Mynegodd ymgyrchwyr eu siom heddiw ar ôl i Gyngor Gwynedd bleidleisio dros barhau'r broses statudol ar gyfer cau Ysgol y Parc, ger y Bala.
Daeth y penderfyniad wedi protest tu allan i swyddfeydd y Cyngor, gan wyth deg o brotestwyr gan gynnwys plant a rhieni'r ysgol, oedd yn gwrthwynebu cynlluniau'r cyngor. Yn eu plith roedd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a orymdeithiodd saith deg milltir o Dryweryn i Gaernarfon ers Dydd Sul fel rhan o'r protest. Mae'r mudiad yn ymgyrchu o blaid cadw'r ysgol ar agor ac arbed arian trwy ffederaleiddio ysgolion lleol yn lle.
Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith brotest ar gopa'r Wyddfa heddiw (Dydd Mercher, 14eg Gorffennaf) mewn ple funud olaf at Gynghorwyr Gwynedd o flaen bleidlais dyngedfennol ar ddyfodol Ysgol Parc, Y Bala .
Daeth criw o blant Ysgol Ysbyty Ifan i ymuno ag aelodau'r Gymdeithas ar y copa i dystio i bwysigrwydd eu hysgol nhw ac i ddatgan cefnogaeth i'r Parc. Aeth y Daith wedyn lawr llethrau'r Wyddfa ac ymlaen i Ddyffryn Nantlle heno gan gynnal cyfarfod pellach tu allan i Ysgol Baladeulyn.
Yn dilyn y bleidlais agos yn y Cyngor Llawn (17-14) wythnos diwethaf ynghylch y bwriad i gau holl ysgolion ardal Llandysul a sefydlu un ysgol i oedran 3-19. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud ple olaf i aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion cyn eu cyfarfod yfory (Mawrth 6/7).
Fe alwodd y pwyllgor craffu addysg dydd Llun diwethaf ar y cabinet i ystyried alternatifs ar gyfer ardal Llandysul.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cerdded 70 o filltiroedd er mwyn dobarthu a llaw Cerdyn Post anferth o Dryweryn i gynghorwyr Gwynedd yng Nghaernarfon o flaen pleidlais dyngedfennol am ddyfodol ysgol sy'n gonglfaen i un o gymunedau pentrefol enwocaf Cymru.
Ar brynhawn Iau y 15ed o Orffennaf, bydd y Cyngor llawn yn pleidleisio ar ddyfdol yr ysgol yn y Parc, ger Y Bala, man geni Merched y Wawr. Ar y prynhawn Sul blaenorol, bydd Pwyllgor Amddiffyn Ysgol y Parc yn cynnal Rali Tryweryn 2010 ar yr argae i gofio'r gymuned a ddinistrwyd gan Gyngor Lerpwl ac i rybuddio fod ein Cyngor ein hunain yn bygwth cymuned arall yn awr trwy ddwyn yr ysgol.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwahodd pawb yn y rali i lofnodi Cerdyn Post anferth Tryweryn a'i gyfeirio at Gyngor Gwynedd. Yn dilyn y rali, bydd aelodau'r Gymdeithas yn cychwyn ar Daith Gerdded 70 o filltiroedd i gludo'r cerdyn post yn bersonol at Gynghorwyr Gwynedd gan gyrraedd Caernarfon ar gyfer rali tu allan i bencadlys y Cyngor am 1pm Iau 15ed. Pwysa yma i lawrlwytho taflen manwl y daith (pdf)
Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
"Wedi dwy flynedd, mae'n bryd i ni ddychwelyd at y ffordd yn dilyn y bygythiad newydd hwn i gymuned Gymraeg. Trist iawn yw ystyried mai Corfforaeth Lerpwl a ddinistriodd gymuned Gymraeg leol hanner canrif yn ol, ond yn awr y mae ein pobl ein hunain yn bygwth tanseilio cymuned Gymraeg trwy gau'r ysgol sy'n gonglfaen i fywyd Parc. Ar y ffordd, byddwn yn ymweld a phentrefi Cymraeg eraill yng Ngwynedd a Chonwy y mae bygythiad i'w hysgolion."
Yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Sir Ceredigion y bore yma i beidio cyfeirio i'r Cyngor Llawn penderfyniad i gau holl ysgolion ardal Llandysul a sefydlu un ysgol 3-19 newydd mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am brotest tu allan a tu fewn i'r Cyngor Llawn bore Mercher 30/6/10.
Dywed Angharad Clwyd, rhiant yn ysgol gynradd Llandysul a trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n warthus nad yw'r holl gynghorwyr yn mynd i gael cyfle hyd yn oed i drafod penderfyniad mor ddigynsail a hyn. Dyma'r tro cyntaf mae unrhyw awdurdod wedi penderfynu cau pob ysgol mewn ardal. Penderfyniad a fyddai'n cael effaith mor niweidiol ar y cymunedau Cymraeg yma ac arYsgol Dyffryn Teifi ei hun. Galwn ar gefnogwyr yr ysgolion i ddod i brotest tu fas cyfarfod y Cyngor Llawn am 9.30am bore Mercher y 30/6/10 a galwn ar y cynghorwyr sydd o blaid y cymunedau yma i godi eu llais mewn protest tu fewn i'r cyfarfod."
Bydd Cymdeithas yr Iaith hefyd yn danfon cwyn swyddogol at y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ynghylch y modd hollol anemocrataidd y gymerwyd y penderfyniad hwn.
Mae Cyngor Conwy wedi datgan 'nad oes dyfodol i gymunedau pentrefol Cymraeg' trwy gynnig cael gwared a chwech ysgol heddiw, yn ol Cymdeithas yr Iaith.
Yn ol eu Drafft-Gynllun Moderneiddio Ysgolion Cynradd - sydd yn destun ymgynghori tan Fedi 10ed - byddai ysgolion Cymraeg eu cyfrwng yn cau yn Llangwm, Capel Garmon, Rhydgaled, Llanfair Talhaiarn, Ysbyty Ifan a Phenmachno.
