Mae Radio Ceredigion wedi'i gwerthu i Town and Country Broadcasting gan y Tindle Newspaper Group. Bwriad y cwmni yw cau y stiwdios yn Aberystwyth a Felinfach a symud i Arberth, cartref stiwdios Radio Sir Benfro a Sir Gâr.
Dywed Angharad Clwyd, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion:
"Mae'n achos pryder mawr i ni fel mudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn diffyg darpariaeth Cymraeg 'Radio Sir Gâr' i glywed fod y cwmni wedi prynu Radio Ceredigion. Bu ymgyrchu di-flino gan y Gymdeithas yn erbyn Radio Sir Gar rhai blynyddoedd yn ôl, a oedd yn cynnwys lobio, cynnal protestiadau a ddaeth i ben llanw gyda charchariad Gwenno Teifi yn Chwefror 2006. Ac er gwaethaf hyn mae darpariaeth Gymraeg y cwmni bellach wedi lleihau gyda Rhaglen Gymraeg yr hwyr yn ddwy awr yn hytrach na thair.
Fe fydd Debbie (ar ran y cwmni Debenhams) yn dod i Gaerfyrddin yfory, dydd Mercher 17eg o Chwefror, cyn agoriad swyddogol ei siop fawr crand yn y pasg. Bydd Debbie (sydd yn cael ei chwarae gan Llinos Roberts, aelod o Gymdeithas yr Iaith) yn annerch pobl Caerfyrddin am 2pm tu fas i'r farchnad yng Nghaerfyrddin, cyn mynd ymlaen i ddosbarthu taflenni yng nghanol y dref yn gwahodd pobl i'r siop ac yna yn mynd ymlaen a llythyr caru at Mark James prif weithredwr Cyngor Sir Gar.
Yn ei haraith fe fydd Debbie yn dweud:
"We were told at headquarters that you had your own cute little language called Welsh - I didn't know that it was so widely spoken.. very old apparently? ohh, I can hear it everywhere around me here. It's popular innit? Cymraeg it's called innit? Apparently, it's widely spoken in Carmarthenshire-more so than in any other county in Wales, but there we go - sooo many languages in this big world of ours. We do try to be sensitive to these little differences at Debenhams - we've got some ethical policies or whatever, but we're so lucky we've got the English language that everyone can understand - even you - yeah, and that's why were throwing in a little smattering of Welsh into our fab new store - just to keep you Welshies happy!. What? did I hear someone say that Welsh should have equal status to English? hey! You're having me on aint you? What? Welsh signs everywhere? Oh no my darlings, that wouldn?t be possible-it would cost far,far too much! We only made 95.1 million pounds in profit last year wiv it being the recession and all, oh we are struggling babes!"
Fe fydd siopwyr Caerfyrddin yn derbyn taflenni yn datgelu gwir agwedd cwmni Superdrug at yr iaith Gymraeg heddiw 26/11. Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn dosbarthu taflenni tu allan i'r siop am 4pm gyda'r geiriau: "Superdrug - Cwmni Harddwch ag iechyd gyda agwedd Salw ac afiach at yr iaith Gymraeg".
Fe fydd aelodau o'r Gymdeithas hefyd yn picedi tu allan i siop Boots yn Llandysul dydd Llun 30ain o Dachwedd am 1pm gan ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim tu allan i'r siop. Yn troi slogan Boots ar ei phen, bydd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh".
Mae'r picedi wedi eu trefnu mewn cefnogaeth i Osian Jones a gafodd ei ddedfrydu i 28 diwrnod yn y carchar ddoe (25/11/09) am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World yng ngogledd Cymru ym mis Ebrill 2008, oherwydd eu diffyg darpariaeth Cymraeg.
Cred Cymdeithas yr Iaith bod holiadur a anfonwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin at rieni yng Nghwm Gwendraeth yn gamarweiniol ac o'r herwydd bydd y canlyniadau'n ddi-ystyr. Ymddengys bod y Cyngor wedi dilyn geiriad Llywodraeth y Cynulliad wrth ddiffinio categorïau ieithyddol posib ar gyfer addysg uwchradd, ond mae'r diffiniadau'n gamarweiniol
Yn ystod yr wythnos diwethaf danfonwyd yr holiadur gan y Cyngor at rieni plant ysgolion cynradd ardal Dinefwr a Chwm Gwendraeth. Bwriad y Cyngor yw cael barn rhieni am iaith y dair ysgol uwchradd fydd yn cael eu sefydlu adeg yr ad-drefnu addysg.
