tafod.jpg hafan cymdeithas.org . pwysig-hannercant.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymunedau Rhydd

Lansiad cynghrair dros gymunedau Cymraeg

Fe fydd pentref yng ngogledd Cymru, lle mae'r ysgol leol o dan fygythiad, yn dod yn aelod cyntaf o gynghrair newydd i lobïo dros ddyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith heddiw (Dydd Sadwrn, Mawrth 17).

Cymuned y Parc, ger y Bala, fydd y cyntaf i ymuno â Chynghrair Cymunedau Cymru, menter Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd yn cael ei sefydlu er mwyn galluogi nifer o gymunedau Cymraeg i lobio'n rymus dros eu dyfodol. Fe gynhelir y lansiad yn ystod Diwrnod o Brotest yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i gyhoeddi rhybudd i gau Ysgol Y Parc. Fe ddangosodd y cyfrifiad diwethaf gwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan dros 70% o'r boblogaeth a disgwylir i ganlyniadau Cyfrifiad nesaf ddangos yr un dueddiad.

Fe fydd y Gymdeithas yn defnyddio eu "Taith Tynged yr Iaith", sydd yn rhan o ddathliadau eu hanner canmlwyddiant, ac yn teithio ar draws Cymru eleni i dynnu sylw at sefyllfa'r Gymraeg ar lefel gymunedol ac i annog cymunedau eraill i ddod yn rhan o'r gynghrair.

Dywedodd Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Sefydlwyd Merched y Wawr yn y Parc, sydd yn enghraifft o fudiad sydd wedi mynd o nerth i nerth gan gyfrannu yn sylweddol at ein cymunedau a'r Gymraeg. Gobeithiwn y bydd y gynghrair yr ydym yn ei dechrau heddiw yn gallu codi momentwm a llais dros gymunedau Cymraeg sydd yn wynebu argyfwng. Os yw'r iaith yn mynd i barhau fel iaith ffyniannus a hyfyw, mae rhaid i ni amddiffyn a thyfu'r nifer o gymunedau Cymraeg ei hiaith."

Ychwanegodd Penri Jones, ar ran ymgyrchwyr cymunedol y Parc:

"Mae'n cymunedau gwledig cynhenid Gymraeg yn prysur brinhau a dadfeilio... mae'r ardaloedd naturiol Gymraeg ar hyn o bryd yn wynebu gwir berygl o gael eu hamddifadu o bopeth. Yr ysgol leol bron yn ddieithriad fu, ac yw, craidd y gymuned wledig a phan gollir ysgolion cefn gwlad bydd clymau eraill yn sicr o ymddatod.

"Gwelaf sefydlu'r gynghrair... yn gam hanfodol i strategaeth cynnal a chadw'r llinyn arian sy'n cysylltu'r rhwydwaith sy'n weddill. ... mae ymgais ddiweledigaeth ddiweddar Cynghorau Cymru i gau'n hysgolion bach wedi amlygu realiti'r sefyllfa. Rhaid i'r ardaloedd Cymraeg eu hiaith ffynnu os ydym am weld unrhyw ddyfodol tymor hir llwyddiannus i'r iaith a'r diwyllant Cymraeg. "Ni fedir oni heuir," medd y ddihareb. Rhaid inni barhau i hau a meithrin egin ein hardaloedd gwledig doed a ddelo."

Wrth lansio'r gynghrair, mae'r Gymdeithas wedi croesawu pleidlais unfrydol yn y Cynulliad wythnos yma yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydyn ni'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu'r grwp i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae Biliau cynllunio a datblygu cynaliadwy'r Llywodraeth yn cynnig cyfle i'r Llywodraeth wyrdroi'r patrwm lle mae buddiannau datblygwyr yn cymryd blaenoriaeth dros fuddiannau'r Gymraeg a'i chymunedau. Mi fyddwn yn erfyn ar y Llywodraeth dros y misoedd i ddod i dderbyn bod datblygiadau tai mewn nifer o lefydd yn y wlad yn niweidiol i'r iaith, ac ymrwymo i newid y system gynllunio i atal y patrwm hwnnw rhag parhau."

17 Mawrth 2012 |

 

Taith Tynged yr Iaith, dathlu 50 mlynedd

Dathlu 50 fach.jpgFe gynhelir taith o gwmpas Cymru i dynnu sylw at y bygythiad i gymunedau Cymraeg eleni, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw (Dydd Llun, 13eg Chwefror).

Mae'r newyddion yn dod ar hanner canmlwyddiant anerchiad Saunders Lewis ar ddyfodol yr iaith - Tynged yr Iaith - a sbardunodd sefydlu'r mudiad iaith.

Fe fydd ymgyrchwyr yn gyrru bws o gwmpas y wlad ar daith - a enwir ar ôl y ddarlith enwog - i godi ymwybyddiaeth o'r her i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg - gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001, ac mae'r mudiad yn mynd i roi prif ffocws eu gwaith ar wyrdroi'r cwymp hynny.

Bydd y daith yn dechrau ym mis Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri. Mae'r Gymdeithas yn annog grwpiau cymunedol a fyddai â diddordeb yn y daith i gysylltu â nhw ar post@cymdeithas.org. Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Hoffwn ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith ac awgrymu sut a lle y dylen ni ymgyrchu. Bydd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau'r Gymdeithas dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf, ond hefyd i dynnu sylw at yr her sydd yn wynebu'r iaith ar lefel gymunedol."

"Fe wnaethon ni draddodi darlith Tynged yr Iaith 2 llynedd oedd yn dweud fod yr hanner can mlynedd diwethaf wedi golygu fod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg ac felly nawr rydym yn gofyn pa fath o ddyfodol fydd i'r iaith. Rydym am ei gweld fel iaith dydd i ddydd ein cymunedau ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i bawb - o'n cynghorau cymuned reit lan i'r Cynulliad - sylweddoli bod angen trawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau. Yng Ngwlad y Basg, mae nifer o gymunedau wedi ffurfio cynghrair i annog digwyddiadau yn y Fasgeg a hefyd i lobio dros yr iaith honno. Dyna'r fath o fenter rydyn ni'n gobeithio ei hybu ar ein taith, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r problemau sydd yn ein wynebu."

13 Chwefror 2012 |

 

Rali nid yw Mon ar Werth i Wylfa B

Rali nid yw Mon ar Werth i Wylfa B
Cefnogwch deulu Caerdegog

2.30yp, Dydd Sadwrn, Ionawr 21 ain

Maes Parcio Ffordd Glanhwfa Llangefni

View Larger Map

Gorymdaith i Neuadd y Sir

Siaradwyr:
Rhichard Jones, Caerdegog
Dr Carl Clowes, PAWB
Dr Malcom Carroll, Greenpeace
Angharad Tomos, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Menna Machreth

Nid yw Mon ar werth.jpg

21 Ionawr 2012 |

 

Brwydr Caerdegog

Ffilm fer am frwydr ddewr teulu Caerdegog yn erbyn y cwmni Horizon sydd eisiau dwyn eu tir er mwyn codi Wylfa B. Ffilmiwyd: 12 Rhagfyr 2012

Cynhyrchwyd, ffilmiwyd a golygwyd gan Rhys Llwyd. Diolch i deulu Caerdegog, Osian Jones Cymdeithas yr Iaith a Clifford Williams PAWB.

13 Rhagfyr 2011 |

 

Cefnogaeth enwogion i atal gor-ddatblygu tai

hywel-griff.jpgMae nifer o Gymry amlwg wedi arwyddo deiseb sydd yn galw ar y Llywodraeth i adalw'r Cynlluniau Datblygu Lleol er lles y Gymraeg.

Mae pryder gwirioneddol y bydd y cynlluniau yma yn arwain at ddatblygiadau tai anaddas, diangen oherwydd nad ydynt wedi eu seilio ar anghenion presennol y cymunedau. Ymysg y bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yw'r awduron Dewi Prysor, Catrin Dafydd, Angharad Blythe a Dr Mererid Hopwood, a'r cerddorion Geraint Lovgreen, Steve Eaves, Ceri Cunnington, Lleuwen Steffan a Gwyneth Glyn.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog eu haelodau i lofnodi deiseb ar wefan y Cynulliad cyn iddi gau ar ddiwedd y mis. Mae'r ddeiseb yn galw am "holl CDLl ... gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.". Cyflwynwyd y ddeiseb gan nifer o grwpiau sy'n cyd-weithio er mwyn newid y gyfundrefn cynllunio bresennol, ymysg y grwpiau mae gr?p Deffro'r Ddraig a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'n holl bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn deall dyfnder y gwrthwynebiad i'r Cynlluniau Datblygu Lleol yma. Dydyn nhw ddim yn mynd i'r afael a'r problemau sydd yn wynebu cymunedau Cymru. Yn hytrach mae'n bosib iawn y byddant yn gwaethygu sefyllfa'r Gymraeg wrth i niferoedd anaddas o dai gael eu hadeiladu."

25 Tachwedd 2011 | Mwy...

 

Amheuon am asesiad effaith iaith gorsaf niwclear

machreth.jpgMae ymgyrchwyr wedi codi amheuon am yr asesiad effaith iaith a gomisiynwyd ynghylch yr atomfa niwclear newydd arfaethedig ar Ynys Môn.

Mae'r pryderon yn dilyn y newyddion mai'r cwmni a ddatblygir Wylfa B benderfynodd ar bwy fydd yn gwneud yr astudiaeth, yn hytrach nag awdurdodau cynllunio. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu'r ffaith bod datblygwyr yr atomfa, Horizon, yn ariannu ei asesiad effaith iaith ei hun, gan ddadlau ei bod yn bygwth annibyniaeth yr ymchwil.

Mae'r grwp pwyso hefyd wedi ysgrifennu at y cwmni a gyflogwyd gan y datblygwyr i asesu effaith iaith ei ddatblygiad, CDN Planning, i ofyn pam bod gwefan y cwmni yn uniaith Saesneg.

Fe fydd y mudiad yn cynnal rali ar ddechrau'r flwyddyn newydd yn Llangefni (21ain Ionawr 2012) i dynnu sylw at y pryderon am yr atomfa newydd. Meddai Menna Machreth, llefarydd Gwynedd-Mon, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Os mae'n wir mai datblygwyr sy'n ariannu'r asesiad iaith yma, byddai fe'n gywilyddus. Dylai asesiadau o effaith datblygiadau fel Wylfa B ar yr iaith Gymraeg fod yn gwbl ddiduedd. Mae'n amser i bobl ddeffro a gweld mor andwyol fydd y datblygiad hwn i'r iaith Gymraeg ar Ynys Môn a Gwynedd. Eisoes bu honiadau fod cwmni Horizon yn 'bwlio' ffermwyr yn ardal y datblygiad i werthu'r tir iddynt, a dylem gefnogi teulu Caerdegog sy'n gwrthod gwerthu'r tir maent wedi ei ffermio ers cenedlaethau.

"'Dyn ni'n ar ddeall bod hyd at dri chwarter o'r swyddi yn gysylltiedig ar unrhyw orsaf niwclear newydd ar yr Ynys yn mynd i fynd i bobl o tu allan i Ogledd Cymru. Bydd datblygiadau tai wrth y miloedd yn dilyn. Pam derbyn yn slafaidd gynlluniau San Steffan am orsaf niwclear pan fedrwn ni ddangos dychymyg a chreu economi werdd ein hunain?"

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt newid y rheolau sy'n caniatáu datblygwyr i gomisiynu a thalu am astudiaethau iaith o'u datblygiadau eu hunain.