Meddai Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd:
"Dyma enghraifft eto o Awdurdod Lleol nad sydd a'r weledigaeth i ddatblygu'n hysgolion pentrefol yn beiriannau i adfywio ein cymunedau pentrefol Cymraeg. Mae bob amser yn haws gan fiwrocratiaid ganoli, a chynllunio mewn cyd-destun adrannol heb sylweddoli beth yw effaith eu penderfyniadau ar rannau eraill o waith y Cyngor. Beth yn y byd yw diben cael polisi iaith a pholisi adfywio cymunedau pan fydd adran arall o'r Cyngor yn tanseilio'n pentrefi Cymraeg?"
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi siom heddiw ar ôl i Brifysgol Bangor penderfynu argymell penodi Is-Ganghellor sy'n ddi-Gymraeg. Mae'r mudiad yn dadlau bod cyfle o hyd i'r Brifysgol gosod dyletswydd gyfreithiol ar yr ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Dros yr wythnosau diwethaf mae pwysau o d? myfyrwyr, staff a grwpiau ymgyrchu yn ehangach yng ngogledd Cymru wedi gofyn i'r Brifysgol wrth-droi ei benderfyniad i beidio â gosod unrhyw ofyniad cyfreithiol ar yr ymgeisydd llwyddiannus i siarad neu ddysgu'r Gymraeg.
Bydd haid o fôr-ladron ifainc yn dilyn map trysor draw at bafiliwn Cyngor Ceredigion wrth fod Cymdeithas yr Iaith yn dod â'r frwydr am ddyfodol ysgolion Pentrefol Cymraeg i faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Llun, Mai 31ain).
Bydd y Gymdeithas yn portreadu swyddogion Cyngor Ceredigion yn fôr-ladron unllygeidiog sydd wedi adeiladu eu cestyll drudfawr eu hunain ar yr arfordir yn Aberystwyth ac Aberaeron ac yn awr yn ymosod ar cymunedau gwledig i geisio dwyn trysorau o drigolion lleol.
Esboniodd trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd:
"Mae'r plant yn ymwisgo fel môr-ladron unllygeidiog i symboleiddio fod swyddogion Ceredigion o hyd yn gallu gweld un ateb yn unig, sef cau ein hysgolion a chanoli addysg. Mae bygythiad i o leiaf 15 o ysgolion pentrefol yng Ngheredigion, ac mae hyn yn rhan o broblem sy'n wir fygythiad i'n cymunedau gwledig Cymraeg trwy'r wlad."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o "adael plant mewn limbo" oherwydd y penderfyniad i wrthod gadael i Gyngor Caerdydd symud Ysgol Treganna i adeilad fwy o faint er mwyn darparu ar gyfer y galw cynyddol.
Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n hollol annheg fod yn rhaid i'r plant ddioddef oherwydd anallu gwleidyddion i ddyfeisio atebion cyfiawn i rai sy'n dymuno addysg Gymraeg ac i gymunedau lleol. Dylai pawb ddod at ei gilydd gyda'r nod o sicrhau ysgol gyfrwng Cymraeg ym mhob cymuned o Gaerdydd fel na ddaw pwysau gorlenwi yn y dyfodol."
"Mae'n warthus bod llawer o rieni Cymraeg a di-Gymraeg sydd am i'w plant dderbyn addysg Gymraeg yn cael eu gadael mewn limbo wrth fod un haen o lywodraeth yn beio'r llall. Mae'r sefyllfa hon yn cael ei hailadrodd mewn nifer o lefydd eraill yng Nghymru - megis Rhydaman - hefyd."
Dywedodd Nia Williams, sydd yn rhiant i blant yn Ysgol Treganna:
"Rydyn ni'n gandryll. Mae'r ysgol yn fwy na gorlawn. Mae'r Cynulliad yn cyfiawnhau'r anffafriaeth ieithyddol sy'n bodoli yng nghymuned Treganna. Mae adnoddau ac adeiladau'r ysgol yn annigonol i gwrdd ag anghenion addysgol."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn benderfynol o gefnogi rhieni sydd am sicrhau a chryfhau addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, boed hynny yn ein pentrefi gwledig neu yn ein prifddinas.
Yn dilyn datganiad Cyngor Gwynedd am ddyfodol Ysgol y Parc Bala, gofynwn i aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas i ddod tu allan i Siambr Dafydd Orwig Caernarfon i brotestio yn erbyn cynlluniau Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc.
Mewn ymateb i gyhoeddiad Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc dywed Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r atebion a argymhellir gan gynghorwyr presennol Gwynedd yn waeth na'r hyn oedd yn cael ei gynnig gan y cyn arweinyddiaeth yng Ngwynedd ac a wrthodwyd gan yr etholwyr yn yr etholiad diwethaf. Yr oedd y cyn arweinyddiaeth wedi rhoi sicrwydd am ddyfodol Ysgol y Parc. Nawr mae gyda ni arweinyddiaeth newydd sydd am danseilio cymuned fywiog Gymraeg. Mae hyd yn oed Cyngor Gwynedd am ddilyn y polisi negyddol yn hytrach na chreu polisiau llawn dychymyg i wneud yn fawr o'r asedau sydd gan y cymunedau. Mae hon yn frwydr derfynol dros ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Byddaf yn argymell i ranbarth Gwynedd o'r Gymdeithas bod cychwyn ymgyrch o ddwyn pwysau gweithredu uniongyrchol ar Gyngor Gwynedd."
Heddiw cyflwynodd hanner cant o fyfyrwyr a darlithwyr cyfrwng Cymraeg Siarter i Brifysgol Bangor oedd yn mynegi eu pryder am driniaeth y Gymraeg yn y sefydliad.
Daw hyn yn dilyn misoedd, os nad blynyddoedd, ansicr i'r Gymraeg yn y Brifysgol gyda gweld dirywiad mewn addysg Gymraeg, erydu ar weinyddiaeth ddwyieithog, a nifer o unigolion di-Gymraeg yn cael eu penodi i swyddi uwch yn y sefydliad.
Pen-llanw'r pryder oedd y bygythiad i gau pum adran sydd a 40% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ynddynt, ynghyd a methiant y Brifysgol i hysbysebu swydd y Prifathro newydd fel un lle mae'r Gymraeg yn sgil angenrheidiol.
