tafod.jpg hafan cymdeithas.com
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Blog Steffan

Llywodraeth y Cunulliad v Angharad Blythe

Bore 'ma es i draw i Lys Ynadon Caerdydd ar gyfer achos Llys Angharad Blythe.

2 Awst 2006 | Mwy...

 

Gwyl Fawr Deddf Iaith, Aberystwyth

GwylFawr2.jpg

Bu Gwyl Fawr Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith yn llwyddiant ysgubol. Cafwyd cefnogaeth a datganiadau cadarnhaol ynglyn a’r alwad am ddeddf iaith newydd gan gynrychiolwyr o Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr ynghyd a nifer o fudiadau fel UCAC, UMCA a Merched y Wawr.

11 Mehefin 2006 | Mwy...

 

Neges i Rhodri Morgan

Dyddiau cyn agor Siambr newydd y Cynulliad Cenedlaethol...

bilfwrddmawrth2006.jpg

27 Chwefror 2006 |

 

Gwyn Sion Ifan v Llywodraeth y Cynulliad

AchosGSIionawr2006.jpg

27 Ionawr 2006 |

 

Methiant arall gan Heddlu De Cymru i ddarparu gwasanaeth Cymraeg

llys_hwlffordd_02bach.jpg

Nid y ffordd mwyaf delfrydol i dreuilo prynhawn dydd Sul gyda hymdingar o benmaenmawr ond es i a Angharad Elen draw am dro i Orsaf Heddlu Canol Caerdydd prynhawn 'ma.

15 Ionawr 2006 | Mwy...

 

Oren yn barod i drafod

Newyddion da. Wedi derbyn e-bost gan Orange ar rhan Amanda Doyle, is-lywydd cyfreithiol y cwmni, yn cynnig cyfarfod a'r Gymdeithas.

13 Ionawr 2006 |

 

Rhoi stwr i Brif Arolygydd Heddlu De Cymru

Prynhawn 'ma es i a Mair Stuart i gyfarfod â Andy Morgan, Prif Arolygydd Heddlu De Cymru yn Swyddfa Heddlu'r Tyllgoed, er mwyn rhoi stwr iddo fe! Diben y cyfarfod oedd gofyn i Heddlu De Cymru esbonio eu gweithredoedd yn dilyn arestio Mair ym mis Tachwedd 2006.

11 Ionawr 2006 | Mwy...

 

Neges i Oren

Arhosfan bws yn Nhrefynach. Mae degau o hysbysebion mawr Oren wedi eu targedu yng Nghaerdydd dros yr wythnos ddiwethaf.

10 Ionawr 2006 |

 

Achos Llys: Dirwy Morrisons


Wedi derbyn gwys bore 'ma i ymddangos yn Llys Caernarfon ar y 26ain o Ionawr.

Bydd rhaid i mi fynd i'r Llys i wynebu achos am fy mod wedi methu a talu dirwy a iawndal o £1000 i Gwmni Morrisons yn dilyn fy ngweithred uniongyrchol yn erbyn y cwmni, ym mis Awst 2005.

9 Ionawr 2006 |

 

Rali Calan Deddf Iaith

Rali Calan Deddf Iaith

Bu Rali'r Calan yn llwyddiant mawr. Yn anffodus nes i fethu ffeindio fy ffordd i lawr i'r Brif Ddinas mewn pryd, gan fy mod i lan yng Nghaernarfon ar y pryd.

3 Ionawr 2006 | Mwy...

 

Angharad Clwyd v Llywodraeth y Cynulliad

AchosAngharadClwydIonawr2005.jpg

20 Rhagfyr 2005 |

 

Stondin ar Heol Frenhines

Dyma'r Cyfle...

Bore 'ma codwyd stondin gan aelodau o Gell Caerdydd y Gymdeithas yng Nghanol y Ddinas.