23 Tachwedd 2011 |

 

E-ddeiseb: Adalw Cynlluniau Datblygu Lleol

deffrorddraig.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi deiseb Deffro'r Ddraig sydd yn galw am ad-alw holl Gynlluniau Datblygu Lleol drwy Gymru oherwydd pryder fod tai di-angen yn cael eu codi. Bydd y ddeiseb yn cau ganol dydd y 30ain o Dachwedd.

I arwyddo'r ddeiseb pwyswch yma: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories_all.htm?pet_id=590

9 Tachwedd 2011 |

 

Datblygiad tai Caerfyrddin, angen dechrau o'r dechrau

protest-s4c.JPGMae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Gaerfyrddin i adalw'r Cynllun Datblygu Lleol ar frys, wrth i wrthwynebiad lleol i gynllun, a fyddai'n golygu codi tua 11,600 o gartrefi newydd yn yr ardal, gynyddu.

Bydd y cynllun yn cynnwys codi dros fil o gartrefi newydd ar gyrion Gorllewinol Caerfyrddin. Mae'r mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi annog eu haelodau a chefnogwyr i ymateb i ymgynghoriad y Cyngor yn gwrthwynebu'r cynlluniau.

Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gar Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r datblygiad yma yn gwbl anaddas ar gyfer Sir Gar heddiw. Nid yw'r cynllun yn seiliedig ar ymchwil trylwyr o'r angen lleol, ond yn hytrach ar ddata sydd wedi dyddio. 'Does dim angen y tai yma yn lleol. Ni chafwyd asesiad digon trylwyr o'r effaith ar yr iaith Gymraeg - byddai hynny wedi dangos y bygythiad mawr a fyddai'n dod yn sgil y datblygiad. Dylai'r Cyngor ddechrau o'r newydd, a dylid cychwyn drwy sicrhau cyfnod o ymchwil trylwyr i'r angen am dai ymysg poblogaeth y sir."

"Hefyd, mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar agwedd cynllunio'n lleol tuag at yr iaith newydd ddod i ben. Felly oni ddylid rhewi'r cynlluniau yn Sir Gar nes bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfeiriad clir i'r cyngor?"

Dywedodd Hywel Griffiths, llefarydd Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r sefyllfa yng Nghaerfyrddin yn symptom o argyfwng sydd yn effeithio cymunedau ar hyd a lled Cymru, sef bod datblygiadau tai diangen, anaddas ac anghynaladwy yn cael eu gorfodi ar gymunedau sydd yn eu gwrthwynebu. Eisoes rydym wedi gweld gwrthwynebiad cryf i ddatblygiadau tai arfaethedig yng Ngogledd Cymru, ym Modelwyddan, er enghraifft. Nid yr angen lleol sy'n gyrru'r datblygiadau yma, ond yr angen i greu elw i ddatblygwyr.

"Yn ogystal, mae'r asesiadau a wnaed o effaith y datblygiadau yma ar y Gymraeg yn eithriadol o wan. Rhaid inni ddangos i'r awdurdodau lleol ac i Lywodraeth y Cynulliad bod gorfodi'r cynlluniau fel ag y maent yn annerbyniol, a phwyso am eu had-alw'n syth."

Mae ymgynghoriad y Cyngor ar eu cynlluniau datblygu yn cau am 4.30pm ar 19 Awst 2011, fe allai unrhyw drigolyn o Sir Gar ymateb trwy e-bostio blaengynllunio@sirgar.gov.uk , danfon ffacs at 01267 228785 neu ei bostio at Y Rheolwr Blaen-gynllunio, 40 Heol Spilman, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1LQ. Enghraifft o ymateb ar gael yma.

15 Awst 2011 |

 

Cynllun Sir Gâr yn bygwth yr Iaith - Angen gweithredu ar frys!

Mae cynllun Cyngor sir Gaerfyrddin i adeiladu dros 11,000 mil o dai yn y sir yn bygwth ein cymunedau a dyfodol y Gymraeg.

Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad i'r cynllun, ac mae angen ymateb erbyn 4.30pm ar 19 Awst 2011.

Mae crynodeb o'r cynllun ar gael yma: http://online.carmarthenshire.gov.uk/cccapps/ldpcarmdeposit/local_plan/supporting_files/Deposit_Summary_Welsh.pdf

Rydym yn annog ein holl aelodau a chefnogwyr i ymateb gan gynnwys y pwyntiau isod:

Gwrthwynebaf Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ei gyfanrwydd, ac nid wyf yn credi ei fod yn gadarn oherwydd:

Nid yw'n seiliedig ar yr angen lleol cyfredol, yn hytrach ar ddata poblogaeth sydd flynyddoedd oed.

  • Mae'n cynllunio ar gyfer mewnfudo tybiedig yn hytrach nac ar gyfer anghenion y boblogaeth leol.
  • 20 % yn unig o'r tai a fydd yn cael eu dynodi fel tai fforddiadwy, sy'n golygu y bydd 80 % yn anfforddiadwy i bobl leol. Hyd yn oed o'r 20 % yna, does dim sicrwydd y bydd y tai yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y dyfodol.
  • Ni wnaed asesiad annibynnol digon trylwyr ar effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg.
  • Mae cynllunio ar gyfer mewnfudiad o'r maint yma yn anghynaliadwy o ran gwasanaethau cyhoeddus a'r amgylchedd.

Galwaf yn hytrach am:

  • Ad-alw'r Cynlluniau Datblygu Lleol a mynd ati o'r newydd i fesur yr angen lleol yn drwyadl.
  • Sicrhau hawl i dy addas ar rent i bobl ifanc sydd am aros yn eu cymunedau.
  • Asesiad o'r potensial i ddefnyddio tai gwag er mwyn ateb unrhyw alw lleol presennol.
  • Ymrwymiad clir i sicrhau asesiad annibynnol o effaith pob datblygiad arfaethedig ar yr iaith Gymraeg, ac y bydd modd gwrthod datblygiad ar sail tystiolaeth yr asesiad hwnnw.

Gallwch ebostio eich ymateb at blaengynllunio@sirgar.gov.uk, ei ffacsio at 01267 228785 neu ei bostio at Y Rheolwr Blaen-gynllunio, 40 Heol Spilman, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1LQ. Cofiwch bod RHAID i chi gynnwys eich enw a chyfeiriad yn Sir Gaerfyrddin, a'i anfon erbyn 4.30pm ar 19 Awst 2011.

Os hoffech chi ymateb yn fwy llawn, mae modd lawrlwytho copi o'r ffurflen ymateb swyddogol yma: http://www.sirgaerfyrddin.gov.uk/English/environment/planning/Planning%20Policy%20and%20Development%20Plans/Local%20Development%20Plan/Documents/DEPOSIT%20LDP%20QUESTIONNAIRE_Layout%201.pdf

Diolch am eich cefnogaeth.

12 Awst 2011 |

 

Cyfarfod Lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy

2pm, Dydd Mawrth, 2ail Awst
Pabell y Cymdeithasau 2
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Siaradwyr:
Llyr Huws Griffiths AC
Sel Jones
Mair Rowlands UMCB
Gwenno Puw Y Parc
Nia Lloyd Deffro'r Ddraig Wrecsam

Bron i hanner canrif yn ol ysbrydolodd darlith Tynged yr Iaith weithredu chwyldroadol sydd wedi sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg. Er hynny, mae'n debyg y bydd canlyniadau'r cyfrifiad eleni yn dangos dirywiad mawr yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau. Byddwn yn lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy a fydd yn gosod sylfaen ar gyfer mynd i'r afael a'r broblem hon.

Dewch draw er mwyn dechrau llunio siarter ar gyfer eich cymuned chi!

2 Awst 2011 |

 

Seiclo dros y Gymraeg, lansiad siarter

Fe gyrhaeddodd dau ymgyrchydd iaith faes yr Eisteddfod heddiw (Dydd Mawrth Awst 2) ar ol seiclo dros 70 milltir er mwyn tynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.kali-robin-020811.jpg

Seiclodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Crag a Kali Stuart, o'u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod 'Lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ar faes yr Eisteddfod. Ar eu siwrnai ymwelon nhw â nifer o gymunedau gan gynnwys y Parc yng Ngwynedd.

Yn annerch y cyfarfod ar Faes yr Eisteddfod, yr oedd nifer o gynrychiolwyr cymunedol, gan gynnwys Nia Lloyd o ymgyrch Deffro'r Ddraig, Wrecsam a Gwenno Puw o ymgyrch Ysgol y Parc, ger y Bala, yn ogystal â'r Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Llyr Huws Griffiths. Yn siarad ar ôl cyrraedd yr Eisteddfod, dywedodd Robin Crag:

"Mae dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol o dan fygythiad mawr, ac mae angen tynnu mwy o sylw at y potensial i warchod a chreu cymunedau Cymraeg Cynaliadwy. Mae nifer o ffactorau yn milwrio yn erbyn y Gymraeg yn ein cymunedau. Mae bygythiadau i ysgolion cymunedol, ac mae ideoleg y Llywodraeth San Steffan yn annog i bobl ifanc symud i ffwrdd o'u cymunedau i chwilio am waith yn cyfrannu at yr her. Dyn ni wedi beicio i'r Eisteddfod trwy nifer o gymunedau gwahanol, am fy mod i'n credu y gall bob cymuned yng Nghymru fod yn un gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ieithyddol."

Ychwanegodd Hywel Griffiths, llefarydd Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Yn gynharach eleni cyhoeddwyd darlith 'Tynged yr Iaith 2 sydd yn amlinellu'r her newydd i'r Gymraeg yn y degawdau i ddod. Bron i hanner canrif yn ôl ysbrydolodd darlith Tynged yr Iaith weithredu chwyldroadol sydd wedi sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg. Er hynny, mae'n debyg y bydd canlyniadau'r cyfrifiad eleni yn dangos dirywiad mawr yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau. Byddwn yn lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy a gobeithiwn yn gosod sylfaen ar gyfer mynd i'r afael a'r broblem hon."

"Mae'r siarter yn pwysleisio fod gan bob cymuned yng Nghymru'r botensial i fod yn gymuned Gymraeg. Mae gyda ni, yn y Gymdeithas, weledigaeth dros gymunedau cynaliadwy ym mhob ystyr y gair yn economaidd, amgylcheddol ac yn ieithyddol."

Fe fydd y ddau seiclwr hefyd yn mynd draw i gyflwyno'r siarter i Bryn Fôn a'r Band Al Lewis a Daniel Lloyd a fydd yn perfformio yn yr Orsaf Ganolog (Central Station) yng nghanol dref Wrecsam heno (8pm, Nos Fawrth, Awst 2).

2 Awst 2011 |

 

Seiclo i'r Steddfod dros gymunedau Cymraeg

robin-a-kali.jpgFe fydd dau ymgyrchydd iaith yn seiclo dros 70 milltir i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam i dynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Crag a Kali Stuart, fydd yn seiclo o'u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod lle trafodir tynged y Gymraeg fel iaith gymunedol ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod. Ar eu siwrnai o gyffiniau Caernarfon draw i faes y brifwyl, fe fyddan nhw'n ymweld â nifer o gymunedau gan gynnwys y Parc, Gwynedd, ac yn cario'r siarter "Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy" a lansir yn y cyfarfod.

Yn annerch y cyfarfod ar y dydd Mawrth, fydd nifer o gynrychiolwyr cymunedol, gan gynnwys Nia Lloyd o ymgyrch Deffro'r Ddraig, Wrecsam a Gwenno Puw o ymgyrch Ysgol y Parc, ger y Bala, yn ogystal â'r Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Llyr Huws Griffiths.