Dywedir bod 3 opsiwn - categori 1 (ysgol Gymraeg) a chategori 2A a 2B sy'n cael eu galw'n ysgolion dwyieithog. Ond, mae hyn yn gwbl gamarweiniol - mae ysgol 2A yn ddwyieithog ond nid ysgol ddwyieithog mo ysgol 2B. Mewn ysgol 2B nid oes modd gwneud pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, a ni fydd natur Gymraeg i'r ysgol gan na fydd pob disgybl ac athro yn medru'r Gymraeg. Nid ysgol fel Maes-yr-Yrfa fydd hi, ond nid dyna'r argraff a gaiff rhieni sy'n darllen geiriau cyntaf disgrifiad ysgol 2B, sef "addysgir 80% o'r pynciau'n Gymraeg". Gallesid dweud "Addysgir 100% o'r pynciau yn Saesneg"
Deuddydd cyn bod Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno adroddiad am y Gorchymyn Iaith i Lywodraeth y Cynulliad, fe ryddhawyd Ffred Ffransis o Garchar y Parc (ger Pen-y-bont) heddiw. Yn wyneb ei brofiad yn ceisio cael gwasanaeth Cymraeg yn y carchar preifat hwn, galwodd Mr Ffransis ar y Pwyllgor Craffu fory i fynnu fod POB grym deddfu ym maes y Gymraeg yn cael ei datganoli'n llawn heb unrhyw gyfyngiadau i'r Cynulliad trwy'r Gorchymyn presennol.
Dywedodd Ffred Ffransis:
"Mae'r anhawster i gael unrhyw ffurflenni na gwasanaeth Cymraeg tu fewn i Garchar y Parc yn dangos yn eglur mor wirion yw ceisio llunio Gorchymyn Iaith cymhleth sy'n ceisio cynnwys rhannau cyfyngedig iawn o'r sector preifat. Mae'r carchar hwn yn cael ei drefnu gan gwmni preifat ond ar gyfer y sector cyhoeddus. Byddai ei statws yn aneglur tan y ddeddf, ac un ymhlith miloedd o enghreifftiau o gymhlethdodau potensial yw hyn. Mae'n gwbl amlwg mai'r ateb syml yw trosglwyddo POB hawl deddfu am y Gymraeg i'r Cynulliad trwy'r Gorchymyn Iaith. Wedyn fe ellir cael y ddadl ddemocrataidd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am sut i ddefnyddio'r hawliau hyn. Galwn ar y Pwyllgor Craffu i gyhoeddi hyn yn syml fory."
Dedfrydwyd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis i 5 diwrnod o garchar gan ynadon Llanelli ddydd Llun ac fe'i cludwyd i garchar Parc, Pen-y-bont. Roedd ei garchariad yn dilyn ei ran yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Fesur Iaith cynhwysfawr newydd a fyddai'n cynnwys y sector breifat.
Mewn sgwrs ffôn gyda'i wraig Meinir Ffransis heddiw, ddydd Mawrth, dywedodd Ffred nad oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl yn Gymraeg yng ngharchar Parc. Nid oes unrhyw ffurflenni nac arwyddion Cymraeg na dwyieithog, ac nid oes hyd yn oed Beibl Cymraeg ar gael yno. Gwrthodwyd yr hawl i Ffred fynd â'i Destament Newydd Cymraeg gydag ef o'r llys yn Llanelli, a dywedwyd y byddai Beibl ar gael iddo yn y carchar - ond yn Saesneg yn unig.
Dywedodd Ffred hefyd ei fod wedi gwrthod arwyddo'r ffurflen remisiwn a fyddai'n caniatáu iddo gael ei ryddhau wedi dwy ran o dair o'i ddedfryd, sef 3 diwrnod, gan fod y ffurflen yma hefyd yn uniaith Saesneg, ac mae'n bosib felly na chaiff ei ryddhau tan iddo wneud y ddedfryd yn gyfan. Dywedodd hefyd ei fod wedi gwrthod llanw ffurflen ar gyfer cael bwyd llysieuol, eto ffurflen uniaith Saesneg, ac felly dim ond tato sydd ar gael iddo i'w fwyta.
