Yn dilyn y bleidlais agos yn y Cyngor Llawn (17-14) wythnos diwethaf ynghylch y bwriad i gau holl ysgolion ardal Llandysul a sefydlu un ysgol i oedran 3-19. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud ple olaf i aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion cyn eu cyfarfod yfory (Mawrth 6/7).
Fe alwodd y pwyllgor craffu addysg dydd Llun diwethaf ar y cabinet i ystyried alternatifs ar gyfer ardal Llandysul.
Yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Sir Ceredigion y bore yma i beidio cyfeirio i'r Cyngor Llawn penderfyniad i gau holl ysgolion ardal Llandysul a sefydlu un ysgol 3-19 newydd mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am brotest tu allan a tu fewn i'r Cyngor Llawn bore Mercher 30/6/10.
Dywed Angharad Clwyd, rhiant yn ysgol gynradd Llandysul a trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n warthus nad yw'r holl gynghorwyr yn mynd i gael cyfle hyd yn oed i drafod penderfyniad mor ddigynsail a hyn. Dyma'r tro cyntaf mae unrhyw awdurdod wedi penderfynu cau pob ysgol mewn ardal. Penderfyniad a fyddai'n cael effaith mor niweidiol ar y cymunedau Cymraeg yma ac arYsgol Dyffryn Teifi ei hun. Galwn ar gefnogwyr yr ysgolion i ddod i brotest tu fas cyfarfod y Cyngor Llawn am 9.30am bore Mercher y 30/6/10 a galwn ar y cynghorwyr sydd o blaid y cymunedau yma i godi eu llais mewn protest tu fewn i'r cyfarfod."
Bydd Cymdeithas yr Iaith hefyd yn danfon cwyn swyddogol at y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ynghylch y modd hollol anemocrataidd y gymerwyd y penderfyniad hwn.
Bydd haid o fôr-ladron ifainc yn dilyn map trysor draw at bafiliwn Cyngor Ceredigion wrth fod Cymdeithas yr Iaith yn dod â'r frwydr am ddyfodol ysgolion Pentrefol Cymraeg i faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Llun, Mai 31ain).
Bydd y Gymdeithas yn portreadu swyddogion Cyngor Ceredigion yn fôr-ladron unllygeidiog sydd wedi adeiladu eu cestyll drudfawr eu hunain ar yr arfordir yn Aberystwyth ac Aberaeron ac yn awr yn ymosod ar cymunedau gwledig i geisio dwyn trysorau o drigolion lleol.
Esboniodd trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd:
"Mae'r plant yn ymwisgo fel môr-ladron unllygeidiog i symboleiddio fod swyddogion Ceredigion o hyd yn gallu gweld un ateb yn unig, sef cau ein hysgolion a chanoli addysg. Mae bygythiad i o leiaf 15 o ysgolion pentrefol yng Ngheredigion, ac mae hyn yn rhan o broblem sy'n wir fygythiad i'n cymunedau gwledig Cymraeg trwy'r wlad."
Mae'r myfyrwyr wedi cynhyrfu! Mae ymgyrchu brwd ar droed yng Nghaerdydd, Bangor ac Abersytwyth. Bu sawl cyfarfod wythnos hyn eisoes yn y prifysgolion hyn, ac mae'r myfyrwyr am ail-afael yn y gweithgarwch gwleidyddol oherwydd nad yw sefyllfa'r Gymraeg yn dderbyniol yn y prifysgolion ar hyn o bryd.
Nos Fawrth, Mawrth 16eg, roedd noson gyntaf Taith Coleg Ffederal Cymraeg sef cyfarfod mae celloedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn eu yn eu prifysgolion i drafod y syniad o Goleg Ffederal Cymraeg a beth rydyn ni fel myfyrwyr, darlithwyr a'r gymdeithas ehangach eisiau ohono. Roedd Dr Simon Brooks a Dr Richard Wyn Jones wedi dod i'r cyfarfod i drafod addysg Gymraeg yng Nghaerdydd gyda'r myfyrwyr.