Yn siarad cyn y daith, fe ddywedodd Robin Crag:

"Mae dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol o dan fygythiad mawr, ac mae angen tynnu mwy o sylw at y potensial i warchod a chreu cymunedau Cymraeg Cynaladwy. Mae nifer o ffactorau yn milwrio yn erbyn y Gymraeg yn ein cymunedau. Mae bygythiadau i ysgolion cymunedol, ac mae ideoleg y Llywodraeth San Steffan yn annog i bobl ifanc symud i ffwrdd o'u cymunedau i chwilio am waith yn cyfrannu at yr her. Dwi'n beicio i'r Eisteddfod trwy nifer o gymunedau gwahanol, am fy mod i'n credu y gall bob cymuned yng Nghymru fod yn un gynaladwy yn amgylcheddol ac yn ieithyddol."

Fe fydd y ddau seiclwr hefyd yn mynd draw at gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gyflwyno'r siarter i Bryn Fôn a'r Band Al Lewis a Daniel Lloyd a fydd yn perfformio yn yr Orsaf Ganolog (Central Station) yng nghanol dref Wrecsam ar y noson honno. Ychwanegodd Robin Crag:

"Rydyn ni'n falch o gael cefnogaeth yr artistiaid i'r siarter. Gobeithio y bydd nifer o bobl yn dod i gefnogi'r ymgyrch dros ein cymunedau yn ogystal â mwynhau unig gig Bryn a'i fand llawn yn ystod yr Eisteddfod."

Fe ddywedodd Hywel Griffiths, llefarydd Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Yn gynharach eleni cyhoeddwyd darlith 'Tynged yr Iaith 2 sydd yn amlinellu'r her newydd i'r Gymraeg yn y degawdau i ddod. Bron i hanner canrif yn ôl ysbrydolodd darlith Tynged yr Iaith weithredu chwyldroadol sydd wedi sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg. Er hynny, mae'n debyg y bydd canlyniadau'r cyfrifiad eleni yn dangos dirywiad mawr yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau. Byddwn yn lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy a gobeithiwn yn gosod sylfaen ar gyfer mynd i'r afael a'r broblem hon.

"Mae'r siarter yn pwysleisio fod gan bob cymuned yng Nghymru'r botensial i fod yn gymuned Gymraeg. Mae gyda ni, yn y Gymdeithas, weledigaeth dros gymunedau cynaliadwy ym mhob ystyr y gair yn economaidd, amgylcheddol ac yn ieithyddol."

Mae dal rhai tocynnau ar ol i'r gig am 8pm nos Fawrth - ar werth am £9 yr un ar-lein o cymdeithas.org/steddfod ac yn bersonol o Gaffi Yales Wrecsam, Awen Meirion Y Bala, Elfair Rhuthun, ac o swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd.

23 Gorffennaf 2011 |

 

Rali Cymunedau Cynaliadwy, Rhuthun

NA i gynllun tai Bodelwyddan

NEUADD Y SIR, RHUTHUN
10.30am SADWRN 02.07.11

Siaradwyr:
Llyr Huws Gruffydd
Hywel Griffiths
Alys Jones
Derek Barker

rali-na-bodelwyddan.jpg

2 Gorffennaf 2011 |

 

Angen 'chwyldro tai' er mwyn achub cymunedau - protest Bodelwyddan

protest-bodelwyddan.jpgBu ymgyrchwyr yn galw am 'newidiadau radical' yn y gyfundrefn cynllunio mewn protest yn erbyn datblygiad tai enfawr yng ngogledd Cymru heddiw (Dydd Sadwrn, Gorffennaf 2).

Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu cynllun i godi dwy fil o adeiladau newydd ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych, cynllun a fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55.

Cafodd y brotest, tu allan i neuadd y sir yn Rhuthun, wedi ei drefnu ar y cyd rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Gr?p Gweithredu Bodelwyddan.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dadlau bod y datblygiad arfaethedig ym Modelwyddan yn enghraifft o broblem ehangach gyda'r system gynllunio, sydd yn rhoi buddiannau datblygwyr o flaen anghenion lleol. Yn siarad cyn y rali, fe ddywedodd Hywel Griffiths llefarydd cymunedau'r mudiad:

"Gwneud elw ydy prif fwriad cynllun tai Bodelwyddan - gan gwmni Americanaidd sydd am dreblu maint y pentref - nid gwasanaethu'r gymuned. Mae ein cymunedau Cymraeg ar fin diflannu am byth yn rhannol oherwydd cynlluniau fel hyn. Unwaith eto, mae datblygiadau tai ar gyfer cymudwyr fel hyn yn dangos diffygion mawr y system cynllunio bresennol. System sydd yn rhoi anghenion datblygwyr yn gyntaf yn hytrach nag anghenion y gymuned."

"Mae gyda ni, yn y Gymdeithas, weledigaeth dros gymunedau cynaliadwy ym mhob ystyr y gair. Mae angen symud i ffwrdd o system sydd yn annog pobl i gymudo yn bell i'r gwaith. Mae angen creu cymunedau sydd yn gynaliadwy yn economaidd, amgylcheddol ac yn ieithyddol. Ni fydd chwyldro tai fel hyn yn plesio datblygwyr, ond dyna'r peth gorau i'n cymunedau."

2 Gorffennaf 2011 | Mwy...

 

Gwrthdystiad - Datblygiad Tai Bodelwyddan

9yb, Dydd Gwener, 20fed o Fai, Neuadd y Sir, Rhuthun

Bydd Gr?p Amddiffyn Bodelwyddan yn gwrthdystio tu allan i gyfarfod llawn o Gyngor Sir Ddinbych i drafod Cynllun Datblygu Lleol y sir, gan gynnwys y cynllun i godi 1200 o dai ym Modelwyddan. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.30yb.

20 Mai 2011 |

 

Tynged yr Iaith 2 (Trawsgrifiad o'r Ddarlith)

Darlith a draddodwyd yn fyw ar y we gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn y Gell, Blaenau Ffestiniog ar Ionawr 15fed 2011, bron i hanner can mlynedd ar ôl darlledu darlith 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis ar y radio. Y nod oedd rhannu gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith ar sut i sicrhau Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy.

Hanner can mlynedd yn ôl, namyn blwyddyn, traddodwyd darlith a oedd i newid hanes yr iaith Gymraeg am byth. Darlith gan un dyn ydoedd, ond sbardunodd ei eiriau filoedd ar filoedd o bobl i wrthsefyll y bygythiad i'r iaith Gymraeg i fyw. Ie, trwy ddulliau chwyldro yn unig yr oedd llwyddo, a phenderfynodd ymgyrchwyr ifanc nad oeddent am ymostwng i'r drefn lygredig a oedd yn parhau i geisio cadw'r iaith Gymraeg yn ei lle. Gweithredwyd yn gadarnhaol o blaid newid. ymrwymwyd i'r dull di-drais gan beidio ag ateb trais â'r trais a ddangosodd y drefn i'r Gymraeg, ond gan fodloni i aberthu er mwyn cael cyfiawnder i'r iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg

Trwy'r gweithredu y bu Cymdeithas yr Iaith yn rhan ohono yn ystod yr hanner canrif ers traddodi Tynged yr Iaith, daeth ymwybyddiaeth a balchder newydd. Yn fwy na dim enillwyd hyder yn yr iaith Gymraeg, hyder o wybod nad iaith aelwyd ac iaith capel yn unig yw'r iaith Gymraeg, ond iaith a allai estyn ei hun i bob math o sefyllfaoedd fel unrhyw iaith arall. Roedd diwylliant y sin roc Gymraeg yn dangos sut roedd chwyldro'r iaith Gymraeg yn goresgyn rhagfarnau y rheiny oedd yn dweud nad oedd modd i'r Gymraeg ddod allan o'r aelwyd a'r capel. Taniodd Tynged yr Iaith ar weledigaeth y cenedlaethau wedi hynny, a gwn iddynt weld nad oes angen bodloni ar y drefn anghyfiawn ond fod modd, gyda'n gilydd, i drawsnewid sefyllfa er mwyn gadael i'r iaith Gymraeg i fyw. Yn fwy na dim, bu newid meddylfryd ymysg pobl Cymru a magwyd balchder yn yr iaith a'i diwylliant. Daeth y slogan 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg' yn rhywbeth i'w wireddu ym mhob maes o fywyd.

Trwy ymgyrchu dyfal a gwneud safiad dros y Gymraeg bu nifer o enillion. Mae'r enillion a fu yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn byw ar ryw ffurf. Ar ddechrau'r cyfnod newydd hwn, y gwir gwestiwn yw 'Pa fath o ddyfodol sydd i'n hiaith? Rydym ymhell iawn o sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol lawn y gellir ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ai ar ffurf symbolaidd yn unig y bydd ein hiaith yn byw? Ai diwylliant i leiafrif yn unig? Iaith y dosbarth neu iaith un neu ddau mewn swyddfa fydd y Gymraeg, yn hytrach nag iaith sy'n rhan o adfywiad cymuned gyfan. Ar hyn o bryd, dyma dynged yr iaith Gymraeg ac fe fydd y darlun yn gwaethygu. Dyma'r argyfwng sy'n ein wynebu ni nawr fel pobl sy'n caru'r Gymraeg. Rydym yn colli tir yn gyflym iawn.

Yn rhan o'r argyfwng sydd yn ein hwynebu ar hyn o bryd yw'r ffaith fod yr hyn sy'n cael ei weld yn cael ei wneud yn arwynebol yn unig - nid yw'n mynd yn ddigon pell. Nid yw'n Llywodraeth ni ein hunain yn gweithredu gyda gweledigaeth ac ysbryd. Maent yn gwneud digon i ymddangos eu bod yn mynd i wneud gwahaniaeth, yn addurno'u gweithredoedd â'r geiriau cywir i geisio tawelu lleisiau'r lleiafrif sydd am eu herio. Maent yn ein hargyhoeddi i gredu eu bod yn gwneud eu gorau dros ein cymunedau a'n gwlad. Dydy hynny mewn gwirionedd ddim gwell na'r siopau a'u harwyddion Cymraeg prin sy'n ein twyllo i feddwl eu bod yn cynnig gwasanaeth digonol i ni ac y dylen ni fod yn ddiolchgar amdano, nid ei gwestiynu na mynnu gwell. Gwelwn hyn o ddydd i ddydd:

  • Cwmnïau sydd yn cynnig canran bach o dai yr honnir eu bod yn fforddiadwy mewn datblygiad tai newydd nad sy'n adlewyrchu galw yn lleol
  • Cynghorau yn addo y caiff ysgol bentrefol ei chadw ar agor, ond bydd ysgol arall mewn cymuned gyfagos yn cael ei chau er mwyn i hyn ddigwydd - nid dim ond gweithredu yn arwynebol sydd yma ond rhoi dwy gymuned yn erbyn ei gilydd.
  • Cynlluniau iaith sydd yn caniatáu i siopau enfawr ymfalchïo eu bod yn rhoi ambell arwydd Cymraeg yn eu siopau.

Does dim dwywaith fod y Gymraeg a'n cymunedau yn colli tir ers tipyn o amser. Rydym yn gweld y problemau sydd yn wynebu'r Gymraeg o ddydd i ddydd yn ein cymunedau a bellach maent yn rhywbeth rydym wedi arfer ag ef. Rydym yn dygymod â'r ffaith nad oes fawr ddim yn cael ei wneud am y peth. Er hynny nid yw anwybyddu'r sefyllfa yn mynd i ddatrys unrhyw beth, dim ond cadarnhau'r dynged yma, ac er bod yr heriau sydd yn wynebu ein cymunedau wedi newid cryn dipyn ers darlledu fersiwn gwreiddiol yr araith rydym yn dal i weld gwir argyfwng. Oherwydd hyn, mae angen araith 'Tynged yr Iaith' newydd er mwyn ein deffro i'r argyfwng newydd sy'n ein hwynebu.