17 Rhagfyr 2005 | Mwy...

 

Cilmeri 2006

Es i draw i Gilmeri heddiw i gofio am Llywelyn Ein Llyw Olaf, gwir Dywysog olaf Cymru. Estynwyd gwahoddiad i gynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith i ddod i Gilmeri er mwyn dweud gair neu ddau.

10 Rhagfyr 2005 | Mwy...

 

Cyngor Ewrop

Heddi es i draw i Swyddfa bwrdd yr Iaith yng Nghaerdydd son wrth Gyngor Ewrop am yr angen am Deddf Iaith Newydd.

6 Rhagfyr 2005 | Mwy...

 

Gweithred Angharad Elen

Parch i'r Iaith

Arestiwyd Angharad Elen bore 'ma am baentio slogan yn galw am Deddf Iaith Newydd ar Bencadlys Llywodraeth Cynulliad Cymru. Hi yw'r 16eg aelod o Gymdeithas yr Iaith i weithredu yn uniongyrchol ers mis Hydref.

3 Rhagfyr 2005 | Mwy...

 

Taflu Achos allan o'r Llys

Cafwyd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith yn ddi-euog gan Llys Ynadon Caerdydd y bore 'ma o'r cyhuddiad o ddifrod troseddol, er iddynt gyfaddef eu bod wedi peintio'r slogan 'Deddf Iaith newydd - Dyma'r Cyfle!' ar waliau Llywodraeth y Cynulliad.

23 Tachwedd 2005 | Mwy...

 

Alun Pugh - Gwranda arnon ni!

Gofynodd y Western Mail i'r Gymdeithas ymateb i erthygl warthus Alun Pugh am y Gymraeg.

29 Hydref 2005 | Mwy...

 

Y Goron v Cravos: Achos Morrisons


Bu rhaid i mi ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon bore 'ma ar gyhuddiad o achosi difrod troseddol i archfarchnad Morrisons Bangor ym mis Awst.

24 Hydref 2005 | Mwy...

 

Achos Morrisons

14 Hydref 2005 |

 

Rali Deddf Iaith

Prynhawn 'ma fe gynhaliodd y Gymdeithas Rali Deddf Iaith Newydd tu fas i Bencadlys Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.

1 Hydref 2005 | Mwy...

 

Gollwng cyhuddiad

Derbyniais llythyr gan Karen Dixon o Wasanaeth Erlyn y Goron heddiw yn fy hysbysu ei bod yn gollwng y cyhuddiad o "Having articles with intent to damage or Destroy Property" - Llythyr uniaith Saesneg! Ffoniais Karen gan ddweud ei bod yn torri eu cynllyn iaith a felly'r gyfraith... dywedodd wrthai bydd cyfeithiad yn y post.

Gyda llaw, ewch i gael pip ar ei fersiwn 'Cymraeg' o'i gwefan

20 Awst 2005 |

 

Gweithredu yn erbyn Morrisons


Neithiwr plastrwyd sticeri a sloganau gan aelodau Cymdeithas yr Iaith a mynychwyr gig y Gymdeithas yn Amser ar hyd yr archfarchnad Morrisons ym Mangor Uchaf.

3 Awst 2005 | Mwy...

 

Casglu llofnodion yn y Bala

Taith_Deddf_Eiddo_Bala_bach.jpg

11 Mehefin 2005 |

 

Cysgu ar y stryd

taith_bala_01.JPG

Nos Wener fe fues i a deg o aelodau'r Gymdeithas yn cysgu mas ar y stryd yn y Bala. Rhan o daith Deddf Eiddo oedd hyn, a ddechreuodd Nos Sul y 5ed o Fehefin.

11 Mehefin 2005 | Mwy...

 

Llysoedd ei Mawrhydi yn torri'r gyfraith

Bore 'ma fe dderbyniais 'rhybudd terfynnol' gan lysoedd Ynadon Dyfed Powys i dalu dirwy o £200 yn dilyn yr achos Radio Carmarthenshire. Roedd y ddogfen 'gyfreithlon' hyn a ddarparwyd gan Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi mewn gwirionedd yn un anghyfreithlon.