Mae'r sefyllfa addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn waeth nag unrhyw brifysgol arall sy'n drueni mawr gan fod cyn gymaint o fyfyrwyr sy'n medru'r Gymraeg yn mynychu'r Brifysgol. Dim ond yn yr Adran Gymraeg y gellid dilyn cyrsiau drwy'r Gymraeg ac mewn rhai adrannau fel Cerddoriaeth neu Wleidyddiaeth eraill gellir cael un seminar/tiwtorial drwy'r Gymraeg. Mae'r Brifysgol yn anwybyddu eu Cynllun Iaith Gymraeg, a datgelwyd y ffaith syfrdanol nad oes gan y brifysgol gyfieithydd hyd yn oed!!
Un o'r rhesymau nad oes symud ymlaen wedi bod yw absenoldeb unrhyw bwysau o du'r myfyrwyr. Nid oes gan fyfyrwyr Cymraeg lais yn yr Undeb Myfyrwyr na'r Brifysgol, fel y mae gan Aberystwyth UMCA a Bangor UMCB. Roedd y syniad o gael Undeb Myfyrwyr Cymraeg yn amlwg wedi dal dychymyg y myfyrwyr ac ers y cyfarfod maen nhw wedi mynd ati ddechrau'r ymgyrch i gael Undeb fydd â swyddog cyflogedig. Darllenwch y stori ar wefan Golwg 360: http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_10751.aspx
Bydd sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn gam allweddol ymlaen i newid agweddau gwarthus y Brifysgol tuag at y Gymraeg gan roi llais a threfniadaeth i'r myfyrwyr i fedru gwthio am addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar Fawrth 17eg, bu cyfarfod cell bywiog iawn yn Neuadd JMJ ym Mangor. Mae pryder mawr ymhlith myfyrwyr oherwydd bod adrannau sy'n darparu addysg Gymraeg yn mynd i gael eu cau gan y Brifysgol. Mae 40% o fyfyrwyr yr adrannau hynny yn Gymry Cymraeg. Mae Prifysgol Bangor yn marchnata eu hunain fel y lle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ond y realiti yw fod myfyrwyr wedi gorfod brwydro am fodiwlau yn yr adran Hanes ac maen nhw'n cau adrannau fel yr Adran Astudiaethau Crefydd a'r Gwyddorau Cymdeithasol sef yr unig lefydd yn y byd lle gellir astudio'r pynciau hyn drwy'r Gymraeg! Mae'r Brifysgol yn torri eu cynllun iaith yn gyson, a'r arwydd amlycaf yw'r banc Satander sydd wedi agor o fewn y llyfrgell ond yn uniaith Saesneg.
Nid yw'r myfyrwyr yn mynd i ddioddef y sefyllfa bellach; mae'r gell yn credu'n gryf mai rôl y Brifysgol yw gwasanaethu ardal Bangor ac mae hynny'n golygu dyletswydd at y Gymraeg.
Bydd 'Taith Coleg Ffederal Cymraeg' yn Aberystwyth heno yng nghwmni Steffan Prys (Llywydd UMCA), Dr Hywel Griffiths (darlithydd Daearyddiaeth) a Dr Bleddyn Owen Huws (Adran Gymraeg).
I orffen, hoffwn gynnig rhai tips i'r celloedd Prifysgol sy'n adfywio ac i'r Undeb Myfyrwyr Cymraeg newydd:
- mae cyfarfod gyda'ch gilydd yn gyson yn holl bwysig i gadw momentwm i fynd ac i rannu syniadau a sbarduno eich gilydd.
- esboniwch i eraill am beth yw'r broblem; casglwch enghreifftiau a thystiolaeth o'r anghyfiawnder yn bwysig ac ni all bobl anwybyddu hynny.
- peidiwch dweud a dim gwneud! Mae'r gwneud yn bwysig iawn ac yn rhoi cyfle i bobl eraill i ymuno a gorfodi'r Brifysgol i ymateb.
- efallai bydd pobl yn hoffi gwneud rhai pethau yn fwy na'i gilydd, er enghraifft, un yn hoffi'r gwaith o fynd drwy'r cynllun iaith ac un yn dda wrth drefnu protest a chael myfyrwyr i fynychu. Gwych! Defnyddiwch sgiliau pobl.
