaith Saesneg ger cylchfan Ynysforgan. Gweler y stori yma ar wefan Saesneg BBC Wales.

Fel mae nifer o'r cyfranwyr ar y wefan yn nodi, mai'r ddadl bod arwyddion dwyieithog yn beryglus yn ddadl gwirion. Mi wnaeth Pwyllgor Roedrick Bowen ddod i'r casgliad nad oedd arwyddion dwyieithog yn beryglus ym 1971! Ar ben hyn, mae yna ddigonedd o engrheifftiau ar draws Ewrop lle mae arwyddion dwyieithog yn cael eu defnyddio.

Mae' braf gweld ar y wefan uchod fod yna gefnogaeth i arwyddion dwyieithog yn dod o Loegr, Gwlad Belg a'r Almaen. Pam felly mae'n rhaid i'n cynghorau sir ni ymddwyn mewn modd mor daeog? Yn bwysicach efallai, sut y gadawyd hyn i ddigwydd yn y lle cyntaf?

Yn sicr mae'n mynd yn groes i'w Cynllun Iaith. Rydym wedi anfon llythyr ar y Cyngor yn cwyno'n swyddogol am hyn, ac am gysylltu ag adran Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad yn ogystal. Pan ddaw ymateb gan y Cyngor, byddwn yn mynd a'r mater at y Bwrdd Iaith. Yn y cyfamser, cysylltwch a'r Cyngor, mi wnai bostio'r manylion cyswllt yn y man.....

Postiwyd am 1:59 yh

 

19 Medi 2007

David Collins wedi ymddiswyddo

Gweler y cefndir ar wefan y Western Mail.

Fel y dwed Aran, mae'r ffaith ei fod yn gwrthod tynnu ei eiriau yn ol wedi gadael un dewis yn unig iddo, sef ymddiswyddo. Trueni mawr na wnaeth Ann Jones sylw ar fater mor ddifrifol ynghynt, ac nid fel ymateb i ddatganiad David Collins. Mae barn David Collins, fel y dywedais yn y post blaenorol, yn perthyn i ganrif a aeth heibio.

Postiwyd am 1:11 yh

 

14 Medi 2007

David Collins a'i 'brain-dead language'

Gweler y stori ar wefan yWestern Mail.

Rhai o'r perlau o flog ymchwilydd Ann Jones, AC dros Ddyffryn Clwyd:

“Personally I share the view of [early 19th Century politician] Daniel O’Connell when he said, ‘I can witness without a sigh the decline of the Irish language’.

“One aspect that doesn’t seem to have received much attention so far is consideration of the language as a class issue. To what extent does the requirement to teach Welsh at all key stages and the right to access all public service provision through the medium of Welsh assist or hinder the prospects of the under-privileged?”

He added, “Moreover it isn’t an issue simply in terms of all the time that is wasted on it. Compulsory Welsh may also diminish young pupils’ enthusiasm for education and their confidence in their ability to master a subject. You cannot successfully teach a practically brain-dead language to young children whose families don’t want it revived or couldn’t care less about it.”

Ceisiodd David Colllins gael ei hun o'r twll gan esbonio mai gadael y gair 'brain' i fewn oedd ei gamgymeriad. O mae'n iawn felly David! Dyma agwedd cwbwl warthus, sy'n perthyn i'r ganrif ddiwethaf (os nad cynt). Mae ei sylwadau am ddosbarth yn amherthnasol, byddai deddf iaith newydd yn sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru heb ystyried dosbarth o gwbwl, yn union fel y dylai unrhyw ddeddfwriaeth hawliau wneud. Mae'r sylwadau am addysg hyd yn oed yn fwy anghredadwy. Mewn gwirionedd mae'n anodd gwybod lle i ddechrau gwrthbrofi ei ddadleuon. Yn gyntaf, mae'n ffaith ddigwestiwn bod dwyieithrwydd yn fantais addysgiadol i blant, yn enwedig wrth ddysgu iaith arall. Yn ail, does ganddo ddim unrhyw dystiolaeth am ei ail honiad - mae llwyddiant ysgolion cyfrwng Cymraeg y de ddwyrain yn enwedig yn dangos fod difaterwch ac apathi ynglyn a'r iaith yn rywbeth sydd go iawn yn perthyn i'r gorffennol, ac hefyd yn dangos bod dysgu Cymraeg a dysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg i blant sydd yn dod o deuluoedd di Gymraeg yn llwyddo.