Gadewch i ni ymhelaethu ymhellach ar natur yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae'r term 'dwyieithog' yn rhan o rethreg y Cynulliad a nifer o feysydd eraill wrth sôn am eu perthynas â'r Gymraeg. Fodd bynnag, profiad nifer o bobl yw nad yw'r Gymraeg yn ddim ond rhywbeth ymylol i nifer o'r cyrff sy'n honni eu bod yn ddwyieithog. Yn anorfod, ystyr y term dwyieithog yw mai Saesneg yw iaith y gwaith neu'r gweithgarwch a bod y Gymraeg yn ychwanegyn ar ben hyn, yn wasanaeth eilradd, yn un neu ddau arwydd, yn un neu ddau swyddog sy'n gallu delio â phobl sy'n achosi trafferth am y Gymraeg. Iaith ymylol yw'r Gymraeg yn y cyd-destun hwn.
Daw hyn yn amlwg mewn nifer o achosion. Yn achos cofnod y Cynulliad, penderfynwyd dileu'r cofnod ysgrifenedig Cymraeg ond cadw'r cofnod yn y Saesneg. Dyma neges glir oddi wrth ein sefydliad cenedlaethol fod y Saesneg yn hanfodol, ond nad yw'r Gymraeg yn hanfodol.

Yn y Mesur Iaith Gymraeg newydd, cafwyd consesiwn gan Lywodraeth y Cynulliad wrth iddynt gyfaddawdu o ran statws swyddogol ond gwrthodasant yr hawliau ymarferol i roi sylwedd i'r statws hynny. Mae hyn yn cadarnhau mai eisiau gweld yr iaith Gymraeg fel symbol yn unig y maent, heb roi arfau i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg.

Ers 1993, preifateiddiwyd nifer o'r cyrff a oedd yn cynnig gwasanaethau Cymraeg, ac felly collwyd llawer o dir. Yn achos BT yn benodol, bu cyfnod lle'r oedd rhan helaeth o'u gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg i bawb . Bellach, rhaid gwneud cais arbennig am wasanaeth Cymraeg a datgelwyd y llynedd fod gwasanaethau Cymraeg yn costio mwy i'r defnyddiwr na gwasanaeth Saesneg. Yn achos y gwasanaethau telegyfathrebu newydd daeth môr o ddeunyddiau uniaith Saesneg. Y gobaith yw y byddai Comisiynydd Iaith Gymraeg newydd yn medru rhoi hawliau i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ond nid yw siopau yn rhan o'r pwerau sydd gan y Cynulliad dros yr iaith Gymraeg felly hanner y job a wnaed. Mae'n llwyr ddibynnol ar bersonoliaeth y Comisiynydd yn awr oherwydd ef neu hi, ar y cyd â'r Cynulliad a fydd yn pennu gofynion gwasanaeth Cymraeg ar y sector telegyfathrebu. Fe fydd lobi fawr ar ran y cwmnïoedd telegyfathrebu yn ceisio gwanhau'r dyletswyddau a bydd dinasyddion eto wedi eu gadael heb hawliau i wneud yn si?r fod y gwasanaeth Cymraeg yn deg iddyn nhw.

Ym Mhrifysgol Bangor, mae prosiect ar y gweill o'r enw Pontio sydd yn fuddsoddiad yn y celfyddydau ym Mangor ac yn rhan o gynllun adfywio cymunedol. Dyma enghraifft o gynllun a allai gael ei weinyddu yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg, pe bai'r ewyllys i wneud hynny. Yn hytrach, mae'r rhan fwyaf o swyddi hyd yn hyn wedi eu nodi fel rhai lle nad oes rhaid cael unrhyw sgiliau Cymraeg i gael y swydd. Dyma enghraifft o'r perygl o'r tocenistiaeth sydd i'r iaith yn rhan o'r argyfwng rydyn ni'n ei wynebu nawr. Mae pob gweithgaredd, beth bynnag y bo'r maes, yn digwydd drwy gyfrwng iaith, ond dydyn ni byth yn dweud fod buddsoddiad yn fuddsoddiad iaith Saesneg, oherwydd dyna'r iaith de facto. Yr iaith Saesneg yw'r iaith economaidd felly nid yw'n cael ei farcio fel cyfrwng buddsoddiad. Mae gwaith sy'n digwydd drwy'r iaith Gymraeg yn tueddu o fod mewn bocs, neu'n is-gategori, gan bwysleisio nad iaith prif-ffrwd yw'r iaith Gymraeg.

Ym maes addysg, gwnaed llu o enillion oherwydd dycnwch rhieni i frwydro am addysg cyfrwng Cymraeg. Serch hynny, mae perygl yn awr y byddwn yn colli tir yn sgìl yr agenda addysg 14-19 oed, preifateiddio'r gwasanaeth gyrfaoedd, hyfforddiant yn y gweithle a'r rhuthr enfawr i gau ysgolion pentrefol Cymraeg. Nid yw'r Gymraeg yn cael ei gweld fel sgil addysg sy'n hanfodol ar gyfer byw yn y Gymru ddwyieithog hon. Rhaid optio i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg ac yn aml mae'n rhaid teithio allan o gymuned er mwyn gallu cael yr addysg honno. Yn fwyfwy, caiff y Gymraeg ei gweld fel cyfrwng addysg arbennig yn hytrach na chyfrwng byw.

Colli tir yr ydym ni yn sicr. Mae peryg i'r un buddugoliaeth mawr eiconig, sef y sianel Gymraeg, S4C. Bellach, mae'r sianel mewn sefyllfa anodd iawn oherwydd y toriadau sydd wedi eu gorfodi gan y Llywodraeth Geidwadol /Ddemocrataidd Rhyddfrydol yn Llundain. Dyfodol ansicr sydd gan y sianel ar hyn o bryd ar ôl iddi gael ei throsglwyddo i'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig. Os collwn y frwydr hon bydd yr holl adnoddau a ddynodir ar gyfer yr iaith Gymraeg mewn peryg. Nodwn nad dyma'r S4C y brwydrwyd yn hir amdani. Dylai'r buddsoddiad unigryw hwn i'r iaith Gymraeg fod yn ymwybodol iawn o'r rôl y gall chwarae i wireddu cymunedau cynaliadwy o'i reoli yn ddoeth a chyfiawn.

Yn yr un modd yr ymgyrchodd Cymdeithas yr Iaith am sianel Gymraeg yn y saithdegau fel bod y Gymraeg ar flaen y gad yn y cyfryngau, rydym ninnau angen sicrhau fod y Gymraeg yn gyfrwng yn yr oes ddigidol a'n bod yn defnyddio'r cyfryngau digidol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae angen gwneud yn fawr o'r posibiliadau newydd er mwyn parhad yr iaith yn y degawdau i ddod.

Rydym yn byw mewn degawd o doriadau ar draws gwledydd Ewrop - oherwydd tueddiadau a gormodeddau'r farchnad. Mae'r Gymdeithas yn chwarae rhan mewn brwydr draws-fudiadol yn erbyn y toriadau hyn yn gyffredinol: nid yw'n gyfiawn nac yn foesol i ddisgwyl i leiafrifoedd, y tlawd, a phobl ar yr ymylon i dalu am gamgymeriadau'r sector ariannol a'r llywodraethau oedd yn ei gwasanaethu. Er mai diffyg rheoleiddio'r farchnad rydd oedd wrth wraidd y dirwasgiad, yn groes i synnwyr cyffredin, mae llywodraeth y DG, yn ogystal â nifer o lywodraethau eraill, wedi ymateb i'r argyfwng drwy dorri ymhellach ar amddiffynfeydd y gwan yn wyneb tueddiadau cyfalafol. Roedd yn dderbyniol i adael i'r diwydiant glo, y glowyr a'u cymunedau, ddioddef a marw oherwydd anghenion y farchnad, ond nid y bancwyr. Gadewch i'r rhai ar yr ymylon ddioddef yn enw perffeithrwydd y farchnad, ond nid y rhai sydd yn ei rheoli!

Mae'r colli tir ar ei amlycaf os edrychwn ar ein cymunedau Cymraeg. Ni all neb wadu fod ein cymunedau ar drai o ganlyniad i lu o ffactorau, ac yn sicr fe fydd y cyfrifiad nesaf yn dangos y cwymp pellach yn y canran o siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau traddodiadol Cymraeg. Fel drych o'r hyn sydd wedi'i gyflawni o ran statws yr iaith, rydyn ni wedi ennill yr egwyddor - sef statws cynllunio i'r Gymraeg. Rhaid mynd yn ffurfiol trwy'r broses o ystyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg ym maes cynllunio, ond yn ymarferol mae grymoedd y farchnad yn yr economi ac ym maes cynllunio yn erydu cymunedau Cymraeg. Mae'r doethineb confensiynol yn pwysleisio pwysigrwydd tyfiant economaidd - ar unrhyw delerau - a gweithrediad dilyffethair y farchnad rydd. Golyga'r doethineb hwn mai anghenion y farchnad ac nid anghenion pobl a'u cymunedau sydd yn rheoli datblygiad economaidd. Mae'r drefn hon yn tanseilio cynaladwyedd ein cymunedau. Caiff grym ei ganoli i ffwrdd oddi wrth gymunedau lleol, a chwalu sail economaidd y cymunedau hynny ynghyd â rhagolygon yr iaith Gymraeg. Yr un grymoedd strwythurol sydd yn tanseilio cymunedau Cymraeg ag sydd yn bygwth pobloedd a'u diwylliannau a'u hamgylcheddau ar draws y byd. Mae ein brwydr yn wedd Gymreig ar frwydr fyd-eang dros drefn economaidd sydd yn gwasanaethu pobl yn hytrach nag yn eu rheoli. Cawn ein coloneiddio gan frandiau - anghenion a grëwyd gan y corfforaethau amlwladol sydd tu allan i'n cymunedau a thu hwnt i'n rheolaeth.

Yn wir, does dim rhaid i ni ddamcaniaethu am y dyfodol. Mae'r arwyddion gweladwy o'n cwmpas ym mhob man. Gallem gyfeirio at liaws o sefyllfaoedd trwy Gymru a tebyg yw eu stori:

Yn ein trefi, yn y gorffennol, byddai canol y dref yn ganolbwynt i fywyd y trigolion ac i'r wlad o gwmpas. Buasai'r masnachu oll wedi digwydd mewn siopau cymharol fach yng nghanol y dre - siopau a fyddai, gan fwyaf, dan berchnogaeth leol. Er na fyddai fawr ddim arwyddion Cymraeg, ni fyddai llawer o arwyddion o unrhyw fath; byddai'r sgwrsio yn Gymraeg yn nifer ohonynt a'r incwm yn aros yn y gymuned.

Mewn nifer o drefi erbyn hyn digwydd rhan helaethaf y masnachu tu allan i'r dref ei hun, mewn siopau mawr tebyg i Tesco a Morrisons. Siopau sydd yn cynnig popeth i bawb ac sydd yn denu cwsmeriaid lleol gydag addewidion o gynnyrch rhad ac yn eu tynnu o'r dref. Mae'r cwmnïau hyn yn rhoi peth statws symbolaidd i'r Gymraeg, digon er mwyn argyhoeddi cwsmeriaid eu bod yn gwneud eu rhan ond eto nad sydd wedi ceisio integreiddio o gwbl i'r gymuned. Mae'r holl waith difrifol o ddydd i ddydd yn digwydd drwy'r Saesneg. Mae'r trigolion lleol sydd yn gweithio yno yn gwneud y tro â swyddi isel eu statws a chyda nifer oriau bach iawn tra bod y staff sy'n rheoli yn dod o'r tu allan ac yn cael eu penodi yn ôl anghenion y siop i wneud arian, nid anghenion y bobl leol. Mae'r incwm a ddaw o bocedi lleol yn diflannu'n electronig o fewn eiliadau i gyfrifon yn Lloegr.