- mynnwch y gorau i'r Gymraeg! Rydych chi yn gallu newid y sefyllfa.
- Siaradwch â darlithwyr am gyngor. Mae'n nhw'n deall y Brifysgol ac yn gwybod sut mae pethau'n gweithio felly byddan nhw'n gallu helpu lot!
Mae Radio Ceredigion wedi'i gwerthu i Town and Country Broadcasting gan y Tindle Newspaper Group. Bwriad y cwmni yw cau y stiwdios yn Aberystwyth a Felinfach a symud i Arberth, cartref stiwdios Radio Sir Benfro a Sir Gâr.
Dywed Angharad Clwyd, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion:
"Mae'n achos pryder mawr i ni fel mudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn diffyg darpariaeth Cymraeg 'Radio Sir Gâr' i glywed fod y cwmni wedi prynu Radio Ceredigion. Bu ymgyrchu di-flino gan y Gymdeithas yn erbyn Radio Sir Gar rhai blynyddoedd yn ôl, a oedd yn cynnwys lobio, cynnal protestiadau a ddaeth i ben llanw gyda charchariad Gwenno Teifi yn Chwefror 2006. Ac er gwaethaf hyn mae darpariaeth Gymraeg y cwmni bellach wedi lleihau gyda Rhaglen Gymraeg yr hwyr yn ddwy awr yn hytrach na thair.
Mewn ymateb i gynlluniau arfaethedig Awdurdod Addysg Ceredigion i gau chwech o ysgolion cynradd yn ardal Llandysul ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, mae rhieni pedwar o'r ysgolion wedi llunio deisebau a fydd yn cael eu cyflwyno tu allan i brif adeilad y Cyngor ym Mhenmorfa heddiw (Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 4pm).
Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a rhiant yn Ysgol Llandysul:
" Mae yna wrthwynebiad cryf yn yr ardaloedd yma i gynlluniau'r Cyngor Sir i gau ysgolion pentrefol yr ardal a chreu un Ysgol 3-19 oed. Gwelir maint y gwrthwynebiad yn y nifer o bobl sydd wedi arwyddo'r deisebau, gyda dros 200 o rieni ac aelodau o gymunedau Capel Cynon a Coed y Bryn a dros 120 o Aberbanc wedi arwyddo'r deisebau a dros 130 o rieni wedi arwyddo deiseb Ysgol Gynradd Llandysul."
Ymddengys bod y Cyngor Sir a'r ymgynghorwyr eisoes wedi rhoi eu bryd ar ysgolion ardal mawr 3-19 oed yn ardaloedd Llandysul a Thregaron, a'u bod yn rhoi'r cyfrifoldeb a'r baich o gyfiawnhau opsiynau eraill yn nwylo'r rhieni a llywodraethwyr. Gallai'r cynllun arwain at gau nifer fawr o ysgolion pentref a hyd yn oed ysgol gynradd Llandysul ei hun.
Meddai Angharad Clwyd, sy'n Gadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith ac yn rhiant yn ysgol gynradd Llandysul:
"Byddai'n eironig pe byddai'r ysgolion cyfrwng Cymraeg, Ysgol Dyffryn Teifi a Thregaron, yn gyfrifol am ddinistrio'r cymunedau Cymraeg sydd wedi darparu eu disgyblion dros y genhedlaeth ddiwethaf. Dylai'r broses hon fod yn ddadansoddiad agored o'r holl opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys yr opsiwn mwy blaengar o fath newydd o ffederasiwn rhwng Ysgolion Dyffryn Teifi ac Ysgol Uwchradd Tregaron â'r ysgolion sy'n eu bwydo. Byddai hyn yn creu uned addysgol gref ond byddai hefyd yn sicrhau y gellid cynnal presenoldeb yn yr holl gymunedau. Cyfrifoldeb yr ymgynghorwyr yw hi i gyflwyno manylion goblygiadau'r opsiwn hwn yn ogystal â modelau eraill posibl, yn hytrach na disgwyl i rieni a llywodraethwyr, nad ydynt yn cael eu talu i gwblhau'r gwaith, wneud hynny, fel awgrymwyd mewn cyfarfod cyhoeddus."