Mae sylwadau sarhaus o'r fath gan ymchwilydd i AC o blaid sydd wedi ymrwymo i ddeddf iaith newydd yn ahcos pryder. Mae'r ffaith nad yw Ann Jones wedi teimlo rheidrwydd i ymateb i, heb son am ddisgyblu ei hymchwilydd yn warthus. Dylai fynnu ymddiheuriad llwyr gan ei hymchwilydd, neu ei ddisgyblu.

Mi oedd hi'n braf clywed y geiriau yma o enau Rhodri Morgan fodd bynnag, -

“Our policy is to promote a healthy bilingual Wales where the rights of people to speak Welsh and English are guaranteed. We want to see a bilingual future for Wales.”

Dwi'n cymryd bod sicrhau y 'guarantee' yma ar ffurf Deddf Iaith Newydd yn flaenoriaeth o ran busnes y Cynulliad felly.

Postiwyd am 2:56 yh

 

7 Medi 2007

Cyfarfod Senedd

Mae cyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith yfory yn Aberystwyth, a dwi'n edrych ymlaen (am rhyw reswm!). Cyfle i weld le yden ni'n sefyll yn dilyn gweithgareddau'r haf mewn ffordd. Yn ystod y prynhawn bydd cyfarfodydd o'r grwpiau ymgyrchu Deddf Iaith ac Addysg. Mae'r cyfarfodydd yma yn agored i unrhywun sydd a diddordeb yn yr ymgyrchoedd, felly dewch yn llu os ydych chi'n medru bod yng Nghanolfan Merched y Wawr am 2 o'r gloch, ac yn meddwl y gallwch chi gyfrannu.

Postiwyd am 12:55 yh

 

6 Medi 2007

Dweud ein dweud wrth Geidwadwr!

Prynhawn ddoe aeth Rhun Emlyn (cadeirydd y grwp Deddf Iaith) aminnau i swyddfa etholaeth y Ceidwadwyr yn Hwlffordd i drafod ein galwad am ddeddf iaith nwewydd gyda llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr iaith yn y Cynulliad, Paul Davies AC. Cadarnhaodd nad oedd eu polisi ar yr iaith wedi newid ers cyn yr etholiad, hynny yw eu bod yn cefnogi ein galwadau am wneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol, ac am sefydlu swydd y Comisiynydd Iaith. Cafwyd trafodaeth drylwyr ar ein Mesur Iaith ni, a gyhoeddwyd yn ein Cyfarfod Cyffredinol ym mis Mawrth. Y prif bwynt a drafodwyd oedd trydydd prif ffocws ein galwad, sef sefydlu hawliau i bobl Cymru ddefnyddio'r iaith ar draws pob sector ac ymhob rhan o fywyd. Cafwyd ymateb cadarnhaol o ran yr egwyddor o sefydlu'r hawliau yma, a thrafodaeth fanwl ar ochr ymarferol gosod rheidrwydd ar fusnesau i gynnig gwasanaeth yn Gymraeg. Yn ol y disgwyl, effaith y fath ddeddfwriaeth ar fusnesau bychain oedd ei brif bryder, ond credaf inni allu esbonio ein gweledigaeth ni o ran rhoi cymorth i fusnesau bychain trwy osod fframwaith amser rhesymol a chynnig buddiannau treth, tra yn dal at ein gweledigaeth egwyddorol y dylai bob busnes yng Nghymru gynnig gwasanaeth ddwyieithog. Roedd yn sicr yn gyfarfod gwerthfawr, ac mi oedd Paul Dvies yn awyddus iawn i gyfarfod gyda ni yn gyson ac i gadw'r drafodaeth yn agored. Rydyn ni wrthi'n trefnu cyfarfod gyda'r Gweinidog Diwylliant, Rhodri Glyn Thomas, a'r Democratiaid Rhyddfrydol i sicrhau fod unrhyw fesur sy'n cael ei gyflwyno yn y Cynulliad yn un gynhwysfawr ac effeithiol