Mae'r myfyrwyr wedi cynhyrfu! Mae ymgyrchu brwd ar droed yng Nghaerdydd, Bangor ac Abersytwyth. Bu sawl cyfarfod wythnos hyn eisoes yn y prifysgolion hyn, ac mae'r myfyrwyr am ail-afael yn y gweithgarwch gwleidyddol oherwydd nad yw sefyllfa'r Gymraeg yn dderbyniol yn y prifysgolion ar hyn o bryd.
Nos Fawrth, Mawrth 16eg, roedd noson gyntaf Taith Coleg Ffederal Cymraeg sef cyfarfod mae celloedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn eu yn eu prifysgolion i drafod y syniad o Goleg Ffederal Cymraeg a beth rydyn ni fel myfyrwyr, darlithwyr a'r gymdeithas ehangach eisiau ohono. Roedd Dr Simon Brooks a Dr Richard Wyn Jones wedi dod i'r cyfarfod i drafod addysg Gymraeg yng Nghaerdydd gyda'r myfyrwyr.
Mae'r sefyllfa addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn waeth nag unrhyw brifysgol arall sy'n drueni mawr gan fod cyn gymaint o fyfyrwyr sy'n medru'r Gymraeg yn mynychu'r Brifysgol. Dim ond yn yr Adran Gymraeg y gellid dilyn cyrsiau drwy'r Gymraeg ac mewn rhai adrannau fel Cerddoriaeth neu Wleidyddiaeth eraill gellir cael un seminar/tiwtorial drwy'r Gymraeg. Mae'r Brifysgol yn anwybyddu eu Cynllun Iaith Gymraeg, a datgelwyd y ffaith syfrdanol nad oes gan y brifysgol gyfieithydd hyd yn oed!!
Un o'r rhesymau nad oes symud ymlaen wedi bod yw absenoldeb unrhyw bwysau o du'r myfyrwyr. Nid oes gan fyfyrwyr Cymraeg lais yn yr Undeb Myfyrwyr na'r Brifysgol, fel y mae gan Aberystwyth UMCA a Bangor UMCB. Roedd y syniad o gael Undeb Myfyrwyr Cymraeg yn amlwg wedi dal dychymyg y myfyrwyr ac ers y cyfarfod maen nhw wedi mynd ati ddechrau'r ymgyrch i gael Undeb fydd â swyddog cyflogedig. Darllenwch y stori ar wefan Golwg 360: http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_10751.aspx
Bydd sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn gam allweddol ymlaen i newid agweddau gwarthus y Brifysgol tuag at y Gymraeg gan roi llais a threfniadaeth i'r myfyrwyr i fedru gwthio am addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar Fawrth 17eg, bu cyfarfod cell bywiog iawn yn Neuadd JMJ ym Mangor. Mae pryder mawr ymhlith myfyrwyr oherwydd bod adrannau sy'n darparu addysg Gymraeg yn mynd i gael eu cau gan y Brifysgol. Mae 40% o fyfyrwyr yr adrannau hynny yn Gymry Cymraeg. Mae Prifysgol Bangor yn marchnata eu hunain fel y lle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ond y realiti yw fod myfyrwyr wedi gorfod brwydro am fodiwlau yn yr adran Hanes ac maen nhw'n cau adrannau fel yr Adran Astudiaethau Crefydd a'r Gwyddorau Cymdeithasol sef yr unig lefydd yn y byd lle gellir astudio'r pynciau hyn drwy'r Gymraeg! Mae'r Brifysgol yn torri eu cynllun iaith yn gyson, a'r arwydd amlycaf yw'r banc Satander sydd wedi agor o fewn y llyfrgell ond yn uniaith Saesneg.
Nid yw'r myfyrwyr yn mynd i ddioddef y sefyllfa bellach; mae'r gell yn credu'n gryf mai rôl y Brifysgol yw gwasanaethu ardal Bangor ac mae hynny'n golygu dyletswydd at y Gymraeg.
Bydd 'Taith Coleg Ffederal Cymraeg' yn Aberystwyth heno yng nghwmni Steffan Prys (Llywydd UMCA), Dr Hywel Griffiths (darlithydd Daearyddiaeth) a Dr Bleddyn Owen Huws (Adran Gymraeg).
I orffen, hoffwn gynnig rhai tips i'r celloedd Prifysgol sy'n adfywio ac i'r Undeb Myfyrwyr Cymraeg newydd:
- mae cyfarfod gyda'ch gilydd yn gyson yn holl bwysig i gadw momentwm i fynd ac i rannu syniadau a sbarduno eich gilydd.
- esboniwch i eraill am beth yw'r broblem; casglwch enghreifftiau a thystiolaeth o'r anghyfiawnder yn bwysig ac ni all bobl anwybyddu hynny.
- peidiwch dweud a dim gwneud! Mae'r gwneud yn bwysig iawn ac yn rhoi cyfle i bobl eraill i ymuno a gorfodi'r Brifysgol i ymateb.
- efallai bydd pobl yn hoffi gwneud rhai pethau yn fwy na'i gilydd, er enghraifft, un yn hoffi'r gwaith o fynd drwy'r cynllun iaith ac un yn dda wrth drefnu protest a chael myfyrwyr i fynychu. Gwych! Defnyddiwch sgiliau pobl.
- mynnwch y gorau i'r Gymraeg! Rydych chi yn gallu newid y sefyllfa.
- Siaradwch â darlithwyr am gyngor. Mae'n nhw'n deall y Brifysgol ac yn gwybod sut mae pethau'n gweithio felly byddan nhw'n gallu helpu lot!
Mewn ymateb i gynlluniau arfaethedig Awdurdod Addysg Ceredigion i gau chwech o ysgolion cynradd yn ardal Llandysul ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, mae rhieni pedwar o'r ysgolion wedi llunio deisebau a fydd yn cael eu cyflwyno tu allan i brif adeilad y Cyngor ym Mhenmorfa heddiw (Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 4pm).
Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a rhiant yn Ysgol Llandysul:
" Mae yna wrthwynebiad cryf yn yr ardaloedd yma i gynlluniau'r Cyngor Sir i gau ysgolion pentrefol yr ardal a chreu un Ysgol 3-19 oed. Gwelir maint y gwrthwynebiad yn y nifer o bobl sydd wedi arwyddo'r deisebau, gyda dros 200 o rieni ac aelodau o gymunedau Capel Cynon a Coed y Bryn a dros 120 o Aberbanc wedi arwyddo'r deisebau a dros 130 o rieni wedi arwyddo deiseb Ysgol Gynradd Llandysul."
Ymddengys bod y Cyngor Sir a'r ymgynghorwyr eisoes wedi rhoi eu bryd ar ysgolion ardal mawr 3-19 oed yn ardaloedd Llandysul a Thregaron, a'u bod yn rhoi'r cyfrifoldeb a'r baich o gyfiawnhau opsiynau eraill yn nwylo'r rhieni a llywodraethwyr. Gallai'r cynllun arwain at gau nifer fawr o ysgolion pentref a hyd yn oed ysgol gynradd Llandysul ei hun.
Meddai Angharad Clwyd, sy'n Gadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith ac yn rhiant yn ysgol gynradd Llandysul:
"Byddai'n eironig pe byddai'r ysgolion cyfrwng Cymraeg, Ysgol Dyffryn Teifi a Thregaron, yn gyfrifol am ddinistrio'r cymunedau Cymraeg sydd wedi darparu eu disgyblion dros y genhedlaeth ddiwethaf. Dylai'r broses hon fod yn ddadansoddiad agored o'r holl opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys yr opsiwn mwy blaengar o fath newydd o ffederasiwn rhwng Ysgolion Dyffryn Teifi ac Ysgol Uwchradd Tregaron â'r ysgolion sy'n eu bwydo. Byddai hyn yn creu uned addysgol gref ond byddai hefyd yn sicrhau y gellid cynnal presenoldeb yn yr holl gymunedau. Cyfrifoldeb yr ymgynghorwyr yw hi i gyflwyno manylion goblygiadau'r opsiwn hwn yn ogystal â modelau eraill posibl, yn hytrach na disgwyl i rieni a llywodraethwyr, nad ydynt yn cael eu talu i gwblhau'r gwaith, wneud hynny, fel awgrymwyd mewn cyfarfod cyhoeddus."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o "ddiffyg dychymyg" yn dilyn datganiad Rhodri Morgan ddoe y gallai hyd at 170 o ysgolion gau o ganlyniad i leoedd gwag. Mewn neges at y Prif Weinidog, dywed Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar addysg fod: "yr hen agwedd negyddol hwn yn awgrymu diffyg dychymyg ar ran y llywodraeth."
Ychwanegodd:
"Dylai ein llywodraeth ymateb yn greadigol i'r argyfwng ariannol. Mae lluaws o asiantaethau cyhoeddus sydd i gyd a'u swyddfeydd eu hunain. Lle bu'n addas, pam na ellid eu lleoli tu fewn i ysgolion sydd a chapasiti dros ben, a defnyddio adnoddau ysgolion i gyflwyno ystod eang o wasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig a dirwasgedig? Y prif rwystr yw'r agwedd cul tuag at gynulledifa adrannol. Mae angen meddylfryd holistaidd a chydlynus newydd i ddatblygu ysgolion yn greadigol yn wir asedau cymunedol, gan arbed o ganlyniad gwariant o gyllidebau eraill."
Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y Llywodraeth
Cafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.
Cyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:
Cafwyd ymateb da iawn wrth Gynghorwyr Sir a'r gynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau mewn cyfarfod arbennig i drafod sut i greu Cymuned Gymraeg Gynaliadwy. Bu Carl Clowes yn sôn sut y llwyddodd Antur Aelhaearn i osod yr hinsawdd briodol ar gyfer adfywio cymuned Gymraeg. Esboniodd Ffred Ffransis am gynllun newydd, Cynllun Adfywio Cymunedol, sy'n cael ei ffurfio ar hyn o bryd wrth i Gymdeithas yr Iaith gydweithio â chymunedau Penllyn. Amcan y cynllun yw i gymuned grymuso ei hun drwy gynllunio dros eu cymuned, gan fedru defnyddio'r cynllun fel arf i allu ymateb yn holistig i ddatblygiadau neu fygythiadau i'r gymuned. Bu ymatebion cadarnhaol gan Dylan Edwards (Cynghorydd Lleol) a Dyfed Edwards (Arweinydd Cyngor Gwynedd) a'r gynulleidfa o dros 100 o bobl, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn gobeithio y bydd cymunedau eraill â diddordeb i gydweithio ar gynllun tebyg. Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd grwp ymgyrch Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith:
'Yn y cyfarfod hwn roeddwn yn edrych am ffyrdd o rymuso a sbarduno ein cymunedau lleol fel eu bod yn eu hadfywio eu hunain a hynny oddi mewn i ganllawiau y Cynlluniau Datblygu Lleol.'
Protest 'Mae'r amser yn dod i Ben...' Pwerau llawn dros y Gymraeg i Gymru.
Roedd 200 o bobl wedi ymuno â Chymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod i rybuddio Llywodraeth y Cynulliad fod yr amser yn prinhau i fedru trosglwyddo'r pwerau dros y Gymraeg cyn yr etholiad nesaf. Rhybuddiwyd fod y Gweinidog Treftadaeth yn euog o beidio gwneud mwy i sicrhau Gorchymyn mwy eang, a'r Ysgrfenydd Gwladol yn euog o rwystro taith y Gorchymyn.
Fe wnaeth degau o fynychwyr y brotest weithredu'n uniongyrchol ar faes yr Eisteddfod, drwy osod sticeri ar stondin Llywodraeth y Cynulliad. Roedd y sticeri yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg. Bu Sian Howys yn siarad tu allan i stondin y Llywodraeth:
'Yr her i'r Gweinidog Treftadaeth yw i ddeddfu er mwyn gwneud gwahaniaeth fel y mae deddfu wedi gwneud gwahaniaeth mewn meysydd eraill o anghydraddoldeb. Os ydym ni eisiau gweld mwy o hawliau i'r Gymraeg, rhaid i ni eu enwi nhw, eu cywilyddio nhw a'u herio nhw bob gam o'r ffordd.'