Mae pump myfyriwr prifysgol Aberystwyth yn ymprydio am 24 awr heddiw (Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr) i ddangos cyd-gefnogaeth i ymgyrchydd a garcharwyd ar ôl iddo dargedu siopau mawrion yng ngogledd Cymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â charchariad aelod a ymgyrchodd yn erbyn polisi iaith rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr. Carcharwyd Osian Jones, o Ddyffryn Nantlle, am 28 diwrnod gan ynadon Caernarfon wythnos ddiwethaf ar ôl iddo beintio sloganau ar siopau Boots a Superdrug.
Fe ddywedodd myfyrwraig 18 oed, Mair Evans, un o'r pump sydd yn ymprydio:
"Rydyn ni'n gwneud hyn i ddangos cefnogaeth i Osian. Mae Osian yn y carchar achos bod e wedi sefyll i fyny dros ein hawliau ni. Mae'n gwbl annheg bod y gyfundrefn bresennol yn golygu bod hyn yn digwydd. Dylai'r cwmnïau hyn ddarparu gwasanaethau sylfaenol Cymraeg o leiaf, y ffaith bod nhw'n gwrthod yn golygu bod gweithredoedd fel hyn yn anochel."
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cynghorwyr ar eu ffordd i mewn i gyfarfod allweddol o Gyngor Ceredigion am 9am fore Mawrth (30/6) sy'n ailystyried y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.
Mewn neges at y cynghorwyr, dywed y Gymdeithas fod y broses o benderfynu cau'r ysgol bentrefol Gymraeg ym Mhonterwyd wedi bod mor frysiog ac mor wallus fel ei bod yn sicr y byddai'r Gweinidog Addysg yn caniatau apel yn erbyn cau'r ysgol. Dadl y Gymdeithas yw ei bod yn well felly i'r Cyngor ail-fynd ati i geisio cytundeb gyda rhieni a'r gymuned leol ynghylch y ffordd orau ymlaen yn hytrach na bwrw mlaen gyda'r cynllun dinistriol a fydd yn sicr o fethu beth bynnag.
Rhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).
Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa, ac mae Cymdeithas yr Iaith eisiau tynnu sylw at y ffaith nad yw'r busnesau y mae pawb yn eu defnyddio o ddydd i ddydd wedi'u cynnwys.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:
"Dydy rhan helaeth y sector breifat ddim yn cael ei gynnwys yn y Gorchymyn iaith a felly mae'r Gorchymyn yn rhwystro rhag cael hawliau iaith yng Nghymru. Cred Cymdeithas yr Iaith fod angen ymhelaethu arno fel bod pwerau llawn dros y Gymraeg yn symud i Gaerdydd."
Am 9am heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion y cyntaf o lawer o Beiriannau Gwasgu (steamrollers) a fyddant i'w gweld trwy'r sir a rhannau eraill o Gymru'n ystod y misoedd nesaf. Ymwelodd Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar Addysg) a Bethan Williams (swyddog Maes Dyfed) ag Adran Addysg y Cyngor yn Felinfach i gyflwyno'r copi cyntaf o'r poster hwn (PDF). Bydd y posteri'n cael eu codi nawr ledled y sir i rybuddio pobl o fwriad y Cyngor i wasgu unrhyw wrthwynebiad i'w cynllun i sefydlu Ysgolion Ardal canolog gan gau nifer mawr o ysgolion pentrefol Cymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl y bydd y Cyngor yn cyhoeddi o fewn y pythefnos nesaf gynllun i sefydlu Ysgolion Ardal canolog yn Nhregaron a Llandysul gan aberthu dwsin o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y broses - yn cynnwys nifer sydd gyda dros 50 o ddisgyblion ac yn gweithredu fel canolbwynt i gymunedau pentrefol bywiog. Bydd yr ysgolion mawr newydd yn cynnwys plant o 3-19 oed gyda'r bwriad o greu sefydliadau digon sylweddol i gynnig amrywiaeth o gyrsiau i ddisgyblion 14-19 oed.
