|

Mae Radio Ceredigion wedi'i gwerthu i Town and Country Broadcasting gan y Tindle Newspaper Group. Bwriad y cwmni yw cau y stiwdios yn Aberystwyth a Felinfach a symud i Arberth, cartref stiwdios Radio Sir Benfro a Sir Gâr.
Dywed Angharad Clwyd, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion:
"Mae'n achos pryder mawr i ni fel mudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn diffyg darpariaeth Cymraeg 'Radio Sir Gâr' i glywed fod y cwmni wedi prynu Radio Ceredigion. Bu ymgyrchu di-flino gan y Gymdeithas yn erbyn Radio Sir Gar rhai blynyddoedd yn ôl, a oedd yn cynnwys lobio, cynnal protestiadau a ddaeth i ben llanw gyda charchariad Gwenno Teifi yn Chwefror 2006. Ac er gwaethaf hyn mae darpariaeth Gymraeg y cwmni bellach wedi lleihau gyda Rhaglen Gymraeg yr hwyr yn ddwy awr yn hytrach na thair.
8 2010
|
Mwy...
|
|
Yng nghanol prysurdeb y Nadolig, efallai na sylwodd nifer o bobl ar y cyhoeddiad bod Ofcom Cymru wedi dyfarnu trwydded radio masnachol newydd ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Real Radio yw deiliaid y drwydded newydd, a bydd eu gorsaf yn dechrau darlledu o fewn y ddwy flynedd nesaf - a hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
13 Ionawr 2009
|
Mwy...
|
|
Mi fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyflwyno tystiolaeth ger bron Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sioe Llanelwedd heddiw. Lansiwyd y ddeiseb wedi datganiad y cyn Weinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, yn mis Chwefror eleni, mai ond £200,000 y flwyddyn a fyddai’n yn mynd tuag at ddatblygu'r wasg Gymraeg.
23 Gorffennaf 2008
|
Mwy...
|
|
Rydym bellach wedi profi dros ddeng mlynedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ac wedi profi llywodraethau yn cynnwys y blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Nodweddwyd y deng mlynedd diwethaf gan amrywiaeth o bolisïau ar yr iaith Gymraeg. Pwrpas cyntaf y pamffledyn hwn yw dadlau na fu yr un o’r polisïau yma, o Iaith Pawb hyd at y sefyllfa bresennol gyda chlymblaid Cymru’n Un, o ddifrif ynglŷn a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, un ai oherwydd diffyg ewyllys neu ddiffyg ymarferol. Ei ail bwrpas yw gosod her syml a diamwys wrth ddrws llywodraeth glymbleidiol bresennol y Blaid Lafur a Phlaid Cymru – cyflwynwch ddeddfwriaeth gynhwysfawr ac effeithiol ar yr iaith Gymraeg fel cam cyntaf tuag at ddangos bod y sefyllfa yma ar newid.
Dogfen: O ddifrif am y Gymraeg? - Yr her i'r Llywodraeth (pdf - 444kb)
I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.
We have now seen ten years of devolution in Wales, and have experience of various administrations at some point including the Labour party, the Liberal Democrats and Plaid Cymru. The past ten years have also seen a number of policies relating to the Welsh language. This pamphlet’s first purpose is to show that none of these policies, from Iaith Pawb to the current position of the One Wales coalition, have been serious about safeguarding the future of the Welsh language, either due to ideological failings or practical failings. Its second purpose is to set the current Labour-Plaid coalition a clear challenge – to introduce comprehensive and effective legislation on the Welsh language as a first step to showing that this situation is about to change.
Dogfen: Serious about Welsh? - The Challenge for Government (pdf - 587kb)
To view the above PDF file, you will need Adobe Reader - Which can be downloaded free of charge.
30 Mai 2008
|
|
|
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno deiseb i'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas yfory (dydd Llun Mawrth 3ydd 2008) yn galw arno i gadw at ei addewid i sefydlu papur dyddiol yn Gymraeg. Casglwyd dros 1,000 o enwau ar y ddeiseb mewn cyfnod cyfyngedig o bythefnos yn unig.