Cynllunio logo y Coleg Ffederal ar Faes yr Eisteddfod
Ar Ddydd Llun 3ydd Awst, roedd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
'Er mwyn cynyddu'r ymwybyddiaeth fod y Coleg ar fin dod o'r diwedd, rydym yn trefnu'r gystadleuaeth logo ar gyfer y sefydliad nwydd, gan wahodd pobl i alw yn ein huned ar Faes yr Eisteddfod trwy'r wythnos i lunio cynigion.'
Daeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:
"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn. Ein gobaith ni yw y bydd y syniadau sy'n deillio o'r cyfarfod heddiw, nid yn unig yn berthnasol i Benllyn ond yn rhai y gall pobl sy'n byw mewn cymunedau Cymraeg ar hyd a lled Cymru eu defnyddio. Mae'n rhaid i bawb sy'n poeni am ddyfodol ein cymunedau fynnu'r p?er i ddiogelu'r dyfodol hwnnw. Gwelwn y cyfarfod hwn fel man cychwyn i weithgarwch fydd yn ymestyn drwy Gymru gyfan."
Dr Carl Clowes, Ffred Ffransis, Dyfed Edwards (Arweinydd Cyngor Gwynedd) Cadeirydd - Menna Machreth
Pabell y Cymdeithasau
Maes Eisteddfod Genedlaethol y Bala
2pm, Dydd Mercher 5ed Awst
Dewch i glywed mwy am y cynllun peilot hwn lle mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cydweithio â chymunedau Penllyn i lunio Cynllun Adfywio Cymunedol.
Y ffactorau sy'n milwrio yn erbyn ein cymunedau...
Bu ymgyrchu caled ym mro'r Eisteddfod yn ystod y ddwy flynedd diwethaf i geisio sicrhau dyfodol ysgolion pentrefol lleol sy'n ganolbwynt i fywyd y cymunedau. Daeth yn amlwg fod y bygythiad i'r ysgolion yn arwydd o wendid mwy sylfaenol yn ein cymunedau pentrefol Cymraeg.
Mae ymwybyddiaeth wedi tyfu o'r ymgyrch i ddiogelu ysgolion pentrefol Cymraeg gan amlygu bod angen cynlluniau ehangach i ddiogelu'r cymunedau pentrefol eu hunain. Mae'n gylch dieflig. Mae'r sefyllfa addysg yn gysylltiedig â'r diffyg tai fforddiadwy neu dai ar rent, all-lifiad pobl ifanc o'n cymunedau, economi lleol a thrafnidiaeth.
Amcanion
Ein hamcan yw cynorthwyo cymunedau i greu cynlluniau holistaidd a fydd yn tynnu'r holl elfennau o gymuned Gymraeg ynghyd. Amcan y Cynlluniau Adfywio Cymunedau Lleol fydd datrys sut fydd mynd ati i wireddu hyn yng nghyd-destun Llanuwchllyn, Parc a chymunedau pentrefol eraill ym Mhenllyn.
Bydd ein Cynlluniau Adfywio Cymunedau Lleol hefyd yn gallu bod yn ddigon hyblyg i ymwneud â materion perthnasol i ddyfodol y cymunedau nad sydd fel arfer yn rhan o drefn gynllunio gonfensiynol - neu'n gallu edrych ar y materion o bersbectif gwahanol e.e. pa newidiadau y mae eu hangen ym mhob maes er mwyn rhoi'r cyfle ymarferol i bobl ifainc wneud eu dyfodol oddi fewn i'r cymunedau pentrefol hyn?
Dewch gyda ni!
Dewch i'r cyfarfod arbennig hwn i glywed sut hwyl mae cymunedau Penllyn yn ei gael wrth lunio eu Cynllun Adfywio ar gyfer eu cymunedau.
Os oes diddordeb gennych chi yn y Cynllun hwn, neu os byddai diddordeb gan eich cymuned chi mewn creu cynllun o'r fath, cysylltwch â Hywel Griffiths: hywel@cymdeithas.org
Lansiad swyddogol a Gweithdy tan ofal Angharad Tomos. Gwahoddiad i ddarpar-fyfyrwyr o 7 oed i 70 oed.
Uned Cymdeithas yr Iaith
Maes Eisteddfod Genedlaethol y Bala
2pm, Dydd Llun 3ydd Awst
Am 2pm Llun 3ydd Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Mewn man arall o'r uned, bydd aelodau eraill yn cynllunio logo ar ffurf digidol ar gyfrifiadur. Bydd y Gymdeithas yn cyflwyno'r syniad gorau ar ddiwedd yr wythnos i Lywodraeth y Cynulliad gan ofyn iddynt anfon gwobr at yr enillydd! Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
"Mae'n bwysig iawn fod y Coleg Ffederal Cymraeg yn cychwyn yn swyddogol y flwyddyn nesaf yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Er mwyn cynyddu'r ymwybyddiaeth fod y Coleg ar fin dod o'r diwedd, rydym yn trefnu'r gystadleuaeth logo ar gyfer y sefydliad nwydd, gan wahodd pobl i alw yn ein huned ar aes yr Eisteddfod trwy'r wythnos i lunio cynigion. Yr ydym hefyd wedi agor cofrestr myfyrwyr ar gyfer y coleg - yn cynnwys myfyrwyr ar gyfer blynyddoedd i ddod ac hefyd ar gyfer pobl a hoffent ddilyn cyrsiau tan y Coleg Cymraeg yn eu cymunedau."
Yn ei hymateb i Strategaeth Ddrafft Addysg Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad ( cyfnod ymgynghori'n dod i ben ar Awst 5ed ) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am newid sylfaenol yn nod y strategaeth. Yn ôl y Gymdeithas, dylid cydnabod mai sgil addysgol hanfodol i BOB disgybl yw meithrin y gallu i gyfathrebu a thrin gwaith yn Gymraeg ac fe ddylid anelu felly at sicrhau fod pob disgybl - dros gyfnod o amser - yn cael ei ddysgu mewn sefydliad sy'n cyflwyno rhan helaeth o'r addysg yn Gymraeg.