Heddiw danfonwyd Ffred Ffransis, aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, i Garchar Parc, Pen-y-Bont, am 5 diwrnod gan Lys Ynadon Llanelli. Wrth gael ei garcharu dywedodd Ffred Ffransis ei fod yn mynd i'r carchar am nad oedd unrhyw ddatblygiad o bwys wedi digwydd yn sefyllfa'r iaith ers pan gafodd ef ei arestio wyth mlynedd yn ôl am drosedd oedd dan sylw yn y llys. Heriodd yr ynadon i alw ar y Cynulliad i fynnu fod yr hawl i ddeddfu dros y Gymraeg yn cael ei drosglwyddo'n llawn o Lundain i Gaerdydd.
Ymddangosodd Ffred gerbron Llys Ynadon Llanelli am 9.45am bore heddiw. Roedd yr Achos hwn yn deillio o brotest gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd nol ym mis Ionawr 2001. Cafodd Ffred ddirwy o £50 a gorchymyn i dalu £50 o gostau yn dilyn protest Deddf Iaith yn Heol y Frenhines, Caerdydd ym mis Ionawr 2001.
Peintiodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith y geiriau "Deddf Iaith newydd" ar draws ffenestri siopau yn Heol y Frenhines. Daeth fan heddlu i'w cludo i ffwrdd, ond rhwystrodd nifer fawr o'r protestwyr ffordd fan yr heddlu oherwydd eu bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb am y weithred. Arestiwyd Ffred am rwystro'r Heddlu a derbyniodd yn Llys Ynadon Caerdydd cyfanswm o £100 o ddirwy a chostau.
Tra bydd cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, am 9am ar ddydd Mawrth, Mawrth 31ain, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthdystio tu allan i adeilad y Senedd, i ddangos nad yw'r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn ddigon da a'r angen am Orchymyn Iaith eang. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo BT a gwleidyddion sy'n dadlau yn erbyn Gorchymyn Iaith eang o rwystro'r ffordd i'r Gymraeg.
Fe ddaeth i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar bod BT yn codi mwy o arian ar gwsmeriaid yng Nghymru sydd yn dymuno derbyn gwasanaethau wrth y cwmni telegyfathrebu yn y Gymraeg. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd y Gr?p Deddf Iaith:
"Mae BT yn annog pawb i gael biliau ar-lein ar hyn o bryd sydd wrth gwrs i'w ganmol am resymau cynaliadwyedd. Ond pe bai cwsmeriaid am dderbyn biliau yn y Gymraeg, ni fyddai dewis ganddynt ond derbyn biliau papur, am gost o £1.23 y mis, am nad yw BT yn darparu biliau Cymraeg ar-lein. Enghraifft arall yw'r teclyn ateb 1571, sydd yn rhad ac am ddim yn Saesneg, ond os am recordio neges cyfarch yn Gymraeg, rhaid talu £1.47 am y fraint. Am y gwasanaethau mwyaf sylfaenol yma yn Gymraeg, caiff y cwsmer ei gosbi £32.40 yn ychwanegol y flwyddyn gan BT."
Yn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad. Un o'r rhain yw Caerfyrddin:
Y Boar's Head, Caerfyrddin (map) am 7pm ar yr 20fed o Fawrth gydag Adam Price (Aelod Seneddol), Hywel Griffiths (Cymdeithas yr Iaith), Cynrychiolydd o Fentrau Iaith Cymru. Cadeirydd: Bethan Williams.
Pwrpas y fforwm yw i roi cyfle i'r gynulleidfa leisio'u barn a chael bod yn rhan o broses drafod y Gorchymyn iaith, felly estynnwn wahoddiad i bob un sydd eisiau'r cyfle i fynnu'i hawl i'r Gymraeg. Bydd adroddiadau o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at y Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad sy'n craffu'r Gorchymyn Iaith.