2 Mawrth 2008
|
Mwy...
|
|
Annwyl Rhodri Glyn Thomas (Gweinidog Treftadaeth),
Rwy’n ysgrifennu ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddatgan siom ein haelodau bod Llywodraeth y Cynulliad wedi torri ei haddewid i sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Nid wyf yn cwestiynu eich ymrwymiad personol i’r cysyniad, ond mae’n rhaid i mi gwestiynu rhai pethau sydd yn ymddangos fel gwrthddweud llwyr ym mholisïau’r llywodraeth. Mae’r addewid hwn i sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn gwbl glir yng Nghytundeb Cymru’n Un: “Byddwn yn cynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.”
Deiseb Arlein - http://deiseb.cymdeithas.org
15 Chwefror 2008
|
Mwy...
|
|
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Bapur Ymgynghorol Awdurdod S4C ‘Gwasanaethu Plant yn y Dyfodol Digidol’, Gorffennaf 2007
Lawrlwytho'r Ddogfen (pdf)
1 Gorffennaf 2007
|
|
|
Danfownyd y llythr canlynol at Iona Jones, Prif Weithredydd S4C heddiw:
Annwyl Iona Jones,
Hoffwn fynegi fy nicter gyda S4C ar ôl deall fod Bwrdd Cyfarwyddwyr S4C yn cynnal ei gyfarfodydd drwy gyfrwng y Saesneg.
Ni allaf yn fy myw ddeall sut y bu i'r sefyllfa hon godi. Bu brwydr hir a chwerw i sicrhau sianel teledu Cymraeg yng Nghymru. Mae darganfod fod gweinyddiaeth fewnol awdurdod S4C (oleiaf yn rhannol) yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg yn ergyd drom i’r rhai ohonom fu ynghlwm wrth y frwydr honno. Tybed â oes mwy na hyn o weinyddiaeth fewnol awdurdod S4C yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg? Byddai'n dda cael gwybod beth yw'r sefyllfa, a pham fod S4C yn teimlo’r angen i wneud unrhyw weinyddu o gwbl drwy gyfrwng y Saesneg.
26 Ebrill 2007
|
Mwy...
|
|
Fforwm Drafod
DYFODOL DARLLEDU CYMRAEG
Dydd Iau, 2 Mehefin 2005, 3pm
Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
Mae newidiadau mawr ar droed yn y byd darlledu. Mae'n gyfnod cyffrous a chyfnewidiol wrth i bawb yn y maes geisio dirnad dyfodol y cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Mae'r chwyldro digidol yn cynnig cyfleoedd newydd i'r iaith Gymraeg, ond hefyd sawl her.
Ymunwch â ni yn ystod Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd am drafodaeth agored ar ddyfodol darlledu a'r cyfryngau newydd yn Gymraeg, a sut gallwn sicrhau lle blaenllaw i'r Gymraeg yn y datblygiadau hyn.
Ymysg y pynciau trafod:
* Y trafodaethau ynglyn â dyfodol S4C
* Papur gwyrdd y llywodraeth ar siarter newydd y BBC
* Effaith diffodd signalau teledu analog o fewn tair mlynedd
* Cyfleoedd newydd radio a theledu lleol
* Y we a phlatfformiau newydd o gyfathrebu
* Ariannu'r chwyldro digidol yn Gymraeg
* Hybu'r rhithfro
Byddai'n dda cael eich cwmni a'ch syniadau ynglyn â'r ffyrdd gorau o
gyflwyno gwasanaethau newydd Cymraeg i Gymru a thu hwnt.
diwylliant AT cymdeithas DOTCOM
2 Mehefin 2005
|
|
|
Am 3 o’r gloch prynhawn Dydd Iau, Mehefin 2il bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Fforwm Drafod ar Ddyfodol Darlledu Cymraeg yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd.
1 Mehefin 2005
|
Mwy...
|
|
Wrth ddedfrydu 5 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ryddhad amodol am 12 mis am greu difrod troseddol yn 'Radio Carmarthenshire' fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd Cadeirydd Ynadon Hwlffordd heddiw: "Yr ydym yn edmygu eich ymroddiad i’r iaith ond dylasech fod wedi protestio y tu allan i’r adeilad."