Yn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad, sef:
Yr Institiwt, Caernarfon (map) am 7.30pm ar yr 12fed o Fawrth gyda Dafydd Iwan (Llywydd Plaid Cymru), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith) Aran Jones (Cymuned). Cadeirydd: Osian Jones.
Canolfan y Morlan, Aberystwyth (map) am 7.30pm ar y 12fed o Fawrth gyda Rebecca Williams (UCAC) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith). Cadeirydd: Dafydd Morgan Lewis.
Y Duke of Clarence, Caerdydd (map) am 7.30pm ar yr 16eg o Fawrth gyda Leanne Wood (Aelod o Bwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith), Aled Elwyn (Strata Matrix), Yr Athro Colin H Williams. Cadeirydd: Sioned Haf.
Y Boar's Head, Caerfyrddin (map) am 7pm ar yr 20fed o Fawrth gydag Adam Price (Aelod Seneddol), Hywel Griffiths (Cymdeithas yr Iaith), Cynrychiolydd o Fentrau Iaith Cymru. Cadeirydd: Bethan Williams.
Pwrpas y fforymau yw i roi cyfle i'r gynulleidfa leisio'u barn a chael bod yn rhan o broses drafod y Gorchymyn iaith, felly estynnwn wahoddiad i bob un sydd eisiau'r cyfle i fynnu'i hawl i'r Gymraeg. Bydd adroddiadau o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at y Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad sy'n craffu'r Gorchymyn Iaith.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.
FFORWM AGORED
I drafod adroddiad Isbwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad ar
AD-DREFNU YSGOLION CEFN GWLAD
1.30pm Sadwrn 21ain Chwefror
Ysgol Gynradd Llanfarian
(3 milltir i'r de o Aberystwyth)
• Agorir y Fforwm gan yr Awdur Caryl Lewis.
• Cyflwynir argymhellion yr adroddiad gan Alun Davies AC, Cadeirydd yr Isbwyllgor Datblygu Gwledig.
Ymhlith y rhai sydd eisoes wedi cytuno i ymateb yn ffurfiol y mae:
• Cyng Ceredig Davies - Aelod Cabinet Ceredigion dros addysg
• Cyng Liz Saville - Aelod Bwrdd Gwynedd dros Addysg
• Cyng Ellen ap Gwyn - Arweinydd yr Wrthblaid, Ceredigion
• Cyng Peter Hughes-Griffiths - Arweinydd yr Wrthblaid, Sir Gar
• Cymdeithas yr Iaith
Gwahoddir cynghorwyr eraill, Undebau Athrawon, cyrff fel ESTYN, mudiadau cymunedol a grwpiau pwyso i gyfrannu a bydd y drafodaeth sy'n dilyn yn agored i bawb.
Gwahoddwyd y Gweinidog Addysg Jane Hutt i ddod ei hun - neu anfon swyddog ar ei rhan - i wrando ar y drafodaeth.
Bydd offer cyfieithu ar y pryd a meithrinfa ar gael.
Cynhelir y fforwm mewn ysgol gynradd fywiog a bydd plant yr ysgol yn rhoi eitem ar y dechrau.
Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith - ffred@cymdeithas.org
Yng nghanol prysurdeb y Nadolig, efallai na sylwodd nifer o bobl ar y cyhoeddiad bod Ofcom Cymru wedi dyfarnu trwydded radio masnachol newydd ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Real Radio yw deiliaid y drwydded newydd, a bydd eu gorsaf yn dechrau darlledu o fewn y ddwy flynedd nesaf - a hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Gall Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgelu bydd Sion Corn yn ymweld â siop ffoniau symudol 'Get Connected', Ffordd y Môr, Aberystwyth ddydd Sadwrn yma (13/12) am 1pm ac yn tynnu o'i sach rhestr o wasanaethau yr hoffai weld cwmni Orange yn darparu yn y Gymraeg. Fe fydd Sion Corn yn trosglwyddo'r rhestr i weithwyr y siop gan ofyn iddynt ei ddanfon ymlaen at gwmni Orange, yn ogystal a gofyn i'r siop i gefnogi galwad y Gymdeithas trwy fynnu gwasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid.
Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol lwyddiannus yn Aberystwyth, gyda dros 100 o bobl yn bresennol, cafodd chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio. Yn gyntaf fe arestiwyd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhys Llwyd yr Is- Gadeirydd Ymgyrchu am beintio'r slogan 'MESUR IAITH CYFLAWN' ar wal adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth. Yna wrth i hanner cant o aelodau ddangos eu cefnogaeth drwy arwyddo eu henwau ar y wal fe arestiwyd pedwar person arall sef Bethan Williams arweinydd ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas, Siriol Teifi, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr iaith Gymraeg a dau fachgen yn eu harddegau.
Gig PRS - Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi Cerddorion Cymru
Gai Toms
Wyrligigs
Y Bandana
£5, Nos Sadwrn 25ain o Hydref
Tafarn y Cwps, Aberystwyth
Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno yn gynharach yn y dydd - yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith - yn trafod sut y gall Cymdeithas yr Iaith gefnogi Cyfansoddwyr a Chyhoeddwyr Cymru yn erbyn penderfyniad y PRS i dorri breindaliadau'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Fel cam bach cychwynnol, bydd 1/2 unrhyw elw y gwneir ar y noson yn cael ei gyfrannu at Y Gynghrair (Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru).
* Statws Swyddogol
* Comisiynydd Iaith
* Hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein bywydau pob dydd
Dyna yw'r tri pheth sydd yn gwbwl angenrheidiol mewn Mesur Iaith Cyflawn. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi addo Mesur o'r fath i ni yn y ddogfen Cymru'n Un. A nawr daeth yn amser i ni bwyso'n derfynol am weld gwireddu'r addewid hon. Fe dorrodd y llywodraeth ei gair ar fater y Papur Dyddiol Cymraeg. Peidiwch a gadael iddi wneud hynny eto ar fater y Mesur Iaith.
Dewch i Rali Genedlaethol Flynyddol Cymdeithas yr Iaith yng Nghanolfan Y Morlan, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn Hydref 25 am 2 o'r gloch er mwyn dangos i'r llywodraeth mai hwn yw'r Rhybudd Olaf. Nid ydym am gael ein siomi y tro hwn. Dewch i'r rali i ddangos ein bod o ddifri am ddyfodol y Gymraeg ac nad ydym yn barod i ddioddef rhagor o oedi a gwamalu ar y pwnc pwysig hwn.
Siaradwyr yn y Rali
Gwion Lewis
Cyfreithiwr ac awdurdod rhyngwladol ar hawliau ieithyddol. Bu'n astudio'r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a'r gyfraith. Ffrwyth yr ymchwil hwnnw yw ei gyfrol 'Hawl i'r Gymraeg', achosodd y fath gyffro pan gafodd ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Daeth rhai o gyfreithwyr blaenaf Cymru i'r lansiad hwnnw ac fe ganmolwyd y gyfrol gan neb llai na Gwilym Owen. Llyfr cwbwl anhepgor i unrhyw un sy'n ymddiddori yn frwydr dros ddyfodol y Gymraeg.
Elin Haf Gruffydd Jones
Cyfarwyddwr Mercator a darlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae hi yn awdurdod a'r ieithoedd llai eu defnydd ac yn gyfarwydd iawn â'r sefyllfa ieithyddol yng Ngwlad y Basg, gwlad sydd wedi dangos y ffordd i ni yng Nghymru drwy basio Deddf Iaith yn ddiweddar sy'n ymestyn i'r Sector Breifat.
Hywel Griffiths
Hywel, fydd yn cadeirio'r rali. Ef hefyd yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac fe enillodd y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dewch i'r Rali yn Aberystwyth i fynnu fod Llywodraeth y Cynulliad yn cadw ei gair ac yn dangos i'r byd ei bod o ddifri am ddyfodol y Gymraeg.