O gwmpas y siopau hyn y daw gwasanaethau newydd sydd yn gweld cyfle i wneud elw hawdd ac sydd hefyd yn ddwyieithog mewn enw ond yn Saesneg mewn sylwedd. Pan fydd cyllid cyhoeddus yn caniatáu efallai y bydd adeilad Ysgol Gymraeg newydd hefyd yn creu ynys yn y dref newydd Saesneg ac yn tynnu plant o'r cymunedau o gwmpas. Efallai y daw mwy o dai hefyd - ond heb unrhyw ffocws cymunedol. Bydd rhai yn gwasanaethu gweithwyr 9-5 sydd ond yn drigolion yn ystod y nosweithiau; neu yn gwasanaethu fel ail-dai sydd ond yn gweld defnydd achlysurol. Nid yn unig y bydd y defnydd cymunedol o'r Gymraeg yn dirywio, ond hefyd yr holl ymdeimlad o gymuned. Ni fydd yma lawer o drigolion sefydlog, a bydd hyn yn arwain at golli'r gymuned sefydlog.

Mae canolbwynt - ac yn wir canol - y dref wedi symud pellter sylweddol i ffwrdd o Gymreictod a chymuned naturiol i fyd corfforaethol sydd yn talu gwrogaeth i'r Gymraeg ond sy'n hollol Saesneg yn ei hanfod. Hon bellach fydd 'y dref'.

Yn ôl at y dref wreiddiol, sydd efallai yn 'hen dref' dwristaidd a fydd yn weddol ffyniannus yn ystod yr Haf, ond bydd y siopau bach yn mynd a dod a newid yn aml, gan gau ar ôl i'w chwsmeriaeth dwristaidd adael am y tymor. Ambell siop gadwyn rad a siop angenrheidiol fydd yr unig siopau parhaol ac a fydd yn denu cwsmeriaid yn achlysurol. Ond mae'n debyg y bydd nifer o siopau gwag.

Mae posibilrwydd mai dim ond arian o gynllun i geisio adfywio'r dref fydd yn ei chynnal am rai blynyddoedd, nes i'r gronfa honno ddod i ben. Dirywio bydd hanes yr 'hen dref' wedyn.
Heblaw bod y dref yn rhan o ddatblygiad newydd i ddenu pobl nol i'r dref. Datblygiadau fydd yn golygu adeiladu ar gyrion y dref er mwyn cynnig 'gwell profiad' i gwsmeriaid wrth siopa. Siopau cadwyn fydd y rhain eto, siopau sydd yn rhan o'r meddylfryd o gynnig gwasanaethau dwyieithog arwynebol yn unig. Yn rhan o'r datblygiad hwn bydd llefydd bwyta a maes parcio yn rhan o'r pecyn er mwyn cadw pobl yn y dref, ond a fydd mewn gwirionedd yn cadw pobl yng nghlydwch y complecs. Eto, nid y dref go iawn fydd hon ond estyniad ohoni, a'r un fydd tynged y dref go iawn wrth i bobl gael eu tynnu oddi yno.

A dyma fydd tynged ein trefi, yn ddi-os. Realiti Cymru fydd y dref newydd ar gyrion realiti'r gorffennol - gyda pharch symbolaidd yn unig i'r Gymraeg a phopeth o sylwedd yn Saesneg. Heblaw i ni weld buddsoddiad go-iawn sy'n mynd ymhellach nag arian. Cyn i'r buddsoddiadau hyn ddigwydd rhaid i ni weld gwerth ein cymunedau - yn ei phobl a phopeth sy'n rhan ohoni - a deffro eraill i hyn.

Cwestiwn sylfaenol "Tynged yr Iaith 2" yw pa fath ar ddyfodol a fynnwn i'r iaith? Ai statws symbolaidd ac is-ddiwylliant mewn byd mawr Saesneg, neu a ydym am ddal ar y cyfle olaf hwn i frwydro dros fywyd llawn i'r Gymraeg a bywyd newydd i'n cymunedau ? Dyma'r argyfwng sy'n ein hwynebu, ac mae'n rhaid i'n hymateb fod yn deilwng ohonom fel pobl sy'n caru'r iaith ac eisiau iddi barhau. Rydym yn ymwybodol iawn nad yw un ddarlith yn mynd i ateb unrhyw beth. Yn hytrach, rydym eisiau i'r prynhawn yma fod yn ddechrau gweledigaeth hirdymor i'r Gymraeg. Gweledigaeth sy'n gweld y Gymraeg yn hanfod o bob rhan o fywyd Cymru. Rydym eisiau gweld ein cymunedau yn cael eu hadfywio law yn llaw ag adfywiad yr iaith Gymraeg. Yn y gorffennol rydym wedi cyhoeddi maniffesto gwleidyddol bob degawd er mwyn ymateb i'r oes honno. Ac yn ysbryd y dull di-drais cydnabyddwn nad oes gennym yr atebion i gyd. Dyna pam rydym yn awyddus i Tynged yr Iaith 2 fod yn faniffesto esblygol. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dathlu hanner can mlynedd ers traddodi'r ddarlith wreiddiol a hanner can mlynedd ers i wreichion Cymdeithas yr Iaith ddechrau deffro meddyliau pobl i bosibiliadau'r iaith Gymraeg. Camwn yn awr i gyfnod newydd i ddeffro cymunedau cyfan i ail-afael yn y Gymraeg a mynnu ei bod yn byw fel iaith gymdeithasol. Ein bwriad felly yw edrych eto ar hanfod y frwydr ac ar Dynged yr Iaith. Nid oes neb yn gallu cymryd lle Saunders Lewis felly cywaith yw'r araith hon a chywaith hefyd fydd y weledigaeth ar gyfer dyfodol ein cymunedau. Rydym felly yn gofyn i holl bobl Cymru fod yn effro ac yn barod i dderbyn yr her o fod yn rhan o'r weledigaeth.

Dewch gyda ni i ddeffro cymunedau ledled Cymru, i ryddhau'n hunain oddi wrth ddisgwyliadau'r farchnad ac i osod ein disgwyliadau ein hunain am ddyfodol ein cymunedau. Ni ddylem adael i'n hunain fod yn ddarnau o wyddbwyll yn y gêm gyfalafol sydd yn dinistrio ein cymunedau. Arfogwn ein hunain yn ein cymunedau a rhoi gwerth ar gymuned a sylweddoli gwerth bob dinesydd sy'n byw yn y gymuned honno. Sylweddolwn o'r newydd heddiw rym y slogan a ddatblygodd dros ddegawdau o ymgyrchu - " Os yw'r Gymraeg i fyw, rhaid i bopeth newid." Gwir a ddywedodd Saunders fod angen chwyldro i achub y Gymraeg. Sylweddolwn o'r newydd beth yw maint y chwyldro.

Gallwch ail-wylio'r darllediad isod:



Tynged yr Iaith 1 - Saunders Lewis

Pwyswch yma i ddarllen y ddarlith wreiddiol gan Saunders Lewis ym 1962 a Newidiodd Hanes Cymru.
Gallwch wrando ar ddarlith Saunders Lewis ar wefan y BBC yma.

11 Chwefror 2011 |

 

Beirniadu Cynllun Tai Bodelwyddan

Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu cynllun i godi 2,000 o adeiladau newydd gan gynnwys cartrefi a siopau ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun i drafod asesiad gan y Cyngor Sir i effaith tebygol y datblygiad ar gymuned y pentref a'r iaith Gymraeg.

Roedd tua 80 o bobol wedi mynd i'r cyfarfod er mwyn gwrthwynebu'r cynllun fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55. Bydd ymgynghoriad chwe wythnos i'r datblygiad yn dechrau ar 26 Ionawr. Dywedodd Glyn Jones, Cadeirydd rhanbarth Clwyd ymdeithas yr Iaith:

"Gwneud elw ydy prif fwriad cynllun tai Bodelwyddan gan gwmni Americanaidd a fyddai'n treblu maint y pentref, dim gwasanaethu'r gymuned. Mae ein cymunedau Cymraeg ar fin diflannu am byth yn rhannol oherwydd cynlluniau fel hyn. Unwaith eto, mae datblygiadau tai ar gyfer cymudwyr fel hyn yn dangos diffygion mawr y system cynllunio bresennol. System sydd yn rhoi anghenion datblygwyr yn gyntaf yn hytrach nag anghenion y gymuned. Roedd yn drueni na ddaeth dim un o swyddogion y cyngor draw i'r cyfarfod neithiwr i glywed barn y cyhoedd. Mae angen diddymu'r cynllun isranbarthol rhwng swydd Caer a'r Gogledd Ddwyrain a newid y gyfraith fel bod y system gynllunio yn rhoi pobl yn gyntaf."

Stori llawn ar wefan golwg360...

19 Ionawr 2011 |

 

Llwyddiant Cymuned Waungilwen

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar am gefnogi cymuned Waungilwen, Drefach Felindre a gwrthwynebu argymhelliad y swyddogion cynllunio i ganiatau datblygiad o 13 o dai yn y pentref. Mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ddoe 23/11/10 fe siaradodd aelodau o gymuned Waungilwen a'r cynghorydd sir leol John Crossley yn gryf yn erbyn y cais yma a fyddai'n cael effaith mor niweidiol ar iaith a diwylliant y gymuned fach glos yma. Hefyd yn siarad roedd Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a Chynghorydd Cymuned yn ward Llangeler. Yn ei haraith wrth annerch y cynghorwyr dywedodd:

"Fe fyddai pleidleisio o blaid y datblygiad yma heddiw yn ergyd enfawr i'r iaith Gymraeg ac i gymuned Waungilwen sydd yn gymuned a 64% yn siarad Cymraeg yn ol cyfrifiad 2001. Pan welwch chi fel Cynghorwyr, cymuned yn brwydro mor gryf dros eu dyfodol fe fuaswn yn gofyn i chi eu cefnogi'n llwyr."

Mewn ymateb i bleidlais y Cynghorwyr a bleidleisiodd 9 i 8 i wrthod y cais dywedodd Ms Clwyd:

"Mae'r canlyniad yma yn newyddion gwych i gymuned Waungilwen sydd wedi brwydro'n hynod o galed dros y blynyddoedd diwethaf i wrthwynebu'r cynlluniau yma ac yn dyst i'w gwaith diflino a'u hagosatrwydd fel cymuned. Hoffwn longyfarch pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar am gael y dewrder i wrthwynebu argymhelliad y swyddogion cynllunio a hynny oherwydd yr effaith y byddai'r datblygiad arfaethedig wedi ei gael ar iaith a diwylliant y gymuned yn ogystal ag oherwydd y perygl o lifogydd. Ychydig wythnosau yn ol fe basiwyd cynnig yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith yn gofyn ar i gynrychiolwyr etholedig ein pobl i gipio'r rheolaeth yn ôl oddi wrth y swyddogion, sydd ar hyn o bryd yn rhedeg ein Cynghorau Sir. Rydym yn hynod o falch fod Cynghorwyr y pwyllgor cynllunio wedi dangos arweiniad yma ac wedi gwneud penderfyniad ar sail yr effaith ar ein cymunedau. Gofynnwn i Fwrdd Gweithredol y Cyngor Sir i ddilyn arweiniad y pwyllgor cynllunio wrth drafod ein cymunedau a dyfodol ein hysgolion pentrefol."

http://arlein.sirgar.gov.uk/agendas/cym/PCYN20101123/SUM03.HTM
http://arlein.sirgar.gov.uk/agendas/cym/PCYN20101123/SUM03_01.HTM

24 Tachwedd 2010 |

 

Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy

cynhadledd-wrecsam-medi10.jpg

Pryd? Dydd Sadwrn, Medi 25ain

Ble? Theatr Nick Whitehead, Prifysgol Glyndwr, Wrecsam

Cynhelir cynhadledd i drafod dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol ar ddydd Sadwrn y 25ain o Fedi ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam. Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith, ymgyrchwyr cymunedol o ardal y gogledd ddwyrain, gwleidyddion lleol a chenedlaethol ac arbenigwyr cynllunio yn cyflwyno ac yn trafod rhai o'r prif broblemau sydd yn wynebu'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Mae grymoedd y farchnad a thueddiadau demograffig ac economai...dd yn parhau i fygwth dyfodol y Gymraeg fel y gwnaethant ers degawdau. Yn anffodus systemau cynllunio yn aml yn llesteirio parhad yr iaith fel iaith gymunedol yn hytrach na'i gwarchod. Fodd bynnag, mae trafodaethau ynglyn a chynaladwyedd cymunedol ac amgylcheddol yn cynnig cyfleon newydd a radical i weithredu er lles y Gymraeg.