19 Ebrill 2005
|
Mwy...
|
|
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r ymgynghoriad ar Gynigion Adolygu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus gan Ofcom, Ebrill 2005
Lawrlwytho'r ddogfen (pdf)
1 Ebrill 2005
|
|
|
Wrth ymateb i adroddiad Ofcom ar ddyfodol darlledu yng Nghymru fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
8 Chwefror 2005
|
Mwy...
|
|
Fe dderbyniodd chwech aelod o Gymdeithas yr iaith Gymraeg rybudd gan yr heddlu, yn ystod y dydd heddiw, am achosi difrod troseddol yn ystod protest yn stiwdio Radio Carmarthenshire nôl ym mis Gorffenaf.
18 Ionawr 2005
|
Mwy...
|
|
Carden Felen - dyna oedd rhybudd Ofcom i Radio Carmarthenshire ddoe (Mercher 20 Hydref). Ar ôl misoedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, mi gyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar Radio Carmarthenshire. Enillwyd dadl Cymdeithas yr Iaith felly, a chydnabyddwyd nad yw Radio Carmarthenshire yn dal at eu hochor nhw o'r fargen ble mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn. Ond mae'r ymgyrch ymhell o fod ar ben!
21 Hydref 2004
|
Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cylchlythyru pob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin gan ofyn iddynt fynegi i OFCOM eu pryder fod Radio Sir Gâr wedi cefnu ar eu haddewid i gynnal gwasanaeth dwyieithog.
24 Medi 2004
|
Mwy...
|
|
Disgwylir neuadd orlawn yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin pan fydd cannoedd o bobl ifanc yn dod i wrando ar fandiau Cymraeg yn chwarae gig byw i brotestio yn erbyn gwaharddiad Radio Carmarthenshire ar gerddoriaeth leol a Chymraeg.
13 Medi 2004
|
Mwy...
|
|
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu’r penderfyniad Awdurdodau’r Steddfod i roi safle ar y maes i Sky TV. Ymddangosent gydag arddangosfa symudol mewn prif safle wrth y Pafiliwn Ddydd Sadwrn. Roedd eu harddangosfa gosod a rhyngweithiol oll yn uniaith Saesneg haeblaw am 1 poster bach o waith cartre’n gwahodd Eisteddfodwyr i wylio gemau rhyngwladol pêl-droed Cymru’n fyw ar Sky yn y dyfodol.
3 Awst 2004
|
Mwy...
|
|
Mae'r 11 aelod o Gymdeithas yr Iaith a gafodd eu harestio ddoe yn dilyn y brotest yn stiwdio Radio Sir Gâr yn Arberth (Sir Benfro !) wedi cael eu rhyddhau - wedi treulio 12 awr mewn celloedd unigol - ar fechniaeth i ddychwelyd at Swyddfeydd Heddlu ym mi Medi.
25 Gorffennaf 2004
|
Mwy...
|
|
Fe feddianodd tua 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg stiwdio Radio Carmarthenshire yn Arberth y bore yma, a thorri ar draws darllediad byw. Roedd modd clywed gwaeddiadau o 'Ble Mae'r Gymraeg?' yn fyw ar y Radio. Roedd yn rhaid i Radio Carmarthenshire atal y darllediad am bron i funud ac nid oedd modd iddynt ddarlledu bwletin newyddion 12pm. Roedd rhaid i gyflwynwyr gloi eu hunain mewn stiwdio sbar i barhau a'r darllediad wedi'r saib.
24 Gorffennaf 2004
|
Mwy...
|
|
Heddiw, 13/6/04, mae Radio Carmarthenshire yn dechrau darlledu go iawn yn Sir Gâr, ac ar drothwy’r digwyddiad hwn fe gododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith faner ar fast trosglwyddo Carmel ger Cross Hands. Mae’r neges ar y faner yn syml – “ni’n gwrando”.
13 Mehefin 2004
|
Mwy...
|