Yn wyneb y trafferth a gafodd aelod ifanc o'r Gymdeithas i gael prawf gyrru Cymraeg mewn ardal Gymraeg ei hiaith, mae Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi datgan nad oes syndod mai ychydig sy'n mynd allan o'u ffordd i ofyn am wasanaethau Cymraeg. Mae Ioan Teifi yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Teifi ac ar fin cymryd ei arholiadau lefel-A. Gan iddo fod yn ymarfer gyrru, roedd yn awyddus i gymryd ei brawf cyn cymryd yr arholiadau terfynol a mynd i'r coleg wedi gwaith yn yr haf.
Wrth fod ei deulu'n ffonio'r Asiantaeth Safonau Gyrru i logi prawf, cafwyd ar ddeall y gellid cymryd prawf Saesneg yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod gwyliau'r Pasg neu ar Ddydd Llun cyntaf y tymor newydd (20/4), ond nad oedd modd cymryd prawf yn Gymraeg. Wedi pwyso, trefnwyd 3 "slot" Cymraeg ar gyfer Dydd Mawrth 21ain Ebrill a bydd Ioan felly yn gorfod cymryd bore o'r ysgol ddau ddiwrnod cyn ei arholiad cyntaf am iddo fynnu gwneud y prawf yn Gymraeg.
Yn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad, sef:
Yr Institiwt, Caernarfon (map) am 7.30pm ar yr 12fed o Fawrth gyda Dafydd Iwan (Llywydd Plaid Cymru), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith) Aran Jones (Cymuned). Cadeirydd: Osian Jones.
Canolfan y Morlan, Aberystwyth (map) am 7.30pm ar y 12fed o Fawrth gyda Rebecca Williams (UCAC) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith). Cadeirydd: Dafydd Morgan Lewis.
Y Duke of Clarence, Caerdydd (map) am 7.30pm ar yr 16eg o Fawrth gyda Leanne Wood (Aelod o Bwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith), Aled Elwyn (Strata Matrix), Yr Athro Colin H Williams. Cadeirydd: Sioned Haf.
Y Boar's Head, Caerfyrddin (map) am 7pm ar yr 20fed o Fawrth gydag Adam Price (Aelod Seneddol), Hywel Griffiths (Cymdeithas yr Iaith), Cynrychiolydd o Fentrau Iaith Cymru. Cadeirydd: Bethan Williams.
Pwrpas y fforymau yw i roi cyfle i'r gynulleidfa leisio'u barn a chael bod yn rhan o broses drafod y Gorchymyn iaith, felly estynnwn wahoddiad i bob un sydd eisiau'r cyfle i fynnu'i hawl i'r Gymraeg. Bydd adroddiadau o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at y Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad sy'n craffu'r Gorchymyn Iaith.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Addysg Caerfyrddin i beidio a gwneud yr un camgymeriad ag a wnaeth gyda'i MEP wrth iddynt drafod Cynllun Peilot ar gyfer Addysg 14 – 19 oed yn ardal Dinefwr yn estyn o Landyfri a Dyffryn Aman hyd Cwm Gwendraeth. Lluniwyd papur cefndir gan y swyddogion mor bell yn ol ag Awst 2007, ond ni bu unrhyw drafodaeth gyhoeddus. Yn y ddogfen diweddaraf ar ddatblygu Model Addysgol ar gyfer Dinefwr y mae'r swyddogion yn rhoi rhestr o 'gwestiynnau allweddol' a'r cyntaf yw "Pryd a sut y byddwn yn cyfathrebu yr hyn yr ydym am ei wneud?"
Yn eu Cyfarfod Cyffredinol gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth bore dydd Sadwrn Hydref 25 bydd Hywel Griffiths sydd wedi bod yn gadeirydd y Gymdeithas ers Mis Mawrth 2007 yn rhoi'r gorau i'w swydd, ac fe etholir Menna Machreth, sy'n sefyll yn ddiwrthwynebiad i gymryd ei le.
Mae ymgyrchwyr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, ger Llandysul wedi ennill brwydr arall yn ei hymgais i atal datblygiad o 31 o dai 4 ystafell wely yn eu pentref. Gohiriwyd penderfyniad heddiw gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gar, tra eu bod yn aros am gyngor cyfreithiol pellach ynghylch a yw'r caniatad a roddwyd nol yn 1990 i adeiladu 31 o dai dal yn ddilys a'u peidio.