Postiwyd am 12:02 yh

 

5 Medi 2007

Meddiannu Mynydd Cerrig

Am 6 o'r gloch bore 'ma (wel, bore ddoe erbyn hyn!), meddiannwyd un o adeiladau Ysgol Mynydd Cerrig yn Sir Gaerfyrddin gan bump o aelodau Cymdeithas yr Iaith - Iestyn ap Rhobert, Angharad Clwyd, Ffred Ffransis, Siriol Teifi a minnau. Bwriad y weithred oedd i brotestio, ar y diwrnod y dylai plant y pentref fod wedi dychwelyd i'w hysgol leol, yn erbyn yr ymgynghoriad twyllodrus ac annemocrataidd a weithredwyd gan Gyngor Sir Gar. Mae'n anodd iawn credu yn nidwylledd ymgynghoriad pan fo'r Cyngor wedi cynnwys arian o werthu adeilad yr ysgol mewn cyllideb cyn i'r ymgynghoriad hwnnw ar ddyfodol yr ysgol orffen.

Yn ogystal,, lansiwyd papur polisi newydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg gynradd, sef 'Rhesymoli Cadarnhaol.' Prif ffocws y papur yw ein galwad ar i'r cyfrifoldeb dros adeiladau addysgiadol gael ei drosglwyddo i adran Materion Gwledig y Cynulliad, a bod yr awdurdod lleol wedyn yn rhentu yn ol faint bynnag o ofod y mae ei angen i redeg ysgol gynradd. Byddai modd i weddill yr adeilad gael ei ddefnyddio fel adnodd cymunedol, gan sicrhau canolfan bentrefol a chymunedol hyfyw, a gan sicrhau bod safon addysgiadol uchel yn parhau i gael ei ddarparu ym mhentref lleol y plant. Dyma ymgais Cymdeithas yr Iaith i symud y ddadl ynglyn a dyfodol ysgolion pentrefol yn ei blaen, ac i gynnig atebion amgen a newydd, rhywbeth y mae Cyngor Sir Gar yn gwbwl anfodlon i wneud.

Daeth y brotest i ben am 4.30 y prynhawn, ar ol dros 10 awr o ddarllen, Scrabble (cymraeg, yn naturiol!!), a chardiau. Gobeithio bod y weithred yma wedi deffro cymunedau eraill Sir Gar a Chymru i'r perygl a'r bygythiad sydd yn hongian uwch eu pennau o du'r Cyngor Sir.

Postiwyd am 12:41 yb

 

17 Gorffennaf 2007

Manylu a chyfarfod rhanbarth

Neithiwr darlledwyd rhaglen Manylu yn trafod Thomas Cook yn bennaf, ond a roddodd sylw i'n galwadau am ddeddf iaith newydd yn ogystal. Cafwyd sylwadau cadarnhaol iawn gan y Parch. Aled Edwards o'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, a gan y cyfreithiwr Emyr Lewis. Cafwyd un pwynt hynod bwysig ei wneud gan Emyr, sef bod perygl i'r drafodaeth am ddeddf iaith newydd gael ei llesteirio gan ddadlau ynglyn a gorfodaeth ar y sector breifat, yn hytrach na chanolbwyntio ar egwyddorion sylfaenol ein galwadau, sef y dylai fod gan bawb sydd yn byw yng Nghymru yr hawl i dderbyn nwyddau a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar ol bod yn sownd am rhyw awr yn fersiwn Cymru o'r M25 rhwng Radyr a Coryton, es ymlaen i gyfarfod rhanbarth Morgannwg Gwent yn Nhy'r Cymru yng Nghaerdydd. Ar y wal oedd y posteri perthnasol yma -

deddf3.jpg

deddf2.jpg

Postiwyd am 3:14 yh

 