6 Mehefin 2005 | Mwy...

 

Lansio Taith Deddf Eiddo

urdd2005_cym4.jpg

Heddiw lansiwyd taith Deddf Eiddo tu fas i Uned y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd. Dros yr wythnos nesaf, fe fydd y Gymdeithas yn parhau gyda'r daith drwy Gymru i ledaenu ymwybyddiaeth ynglŷn â’r angen am Ddeddf Eiddo.

4 Mehefin 2005 | Mwy...

 

Pwy sy'n rheoli'r donfedd?

Fforwm_Cyfryngau_bach.jpg

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan Gymdeithas yr Iaith yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd heddiw i drafod dyfodol y cyfryngau Cymraeg. Mae newidiadau mawr ar droed yn y byd darlledu yng Nghymru. Mae’n gyfnod cyffrous a chyfnewidiol wrth i bawb yn y maes geisio dirnad beth yw dyfodol y cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt.

2 Mehefin 2005 | Mwy...

 

Lansio Papur Trafod Ymgynghorol Deddf Iaith

Swigen_Deddf_Iaith_bach.jpg

Y prynhawn ’ma cafwyd cyfarfod cyhoeddus o dan y teitl 'Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle', yn yr Eglwys Norwyaidd. Mae’r Gymdeithas yn barod wedi trefnu un fforwm genedlaethol i drafod y mater yn Aberystwyth ym Mis Mawrth lle cyflwynodd Hywel Williams AS fesur drafft Deddf Iaith.

1 Mehefin 2005 | Mwy...

 

Paratoi Baner Deddf Iaith Newydd

Baner_Deddf_Iaith_bach.jpg

Gosodwyd baner gyda'r slogan "Deddf Iaith '05 - Dyma'r Cyfle" bore 'ma ar bont ar Rhodfa'r Gorllewin yng Nghaerdydd.

1 Mehefin 2005 |

 

Ble mae Jane Davidson?



Unwaith eto mae Jane Davidson, Gweinidog Addysg y Cynulliad yn gwrthod cwrdd â rhieni, llywodraethwyr ac ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol. Mae Eisteddfod yr Urdd bob amser wedi bod yn bwysig gan yr Ysgolion Pentrefol Cymraeg. Yn wahanol i'r ysgolion mawr, mae holl ddisgyblion ysgolion pentrefol fel arfer yn cael cyfle i gystadlu a chydweithio fel unigolion.

30 Mai 2005 | Mwy...

 

Eisteddfod yr Urdd

urdd05.jpg

Heddiw fues i’n cynorthwyo i osod stondin y Gymdeithas ar faes yr Urdd. Mae hi am fod yn wythnos brysur iawn gyda phrotest Addysg ar ddydd Llun, cyfarfod cyhoeddus Deddf Iaith ar ddydd Mercher a Chyfarfod cyhoeddus ar Ddyfodol Darlledu yn Gymraeg ar ddydd Iau.

28 Mai 2005 |

 

Swyddfa Ty'r Cymry!

765.jpg

Neithiwr nes i ddechre ar y gwaith o dacluso a rhoi trefn ar swyddfa'r Gymdeithas yn Nhŷ'r Cymry, Heol Gordon, Caerdydd.

24 Mai 2005 | Mwy...

 

Elfed Eisteddfod yn pregethu ei efengyl!

Echdoe cynhaliwyd cyfarfod rhwng y Gymdeithas a'r Eisteddfod ynghylch y busnes Maes B 'ma. Dywedodd Elfed Roberts wrthon ni y dylai’r Gymdeithas stopio cynnal gigs yn ystod yr Eisteddfod ac fe wnaethon ni chwerthin. Yna sylweddolais ei fod o ddifri.