Nos Wener 17eg o Hydref
Clwb Athletau, Caerfyrddin (tu ol i'r hen Tesco)
8pm £5
Cymdeithas yr Iaith
Carafan = enw newydd gigs misol y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin.
Gan y bydd y gigs yn teithio i wahanol leoliadau o amgylch Caerfyrddin, roedd y Gymdeithas yn awyddus i gael enw a oedd yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni am gefnogi nifer o leoliadau. Ac wrth gwrs, mae pawb yn cysylltu carafan gyda'r haf yn draddodiadol, a gwyliau cerddorol. Wel, yng Nghaerfyrddin gall fod yn haf o hyd, gyda gigs Carafan yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder y bydd datblygwyr yn llwyddo i wthio trwodd y datblygiad tai dadleuol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin fory, yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin am 10am, a fydd yn tanseilio cymuned Cymraeg yn Nyffryn Teifi. Gwrthodwyd y datblygiad o 50 o dai a gynigwiyd gan cwmni Eatonfield yn Rhagfyr 2007 gan y Cyngor Sir ar y sail y byddai datblygiad o'r fath yn tanseilio iaith y gymuned leol. Roedd y datblygiad o 50 o dai yn cynnwys 15 "token" o dai "fforddiadwy".
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio pwysau newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar Ysgol Carreg Hirfaen, ffederasiwn 3-safle. Trwy newid y fformiwla gyllido i ragfarnu'n erbyn ysgolion bach, a thrwy symud y lwfans ar gyfer cynnal ffederasiwn, mae'r Cyngor yn ceisio gorfodi llywodraethwyr i gau dwy o'r safleoedd ym mhentrefi bach Llanycrwys a Ffarmers. Derbyniodd rhieni rybudd o 3 wythnos y gall eu safleoedd ysgol gau ar ddiwedd y tymor.
Fe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, i ymyrryd er mwyn sicrhau na all Cyngor Sir Caerfyrddin ruthro trwodd fwriad i gau nifer sylweddol o ysgolion pentrefol Cymraeg.
Wedi 15 munud o hunan-longyfarch, penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dderbyn argymhelliad i adolygu dyfodol 11 o ysgolion a chychwyn trafodaethau mewn nifer o rai eraill – a hynny o fewn mis i’r Etholiad.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r Aelod Cabinet dros addysg yn Sir Gaerfyrddin, Cyng. Ieuan Jones, yn 'Mr Anghofus' am iddo anghofio, yn gyfleus iawn, son wrth yr etholwyr yn yr Etholiad y mis diwethaf am y cynlluniau a ddadlennwyd heddiw i gael blwyddyn fawr o gau ysgolion pentrefol yn y sir.
Mae cwmni datblygu Eatonfield wedi ail gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Gár wedi i'w cais gwreiddiol gael ei wrthod gan y Cyngor, oherwydd y niwed fyddai'n gwneud i'r gymuned leol. Dywed Cymdeithas yr Iaith fod hon yn ymgais i dwyllo'r Cyngor er mwyn i'r datblygwyr gael eu ffordd eu hunain.
Yn wyneb y canlyniadau etholiadol ysgubol yn Sir Gaerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cyngor Sir newydd i roi heibio ei gynllun dadleuol i gau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.
Dywed cadeirydd y Gymdeithas yn y sir, Sioned Elin:
"Dyma'r etholiad sirol cyntaf ers cyhoeddi'r Cynllun Moderneiddio Addysg yn Sir Gar yn 2005 a'r cyfle cyntaf i etholwyr fynegi eu barn.Yn y maes yma, ac mewn llu o feysydd eraill, mae'n amlwg fod yr etholwyr wedi penderfynu fod y Cyngor wedi anwybyddu barn y bobl mewn modd trahaus iawn. Byddwn yn galw ar y Cyngor newydd i roi heibio'r cynllun hwn i fygwth ein hysgolion a'n cymunedau Cymraeg ac i drafod yn onest gyda phobl leol y ffordd ymlaen. Mae'n amlwg fod hwn yn bwnc yn Sir Gar fel ag mewn ardaloedd eraill o Gymru,"
Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y
Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd
aelodau o'r Gymdeithas yn picedi y tu fas i siop Tesco yng Rhydaman
prynhawn dydd Sadwrn y 26/4 am 2pm. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith
yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan
ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw Gweinidog Addysg Cymru at lwyddiant ysgol fach 26 o blant yng Ngheredigion. Mae ysgol Dihewyd wedi derbyn adroddiad disglair gan y corff arolygu Estyn.
Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Maer Tref Caerfyrddin yn llenwi ffurflen gwyno y tu allan i siop Tesco yng Nghaerfyrddin bore dydd Iau y 27/3 am 11am. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth a Ebrill.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i drigolion pentref San Clêr yn eu hymgyrch i atal datblygiadau tai niferus yn y pentref. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno am 7.30pm yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr i drafod y camau nesaf i atal y datblygiadau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r dull haerllug ac ansensitif y mae Cyngor Sir Gar wedi trin rhieni a chymunedau lleol lle y bygythiwyd cau eu hysgolion. Dywedodd y Gymdeithas fod polisi "Moderneiddio" addysg y sir yn llanast llwyr a galwasant ar bleidleiswyr i ddal y Cyngor yn atebol yn yr etholiadau lleol sydd ar y gorwel.
Ffilm ddogfen gan Lleucu Meinir yn dangos effaith cau ysgol bentrefol ar y disgyblion, yr athrawon a'r gymuned. Bu Lleucu yn ffilmio yn ystod wythnos olaf Ysgol Gynradd Mynyddcerrig, Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2007.
Fe ddywedodd un o weithwyr cangen Caerfyrddin o Focus ddoe 08/01/08, mai iaith estron yw'r Iaith Gymraeg, yng Nghymru a'i fod yn amharchus gofyn cwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg! Cred Cymdeithas yr Iaith fod yr anwybodaeth yma yn amlygu'r diffyg hyfforddiant a gynigir gan gwmiau mawrion i'w staff ynghylch Cymru a'r iaith Gymraeg.
Mae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod. Fe wnaeth y pwyllgor cynllunio gyfarfod am 10.30am bore yma Iau yr 20ed o Ragfyr i drafod y cais dadleuol, a wrthwynebwyd yn chwyrn gan y gymuned leol; ac er llawenydd mawr i'r gymuned ac i aelodau'r Gymdeithas yn lleol fe gytunodd y pwyllgor cynllunio gyda'r swyddogion ac fe wrthodwyd y cais.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn sefyll o flaen adeilad y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin bore fory (Llun 10/12)am 9.30am i ddangos eu cefnogaeth i frwydr cymuned Llanarthne dros gadw eu hysgol.
Unwaith eto mae'r Cyngor Sir wedi dangos eu hawydd i wthio eu hagenda drwodd mor gyflym a phosibl heb ystyried barn nac anghenion y gymuned. Mae'r rhieni a llywodraethwyr wedi gofyn am fis ychwanegol er mwyn trafod gyda ysgolion cyfagos y posibiliad o gydweithio mewn ffederasiwn. Gwrthodwyd hyn gan y Cyngor Sir gan lynu yn haeaernaidd at y 4 wythnos yn unig a ganiatawyd i'r gymuned.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol. Sicrhaodd y cwmni fod y caniatad yn dal yn ddilys drwy dorri twll yn y clawdd a dadlau fod hyn yn dystiolaeth fod y gwaith adeiladu eisioes wedi cychwyn.
Bydd arolygwyr Cymdeithas yr Iaith yn ymweld a siop Morrisons Caerfyrddin ddydd Sadwrn 24/11/07 am 1pm er mwyn gwneud arolwg o'r defnydd o'r Gymraeg yn y siop. Cyfarfu cynrhychiolwyr y Gymdeithas gyda Chris Blundell, aelod o Bwyllgor Gweithredol Morrisons ar 11eg o Fehefin 2007 i drafod a phwyso am statws cyfartal i'r Gymraeg.
21 Tachwedd 2007
|
Mwy...
Ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae Cadeirydd Rhanbarth Sir Gâr y Gymdeithas wedi talu teyrnged i Ray Gravell. Dywedodd Sioned Elin:
"Roedd Ray Gravell yn gadarn yn ei ymrwymiad i Gymru, i'r Gymraeg ac yn arbennig i gymunedau Cymraeg. Mae ymgyrchwyr iaith dros y blynyddoedd wedi gwerthfawrogi ei gefnogaeth i'r achos a'i gyfeillgarwch."