Mae hyn yn sylfaenol wahanol i nod strategaeth ddrafft o gynyddu cyfleon i dderbyn addysg Gymraeg, ac ymgynghoriad cyfamserol ar fwriad i fynnu bod pob Awdurdod yn asesu'r galw am addysg Gymraeg. Esbonia llefarydd addysg y Gymdeithas, Ffred Ffransis:
"Cydnabyddwn yn barod iawn fel Cymdeithas y byddai gweithredu strategaeth ddrafft y Llywodraeth yn hybu cynnydd arwyddocaol mewn addysg Gymraeg mewn llawer o ardaloedd ac y mae hyn i'w groesawu. Fodd bynnag, byddai derbyn targed o 13% o gofrestriadau TGAU cyfrwng Gymraeg yn golygu fod hyd at 87% o'n disgyblion yn cael eu hamddifadu o'r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a chyflwyno gwaith yn Gymraeg. Pwysleisiwn nad methiant i hybu'r iaith fyddai hwn ond methiant addysgol, gan fod y gallu i gyflwyno yn Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol fel y gallu i gyflwyno gwaith yn Saesneg a'r gallu i ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth yn effeithiol."
Cred Cymdeithas yr Iaith bod holiadur a anfonwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin at rieni yng Nghwm Gwendraeth yn gamarweiniol ac o'r herwydd bydd y canlyniadau'n ddi-ystyr. Ymddengys bod y Cyngor wedi dilyn geiriad Llywodraeth y Cynulliad wrth ddiffinio categorïau ieithyddol posib ar gyfer addysg uwchradd, ond mae'r diffiniadau'n gamarweiniol
Yn ystod yr wythnos diwethaf danfonwyd yr holiadur gan y Cyngor at rieni plant ysgolion cynradd ardal Dinefwr a Chwm Gwendraeth. Bwriad y Cyngor yw cael barn rhieni am iaith y dair ysgol uwchradd fydd yn cael eu sefydlu adeg yr ad-drefnu addysg.
Dywedir bod 3 opsiwn - categori 1 (ysgol Gymraeg) a chategori 2A a 2B sy'n cael eu galw'n ysgolion dwyieithog. Ond, mae hyn yn gwbl gamarweiniol - mae ysgol 2A yn ddwyieithog ond nid ysgol ddwyieithog mo ysgol 2B. Mewn ysgol 2B nid oes modd gwneud pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, a ni fydd natur Gymraeg i'r ysgol gan na fydd pob disgybl ac athro yn medru'r Gymraeg. Nid ysgol fel Maes-yr-Yrfa fydd hi, ond nid dyna'r argraff a gaiff rhieni sy'n darllen geiriau cyntaf disgrifiad ysgol 2B, sef "addysgir 80% o'r pynciau'n Gymraeg". Gallesid dweud "Addysgir 100% o'r pynciau yn Saesneg"
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cynghorwyr ar eu ffordd i mewn i gyfarfod allweddol o Gyngor Ceredigion am 9am fore Mawrth (30/6) sy'n ailystyried y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.
Mewn neges at y cynghorwyr, dywed y Gymdeithas fod y broses o benderfynu cau'r ysgol bentrefol Gymraeg ym Mhonterwyd wedi bod mor frysiog ac mor wallus fel ei bod yn sicr y byddai'r Gweinidog Addysg yn caniatau apel yn erbyn cau'r ysgol. Dadl y Gymdeithas yw ei bod yn well felly i'r Cyngor ail-fynd ati i geisio cytundeb gyda rhieni a'r gymuned leol ynghylch y ffordd orau ymlaen yn hytrach na bwrw mlaen gyda'r cynllun dinistriol a fydd yn sicr o fethu beth bynnag.
Heddiw ar ddiwrnod cyhoeddi argymhellion yr Athro Robin Williams i'r Gweinidog Addysg ar fater polisi y Llywodraeth o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu rhai o argymhellion cryf yr adroddiad ac yn awr yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Coleg aml-safle cadarn ac iddo gyllideb sylweddol.
Meddai Rhys Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Goleg Ffederal Cymraeg:
"Rydym ni'n eithriadol o falch fod adroddiad Robin Williams yn argymell y bod angen sefydliad newydd annibynnol er mwyn datblygu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch. Y mae'r Gymdeithas ac Undebau Myfyrwyr wedi bod yn dadlau hyn ers blynyddoedd bellach ac yn falch fod Yr Athro Robin Williams wedi dod i weld mae dyna'r unig opsiwn credadwy i weld y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cynyddu'n sylweddol yn y sector. Mae'r Gymdeithas hefyd yn falch fod yr adroddiad yn nodi y bod angen cyllido'r datblygiadau yma'n ddigonol."
Ar Ddydd Gwener, Mai 29ain am 12pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd i bwysleisio fod y Coleg Cymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru gan wahodd darpar fyfyrwyr i gofrestru â'r Coleg.
Wrth i ni aros am adroddiad Robin Williams a fydd yn argymell model o'r Coleg Ffederal Cymraeg i'r Gweinidog Addysg yn fuan iawn, mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych ymlaen at sefydlu'r Coleg ac yn gwahodd disgyblion ysgol ac oedolion sydd am ddilyn cyrsiau addysg barhaus i gofrestru ar gwrs o'u dewis.
Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Disgwyliwn y bydd myfyrwyr yn gallu cofrestru gyda'i sefydliad uwch daearyddol yn ogystal â'r Coleg Ffederal Cymraeg os ydyn nhw'n cymryd cwrs a ariennir gan y Coleg Cymraeg. Drwy agor y gofrestr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2009, rydym yn adeiladu momentwm tuag at sefydlu'r coleg. O'r cychwyn cyntaf, rhaid i fyfyrwyr a darlithwyr deimlo perchnogaeth dros y Coleg Ffederal Cymraeg.'