16 Gorffennaf 2007

Protest Tesco Port

Cafwyd protest lwyddiannus iawn ym Mhorthmadog dydd Sadwrn, lle gwnaeth criw sylweddol o aelodau o'r Gymdeithas rwystro mynediad Tesco am ryw hanner awr. Cafodd Steffan Cravos, sydd wrth gwrs yn gyn-Gadeirydd ei arestio am godi poster ar ffenest Tesco, ond cafodd ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad yn fuan wedi hynny. Cafwyd araith rymus gan Gwenno Teifi hefyd, rhyw dri diwrnod wedi iddi gael ei rhyddhau o'r carchar am baentio slogan ar ffenest cwmni Brantano fel rhan o'r ymgyrch dros ddeddf iaith newydd.

Yn ol datganiad gan Tesco yndilyn y brotest yr oeddynt wedi 'synnu' gan ein protest, gan fod nifer fawr o arwyddion dwyieithog yn y gangen. Dyma'r fath o agwedd sydd wedi cael ei feithrin yn y sector briefat dros y degawd diwethaf. Os oes arwyddion dwyieithog fan hyn a fan draw, gallwn barhau i weithredu ein busnes difrifol trwy gyfrwng y Saesneg. Mae'n rhaid i gwmniau fel Tesco sylweddoli fod angen i ddwyieithrwydd ymdreiddio trwy eu holl weithgaredd - arwyddion dros dro, taflenni gwybodaeth, hyfforddiant staff, cyhoeddiadau uchel-seinydd ac ati, dyw'r agwedd docenistig bresennol ddim yn ddigonol, ac yn sicr ddim yn dangos parch ac ymrwymiad at boblogaeth y cymunedau y maent yn gwneud cymaint o elw ohonynt.

Mae'r gwaith o bwyso ar Tesco yn parhau dros yr haf. Os ydych chi am gyfrannu, ewch i'ch cangen leol a chasglu tystiolaeth o'r angen am ddeddf iaith newydd (e.e. taflenni uniaith Saesneg ac ati) a dewch a nhw i uned Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal, llenwch y ffurflenni cwyno sydd i'w cael ymhob cangen gan ddweud eich bod yn dymuno gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Diolch yn fawr i bawb ddaeth draw i Borthmadog dydd Sadwrn.

Postiwyd am 12:54 yh

 

10 Gorffennaf 2007

Gwenno Teifi yn y carchar

Yn Llys Ynadon Caerfyrddin fore Llun, fe ddedfrydwyd Gwenno Teifi i bum niwrnod o garchar am wrthod talu trwydded yn dilyn ei gweithred o baentio slogan ar ffenest cwmni Brantano fel rhan o'r ymgyrch dros ddeddf iaith newydd. Mae Gwenno wedi clywed y bydd hi'n cael ei rhyddhau yfory, ac o fewn ychydig oriau wedi hynny, bydd hi nol yn ymgyrchu pan y bydd yn ymweld a'r Senedd ym Mae Caerdydd i gyflwyno llythyr i Carwyn Jones. Yna, am 2 o'r gloch dydd Sadwrn bydd Gwenno a finne yn annerch y brotest yn erbyn Tesco ym Mhorthmadog. Os ydych chi o gwmpas Caerdydd 'fory, dewch draw i'r Senedd erbyn 11 yb i'w chroesawu yn ol i Gymru. Neu dewch draw i'r brotest ym Mhorthmadog i'w llongyfarch ar ei gweithred ysbrydoledig ac i godi llais gyda ni i sicrhau bod yr alwad dros ddeddf iaith newydd yn glir yn y cyfnod allweddol yma. 'Diolch i Dduw am y ddau neu dri sy heno'n y carchar drosom ni' fel wedodd DI rhyw chwarter carnif yn ol!