Canolfan Y Morlan, Morfa Mawr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2HH.
Nos Wener Hydref 24 am 7.30pm
Yn Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth.
Gwahoddedigion arbennig: Gwilym a Megan Tudur
Cyfarchion gan Feirdd ac eraill
Gwin i bawb.
Yn eu Cyfarfod Cyffredinol gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth bore dydd Sadwrn Hydref 25 bydd Hywel Griffiths sydd wedi bod yn gadeirydd y Gymdeithas ers Mis Mawrth 2007 yn rhoi'r gorau i'w swydd, ac fe etholir Menna Machreth, sy'n sefyll yn ddiwrthwynebiad i gymryd ei le.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.
Yn wyneb y pwysau brys i cau Ysgol Ysbyty Ystwyth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu ag arweinydd Cyngor Ceredigion trwy lythyr, i ofyn a yw'n fwriad nawr gan y cyngor i dorri corneli yn ei hawydd i arbed arian trwy cael gwared ag ysgolion pentref. Cred y Gymdeithas fod y Cyngor wedi dwyn pwysau annheg yr wythnos hon ar rhieni'r ysgol.
Fe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw Gweinidog Addysg Cymru at lwyddiant ysgol fach 26 o blant yng Ngheredigion. Mae ysgol Dihewyd wedi derbyn adroddiad disglair gan y corff arolygu Estyn.
Heddiw, ar ddiwrnod canlyniadau semester un y myfyrwyr mi fydd y myfyrwyr eu hunain yn dyfarnu graddau i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor.
28 Chwefror 2008
|
Mwy...
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi Caffi Costa, Aberystwyth ddydd Llun 18/2/08, ar ddiwrnod ei agoriad, mewn protest oherwydd diffyg parch llwyr y cwmni at yr iaith Gymraeg a'r gymuned leol. Anwybyddwyd llythyr y Cyngor Tref a ofynodd i'r cwmni i gyflwyno arwyddion dwyieithog ac anwybyddwyd rheolau y Cyngor Sir a ddywed mai siopau yn unig sy'n cael agor ar stryd fawr Aberystwyth.
Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol ar Ddydd Sadwrn Chwefror 2il 2008 yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth, Ceredigion.
Trefn y Diwrnod
10.00am - Croeso.
10.30am - Adroddiad Ariannol ac Adroddiad Buddsoddi yn y Gymuned (Danny Grehan a Sel Jones).
11.00am - Adroddiad Ymgyrch Deddf iaith (Rhun Emlyn)
Cynigion Deddf Iaith
* Cyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad (Cynigir gan y Grŵp Ymgyrchu Deddf Iaith Newydd)
* Y Gymraeg yn y Sector Breifat (Cynigir gan y Senedd)
* Y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd (Cynigir gan Grŵp Ymgyrchu Deddf Iaith Newydd)
11.30am - Adroddiad Ymgyrch Cymunedau Rhydd (Iestyn ap Rhobert)
Cynigion Cymunedau Rhydd
* Statws Cynllunio Llawn i'r Iaith Gymraeg (Cynigir gan y Grŵp Ymgyrchu Cymunedau Rhydd)
11.45am - Adroddiad Ymgyrchoedd Addysg (Ffred Ffransis)
Cynigion Addysg
* Dyfodol Ysgolion Pentrefol Gwynedd (Cynigir gan Grŵp Ymgyrchu Addysg)
* Gwleidyddiaeth Newydd gan Lywodraeth Cymru (Cynigir gan y Senedd)
* Ymgyrch i sefydlu Coleg Aml-Safle/Coleg Ffederal Cymraeg: (Cynigydd: Menna Machreth Eilydd: Rhys Llwyd)
12.15pm - Cynigion Cyffredinol
* Dyfodol Darlledu Drwy Gyfrwng y Gymraeg (Cynigir gan: Osian Rhys, Eilydd: Hywel Griffiths)
* Gweinyddiaeth Fewnol Cynghorau Sir Cymru (Cynigir gan: Angharad Clwyd, Eilydd: Dafydd Lewis)
* Swydd Newydd i’r Senedd – Cadeirydd Grŵp Dysgwyr a’r Di-Gymraeg (Cynigyr gan: Angharad Clwyd, Eilydd: Hywel Griffiths)
* Newid amseru’r Cyfarfod Cyffredinol (Cynigir gan: Ffred Ffransis, Eilydd: Sioned Elin)
* Adfer wal 'Cofiwch Dryweryn' yn Llanrhystud (Cynigir gan Rhanbarth Ceredigion)
12.45pm - Cyhoeddi canlyniadau etholiad am le ar Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
12.50pm - Araith Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
1.00pm - Torri i ginio
2.00pm - Etholiadau ar gyfer swyddi gwag a swyddi newydd ar y Senedd.