27 Ebrill 2005 | Mwy...

 

Radio Carmarthenshire v Cymdeithas yr Iaith

llys_hwlffordd.jpg.jpg

Am ddeg o’r gloch ddoe, roeddwn i, Angharad Blythe, Heledd Gwyndaf, Llinos Dafydd a Gwenno Teifi o flaen ‘ein gwell’ yn Llys Ynadon Hwlffordd. Roedden ni’n wynebu cyhuddiad o Ddifrod Troseddol yn dilyn protest yn stiwdios Radio Carmarthenshire yn Arberth ar Orffennaf 24ain 2004.

20 Ebrill 2005 | Mwy...

 

Bws Caerdydd - Ble Mae'r Gymraeg?

StensilParch1.jpg

Mae'r ymgyrch i Gymreigio Bws Caerdydd yn mynd o nerth i nerth. Erbyn hyn mae stensiliau gyda'r slogan "Parch i'r iaith ar bob taith" wedi cael eu creu er mwyn targedu arosfannau yn effeithiol.

18 Ebrill 2005 | Mwy...

 

Ofcom - Dim Dannedd!

ofcom_logo_welsh.gif

Heddiw aeth Iwan a fi i gwrdd ag Ofcom, y cwango sy'n gyfrifol am ddarlledu yng Nghymru. Nhw sydd yn goruchwylio darpariaeth gorsafoedd radio, ond daeth yn hollol amlwg i ni nad oes ganddynt unrhyw rym i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys fel rhan o addewid darlledu.

15 Ebrill 2005 | Mwy...

 

Cwrdd â'r gwrthbleidiau!

logo_cynulliad.jpg

Ar ôl ein cyfarfod siomedig gydag Alun Pugh aethon ni i gwrdd â Glyn Davies o'r Ceidwadwyr. Cawson ni gyfarfod digon anffurfiol, gyda fe'n datgan ei fod am godi mater Deddf Iaith Newydd ar lawr y siambr.

13 Ebrill 2005 | Mwy...

 

Alun Pugh - "Dim Deddf"

cravcynulliad4.jpg
Catrin, Huw a fi. llun:John Griffiths.

Yn dilyn y weithred symbolaidd tu fas i'r Amgueddfa, es i, Huw Lewis a Catrin Dafydd i gwrdd ag Alun Pugh lawr yn y Cynulliad.

13 Ebrill 2005 | Mwy...

 

Deddf Iaith 1993 yn hanes!

deddf_iaith_93_amgueddfa_01.jpg

Heddiw, es i ac aelodau o'r Gymdeithas draw i Amgueddfa Genedlaethol Cymru i drosglwyddo Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 i'w gofalaeth. Gweithred symbolaidd oedd hon i danlinellu’r neges a fyddai’n cael ei chyflwyno yn hwyrach ar y diwrnod i Alun Pugh – bod Deddf Iaith 1993 yn perthyn i'r gorffennol, a bod angen deddfwriaeth ieithyddol newydd i ateb anghenion y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.

13 Ebrill 2005 | Mwy...

 

Croeso i'r Blog newydd!

Nes i ddechrau blog yn gynt eleni, sef dimbrainsdotcom, gyda'r bwriad o bostio materion yn ymwneud ag ymgyrchu dros yr iaith, ond hwn bellach fydd fy mhrif flog a dwi am bostio yma o leia dwy i dair gwaith yr wythnos.

Ers i mi gael fy ethol yn Gadeirydd mae'r wythnos ddiwethaf wedi hedfan heibio! Mae wedi bod yn gyfnod hynod o brysur ― mi wnai sôn mwy am beth sydd wedi digwydd yn y man. Fy ngobaith ydi postio negeseuon eithaf cyson yma gan roi perspectif mwy personol i fy ngwaith i gyda'r Gymdeithas.

12 Ebrill 2005 |

 

Newyddion
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rhagor...

nôl i'r brig