Postiwyd am 9:16 yh

 

5 Mehefin 2007

Eisteddfod yr Urdd

O'r diwedd, dyma fi'n dechrau ailafael ym mhethau wedi prysurdeb Eisteddfod Sir Gâr. Dwi eisoes wedi sôn am y brotest addysg lwyddiannus a gafwyd ar fore Llun yr Eisteddfod, a dechreuodd y gwaith o bwyso ar Carwyn Jones, y Gweinidog sydd yng ngofal Addysg a'r Gymraeg yn syth ar ol cyhoeddi'r cabinet newydd.

Cafwyd trafodaeth ar Taro'r Post rhyngddo a Ffred dydd Gwener, lle wnaeth o ddatgan nad oedd angen Deddf Iaith Newydd ar Gymru. Gweinidog newydd ond yr un hen bolisiau felly.

Yn wyneb hyn, roedd hi'n braf iawn, ac yn hynod arwyddocaol fod Urdd Gobaith Cymru fel sefydliad wedi datgan eu cefnogaeth gyhoeddus i Deddf Iaith Newydd ar ddydd Sadwrn olaf y Steddfod. Dyma lais arall yn galw am Deddf Iaith Newydd felly - gall y llywodraeth Lafur ddim eu hanwybyddu lawer mwy.

Postiwyd am 9:42 yh

 

29 Mai 2007

Cynghorwyr Sir Gar yn Euog!

Er gwaetha problemau trafnidiaeth, cawodydd o law a gwynt a oedd yn bygwth chwythu fy wig barnwr i ffwrdd, cafwyd protest dra llwyddiannus ar faes Eisteddfod yr Urdd ddoe. Mewn sesiwn o Lys Iawnderau Cymunedol Cymru cafwyd y swyddogion Mark James a Vernon Morgan, a chynghorwyr sir Meryl Gravell a Martin Morris yn euog o dwyll gan reithgor o bobl Sir Gâr.

Yn ôl y disgwyl. nid oedd un o'r diffinyddion yn bresennol (er iddynt gael gwys wythnosau'n oô). Galwodd yr erlyniad ar lywodraethwyr a rhieni fel tystion i'r ffaith fod ymgynghoriad Cyngor Sir Gar ar ddyfodol ysgolion pentrefol y sir yn un twyllodrus.

Trwy eu polisi cyllido newydd, mae'r Cyngor Sir wedi ymosod ar ysgolion sydd yn gweithredu fel ysgolion ffederal, ac wedi dangos yn glir eu bod wedi penderfynu cau ysgolion a'u gwerthu cyn bod unrhyw ymgynghoriad yn cael ei gynnal.

Cawsant ryddhad amodol, sef na fydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn gadael iddynt ymelwa o'u twyll trwy feddiannu'r ysgolion sydd dan fygythiad. Os ydych chi'n bwriadu dod draw i'r Eisteddfod galwch draw i'r uned am sgwrs.

09urdd2007.JPG

Mwy...

Postiwyd am 11:26 yb

 

17 Mai 2007

Yn dilyn yr etholiadau

Wrth i’r pwt hwn gael ei sgwennu, mae trafodaethau ynd mynd rhagddynt rhwng y pleidiau i benderfynu ar ba fath o lywodraeth a fydd mewn grym yn y Cynulliad am y bedair mlynedd nesaf. A fydd Plaid Cymru neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn clymbleidio neu gydweithio â Llafur, neu a fydd y gwrthbleidiau yn uno o dan ymbarel amryliw?

Yn dilyn noson ddifyr iawn ar Fai y 3ydd, mae galwad Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith ar i’r gwrthbleidiau wrthod clymbleidio ag unrhyw blaid arall heb gytundeb i sicrhau Deddf Iaith Newydd, strategaeth frys o ran cartrefi, gwaith a thrafnidiaeth yn ein ardaloedd Cymraeg, a dyfodol ein hysgolion pentrefol ac addysg Gymraeg ymhob sector, yn sefyll.

Dyma anghenion brys y frwydr dros ddyfodol y Gymraeg, a dyma gyfrifoldeb y sawl a etholwyd rhai wythnosau yn ôl.