Y gobaith yw y bydd y drafodaeth yma yn esgor ar syniadau newydd i ymgyrchwyr a gwleidyddion fel ei gilydd.

Dewch draw i Wrecsam felly i gynnig eich syniadau chi!

Os ydych yn bwriadu mynychu, rhowch wybod inni os gwelwch yn dda - swyddfa@cymdeithas.org

10.00: Cofrestru

10.15: Araith agoriadol (Hywel Griffiths)

10.30: Panel Ymgyrchwyr: astudiaethau achos o broblemau cynllunio (Cadeirydd: Hywel Griffiths)
i: Pol Wong (Deffro'r Ddraig)
ii: Roberta Owen (Trawsnewid Treffynnon)
iii: Ffred Ffransis (Cymdeithas yr Iaith, ardal Penllyn)
iv: Osian Jones (Cymdeithas yr Iaith, dyffryn Nantlle)

11.30: Panel arbenigwyr cynllunio (Cadeirydd Osian Jones)
i: Gordon James (Cyfeillion y Ddaear)
ii: John Glyn Jones
iii: Carrie Harper

12.30-14.00: Cinio

14.15: Panel y gwleidyddion (Cadeirydd Menna Machreth)
i: Susan Elan Jones AS (Llafur)
ii: Y Cyng. Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol)
iii: Y Cyng. Marc Jones (Plaid Cymru)
iv: Y Cyng. Alwyn Gruffydd (Llais Gwynedd)
v: Jake Griffiths (Y Blaid Werdd)

15.30: Crynhoi

16.00: Cyfarfod mewnol y gr?p cymunedau Cymraeg cynaliadwy

25 Medi 2010 |

 

Bygythiad i gymunedau gogledd Cymru - Cynhadledd Undydd

cynhadledd-wrecsam-bach.jpgBydd gwleidyddion, arbenigwyr ac ymgyrchwyr yn trafod sut i amddiffyn cymunedau yng ngogledd Cymru mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Glyndwr yfory (10am, Dydd Sadwrn, 25 Medi) yn sgil bygythiadau megis y cynllun is-ranbarthol Caer-Gogledd Dwyrain Cymru a chau ysgolion mewn ardaloedd gwledig. (Manylion llawn o'r gynhadledd yma.)

Trefnir y gynhadledd Cymunedau Cymreig Cynaliadwy gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam ddydd Sadwrn Medi 25. Ymysg y gwleidyddion sy'n cymryd rhan yn y gynhadledd mae Susan Elan Jones Aelod Seneddol Llafur De Clwyd, Aled Roberts (Democrat Rhyddfrydol) Arweinydd Cyngor Wrecsam, Cynghorydd Wrecsam Marc Jones (Plaid Cymru) a Jake Griffiths o'r Blaid Werdd.

Bwriad y gynhadledd, a fydd yn dechrau am 10 o'r gloch y bore, y trafod polisïau a chyfnewid syniadau fydd yn arwain at greu cymunedau Cymreig a Chymraeg cynaliadwy, yn ôl gofynion cymunedau lleol yn hytrach na chwmniau adeiladu.

Dywedodd Hywel Griffiths sydd yn arwain ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros gymunedau cynaliadwy:

"Ein bwriad yw edrych ar ddwy ardal yn benodol. Byddwn yn edrych ar effaith cynllun is-ranbarthol Caer-Gogledd Ddwyrain Cymru ac ardal Wrecsam a'r cyffiniau. Yna fe fyddwn yn edrych ar y sefyllfa yn ardal Penllyn ym Meirionnydd a ddaeth i frig y newyddion yn ddiweddar oherwydd y bwriad i gau Ysgol y Parc. Mae creu cymunedau cynaliadwy, yn amgylcheddol, economaidd ac yn ieithyddol yn holl bwysig. Nid ydym fel cymdeithas eisiau gweld y farchnad rhydd yn rheoli bywydau pobl yn ein gwlad, pobl yn hytrach nag elw dylai fod y flaenoriaeth."

23 Medi 2010 | Mwy...

 

Dogfen - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy, Cynllun Adfywio Cymunedau Penllyn

Dogfen - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy, Cynllun Adfywio Cymunedau Penllyn, Awst 2010 (PDF 204KB)

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

31 Awst 2010 |

 

Adfywio cymunedau Cymraeg, lansiad prosiect 'arloesol'

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cynllun peilot a ddadleuant y gallai fod yn fodel ar gyfer adfywio cymunedauBydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cynllun peilot a ddadleuant y gallai fod yn fodel ar gyfer adfywio cymunedau Cymraeg ar draws y wlad yn Sioe Meirion heddiw.

Ar faes y sioe ger Harlech, bydd y Gymdeithas yn cyflwyno'r copi cyntaf o "Gynllun Adfywio Cymunedau Penllyn" i Eifion Davies ar ran Partneriaeth Penllyn (Cynghrair o Gynghorau Cymuned yn Ardal Y Bala).

Mewn datblygiad cyfochrog, bydd Bryn Fon a bandiau poblogaidd eraill yn chwarae mewn g?yl yn y Parc, ger Y Bala, fel rhan o'r frwydr i gadw eu hysgol ar agor a gynhelir ar Ddydd Llun G?yl Banc Awst (30ain Awst).

Mae'r Gymdeithas yn gobeithio y bydd cymunedau Cymraeg eraill yn ymgymryd â'r gwaith o lunio Cynlluniau Adfywio.

25 Awst 2010 | Mwy...

 

Newidiadau cynllunio 'hwb i gymunedau Cymraeg'

Deddf Eiddo - GwyneddMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu cyhoeddiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd y bydd canllawiau cynllunio, TAN6, yn cael ei ddiwygio.

Dywedodd Dr Hywel Griffiths, Llefarydd Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Ers blynyddoedd mae'r system gynllunio cymhleth wedi atal pobl ifanc rhag adeiladu tai ar dir teuluol ac wedi eu gorfodi i adael eu cymunedau. Mewn cymunedau lle mae pris y farchnad yn gwbl anghymesur a chyflogau lleol, bydd hyn yn un ffordd o alluogi pobl ifanc i fyw ac i weithio yn eu cymunedau.

Ychwanegodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae angen i'r polisi yma gael ei weithredu yn llawn mewn ardaloedd fel y Parc Cenedlaethol. Mae argyfwng ysgolion gwledig Gwynedd a Chonwy wedi dangos yn glir yr angen dybryd am ffyrdd o sicrhau bod teuluoedd ifainc yn medru aros yn eu cymunedau. Gobeithio y bydd y newidiadau yma yn gam tuag at sicrhau dyfodol cynaliadwy i'n cymunedau Cymraeg."

20 Gorffennaf 2010 |

 

Cynlluniau y Toriaid yn 'ddifaol i gymunedau Cymraeg'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Toriaidd/Democratiaid Rhyddfrydol yn Llundain am grybwyll syniadau a allai fod yn ddifaol i gymunedau Cymraeg yn yr un ffordd y dinistrwyd cymunedau Gwyddeleg eu hiaith yn Iwerddon ganrif a hanner yn ól.

Mewn cyfweliad yn un o'r papurau Dydd Sul, dywedodd Ysgrfenydd Gwaith a Phensiynau San Steffan: "Britain had one of the most static workforces in the western world with people locked into areas." Yr awgrym oedd y dylid gosod cymhellion i bobl symud i ardaloedd eraill i chwilio am waith.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Menna Machreth:

"Mae llawer o'n cymunedau iaith Gymraeg yn dioddef o ddiffyg cyfleoedd gwaith difrifol ar gyfer pobl ifanc. Ymddengys bod y Toriaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau rhwygo'r cymunedau hyn wrth annog pobl i symud i ardaloedd eraill i chwilio am waith, ac felly'n chwyddo problem sydd eisoes yn argyfyngus. Atgoffir rhywun ynghylch sut y dinistrwyd cymunedau iaith Wyddelig yn y 19eg ganrif drwy allfudo anferth. Mae yna dueddiad yn sicr. Mae cau gwasanaethau cymunedol fel ysgolion hefyd yn golygu nad yw teuluoedd yn debygol o godi aelwyd mewn cymunedau iaith Gymraeg ac felly bydd y cymunedau hyn yn colli eu bywyd."

29 Mehefin 2010 | Mwy...

 

Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith

Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y Llywodraeth

Cafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.

1cyfarfodt-gen09.jpgCyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:

Cafwyd ymateb da iawn wrth Gynghorwyr Sir a'r gynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau mewn cyfarfod arbennig i drafod sut i greu Cymuned Gymraeg Gynaliadwy. Bu Carl Clowes yn sôn sut y llwyddodd Antur Aelhaearn i osod yr hinsawdd briodol ar gyfer adfywio cymuned Gymraeg. Esboniodd Ffred Ffransis am gynllun newydd, Cynllun Adfywio Cymunedol, sy'n cael ei ffurfio ar hyn o bryd wrth i Gymdeithas yr Iaith gydweithio â chymunedau Penllyn. Amcan y cynllun yw i gymuned grymuso ei hun drwy gynllunio dros eu cymuned, gan fedru defnyddio'r cynllun fel arf i allu ymateb yn holistig i ddatblygiadau neu fygythiadau i'r gymuned. Bu ymatebion cadarnhaol gan Dylan Edwards (Cynghorydd Lleol) a Dyfed Edwards (Arweinydd Cyngor Gwynedd) a'r gynulleidfa o dros 100 o bobl, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn gobeithio y bydd cymunedau eraill â diddordeb i gydweithio ar gynllun tebyg. Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd grwp ymgyrch Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith:

'Yn y cyfarfod hwn roeddwn yn edrych am ffyrdd o rymuso a sbarduno ein cymunedau lleol fel eu bod yn eu hadfywio eu hunain a hynny oddi mewn i ganllawiau y Cynlluniau Datblygu Lleol.'

Pwyswch yma i weld lluniau o'r digwyddiad

1protest-gen09.jpgProtest 'Mae'r amser yn dod i Ben...' Pwerau llawn dros y Gymraeg i Gymru.

Roedd 200 o bobl wedi ymuno â Chymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod i rybuddio Llywodraeth y Cynulliad fod yr amser yn prinhau i fedru trosglwyddo'r pwerau dros y Gymraeg cyn yr etholiad nesaf. Rhybuddiwyd fod y Gweinidog Treftadaeth yn euog o beidio gwneud mwy i sicrhau Gorchymyn mwy eang, a'r Ysgrfenydd Gwladol yn euog o rwystro taith y Gorchymyn.