Dros y misoedd diwethaf mae Bwrdd Cynllunio'r Coleg Ffederal Cymraeg gafodd ei sefydlu gan y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi bod yn cyfarfod yn gyson er mwyn cynorthwyo a bwydo syniadau i gadeirydd y Bwrdd, Yr Athro Robin Williams, a fydd dros yr wythnosau nesaf yn paratoi adroddiad ac yn ei gyflwyno i Jane Hutt erbyn yr haf.
Maen rhaid canmol dewrder Robin Williams gan iddo wahodd dau ymgyrchych iaith i eistedd ar y bwrdd sef Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ynghyd a Ieuan Wyn, Cylch yr Iaith. Mi wyddai Robin Williams, maen si?r, y byddai'n ffôl iawn iddo beidio gwahodd cynrychiolwyr o'r unig ddau fudiad sydd wedi gwneud gwaith ymchwil a chyflwyno cynlluniau ar gyfer sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg cyn sefydlu'r bwrdd yma.
Ar y cyfan maen ymddangos y bydd adroddiad Robin Williams yn gam sylweddol ymlaen. Does dim dwywaith fod y Gymdeithas a Chylch yr Iaith wedi dod a dylanwad llesol i'r bwrdd a fyddai fel arall yn sefydliadol tu hwnt. Ar ôl cyfarfod ymgynghorol diweddar y bwrdd fe ddeellir y bydd sôn am gorff cwbwl newydd a hwnnw'n gorff annibynnol fydd yn cael ei sefydlu dan erthyglau a statudau. Fe argymhellir codi'r gwariant ar addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch yn sylweddol a hynny i ariannu amrywiaeth o bethau o gyflogi darlithwyr trwy'r Coleg Ffederal i gynnig bwrsariaethau i fyfyrwyr fydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fodd bynnag, teimla Cymdeithas yr Iaith bod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus. Er enghraifft, maen aneglur sut y bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddosbarthu a'i ddefnyddio. Mae'r Gymdeithas yn credu fod angen i'r holl arian fynd trwy y Coleg Ffederal yn hytrach na chyllidebau cyffredinol y prifysgolion daearyddol. Cred y Gymdeithas hefyd fod rhaid gwneud yn si?r fod y teimlad o berchnogaeth yn cael lle canolog yn adroddiad Robin Williams - rhaid i'r darlithwyr cyfrwng Cymraeg ynghyd a'r myfyrwyr fod yn aelodau o'r Coleg Ffederal er mwyn i'r Coleg fod yn gymuned academaidd yn hytrach na corff cyllido'n unig.
Ond yr her fwyaf sy'n wynebu'r ymgyrch hon dros y misoedd nesaf yw i'r Llywodraeth beidio ag anwybyddu'r adroddiad fel yr anwybyddwyd argymhellion Adroddiad Richard rhai blynyddoedd yn ôl. Maen debygol y bydd rhai argymhellion yn adroddiad Robin Williams yn rai cryf felly rhaid pwyso ar y Llywodraeth i'w derbyn a phwyso ar y prifysgolion traddodiadol i dderbyn y bo'r hinsawdd wleidyddol wedi newid o ganlyniad i brotestio di-flino Undebau Myfyrwyr a Chelloedd Coleg y Gymdeithas dros y blynyddoedd.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu cyhoeddi Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru'n Un ond ar yr un pryd yn rhybuddio nad yw'r Llywodraeth wedi ei gwneud hi'n glir fod y Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol.
Mae'r Strategaeth Addysg Gymraeg yn ymddangos ar ôl i'r Cynulliad gyhoeddi nifer o strategaethau eraill fel 'Cyfnod Trawsnewid: Llwybrau Dysgu 14-19 oed' a chanllawiau newydd i Awdurdodau Lleol am adrefnu addysg gynradd.
Dywedodd Ffred Ffransis, Cadeirydd Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr iaith Gymraeg:
"Mae'r Cynulliad yn trin addysg Gymraeg fel atodiad neu 'add-on' i'w polisïau addysg eraill, nid fel rhan hanfodol o addysg pob unigolyn. Maen nhw'n gofyn yn y Strategaeth i Awdurdodau Lleol wneud addysg Gymraeg yn ystyriaeth ganolog o fewn eu polisïau addysg, ond dyw'r Cynulliad heb fabwysiadu'r egwyddor hyn eu hunain fel a welwyd yn eu triniaeth ymylol o'r Gymraeg yn y mesur Llwybrau Dysgu 14-19 oed a'u canllawiau ar adrefnu addysg gynradd."
Am 9am heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion y cyntaf o lawer o Beiriannau Gwasgu (steamrollers) a fyddant i'w gweld trwy'r sir a rhannau eraill o Gymru'n ystod y misoedd nesaf. Ymwelodd Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar Addysg) a Bethan Williams (swyddog Maes Dyfed) ag Adran Addysg y Cyngor yn Felinfach i gyflwyno'r copi cyntaf o'r poster hwn (PDF). Bydd y posteri'n cael eu codi nawr ledled y sir i rybuddio pobl o fwriad y Cyngor i wasgu unrhyw wrthwynebiad i'w cynllun i sefydlu Ysgolion Ardal canolog gan gau nifer mawr o ysgolion pentrefol Cymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl y bydd y Cyngor yn cyhoeddi o fewn y pythefnos nesaf gynllun i sefydlu Ysgolion Ardal canolog yn Nhregaron a Llandysul gan aberthu dwsin o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y broses - yn cynnwys nifer sydd gyda dros 50 o ddisgyblion ac yn gweithredu fel canolbwynt i gymunedau pentrefol bywiog. Bydd yr ysgolion mawr newydd yn cynnwys plant o 3-19 oed gyda'r bwriad o greu sefydliadau digon sylweddol i gynnig amrywiaeth o gyrsiau i ddisgyblion 14-19 oed.
Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe mewn cyfarfod agored o'r Bwrdd sy'n trafod modelau posib ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu'r cyfeiriad mae'r Bwrdd yn ei gymryd a'r egwyddorion sylfaenol maent yn eu harddel ar hyn o bryd.
Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydym yn cyd-weld â gweledigaeth y bwrdd am sefydliad annibynnol gydag arian wedi ei gorlannu. Mae'n adeg cyffrous iawn os bydd y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu ac rydym yn falch fod blynyddoedd o ymgyrchu gan fyfyrwyr a'r gymdeithas ehangach yn gweld ffrwyth."
"Rydym yn pwysleisio fod angen sicrhau buddsoddiad sylweddol i'r cynllun. Hefyd, rydym eisiau i'r Coleg Ffederal fod yn gymuned academaidd genedlaethol, nid corff cyllido addysg Gymraeg."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.
FFORWM AGORED
I drafod adroddiad Isbwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad ar
AD-DREFNU YSGOLION CEFN GWLAD
1.30pm Sadwrn 21ain Chwefror
Ysgol Gynradd Llanfarian
(3 milltir i'r de o Aberystwyth)
• Agorir y Fforwm gan yr Awdur Caryl Lewis.
• Cyflwynir argymhellion yr adroddiad gan Alun Davies AC, Cadeirydd yr Isbwyllgor Datblygu Gwledig.
Ymhlith y rhai sydd eisoes wedi cytuno i ymateb yn ffurfiol y mae:
• Cyng Ceredig Davies - Aelod Cabinet Ceredigion dros addysg
• Cyng Liz Saville - Aelod Bwrdd Gwynedd dros Addysg
• Cyng Ellen ap Gwyn - Arweinydd yr Wrthblaid, Ceredigion
• Cyng Peter Hughes-Griffiths - Arweinydd yr Wrthblaid, Sir Gar
• Cymdeithas yr Iaith
Gwahoddir cynghorwyr eraill, Undebau Athrawon, cyrff fel ESTYN, mudiadau cymunedol a grwpiau pwyso i gyfrannu a bydd y drafodaeth sy'n dilyn yn agored i bawb.
Gwahoddwyd y Gweinidog Addysg Jane Hutt i ddod ei hun - neu anfon swyddog ar ei rhan - i wrando ar y drafodaeth.
Bydd offer cyfieithu ar y pryd a meithrinfa ar gael.
Cynhelir y fforwm mewn ysgol gynradd fywiog a bydd plant yr ysgol yn rhoi eitem ar y dechrau.
Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith - ffred@cymdeithas.org
Heddiw (Chwefror 5ed 2009) daeth Gweithgor Ysgolion Gwynedd yn ôl ac argymhellion o flaen y Pwyllgor Craffu Plant a Phobol Ifanc, yn datgan y bydd y cyngor yn mynd rhagddi gyda chynllun o ymgynghori llawn.
Bydd dadl yn Siambr y Cynulliad Ddydd Mercher ar adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu ar Ad-drefnu Ysgolion yng Nghefn Gwlad Cymru (pdf). Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi (yn Saesneg yn unig) ei hymateb ysgrifenedig i argymhellion yr Is-bwyllgor. Ym marn y Gymdeithas, mae ymateb Jane Hutt yn ymgais i osgoi rhai o'r prif argymhellion ac anogir Aelodau Cynulliad i bwyso arni'n daer yn ystod y ddadl Ddydd Mercher.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ad-drefnu ysgolion gwledig. Mae'r Gymdeithas yn benodol yn croesawu y sylwadau y dylai Awdurdodau Lleol gymeryd y broses o ymgynghori gyda chymunedau lleol o ddifrif ac y dylai effaith unrhyw ad-drefnu ar yr iaith Gymraeg fod yn brif ffactor wrth gymeryd penderfyniad.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Ddydd Iau (6 Tachwedd, 2008) mi fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwneud cyflwyniad ger bron pwyllgor deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynwyd y ddeiseb, sydd a 977 o enwau arno, i Lywodraeth Cymru ddechrau'r haf oherwydd fod Cymdeithas yr Iaith yn gofidio fod y Llywodraeth yn llusgo traed ar fater sefydlu'r Coleg Ffederal Cymraeg gafodd ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un. Roedd hi hefyd yn ofid gan Gymdeithas yr Iaith y byddai'r “pyst yn cael eu symud” ac y byddai dim byd mwy na “bwrdd” arall yn cael ei sefydlu.
Cyflwyna'r papur hwn gynllun gweithredu ar gyfer sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg (CFfC), un o bolisïau rhaglen llywodraeth Cymru'n Un sef y glymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru. Ers i'r cysyniad o CFfC gael ei fabwysiadu fel polisi llywodraeth bu dechrau trafod ynghylch pa fath o strwythur fyddai i'r CFfC ac edrychwyd drachefn ar rai o'r gwahanol gynlluniau a roed gerbron yn y gorffennol. Mae'n fwy priodol nag erioed felly ein bod yn symud ymlaen i ystyried strwythur yr hyn a adwaenwn fel y CFfC a'n gobaith, yn y papur hwn, fydd goleuo rhyw ychydig ar yr hyn y mae'r term yn ei olygu. Mae angen troi'r slogan yn sylwedd.
This paper proposes a plan of action for the establishment of a Welsh Federal College (WFC), a policy put forward by the One Wales government, the coalition between Labour and Plaid Cymru. Since the principle of a WFC was adopted as government policy, the debate began with regard to what type of structure there would be to the WFC, and some of the different proposals that were put forward previously were looked at once more. It is therefore more appropriate than ever that we move on to consider the form and structure of what we refer to as a Welsh Federal College, and it is our intention in this paper to clarify what is meant by the term; we need to turn the slogan into substance.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Addysg Caerfyrddin i beidio a gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth gyda'i MEP wrth iddynt drafod Cynllun Peilot ar gyfer Addysg 14 – 19 oed yn ardal Dinefwr yn estyn o Landyfri a Dyffryn Aman hyd Cwm Gwendraeth. Lluniwyd papur cefndir gan y swyddogion mor bell yn ol ag Awst 2007, ond ni bu unrhyw drafodaeth gyhoeddus. Yn y ddogfen diweddaraf ar ddatblygu Model Addysgol ar gyfer Dinefwr y mae'r swyddogion yn rhoi rhestr o 'gwestiynnau allweddol' a'r cyntaf yw "Pryd a sut y byddwn yn cyfathrebu yr hyn yr ydym am ei wneud?"