|
Cyfarfod Rhanbarth Clwyd
Nos Fercher
17eg o Chwefror,
yr Hand,
Stryd Henllan,
Dinbych am 7 o'r gloch
17 2010
|
|
|
 Cyhoeddwyd yn y Daily Post heddiw, bod 60,000 o unigolion yn disgwyl ar rhestrau aros am dai cyngor ar draws gogledd Cymru. Meddai Osian Jones, trefnydd y gymdeithas yn y gogledd:
"Rydym fel cymdeithas, wedi bod yn disgwyl am fisoedd lawer i dderbyn cyfres o atebion ynglyn a'r sefyllfa dai yma yn y gogledd, gan holl gynghorau sir yr ardal. Un o'r cwestiynau ydoedd yn syml - 'faint sydd ar eich rhestr aros am dai cyngor', nid ydym wedi derbyn unrhyw ateb gan unrhyw un o gynghorau'r gogledd. Ac wrth ddarllen bod 60,000 yn aros heddiw yn y Daily Post, mae hi'n amlwg mai methiant llwyr ydi polisïau tai yr holl gynghorau?
19 Ionawr 2009
|
Mwy...
|
|
FFORWM CLWYD
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
1pm, Dydd Sadwrn, Gorffennaf, 26ain
Clwb Rygbi'r Wyddgrug

26 Gorffennaf 2008
|
|
|
Mae angen unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus i arwain a chyd-lynu gwaith lobio ac ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru. Lleolir y Swyddfa yng Nghaernarfon. Mae trwydded yrru yn hanfodol i'r swydd yma.
22 Medi 2007
|
Mwy...
|
|
Nos Fawrth, 28ain Awst, 7.30pm,
Tafarn y Masons, Dinbych
28 Awst 2007
|
|
|
Coleg Cymraeg: Taclo'r broblem!
3pm, 10/08/07, Uned Cymdeithas yr Iaith, Maes yr Eisteddfod

10 Awst 2007
|
|
|
Tesco - Dyw tipyn bach ddim digon da!
2pm, 09/08/07, tu allan i Tesco yr Wyddgrug
Gorymdaith i faes yr Eisteddfod
2.45pm, Uned Cymdeithas yr Iaith, Maes yr Eisteddfod
Deddf Iaith ddiwerth - dim diolch!

9 Awst 2007
|
|
|
Cyfarfod Deddf Eiddo -‘Ardal yr Wyddgrug: Rhybudd i Gymru Gyfan’
Astudiaeth achos o ddatblygiadau tai anaddas
3pm, 06/08/07, Pabell Cymdeithasau, Maes yr Eisteddfod

6 Awst 2007
|
|
|
Aeth tocynnau ar gyfer Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth heddiw. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.
30 Mehefin 2007
|
Mwy...
|
|
Radio Luxembourg, Genod Droog, Meic Stevens, Bob Delyn, Elin Fflur, Y Sibrydion, Gai Toms, Huw Chiswell, Elin Fflur, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Ffyrc, Steve Eaves a’r Band, Brigyn…. Dim ond rai o’r dros dri deg o artistiaid fydd yn perfformio mewn wythnos o gigs fydd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug eleni. Bydd ‘Adloniant Tafod’ yn cael ei gynnal eleni ar dir Clwb Rygbi'r Wyddgrug sydd wedi ei leoli yng nghanol tref prifwyl 2007.
20 Mai 2007
|
Mwy...
|
|
Taith Tafod 2 - Clwb Rygbi Dinbych
Nos Iau, 12fed Ebrill 2007
Cowbois Rhos Botwnnog
Yucatan
Mr Huw
DJ Fuzzy Felt
Tocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Dewi ar 01286 662 908 neu gogledd@cymdeithas.org

Pwyswch yma i ddarllen mwy am gigs Taith Tafod 2
12 Ebrill 2007
|
|
|
Am 1pm yfory (Dydd Sadwrn 3ydd o Fehefin) cynhelir seminar chwyldroadol yn Uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun. Bydd y seminar yn ystyried cynnig Cymdeithas yr Iaith y dylid sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg.
2 Mehefin 2006
|
Mwy...
|
|
Am 1pm heddiw, tu allan i Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd.
31 Mai 2006
|
Mwy...
|
|
Bydd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith yn protestio gyda rhiant heddiw, o flaen Ysgol Breifat Howell i ferched yn Ninbych ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod ysgolion preifat yng Nghymru’n cael amddifadu’u disgyblion yn gyfangwbl o addysg Gymraeg ac o bob elfen o’r cwricwlwm Cymreig. Nid oes lle i drefn o’r fath yn y Gymru gyfoes.
2 Medi 2005
|
Mwy...
|
|
Ar nos Iau, y 14eg o Orffennaf aeth aelodau o Gymdeithas-yr-iaith o Ddyffryn a Gorllewin Clwyd ati gydag ymgyrch sticeri. Bu'r aelodau yn rhoi sticeri 'Ildiwch' a 'Ble mae'r Gymraeg?' ar arwyddion Give Way. Mae hyn yn rhan o ymgyrch y Gymdeithas dros yr haf i danlinellu'r angen am Ddeddf Iaith gynhwysfawr a fyddai'n ateb anghenion Cymru yn yr Unfed Ganrif Ar Hugain.
15 Gorffennaf 2005
|
Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddilyn esiampl Cyngor Sir Ddinbych, sydd wedi rhoi heibio am y tro eu cynlluniau i gau llawer o ysgolion pentrefol Cymraeg, ac i ymgynghori yn hytrach gyda'r cymunedau lleol.
22 Chwefror 2005
|
Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon e-bost at bob aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Dinbych o flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth pan fyddant yn ystyried y bosibiliad o gau hyd 11 o ysgolion pentre - y mwyafrif ohonynt yn rhai Cymraeg eu cyfrwng.
20 Chwefror 2005
|
Mwy...
|
|
Neithiwr (nos Wener 24/9/04), yn nhref y Fflint, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfnod o bwyso gweithredol cyson, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
25 Medi 2004
|
Mwy...
|
|
Daeth protest lwyddiannus gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ben to swyddfa'r Cynulliad Cenedlaethol yn Llandrillo yn Rhos i ben am ddeuddeg o'r gloch prynhawn heddiw. Protest oedd hon a alwai ar i lywodraeth y Cynulliad neilltuo mwy o arian yn ei chyllideb nesaf ar gyfer y farchnad dai yng Nghymru.
8 Gorffennaf 2004
|
Mwy...
|
|
Am saith o’r gloch bore heddiw (Dydd Iau Gorffennaf 8fed) dringodd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar do adeilad Llywodraeth Cymru yn Llandrillo yn Rhos er mwyn tynnu sylw at y broblem tai yng Nghymru.
8 Gorffennaf 2004
|
Mwy...
|