Fe wnaeth degau o fynychwyr y brotest weithredu'n uniongyrchol ar faes yr Eisteddfod, drwy osod sticeri ar stondin Llywodraeth y Cynulliad. Roedd y sticeri yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg. Bu Sian Howys yn siarad tu allan i stondin y Llywodraeth:

'Yr her i'r Gweinidog Treftadaeth yw i ddeddfu er mwyn gwneud gwahaniaeth fel y mae deddfu wedi gwneud gwahaniaeth mewn meysydd eraill o anghydraddoldeb. Os ydym ni eisiau gweld mwy o hawliau i'r Gymraeg, rhaid i ni eu enwi nhw, eu cywilyddio nhw a'u herio nhw bob gam o'r ffordd.'

Pwyswch yma i weld lluniau o'r digwyddiad.

Cynllunio logo y Coleg Ffederal ar Faes yr Eisteddfod

Ar Ddydd Llun 3ydd Awst, roedd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:

'Er mwyn cynyddu'r ymwybyddiaeth fod y Coleg ar fin dod o'r diwedd, rydym yn trefnu'r gystadleuaeth logo ar gyfer y sefydliad nwydd, gan wahodd pobl i alw yn ein huned ar Faes yr Eisteddfod trwy'r wythnos i lunio cynigion.'

9 Awst 2009 |

 

Dros 100 yn mynychu Cyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy'

cyfarfodt-gen09.jpgDaeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:

"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn. Ein gobaith ni yw y bydd y syniadau sy'n deillio o'r cyfarfod heddiw, nid yn unig yn berthnasol i Benllyn ond yn rhai y gall pobl sy'n byw mewn cymunedau Cymraeg ar hyd a lled Cymru eu defnyddio. Mae'n rhaid i bawb sy'n poeni am ddyfodol ein cymunedau fynnu'r p?er i ddiogelu'r dyfodol hwnnw. Gwelwn y cyfarfod hwn fel man cychwyn i weithgarwch fydd yn ymestyn drwy Gymru gyfan."

5 Awst 2009 | Mwy...

 

Uchafbwyntiau Protest Hawl i Rentu


25 Ionawr 2009 | Mwy...

 

Meddiannu Eiddo dros ein Cymunedau Cymraeg

7.jpg
Am 11 yb ar ddydd Sadwrn yr 24ain o Ionawr, meddiannwyd fflat yn natblygiad Doc Fictoria yng Nghaernarfon gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'r weithred symbolaidd hon yn rhan o'r ymgyrch dros ddyfodol cymunedau Cymraeg Cymru, a thros sefydlu'r Hawl i Rentu fel rhan o?r ateb i'r argyfwng sy'n wynebu'r cymunedau hynny. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol i gyd-weithio er mwyn sicrhau cynnydd yn y nifer o dai ar rent sydd ar gael i bobl leol.

24 Ionawr 2009 | Mwy...

 

60,000 yn aros am dai cyngor yn y gogledd

bawd_deddf_eiddo.jpgtaicyngor.jpgCyhoeddwyd yn y Daily Post heddiw, bod 60,000 o unigolion yn disgwyl ar rhestrau aros am dai cyngor ar draws gogledd Cymru. Meddai Osian Jones, trefnydd y gymdeithas yn y gogledd:

"Rydym fel cymdeithas, wedi bod yn disgwyl am fisoedd lawer i dderbyn cyfres o atebion ynglyn a'r sefyllfa dai yma yn y gogledd, gan holl gynghorau sir yr ardal. Un o'r cwestiynau ydoedd yn syml - 'faint sydd ar eich rhestr aros am dai cyngor', nid ydym wedi derbyn unrhyw ateb gan unrhyw un o gynghorau'r gogledd. Ac wrth ddarllen bod 60,000 yn aros heddiw yn y Daily Post, mae hi'n amlwg mai methiant llwyr ydi polisïau tai yr holl gynghorau?

19 Ionawr 2009 | Mwy...

 

Cymuned Pont-Tyweli yn ennill brwydr arall

bawd_deddf_eiddo.jpgMae ymgyrchwyr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, ger Llandysul wedi ennill brwydr arall yn ei hymgais i atal datblygiad o 31 o dai 4 ystafell wely yn eu pentref. Gohiriwyd penderfyniad heddiw gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gar, tra eu bod yn aros am gyngor cyfreithiol pellach ynghylch a yw'r caniatad a roddwyd nol yn 1990 i adeiladu 31 o dai dal yn ddilys a'u peidio.

21 Hydref 2008 | Mwy...

 

A fydd datblygwyr yn llwyddo i dwyllo Cyngor Sir Gar?

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder y bydd datblygwyr yn llwyddo i wthio trwodd y datblygiad tai dadleuol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin fory, yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin am 10am, a fydd yn tanseilio cymuned Cymraeg yn Nyffryn Teifi. Gwrthodwyd y datblygiad o 50 o dai a gynigwiyd gan cwmni Eatonfield yn Rhagfyr 2007 gan y Cyngor Sir ar y sail y byddai datblygiad o'r fath yn tanseilio iaith y gymuned leol. Roedd y datblygiad o 50 o dai yn cynnwys 15 "token" o dai "fforddiadwy".

8 Hydref 2008 | Mwy...

 

Dim un ty fforddiadwy ym Mhont-Tyweli

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.

11 Awst 2008 | Mwy...

 

Protest: Hawl i Rentu! CAERDYDD

1pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Protest: Hawl i Rentu!
Uned Cymdeithas yr Iaith

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008
Hywel Griffiths, Iestyn ap Rhobert.

Mynd â’r alwad dros ‘Hawl i Rentu’ at Uned Llywodraeth y Cynulliad lle’r codir Ty Unos.

Mae’n ffasiynol iawn i’r holl bleidiau gwleidyddol son am “dai fforddiadwy” y dyddiau hyn. Mae datblygwyr yn cael caniatad i godi nifer mawr o dai drud a di-angen ar yr amod fod ychydig o dai “fforddiadwy” yn eu plith. Fel arfer ychydig iawn o drigolion lleol all fforddio’r tai “fforddiadwy”.

Un ateb tuag at sicrhau cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau yw cynnydd mawr yn y nifer o unedau i’w rhentu. Symud tuag at sefydlu “Hawl i Rentu” i bobl leol yn lle hen bolisi Thatcher o “Hawl i Brynu”. Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch!

• Oherwydd anhawster cael morgais, dyma unig gyfle llawer i gael cartre yn eu cymuned
• Mae prisiau tai’n disgyn, felly mae’n fwy ymarferol i Gynghorau brynu tai ar werth a’u rhentu i bobl leol.
• Rhaid fod y tai ar rent yn y mannau iawn yn ein cymunedau – nid mewn stadau canolog yn unig.
• Rhaid fod y tai o’r mathau sy eisiau – yn cynnwys unedau ar gyfer pobl ifainc.
• Rhaid wrth system deg i osod tai i bobl leol
• Gall trefniadau rhan-berchnogaeth fod yn rhan o’r cynllun “Hawl i Rentu”

Nid dyma’r holl ateb i broblem sicrhau cartrefi yn ein cymunedau, ond bydd yn gam mawr ymlaen ar gyfer y rhai mwyaf anghenus yn ein cymunedau ac ar gyfer pobl ifainc sy’n ceisio penderfynu a oes dyfodol iddynt yn eu cymunedau.

Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch – dewch i weld yr arddangosfa yn uned y Gymdeithas ar faes y Steddfod, a dewch i orymdeithio gyda ni i fynd a’r alwad at Lywodraeth y Cynulliad!

Ac i ddilyn...

2.15pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Gweithdy Cymunedau Rhydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith

Mae ymgyrch Hawl i Rentu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio yn yr eisteddfod. Bydd yn ymgyrch weithredol er mwyn sicrhau bod un cyfran o’n polisiau ni i amddiffyn ein cymunedau Cymraeg yn cael ei weithredu. Mae’n gofyn am weithgarwch gan aelodau o bob ardal o Gymru, felly dewch draw i’r uned i glywed am y cynlluniau, i drafod ac i ddysgu am ein polisiau.

8 Awst 2008 |

 

Codi 'Ty Unos' ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

bawd_deddf_eiddo.jpgEr mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.

8 Awst 2008 | Mwy...

 

Ymateb i'r cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i adroddiad gyhoeddwyd ar y cyd yn y Sioe Amaethyddol gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Dafydd Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Mae'n dda gennym weld cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ran cynnig darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg i denantiaid cymdeithasau tai, er nad oes llawer o fanylion wedi eu cyhoeddi ganddynt ar sut maent yn bwriadu diogelu a datblygu’r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghymru, sef ail elfen y cydweithio."

24 Gorffennaf 2008 | Mwy...

 

O ddifri am y Gymraeg? - Yr Her i'r Llywodraeth | Serious about Welsh? - The Challenge for Government

Rydym bellach wedi profi dros ddeng mlynedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac wedi profi llywodraethau yn cynnwys y blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Nodweddwyd y deng mlynedd diwethaf gan amrywiaeth o bolisïau ar yr iaith Gymraeg. Pwrpas cyntaf y pamffledyn hwn yw dadlau na fu yr un o’r polisïau yma, o Iaith Pawb hyd at y sefyllfa bresennol gyda chlymblaid Cymru’n Un, o ddifrif ynglŷn a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, un ai oherwydd diffyg ewyllys neu ddiffyg ymarferol. Ei ail bwrpas yw gosod her syml a diamwys wrth ddrws llywodraeth glymbleidiol bresennol y Blaid Lafur a Phlaid Cymru – cyflwynwch ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac effeithiol ar yr iaith Gymraeg fel cam cyntaf tuag at ddangos bod y sefyllfa yma ar newid.

Dogfen: O ddifrif am y Gymraeg? - Yr her i'r Llywodraeth (pdf - 444kb)
I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

We have now seen ten years of devolution in Wales, and have experience of various administrations at some point including the Labour party, the Liberal Democrats and Plaid Cymru. The past ten years have also seen a number of policies relating to the Welsh language. This pamphlet’s first purpose is to show that none of these policies, from Iaith Pawb to the current position of the One Wales coalition, have been serious about safeguarding the future of the Welsh language, either due to ideological failings or practical failings. Its second purpose is to set the current Labour-Plaid coalition a clear challenge – to introduce comprehensive and effective legislation on the Welsh language as a first step to showing that this situation is about to change.

Dogfen: Serious about Welsh? - The Challenge for Government (pdf - 587kb)
To view the above PDF file, you will need Adobe Reader - Which can be downloaded free of charge.

30 Mai 2008 |

 

Don't let the planners con the council

bawd_deddf_eiddo.jpg

After receiving a knock back on their previous application for 50
houses in Pont-Tyweli, Llandysul, as it was decided by the council
planning authority that such a development would damage the local
community, the developers - Eatonfield Group, have now resubmitted an
application which Cymdeithas yr Iaith claim is an attempt to con the
council into giving them what they wanted.

8 Mai 2008 | Mwy...

 

Peidiwch gadael i'r datblygwyr twyllo'r Cyngor

bawd_deddf_eiddo.jpg

Mae cwmni datblygu Eatonfield wedi ail gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Gár wedi i'w cais gwreiddiol gael ei wrthod gan y Cyngor, oherwydd y niwed fyddai'n gwneud i'r gymuned leol. Dywed Cymdeithas yr Iaith fod hon yn ymgais i dwyllo'r Cyngor er mwyn i'r datblygwyr gael eu ffordd eu hunain.

8 Mai 2008 | Mwy...

 

Ewch y filltir ychwanegol

bawd_deddf_eiddo.jpgTra'n cefnogi cynnig Llywodraeth y Cynulliad i hybu awdurdodau lleol i brynu tai a'i rhentu yn ôl i berchnogion tai â phroblemau ad-dalu morgeisi, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ddatblygu'r syniad a sefydlu polisi 'hawl i rentu'.