Postiwyd am 4:44 yh

 

3 Mai 2007

Gair o'r Gadair

Bu Cyfarfod Cyffredinol 2007 yn un cyffrous a llwyddiannus. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi’r aelodau am ddangos ffydd ynof i, ac am bleidleisio drostai. Yn ail, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Steffan am ei waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r Gymdeithas wedi cyflawni gymaint yn ystod y ddwy flynedd yna, a diolch yn fawr am dy arweiniad.

Roedd yna deimlad o gyffro gwirioneddol ar y bore Sadwrn hynny yng Nghanolfan y Morlan, am sawl rheswm mae’n debyg. Wrth gwrs, roedd y mwyafrif yn sylweddoli mai ar y diwrnod yna y byddai cynlluniau’r Senedd ar gyfer defnyddio rhodd ariannol hael y diweddar Hywel Vaughan Lewis yn cael eu gosod gerbron yr aelodau. Wedi tipyn o drafod, penderfynwyd cefnogi cynlluniau’r Senedd, ac felly fe fydd strwythyr newydd o swyddi cyflogedig gan y Gymdeithas yn y dyfodol agos. Yn ogystal a chynnal y dair wydd bresennol, sef Swyddog Gweinyddol Cenedlaethol, a Swyddogion Maes Dyfed a’r Gogledd, bydd Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol a Swyddog Maes y De yn cael eu penodi.

Bu trafod ac ymchwil dwys a manwl cyn cyflwyo’r cynlluniau yma, ac meant wedi cael eu cyllido yn ofalus am y degawd nesaf. Wrth gwrs bydd cyfrifoldeb ar y swyddogion yma i hybu ymgyrchoedd ac i lobio yn eu hardaloedd, ond eu rol yn anad dim fydd hwyluso cynnydd yn ein gweithgaredd gwirfoddol – i dynnu aelodau i mewn i’n gweithgarwch ni ar lawr gwlad ac i sicrhau ein bod ni, fel cymdeithas o aelodau ymroddedig, yn cael y maen i’r wal yn y modd mwyaf effeithiol posib. Gwelwyd pa mor effeithiol gall hyn fod wrth edrych ar y cynnydd gwych mewn gweithgaredd a welwyd yn rhanbarth y Gogledd yn dilyn penodi Dewi Snelson, gan gyrraedd uchafbwynt mewn protest o 300 o bobl ym Morrisons Bangor.

O ganlyniad i haelioni Howell Vaughan Lewis mi fyddwn ni fel Cymdeithas mewn sefyllfa i allu ymgyrchu a lobio yn fwy effeithiol, ac i dynnu mwy a mwy o aelodau i fewn i weithgaredd y Gymdeithas ar lawr gwlad. Ac fe fydd eu hangen yn fwy nac erioed, oherwydd wedi i ragor o bwerau gael eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai, mi fydd deddfau gwlad yn cael eu pasio yng Nghymru am y tro cyntaf ers oes y Tywysogion. Mae cynfod o gyffro mawr o’n blaenau felly. Cyfnod o gyffro ond cyfnod o gyfrifoldeb aruthrol hefyd. Wrth dderbyn y rhodd yma gan Howell Vaugan Lewis mae’n deg tybio ei fod yn cytuno gyda’n egwyddorion a’n dulliau. Mae’n ddyletswydd inni felly ddefnyddio ei rodd er mwyn ymgyrchu a lobio yn galetach ac yn fwy effeithiol nag erioed o’r blaen, a glynu wrth yr un egwyddorion hynny.