2.10pm - Sesiwn "Hybu'r Frwydr trwy'r Sin Gerddoriaeth Cymraeg".
Arweinir y sesiwn gan Toni Schiavone sydd wedi bod yn hyrwyddo gigs a labeli Cymraeg ers dros chwarter canrif ac a fu'n brif ysgogydd i'r "Cyrff" yn eu dyddiau cynnar. Cawn weld sut y mae bandiau trwy'r degawdau wedi defnyddio cerddoriaeth yn gyfrwng gwleidyddol a chawn drafod sut y gallai cyflwyniadau aml-gyfryngol, gigs, bandiau, cyhoeddiadau, deunydd wedi recordio - fod yn gyfryngau heddiw i godi ymwybyddiaeth a'r frwydr i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw ymhlith Cymry ifainc. Dyma sesiwn ymarferol y gall pawb gyfrannu ati - fel cerddorion, technegwyr, hyrwyddwyr ac unrhyw un arall sy'n mwynhau gigs a gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg
3.40pm - Gorffen - Ymlaen i wylio Cymru yn curo Lloegr!
Am y tro cyntaf erioed dangosir ffilm yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith sy’n cychwyn am 10.30am Sadwrn nesaf (2/2) yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth. Dangosir y ffilm “Diwrnodau Olaf Ysgol Mynyddcerrig” yn union cyn bod y Cyfarfod yn trafod cynnig i roi cefnogaeth weithredol i’r don gyntaf o ysgolion pentrefol Cymraeg sydd tan fygythiad yng Ngwynedd.
Fe neilltuir lle arbennig i Ddeddf Iaith yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eleni. Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth dydd Sadwrn Chwefror 2 rhwng 10am a 3.30pm. Cynhelir gem rygbi rhyngwladol yn Twickenham rhwng Cymru a Lloegr yn syth wedi'r Cyfarfod am 4pm.
Am dri chwarter awr heddiw bu 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu allan i Siop Morrisons yn Aberystwyth. Roedd presenoldeb cryf o'r heddlu yno a daeth y brotest i ben pan gyflwynodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, lythyr i reolwr y siop. Hon oedd yr ail mewn cyfres o dair protest yn erbyn Morrisons a gynhelir gan y Gymdeithas.
1 Rhagfyr 2007
|
Mwy...
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r farn fod y Blaid Lafur yn graddol newid ei thiwn ar gwestiwn Deddf Iaith. Mewn cyfarfod yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth neithiwr (Nos Iau Chwefror 15) cafodd Rhodri Morgan ei holi gan aelodau'r Gymdeithas beth fyddai gan y Blaid Lafur i'w ddweud ar yr iaith Gymraeg yn ei Maniffesto ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Ceredigion i gyhoeddi pob adroddiad a dogfen ar eu gwefan yn Saesneg gyda nodyn y cant eu cyfieithu i'r Gymraeg fel y bydd adnoddau'n caniatau.
Am 12.30pm heddiw (Dydd Sadwrn 14/10), gorymdeithiodd tua 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg draw at ‘Ystwyth Retail Park’, yn Aberystwyth, i gynnal Rali Brotest. Yn ystod y brotest, cafodd pedwar aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio - Gwenno Teifi, Geraint Edwards, Ceri Phillips a Siwan Tomos - am chwistrellu'r geiriau ‘Deddf Iaith Newydd’ ar flaen siop Brantano.