21 Ebrill 2008 | Mwy...

 

Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi cymuned San Clêr

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i drigolion pentref San Clêr yn eu hymgyrch i atal datblygiadau tai niferus yn y pentref. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno am 7.30pm yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr i drafod y camau nesaf i atal y datblygiadau.

18 Mawrth 2008 | Mwy...

 

Rhaid ystyried anghenion pobl leol a'r iaith Gymraeg wrth ystyried cynllunio

bawd_deddf_eiddo.jpgCafodd cynghorwyr yng Ngheredigion eu beirniadu am ganiatáu ceisiadau cynllunio gan siaradwyr Cymraeg er bod argymhelliad i'w gwrthod.

Dywedodd Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, eu bod nhw'n cefnogi penderfyniad y cynghorwyr i gefnogi pobl leol.

24 Ionawr 2008 | Mwy...

 

Cyngor Sir Gar yn Gwrthod Cais am Dai

bawd_deddf_eiddo.jpgMae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod. Fe wnaeth y pwyllgor cynllunio gyfarfod am 10.30am bore yma Iau yr 20ed o Ragfyr i drafod y cais dadleuol, a wrthwynebwyd yn chwyrn gan y gymuned leol; ac er llawenydd mawr i'r gymuned ac i aelodau'r Gymdeithas yn lleol fe gytunodd y pwyllgor cynllunio gyda'r swyddogion ac fe wrthodwyd y cais.

20 Rhagfyr 2007 | Mwy...

 

Twyll Datblygwyr

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol. Sicrhaodd y cwmni fod y caniatad yn dal yn ddilys drwy dorri twll yn y clawdd a dadlau fod hyn yn dystiolaeth fod y gwaith adeiladu eisioes wedi cychwyn.

29 Tachwedd 2007 | Mwy...

 

Dim Esgusodion y tro yma medd Cymdeithas

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi atgoffa Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr y byddant yn trafod y datblygiad tai arfaethedig yn Waungilwen, Drefach Felindre gyda thudalen wag. Apeliodd y Gymdeithas at y cyfarfod pwyllgor a gynhelir ddydd Iau Medi 27ain am 10.30 yn swyddfeydd y Cyngor, i sicrhau fod y broses gynllunio yn cynnal cymunedau hyfyw yn hytrach na chael ei defnyddio fel trwydded i argraffu arian ar gyfer datblygwyr.

21 Medi 2007 | Mwy...

 

Cyngor yn anwybyddu barn pobl leol am ddatblygiad tai

bawd_deddf_eiddo.jpgBydd Swyddogion Cynllunio Cyngor Sir Gar heddiw'n argymell bod y Pwyllgor Datblygu (sy'n cyfarfod am 10.30am Iau 30 Awst yn Neuadd y Sir) yn cymeradwyo cais cynllunio i godi 52 o dai newydd ym mhentref Porthyrhyd, a thrwy hynny'n dyblu maint y pentref.

30 Awst 2007 | Mwy...

 

CYFARFOD: Ardal yr Wyddgrug: Rhybudd i Gymru Gyfan, EISTEDDFOD GEN

Cyfarfod Deddf Eiddo -‘Ardal yr Wyddgrug: Rhybudd i Gymru Gyfan’
Astudiaeth achos o ddatblygiadau tai anaddas
3pm, 06/08/07, Pabell Cymdeithasau, Maes yr Eisteddfod

digwyddiadau-cyig-stedd07.jpg

6 Awst 2007 |

 

Rhybudd yn erbyn colli ein cymunedau fesul ychydig

bawd_deddf_eiddo.jpgBydd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd, yn dweud wrth gyfarfod cyhoeddus a drefnir gan gymuned leol Waungilwen heno fod perygl i ni golli ein cymunedau Cymraeg fesul ychydig.

28 Mehefin 2007 | Mwy...

 

Cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn haeddu sylw proffesiynol

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Eifion Bowen, Pennaeth Cynllunio Cyngor Sir
Gâr, i derfynu'r broses o ganiatau i gwmniau datblygu fynd ati eu hunain i baratoi'r Astudiaethau Effaith ar y Gymraeg.

17 Mai 2007 | Mwy...

 

Llafur wedi'i chwalu yn y Gymru Gymraeg

LlafurMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw heddiw ar Blaid Cymru ac ar y Rhyddfrdwyr Democrataidd i sicrhau na chaiff Llafur Newydd fynd yn ei blaen i anwybyddu'r Gymru Gymraeg yn dilyn ei chwalfa yn yr Etholiad.

4 Mai 2007 | Mwy...

 

Bygythiad o'r newydd i gymuned Pont-Tyweli

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi hysbysu pobl Pont-Tyweli fod y cais am 50 o dai ym Mhont-Tyweli, gan Eatonfield group, wedi ei ail-gyflwyno i'r Cyngor. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2006 ond fe dynnwyd y cais yn ol ym mis Ionawr 2007.

5 Ebrill 2007 | Mwy...

 

30/01/07: Bygythiad i ddyfodol pentref wedi ei dynnu yn ol am y tro

07/09/06: Gwrthwynebu datblygiad tai Pont-tyweli

24/05/06: Achos tai Penmorfa - Prawf o anallu'r drefn gynllunio i ddiogelu lles yr Iaith Gymraeg

08/03/06: Gofyn am gyfarfod brys gyda Carwyn Jones AC

23/02/06: Adroddiad yn pwysleisio gwendid sylfaenol y drefn gynllunio

02/11/05: Cynrychiolwyr o gymunedau yn ymweld a'r Cynulliad i fynnu dyfodol

02/11/05: CYFLWYNO DEISEB: Y Cynulliad, Caerdydd

29/10/05: RALI: Dyfodol ein Cymunedau, Caernarfon

29/10/05: Dim cymuned Gymraeg erbyn y flwyddyn 2020

29/10/05: Recordiad Byw Rali Deddf Eiddo

03/08/05: Argyfwng Tai - Enghraifft arall o fethiant Llywodraeth y Cynulliad

11/07/05: 1 allan o 6 i lywodraeth y Cynulliad

04/07/05: Llafur yn gwrthod trafod argyfwng tai.

30/06/05: Gwrthod ehangu Marina Pwllheli

12/06/05: Deiseb yn galw am Ddeddf Eiddo i Gymru!

11/06/05: Colli Capel Celyn - Colli'n Cymunedau Cymraeg

11/06/05: Casglu llofnodion yn y Bala

11/06/05: Rali Tryweryn – Deddf Eiddo

05/06/05: Cysgu ar y stryd dros Ddeddf Eiddo

04/06/05: Deddf Eiddo ar Daith

18/05/05: Rheoli'r Farchnad dai - Lansio ymgynghori cyhoeddus.

17/05/05: Y Llawlyfr Deddf Eiddo: Mai 2005

01/04/05: Y Gymdeithas yn cyfarfod gyda Dai Lloyd Evans

28/03/05: Chwifio baner o furiau Castell Caernarfon

17/01/05: Ymchwiliad Cyhoedddus Ceredigion - Y Gymraeg yn eilradd

03/01/05: RALI TAI: Deddf Eiddo i Gymru - CAERNARFON

03/01/05: 200 yng Nghaernarfon yn galw am Ddeddf Eiddo

02/01/05: Rali Calan - Deddf Eiddo i Gymru!

31/12/04: Prisau afresymol - Rhaid rheoli'r farchnad dai!

02/11/04: Lansio Ymgyrch Newydd dros Gymunedau Cymraeg – yn dilyn methiant y Cynulliad!

25/10/04: Gweithredu uniongyrchol i dynnu sylw at fethiant Cyllideb y Cynulliad

11/10/04: Cyllideb ddrafft y Cynulliad - Hollol annigonol!

04/10/04: Ymchwiliad Cyhoeuddus i'r CDU yn cychwyn Dydd Iau!

06/08/04: Cyfarfod Protest – Cyllidwch ein Cymunedau

12/07/04: Protestio gyda chadwyni yng Nghaerfyrddin

12/07/04: Protestio yn swyddfeydd y Llywodraeth er mwyn tynnu sylw at argyfwng tai

08/07/04: Protest llwyddiannus yn dod i ben gydag addewid am ragor o arian i'r farchnad dai

08/07/04: Protestio ar y to er mwyn tynnu sylw at argyfwng tai

23/06/04: Prif Swyddog yn dangos cefnogaeth i brotest dai Caernarfon

05/06/04: Annog Ymgeiswyr Sir Gar i ddechrau o'r dechrau gyda'r CDU

22/05/04: Cymunedau Rhydd: Posteri i'w dadlwytho!

19/05/04: Hawl i rentu - Galw am fwy o dai rhent!

11/05/04: Herio'r Llywodraeth i wneud mwy i leddfu'r argyfwng tai yng Nghymru

01/05/04: Cymunedau Rhydd: Ffurflen Postio Sylwadau

26/04/04: Cymunedau Rhydd: Y Pecyn Lobio

15/03/04: Croeso Gofalus i Ddatganiad Carwyn Jones ar dai fforddadwy

05/03/04: Bygythiad Cyllideb Gordon Brown i Gymunedau Cymraeg

26/02/04: Cymunedau Rhydd: Danfona neges ebost yn galw am Gyllido ein Cymunedau

26/02/04: Galw ar i aelodau Seneddol Cymru gefnogi safiad Hywel Williams AS

26/11/03: Cymdeithas yn cyfarfod Edwina Hart

17/11/03: Cymunedau Cymru yn codi eu llais mewn Rali

11/11/03: Cefnogaeth Genedlaethol eang i ymgyrch tai Cymdeithas yr Iaith

29/10/03: Aelodau Ifanc yn datgan gwrthwynebiad i bolisiau tai Cyngor Ceredigion

15/10/03: Galw ar Lywodraeth Cymru i 'Gyllido Dyfodol i'n Cymunedau'

14/10/03: Lobio y Cynulliad er gwaethaf cwynion Aelodau Llafur

10/10/03: Cyngor Byddar Ceredigion

24/09/03: Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad weithredu cyn y Gyllideb nesaf

29/08/03: Cyllidwch ein Cymunedau: Her i Lywodraeth Cymru

18/08/03: Trydydd Diwrnod Taith Gerdded o Langefni > Gaerdydd

08/08/03: Trefnu Protest ar y Cyd gyda Cymuned yn y Steddfod

29/07/03: Cyngor Sir Caerfyrddin - Dim Pandas yma

01/07/03: Gwersylla ar dir Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion

01/04/99: Cymunedau Rhydd: Llawlyfr Deddf Eiddo

Newyddion
Y Cofnod: Amser i'r Comisiwn wrando
10 Mai, 2012
Adroddiad Estyn: "Peidiwch ag ymyrryd â democratiaeth" medd Cymdeithas
8 Mai, 2012
Arolwg: perfformiad Cymraeg 'anfoddhaol' cynghorau sir y de
4 Mai, 2012
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Cell Caerdydd
21 Mai, 2012
Cyfarfod Grwp Chwarae Teg i Ferthyr
21 , 2012
"Callia Carwyn" - Ie i ynni adnewyddol, Na i niwclear
5 Mehefin, 2012
Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol
6 Mehefin, 2012
Lansio "Taith Tynged yr Iaith"
7 Mehefin, 2012
Cyflwyno'r Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg
8 Mehefin, 2012
Bryn Fon a'r Band - Gig Deffro'r Dyffryn
8 Mehefin, 2012
Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent
19 Mehefin, 2012
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
8 Medi, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
Rhagor...

nôl i'r brig