Mae’n ddyletswydd arnom yn awr i sicrhau ein bod ni’n parhau i bwyso ar y Cynulliad er mwyn sicrhau fod hawliau ieithyddol dinasyddion Cymru yn cael eu sefydlu, fod ein cymunedau Cymraeg naturiol ni yn cael pob cyfle posib i barhau yn rhai hyfyw, a bod ein sefydliadau addysgol ni yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg i bawb sy’n ei ddymuno. Dyna’r sialens sy’n ein wynebu ni. Adlewyrchwyd hyn yn y cynigion polisi ac ymgyrchol a basiwyd yn y Cyf Cyff, - yn galw ar I lywodraeth newydd Cymru gynabod ac I weithredu ar ei gyrfifoldeb I’r Gymraeg, yn galw I ar Morrisons a Tesco sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog I’w gwasanaethau, yn galw ar gynghorau sir Cymru I symud tuag at wneud y Gymraeg yn iaith sywddogol weinyddol, yn comisiynu gwaith ymchwil ar effaith datblygiadau tai ardal y Wyddgrug ar yr iaith, ac yn nodi ein pryder fel Cymdeithas am gyllid awdurdodau Addysg a’r perygl i swyddi yn Swyddfa Treth Incwm Porthmadog.

Bydd y flwyddyn nesaf yn un brysur iawn felly, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr. Yn flaenaf yn fy meddwl o gofio’r cynnwrf diweddar yw’r angen i sefydlu Deddf Iaith Newydd iaith ar unwaith. Mesur a fydd yn rhoi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, yn creu comisiynydd yr iaith Gymraeg ac yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn hygyrch ymhob agwedd ar fywyd, i bob un yng Nghymru. Yng nghyfarfod cyntaf Senedd Amgen Llywodraeth y Cynulliad ar brynhawn y Cyf Cyff, mi gyflwynwyd ein Mesur Iaith terfynol ni i’n haelodau ac i’r gwleidyddion a ddaeth i annerch. Cafwyd sylwadau o gefnogaeth cryf gan Elin Jones AC o Blaid Cymru a gan Trefor Jones o’r Ceidwadwyr, yn ogystal a chadarnhad o styfnigrwydd cibddall y Blaid Lafur gan Alun Davies. O dan lywyddiaeth brofiadol Kate Crocett, pasiwyd y Mesur Iaith gan y Senedd Amgen. Gobeithio yn wir y bydd pa bynnag lywodraeth a fydd ym Mae Caerdydd wedi Mis Mai yn mynd at yn ddiymdroi i sefydlu grwp i drafod Deddf Iaith Newydd, gan ddefnyddio ein mesur ni fel patrwm.

Mae’r Gymraeg yn etifeddiaeth i bawb o bobl Cymru, boed nhw’n siarad Cymraeg a’i peidio. Mae gan bawb sydd wedi dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw hawl ar yr iaith. Mae gennym ddyletswydd dros bawb yng Nghmru a thros godi eu hymwybyddiaeth hwy. Ond yn fwy fyth, mae dyletswydd arnom i drosglwyddo dyheadau pobl Cymru i aelodau’r Cynulliad ac yn bwysicach oll, i lywodraeth y Cynulliad – pwy bynnag fyddan nhw ar ol yr Etholiad. Diolch yn fawr i chi unwaith eto.

Postiwyd am 4:40 yh

 

1 Mai 2007

CROESO!

Croeso! Hywel Griffiths ydw i, a dyma flog Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ar hyd y flwyddyn sydd i ddod byddaf yn ceisio postio'n gyson, yn bennaf er mwyn i chi fel aelodau wybod be sy'n digwydd gyda'n ymgyrchoedd, ond hefyd gydag unrhyw newyddion / pynciau sy'n dal fy sylw. Gobeithio wnewch chi fwynhau.

Postiwyd am 4:36 yh

 

Archif Blog Hywel
Gorffennaf 2007
Mehefin 2007
Mai 2007
 
Blog Steffan
Hafan y Blog

Newyddion
Targedu Woolworths a WhSmiths yn y gogledd
29 Awst, 2008
Dau aelod amlwg o'r Gymdeithas yn y Llys yng Nghaernarfon
12 Awst, 2008
Henffych Brifardd
11 Awst, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, PWLLHELI
17 Hydref, 2008
Rali Flynyddol, Y Rhybudd Olaf, ABERYSTWYTH
25 Hydref, 2008
Cyfarfod Cyffredinol, ABERYSTWYTH
25 Hydref, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig