Gwrthododd menyw o Gaerdydd a'i phlant adael eu car mewn protest yn erbyn defnydd 'tocenistaidd' y Gymraeg gan Heddlu De Cymru heddiw.
Roedd Lleucu Meinir, 35, sy'n byw yn Stryd Llanmaes, Grangetown, wedi gwrthod talu dau docyn parcio oherwydd diffyg defnydd o'r Gymraeg gan yr awdurdod sydd wedi anfon gohebiaeth uniaith Saesneg iddi. Cafodd y car ei glampio gan swyddogion yn gweithredu ar ran y llys a heddiw roedden nhw'n bwriadu ei dynnu i ffwrdd a'i werthu mewn ocsiwn. Roedd y ddau docyn parcio gwreiddiol yn £60, ond gwrthododd hi dalu dirwy oherwydd bod yr heddlu wedi llenwi'r tocyn dwyieithog yn uniaith Saesneg.
Ar ôl pum awr o brotestio, cytunodd Ms Meinir dalu'r ddirwy ar ôl cynnig gan Uwch-arolygydd i drafod cynllun iaith yr heddlu. Bydd hi'n cyflwyno ei bil am dros £600 i swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw (2:30pm, 17 Awst) gan eu bod nhw wedi cymeradwyo Cynllun Iaith yr awdurdod.
Fe ddywedodd Lleucu Meinir, aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Bydd ymgyrchwyr Cymraeg yn protestio ar Faes yr Eisteddfod heddiw (3pm, Dydd Mercher, 4ydd Awst) oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar y Gymraeg, gan alw am wrthryfel gan wleidyddion yn dilyn methiant y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion.
Ychydig wythnosau'n ôl, galwodd pwyllgor trawsbleidiol am newidiadau mawr i gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad oherwydd diffyg egwyddorion yn y drafft. Dadleuodd Aelodau Cynulliad o bob plaid nad yw'r Mesur yn sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol, creu hawliau i'w defnyddio, na Chomisiynydd Iaith digon annibynnol ychwaith: ymrwymiadau allweddol yng nghytundeb Cymru'n Un.
Yn y brotest, bydd aelod Cymdeithas yr Iaith yn cerdded o gwmpas y maes fel y Comisiynydd Iaith newydd â hualau a pheli dur o gwmpas ei draed. Bydd y geiriau 'dim statws' a 'dim hawliau' ar y peli, yn dangos mai swydd anodd iawn fydd rôl y Comisiynydd heb egwyddor yn rhoi cyfeiriad a nod i'w waith.
Bydd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud:
"Ni fydd unrhyw werth i fesur iaith sydd yn cael ei basio er mwyn rhoi tic mewn bocs. Rydyn ni dal yn disgwyl i'r Llywodraeth i wneud rhywbeth gwirioneddol dros y Gymraeg a dyma'r neges rydym ni wedi ei glywed wrth bobl yr wythnos hon yn yr Eisteddfod. Mae'n amser i'n gwleiddyddion gymryd y cyfle i sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol a rhoi hawliau yn y Mesur. Byddai hynny'n sail gref i ddyfodol y Gymraeg o Flaenau Gwent i Benllyn."
Mae grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad wedi cytuno bod angen cryfhau'r Mesur Iaith Gymraeg yn sylweddol mewn adroddiad heddiw.
Yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor deddfu yn datgan bod angen cynnwys datganiad 'clir a diamwys' yn sefydlu statws swyddogol i'r Gymraeg; Comisiynydd mwy annibynnol oddi wrth y Llywodraeth; a rhagor o rym i unigolion yn y Mesur.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod yr adroddiad yn 'dangos yn glir i'r mesur drafft dorri pob addewid a wnaethpwyd i'r cyhoedd' oherwydd absenoldeb statws swyddogol a hawliau yn y ddeddfwriaeth.
Ynglyn â statws swyddogol, datganiad mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymgyrchu drosto am flynyddoedd, medd y pwyllgor:
"Rydym hefyd wedi ystyried a chydnabod bod cryn dipyn o dystiolaeth o blaid cael datganiad clir a diamwys ynghylch rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru. Cytunwn â'r farn hon. Fel y mae wedi'i drafftio ar hyn o bryd, credwn nad yw adran o'r Mesur arfaethedig yn newid statws yr iaith mewn unrhyw ffordd.... Nid yw'n cynnwys datganiad ynghylch statws y Gymraeg. Yn ein barn ni, mae angen datganiad o'r fath."
Bydd sefydliadau gwrth-Gymraeg yng ngogledd Cymru yn elwa o gynlluniau'r Llywodraeth i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yn ôl siaradwyr mewn rali ym Mhorthmadog heddiw (Dydd Sadwrn, 19eg Mehefin).
Bydd beirniadaeth lem o fethiannau ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr, i ddarparu gwasanaeth Cymraeg - nid oes un o'r cyfarwyddwyr y corff yn siarad Cymraeg. Mewn adroddiad diweddar gan bwyllgor Ewropeaidd o arbenigwyr, beirniadwyd y GIG yng Nghymru am fethu darparu gwasanaethau Gymraeg digonol.
Bydd y bardd Twm Morys a'r canwr Ceri Cunnington hefyd yn annerch y protest. Mae Mr Cunnington yn chwarae rhan y Comisiynydd Iaith y bwriedir ei sefydlu o dan y Mesur Iaith, gan ymweld â Superdrug i gynnal archwiliad i'w gwasanaethau Cymraeg.
Wrth feirniadu ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr, bydd yr ymgyrchydd lleol Bethan Russell Williams yn dweud:
"Mae Cynllun Iaith Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod allan ar gyfnod o ymgynghoriad yn ddiweddar ond mae ynddo , yn bryderus iawn , nifer fawr o enghreifftiau ble nad yw'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.
"Mae angen mynd i'r afael â'r diffygion yng Nghynllun Iaith y Bwrdd Iechyd gan fod ynddo nifer fawr o enghreifftiau ble nodir y bydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio i gynnig gwasanaeth 'pan fo'n bosibl' a 'phan fo'n addas'. Nid yw hyn yn ddigon da. Mae yn llawer rhy hawdd i'r gwasanaeth iechyd wrthod gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i ddefnyddwyr gwasanaeth a gwneud hynny gyda chymeradwyaeth Cynllun Iaith ddiffygiol."
Mae pedwar ar ddeg o grwpiau iaith wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am newidiadau i'w chynlluniau am Fesur Iaith newydd. Mewn llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mae'r mudiadau - gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Chyfeillion y Ddaear ac arbennigwr Iaith Yr Athro Colin Williams - yn dweud:
"Mae'r iaith Gymraeg yn wynebu bygythiadau o bob tu: toriadau yng nghyllideb S4C, y Cynulliad yn torri'r cofnod dwyieithog, a dyfodol addysg Gymraeg yn y brifddinas. Mae diffyg hawliau ieithyddol a statws swyddogol i'r iaith Gymraeg wrth wraidd y bygythiadau."
"Rydym yn croesawu ymdrechion y Llywodraeth i ddatblygu deddfwriaeth i gadarnhau sefyllfa'r Gymraeg. Fodd bynnag, ers cyhoeddi'r Mesur Iaith Gymraeg drafft eleni mae mudiadau, cyfreithwyr ac arbenigwyr, wedi bod yn unfryd eu barn nad yw'r Mesur ar ei ffurf bresennol yn cyflawni addewidion y Llywodraeth."
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gweithio i Boots yn wirfoddol yng Nghaerfyrddin am awr rhwng 12pm a 1pm dydd Iau'r 15fed o Ebrill. Eu gwaith bydd dosbarthu taflenni tu allan i'r siop yn hysbysu cwsmeriaid y cwmni nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg na dealltwriaeth ohoni gan fod eu prif swyddfa yn Nottingham, Llundain.
Bydd eu fersiwn hwy o daflen Boots yn datgan:
"Mae ein difaterwch yn golygu bod ein cwsmeriaid yn teimlo mai iaith israddol yw'r Gymraeg drwy:
* Sicrhau mai Saesneg yw iaith pob siop yng Nghymru, sydd yn golygu
* taw Saesneg fydd iaith ein marchnata ac arwyddion dros dro
* fod y Gymraeg yn hollol annelwig yn ein canghennau
* sicrhau nad yw ein staff yn cael cyfle i ddysgu'r Gymraeg
* fod y cyhoeddiadau system sain yn uniaith Saesneg
Mae'n rhyddhad mawr i ni nad ydym wedi cael ein cynnwys yn y Mesur Iaith newydd a luniwyd gan Lywodraeth Cymru'n Un yn y Cynulliad. Mae hyn yn golygu gallwn barhau i ddarparu y lefel isaf posib o wasanaethau Cymraeg yn ein canghennau yng Nghymru. Yr ydym yn cynnig y gwasanaeth pitw hyn o ychydig arwyddion parhaol tocenistaidd, er mwyn dangos ein bod yn sensitif yn ddiwylliannol ac y dylech fod yn ddiolchgar amdano. Wedi'r cyfan mae pawb yng Nghymru yn deall Saesneg.
Gobeithio y byddwch yn parhau i gefnogi eich cangen lleol o Boots a'r sioe mae'r sector breifat yn ei wneud o'r Gymraeg."
Rai wythnosau yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drafft o'r Mesur Iaith maen nhw'n debygol o'i basio. Ar ôl ei ddarllen yn fanwl, mae'n glir mai deddf wan fydd hon, ac un sy'n torri'r addewidion a wnaeth Llywodraeth Cymru yn nogfen Cymru'n Un:
Ni fydd hawliau cyfreithiol i bobl defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd;
Ydy'r gwleidyddion yn cofio Thomas Cook a Morrisons Caergybi? Ydyn nhw'n sylweddoli pa mor anodd yw trio defnyddio'r Gymraeg wrth ddelio gyda nifer helaeth o gyrff cyhoeddus? Yn hynod o sarhaus, yr unig hawl yn y mesur iaith yw hawl i gwmnïau mawrion ceisio osgoi unrhyw ofyniad am wasanaethau Cymraeg. Fodd bynnag, does dim hawl gan yr unigolyn i sicrhau bod nhw'n gallu defnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau.
Digwyddiadau:
Bydd dwy Rali yn cael eu cynnal er mwyn pwyso ar Llywodraeth y Cynulliad i gryfhau'r mesur.
Rali Caerdydd - Mai 22ain, 2010 - os hoffet ti helpu mewn unrhyw ffordd, tyrd i gyfarfod Rhanbarth Morgannwg-Gwent yng Nghlwb y Bont, Pontypridd NOS FAWRTH, EBRILL 27, 7-30PM
Rali Porthmadog - Mehefin 21, 2010 - os hoffet ti helpu mewn unrhyw ffordd, tyrd i gyfarfod Rhanbarth Gwynedd/Môn ar NOS FAWRTH, EBRILL 27, 7-30PM
Bydd llyfr newydd sydd yn esbonio hanes degawd o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddechrau mileniwm newydd yn cael ei lansio yng Nghaernarfon heddiw.
Sbardun cyhoeddi'r llyfr hwn oedd rhannu'r rhai o'r cannoedd o lythyrau a chardiau a dderbyniodd Osian Jones tra yn HMP Altcourse yn ystod Rhagfyr 2009 am ei ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bydd y llyfr ar werth am £4.95 o siopau llyfr Cymraeg ar hyd a lled Cymru, neu o swyddfa Gogledd Cymdeithas yr Iaith, 10 Stryd y Plas, Caernarfon - 01286 662908
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr oddi wrth dros ddwsin o gyfreithwyr yn galw am fesur iaith cryfach heddiw (Dydd Iau, 18 Mawrth).
Dyweda'r cyfreithwyr yn eu llythyr agored: "Credwn fod angen datganiad clir a diamwys mewn deddf gwlad fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru er mwyn gwireddu hynny, a hyd yn hyn, ni chafwyd datganiad o'r fath."
Ychwanega'r cyfreithwyr: "Nid yw gosod safonau ..., er gwaetha'r ffaith y bydd eu torri yn medru arwain at gosbau, gyfystyr â sefydlu hawliau i unigolion."
"Yn ein barn ni, i raddau'n unig y mae'r Mesur hwn yn cyflawni'r amcanion a amlinellwyd yng nghytundeb Cymru'n Un. Ofnwn fod y Mesur yn greadur llai effeithiol nag y gallasai fod i ddylanwadu'n gadarnhaol ar yr hinsawdd ieithyddol yng Nghymru."
Wrth ymateb i'r llythyr, dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Rydym yn croesawu'r ffaith fod cyfreithwyr a bargyfreithwyr mor flaenllaw ac uchel eu parch yng Nghymru wedi dod ymlaen mewn modd mor gyhoeddus, yn galw ar i'r mesur iaith gael ei gryfhau'n sylweddol. Erbyn hyn, mae yna gonsensws ymysg arbenigwyr ieithyddol ac arbenigwyr cyfreithiol nad yw'r mesur yn ei ffurf bresennol yn gwireddu addewidion y Llywodraeth.
"Mae'n hynod arwyddocaol fod arbenigwyr ym maes y gyfraith yn codi'r cwestiwn am ddiffyg datganiad di-amwys sy'n rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Mae cynnyws y llythyr yn profi hefyd nad yw'r mesur yn sefydlu hawliau Cymraeg i unigolion."
"Mae'r llythyr hwn yn cael ei gyhoeddi ar gyfnod holl bwysig, ac mae'n arwydd o'r ffaith y gallai Llywodraeth Cymru wneud gymaint yn fwy i gryfhau cynnwys y mesur er lles pawb o bobl Cymru. Fe fydd y llythyr hwn yn rhoi llawer o bwysau arnynt i gwestiynu yr addewidion y maent yn honni eu bod wedi eu gwireddu. Bydd rhaid aros i weld a oes gan y weinyddiaeth Llafur-Plaid Cymru yr ewyllys gwleidyddol i'w gryfhau."
Mae Llywodraeth Cymru 'wedi torri ei haddewidion' ac yn trio 'camarwain y cyhoedd' gyda'i mesur iaith Gymraeg, yn ôl cwyn swyddogol gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i'r Prif Weinidog.
Mewn llythyr at Carwyn Jones, bydd yr ymgyrchwyr yn honni fod datganiadau gan y llywodraeth am y mesur iaith ddydd Iau diwethaf yn 'gamarweiniol tu hwnt'. Honna'r gr?p ymgyrchu bod llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd wrth hawlio bod y mesur yn arwain at hawliau i wasanaethau Cymraeg a chadarnhau statws swyddogol i'r Gymraeg.
Addawodd Llywodraeth Llafur-Plaid Cymru yn nogfen Cymru'n Un y byddent yn cadarnhau "statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg, hawliau ieithyddol ...", ond mae'r ffaith nad yw'r mesur yn delifro ar yr addewidion hyn i bobl Cymru wedi cythruddo Cymdeithas yr Iaith.
Mae'r mudiad hefyd wedi lansio deiseb ar http://deiseb.cymdeithas.org sydd yn galw ar y llywodraeth i gadw at ei haddewidion.
Yn siarad ar ôl adolygiad Cymdeithas yr Iaith o'r mesur iaith, dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas Menna Machreth:
"Mae ein haelodau'n gandryll gyda Llywodraeth glymbleidiol oherwydd ei bod hi wedi torri ei haddewidion a thrio camarwain y cyhoedd wrth ddefnyddio rhethreg hawliau. Does dim hawliau, na statws swyddogol i'r Gymraeg yn y mesur. Yn barod rydyn ni'n ymwybodol o'r ffaith fod arbenigwyr ym maes y gyfraith yn anniddig ynglyn â honiad y Llywodraeth fod y mesur yn datgan fod gan y Gymraeg statws swyddogol. Yr unig hawl sydd yn y mesur yw'r hawl i gyrff a chwmniau herio unrhyw ofyniad i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae'n gwbl warthus."
Nid canlyniad organaidd yw dirywiad yr iaith Gymraeg, ond canlyniad polisïau'r wladwriaeth. Mae'n rhaid i'r wladwriaeth felly wrthdroi'r seicoleg bod y Gymraeg yn israddol i'r Saesneg.
Dywedodd yr athronydd Raz mai pwrpas hawliau dynol yw parchu hawliau moesol. Nid yw'n ddigon disgrifio effaith polisi ar unigolyn fel 'ansensitifrwydd diwylliannol' oherwydd nid yw'n gwneud iawn am y sarhad os nad yw dewis iaith yr unigolyn yn cael ei barchu.
Mae sicrwydd ieithyddol yn ganolog i hawliau iaith os yw rhywun i fod yn rhydd i ddefnyddio'r iaith ag urddas. Os nad yw ef neu hi yn cael caniatâd i gyfathrebu gyda'r llywodraeth, awdurdodau ac eraill sy'n rhan o fywyd dyddiol caiff urddas yr unigolyn ei warafun. Mae'n bwysig pwysleisio y caiff pobl sy'n dymuno defnyddio neu weld yr iaith Gymraeg eu hamddifadu o'u hurddas heddiw.
Nid prosiect cadwriaethol yw'r iaith iddyn nhw, ond realiti dydd i ddydd. Oherwydd polisïau anoddefgar mewn nifer o wledydd Ewrop, dewiswyd un iaith i fod yn iaith y wladwriaeth. Yng Nghymru, y Saesneg oedd yr iaith honno; ein dadl ni yw bod angen hawliau iaith er mwyn rhoi llwyfan i'r Gymraeg ddal i fyny â'r Saesneg ac i ailadeiladu urddas y siaradwyr. Meddai Gwion Lewis yn ei gyfrol Hawl i'r Gymraeg:
"Os yw'r wladwriaeth yn derbyn bod gen i'r hawl i'r Gymraeg, y mae'n dweud wrthyf fod fy hunaniaeth ieithyddol yn cael ei chymryd o ddifrif, a'i bod, yn fwy na dim, yn cael ei pharchu. Fel a welwyd yng Nghatalonia, ni all hyn ond llwyddo i wella delwedd iaith, a rhoi hwb seicolegol i'w siaradwyr i deimlo ei bod hi'n rhan ystyrlon o'u bywydau beunyddiol."
Credwn ei bod hi'n bwysig hefyd bod hawliau ieithyddol yn cael eu dynodi yn y mesur ei hun yn lle dibynnu'n unig ar reoliadau a osodir gan y Llywodraeth sydd mewn grym ar unrhyw gyfnod. Ni ddylai hawliau ieithyddol ddibynnu ar ewyllys da un gweinidog na gwleidydd.
Fe fydd Debbie (ar ran y cwmni Debenhams) yn dod i Gaerfyrddin yfory, dydd Mercher 17eg o Chwefror, cyn agoriad swyddogol ei siop fawr crand yn y pasg. Bydd Debbie (sydd yn cael ei chwarae gan Llinos Roberts, aelod o Gymdeithas yr Iaith) yn annerch pobl Caerfyrddin am 2pm tu fas i'r farchnad yng Nghaerfyrddin, cyn mynd ymlaen i ddosbarthu taflenni yng nghanol y dref yn gwahodd pobl i'r siop ac yna yn mynd ymlaen a llythyr caru at Mark James prif weithredwr Cyngor Sir Gar.
Yn ei haraith fe fydd Debbie yn dweud:
"We were told at headquarters that you had your own cute little language called Welsh - I didn't know that it was so widely spoken.. very old apparently? ohh, I can hear it everywhere around me here. It's popular innit? Cymraeg it's called innit? Apparently, it's widely spoken in Carmarthenshire-more so than in any other county in Wales, but there we go - sooo many languages in this big world of ours. We do try to be sensitive to these little differences at Debenhams - we've got some ethical policies or whatever, but we're so lucky we've got the English language that everyone can understand - even you - yeah, and that's why were throwing in a little smattering of Welsh into our fab new store - just to keep you Welshies happy!. What? did I hear someone say that Welsh should have equal status to English? hey! You're having me on aint you? What? Welsh signs everywhere? Oh no my darlings, that wouldn?t be possible-it would cost far,far too much! We only made 95.1 million pounds in profit last year wiv it being the recession and all, oh we are struggling babes!"
The Welsh version of this website is temporarily unavailable due to the fact that it's a waste of money and nobody bothers to look at it. Please try again when it's too late and the language is dead!
Cyfarwydd?
Wedi cael unrhyw broblemau yn ddiweddar yn derbyn gwasanaeth Cymraeg yn y sector gyhoeddus neu'r sector breifat?
Wedi blino ar gwmnïau mawr yn cymryd eich arian ond ddim yn cynnig y gwasanaeth symla yn eich iaith eich hun?
Wedi blino ar addewidion gwag ein llywodraeth?
Wedi blino teimlo fel dinesydd eilradd yn eich gwlad eich hun?
Wedi blino gorfod aros ar y ffôn am oriau; chwilio am hydoedd am wasanaeth Cymraeg ar-lein sy'n anodd ei ddarganfod; anfon cannoedd o wahanol ffurflenni ychwanegol i ffwrdd; talu mwy... neu gael eich gwrthod yn llwyr?
Anfonwch eich cwynion yma! Gan nad oes neb arall yn gwrando arnyn nhw.
Ein bwriad yw casglu tomen o dystiolaeth yn erbyn cwmnïau mawr, yn ogystal â'r sector gyhoeddus, a'u gwasanaethau diffygiol Cymraeg i ddangos mor arwynebol yw eu parch at yr iaith Gymraeg ac i'n hawl ni i ddefnyddio ein hiaith. Y mwyaf o dystiolaeth a gasglwn yr anoddaf y bydd iddynt ei anwybyddu.
Mae Osian Jones yn cael ei rhyddhau o'r carchar ac yn dod 'nôl i Gymru!
Dere i'w groesawu adref.
Ble? Gorsaf Drenau Bangor, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 1LZ
Pryd? 1pm, Dydd Mawrth, 8fed o Ragfyr
Mae cwmnïau anfoesol yn cael rhwydd hynt i gymryd ein harian heb ystyried ein hanghenion ni yma yng Nghymru. Dydy'r Llywodraeth yn gwneud braidd dim i wella'r sefyllfa ac yn gwrthod rhoi'r hawl llawn i ni ddefnyddio'r Gymraeg.
Beth oedd 'gwobr' Osian Jones am sefyll i fyny i'r cwmnïau hyn ac amddiffyn hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg? Mis o garchar.
Bydd yn cael ei ryddhau bore dydd Mawrth yr 8fed o Ragfyr, ac yn dychwelyd i Fangor am 1pm ar y trên.
Bydd ymgyrchydd iaith yn cael ei rhyddhau o garchar yn Lerpwl heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 8) ar ôl iddo brotestio yn erbyn diffyg gwasanaethau Cymraeg siopau mawrion y stryd fawr yng ngogledd Cymru.
Cyn iddo adael y carchar, fe rybuddiodd Mr Jones y 'gallai'r degawd nesaf gweld dinistriad y Gymraeg fel iaith gymunedol' os nad oedd newidiadau mawr yn y gyfraith i 'adael yr iaith fyw'. Disgwylir y bydd torf o gefnogwyr yng Ngorsaf Trên Bangor i'w groesawu yn ôl i'r wlad.
Carcharwyd Osian Jones, 32 mlwydd oed o Ddyffryn Nantlle am 28 diwrnod ar ddiwedd mis Tachwedd - y ddedfryd hiraf i actifydd Cymraeg ers 1991. Fe beintiodd e sloganau ar siopau Boots a Superdrug yng Nghaernarfon, Bangor a Llangefni.
Mae pump myfyriwr prifysgol Aberystwyth yn ymprydio am 24 awr heddiw (Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr) i ddangos cyd-gefnogaeth i ymgyrchydd a garcharwyd ar ôl iddo dargedu siopau mawrion yng ngogledd Cymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â charchariad aelod a ymgyrchodd yn erbyn polisi iaith rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr. Carcharwyd Osian Jones, o Ddyffryn Nantlle, am 28 diwrnod gan ynadon Caernarfon wythnos ddiwethaf ar ôl iddo beintio sloganau ar siopau Boots a Superdrug.
Fe ddywedodd myfyrwraig 18 oed, Mair Evans, un o'r pump sydd yn ymprydio:
"Rydyn ni'n gwneud hyn i ddangos cefnogaeth i Osian. Mae Osian yn y carchar achos bod e wedi sefyll i fyny dros ein hawliau ni. Mae'n gwbl annheg bod y gyfundrefn bresennol yn golygu bod hyn yn digwydd. Dylai'r cwmnïau hyn ddarparu gwasanaethau sylfaenol Cymraeg o leiaf, y ffaith bod nhw'n gwrthod yn golygu bod gweithredoedd fel hyn yn anochel."
Fe fydd siopwyr Caerfyrddin yn derbyn taflenni yn datgelu gwir agwedd cwmni Superdrug at yr iaith Gymraeg heddiw 26/11. Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn dosbarthu taflenni tu allan i'r siop am 4pm gyda'r geiriau: "Superdrug - Cwmni Harddwch ag iechyd gyda agwedd Salw ac afiach at yr iaith Gymraeg".
Fe fydd aelodau o'r Gymdeithas hefyd yn picedi tu allan i siop Boots yn Llandysul dydd Llun 30ain o Dachwedd am 1pm gan ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim tu allan i'r siop. Yn troi slogan Boots ar ei phen, bydd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh".
Mae'r picedi wedi eu trefnu mewn cefnogaeth i Osian Jones a gafodd ei ddedfrydu i 28 diwrnod yn y carchar ddoe (25/11/09) am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World yng ngogledd Cymru ym mis Ebrill 2008, oherwydd eu diffyg darpariaeth Cymraeg.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi tu fas i Superdrug yng Nghaerfyrddin heddiw 26/11 am 4pm. Byddwn yn dosbarthu taflenni gyda'r geiriau: "Superdrug - Cwmni Harddwch ac iechyd gyda agwedd Salw ac afiach at yr iaith Gymraeg".
Fe fydd aelodau o'r Gymdeithas yn picedi tu fas i siop Boots yn Llandysul dydd Llun 30ain o Dachwedd am 1pm gan ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim tu allan i'r siop. Yn troi slogan Boots ar ei phen, bydd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh".
Fe fydd aelodau o gell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth yn ymprydio dydd iau y 3ydd o Ragfyr mewn cefnogaeth i Osian Jones.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gosod stondin ar stryd fawr Aberystwyth dydd Gwener y 4ydd o Ragfyr gan ddosbarthu taflenni am safiad Osian a gofyn i drigolion Aberystwyth i lofnodi llythyr o gefnogaeth i Osian a'i ddanfon ato yn y carchar.
Piced Superdrug a Boots. 1pm, Dydd Llun 7fed o Rhagfyr, Heol y Frenhines, Caerdydd
Ffair Lyfrau Nadolig - Llyfrau ail law, DJs a Ffilm am yr ymgyrchydd Osian Jones, 12pm - 3pm, Dydd Sul, 20fed o Rhagfyr, Gwdih?, Caerdydd (am ddim)
Cyfarfod Cell Caerdydd, 7.30pm-8.30pm, Nos Fercher, 6ed o Ionawr, Fuwch Goch, Caerdydd
Yn ogystal a'r uchod bydd nifer o aelodau ar draws Cymru yn sticeri siopau a busnesau preifat dros yr wythnosau nesaf - sticeri gyda'r ysgrifen 'Ble mae'r Cymraeg' ac eraill gyda llun o Osian Jones yn dweud 'Carchar am fynnu hawliau'
Mae'r digwyddiadau wedi eu trefnu mewn cefnogaeth i Osian Jones a gafodd ei ddedfrydu i 28 diwrnod yn y carchar ddoe (25/11/09) am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World yng ngogledd Cymru ym mis Ebrill 2008, oherwydd eu diffyg darpariaeth Cymraeg.
Mae Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yn y gogledd, wedi cael ei garcharu am fis heddiw ar ôl safiad yn erbyn siopau mawrion yng ngogledd Cymru sydd yn gwrthod cynnig gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg.
Dyma gyfeiriad i chi ddanfon llythyr o gefnogaeth ato:
Osian Jones
Prison No.DX8265
HM Prison Altcourse,
Fazakerley,
Liverpool
L97 LH.
Ffôn: 0151 522 2000
Ffacs: 0151 522 2121
Yn anffodus, nid yw'r gwasanaeth danfon ebost at garcharor yn weithredol yn y carchar yma ar hyn o bryd.
Mae ymgyrchydd iaith Gymraeg wedi mynd i'r carchar am fis heddiw (Dydd Mercher, Tachwedd 25) yn sgil gwrandawiad gerbron llys ynadon Caernarfon.
Ym mis Ebrill 2008, protestiodd Osian Jones, o Ddyffryn Nantlle, yn erbyn rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Superdrug a Boots, er mwyn dangos nad oedd gwasanaethau Cymraeg digonol ganddynt.
Roedd y weithred yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Cymraeg yn galw am weddnewid y sector breifat sy'n arglwyddiaethu bywydau o ddydd i ddydd, ac yn galw am ddeddf iaith a fyddai'n cynnwys y siopau hyn er mwyn normaleiddio'r iaith Gymraeg yng Nghymru.
Ar ôl y ddedfryd dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth:
"Roedd Osian wedi gweithredu'n uniongyrchol oherwydd nad oes gan dinasyddion Cymru yr hawl i weld ac i ddefnyddio'r Gymraeg o'u cwmpas. Mae system sydd yn rhoi elw cwmnïau rhyngwladol o flaen hawliau siaradwyr Cymraeg yn gwbl annheg. Nid yw'r cwmniau sydd â diffyg parch affwysol tuag at y Gymraeg yn haeddu iawndal, yn hytrach, nhw sy'n ddyledus i bobl Cymru am wneud yr iaith Gymraeg yn anweledig."
Ar Dachwedd y 25AIN mi fydd Osian Jones trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd yn cychwyn ei gyfnod o 28 diwrnod yn y carchar am weithredu yn erbyn cwmnïau Boots, Superdrug, Mataln a PC World fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am Fesur Iaith Cyflawn.
Fe wnaeth siopwyr Bangor dderbyn anrheg Nadolig cynnar oddi wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor Dydd Sadwrn, Tachwedd 14 wrth i dros 100 o brotestwyr ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim yng nghanol y dre.
Yn troi slogan Boots ar ei phen, roedd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh". Fe wnaeth Boots hefyd elwa o weithwyr newydd, wedi'u darparu gan y Gymdeithas, a oedd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i bobl yng nghanol y dre.
Roedd y protestwyr yn cynnal rali i gefnogi Osian Jones sydd yn wynebu carchariad ar ôl cwyno am ddiffyg darpariaeth Cymraeg gan siopau yng ngogledd Cymru.
Siaradwyr:
Angharad Tomos
Menna Machreth
Bethan Williams
Gerallt Roberts
Cai Niclas
Adloniant - Y Lembo
Bydd Osian ei hun yn y carchar ar Dachwedd 14 pan gynhelir rali ym Mangor yn ei gefnogi. Galwn ar i bawb ohonoch ddod draw i'r rali honno i ddangos eich cefnogaeth i'w safiad.
Mae Ynadon Pwllheli wedi gohirio'r gwrandawiad am bythefnos tan 25 Tachwedd i Lys Ynadon Caernarfon.
Mewn protest arhosodd Osian ac aelodau'r Gymdeithas tu fewn i adeilad y Llys am awr gan atal eu gweithgareddau, ac ymunodd 50 arall tu allan yn gweiddi 'Hawliau Iaith':
Meddai Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n greulon iawn bod yr Ynadon wedi gohirio'r amser am bythefnos eto, er eu bod eisoes wedi penderfynu ar y ddedfryd o garchar."
"Eu hesgus yw eu bod am gysylltu a chyflogwyr Osian, ond ni Cymdeithas yr Iaith yw ei gyflogwyr, ac wrth gwrs ni fyddwn ni'n tynnu unrhyw ddirwy o'i gyflog. Byddwn ni i gyd yn ôl yng Nghaernarfon mewn pythefnos."
Yfory, dydd Gwener Tachwedd y 6ed am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn cael ei garcharu am fis gan Lys Ynadon Pwllheli. Mae'r ynadon eisoes wedi dweud wrtho mai carchariad sydd yn ei aros a hynny am iddo wrthod talu dirwyon am beintio sloganau ar rai o siopau'r Stryd Fawr fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Fesur iaith Cyflawn. Mae ganddo £1,000 o ddirwyon a chostau heb eu talu am iddo beintio sloganau ar siopau Superdrug, Matelan, Boots a PC World yn gynharach eleni.
Osian fydd yr ail aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i gael ei garcharu eleni. Carcharwyd Ffred Ffransis yn ôl ym Mis Mehefin am wrthod talu dirwyon oedd hefyd yn deillio o'r ymgyrch Deddf Iaith.
Gofynnwn i bob un ddangos cefnogaeth i Osian drwy fod yn bresennol yn ei achos llys ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd ym Mhwllheli am 9.30. Mwy o wybodaeth am yr Achos Llys yma...
Ar ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd, yn ymddangos o flaen llys ynadon Pwllheli i dderbyn mis o garchar.
Fe'i dedfrydwyd am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World ym Mangor rai misoedd yn ôl fel rhan o ymgyrch genedlaethol i geisio ehangu'r Gorchymyn Deddfu ar yr iaith Gymraeg oedd yn cael ei drafod ar y pryd. Meddai Osian Jones:
"Mae'n warthus i feddwl fod y cwmnïau hyn yn dod i Gymru heb ystyried y Gymraeg o gwbl. Mae'n nhw'n ddigon bodlon derbyn ein harian ond mae'n galwadau yn cael eu hanwybyddu. Rydyn ni wedi bod yn gohebu gyda'r cwmnïau hyn, ac eraill, ers cymaint o amser ond dydyn nhw'n gwrando dim. Mae'n bryd codi yn erbyn cwmnïau mawr sy'n sathru ar ein hawliau''
Ychwanegodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
''Mae'r Gorchymyn iaith yn bell o fod yn rhoi mwy o hawl i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg. Does dim sôn o gwbl am y busnesau y bu Osian yn eu targedu yn y Gorchymyn iaith felly mae'r Llywodraeth yn dal i rwystro'n ffordd i'r Gymraeg ar y stryd fawr.''
Gofynnwn i bob un ddangos cefnogaeth i Osian drwy fod yn bresennol yn ei achos llys ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd ym Mhwllheli am 9.30. Mwy o wybodaeth am yr Achos Llys yma...
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol y mudiad yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn Hydref 24 gan gyhoeddi fod 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn dechrau am 10.30 y bore a'r Rali Flynyddol am 2 y prynhawn.
Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Yr oeddem yn falch iawn felly o gael gwahoddiad gan ein haelodau ym Merthyr Tudful i gynnal Cyfarfod Cyffredinol 2009 yn y dref honno. Mae Merthyr Tudful wedi chwarae rhan allweddol yn hanes Cymru ond fe fydd pwyslais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y dyfodol dyna pam yr ydym wedi dewis Chwyldro Newydd yn y Cymoedd fel y thema i'n gweithgareddau ar Hydref 24ain."
"Byddwn yn trafod nifer o gynigion yn ystod y cyfarfod cyffredinol gan gynnwys cynnig ynghylch datblygiad tai andwyol Bodelwyddan, ac a ddylem ni gefnogi trefi sy'n ceisio rhwystro Tesco rhag dod i mewn i'w cymuned. Fe fyddwn yn cyflwyno Swyddog Cyfathrebu newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a benodwyd yn ddiweddar, Colin Nosworthy."
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn siomedig iawn ar ôl cyfarfod Peter Hain heddiw. Roedd Menna Machreth, Cadeirydd y Gymdeithas, Bethan Williams a Ffred Ffransis wedi mynd i'w gyfarfod i drafod hynt a helynt y Gorchymyn Iaith.
Dywedodd Menna Machreth ar ran y Gymdeithas:
"Tra ein bod wedi cael ar ddeall y bydd y Gorchymyn Iaith yn cael ei drafod ger bron T?'r Cyffredin ym Mis Rhagfyr ac yna yn mynd ger bron y Cyfrin Gyngor ym Mis Chwefror teimlwn yn rhwystredig ac yn siomedig iawn ac mae gennym ein hamheuon os yw'r gorchymyn yn werth y papur y cafodd ei ysgrifennu arno. Mae hyn am na fydd yn cyffwrdd ar sector breifat bron o gwbl, gan fod trwch y siopau ar y Stryd Fawr wedi eu heithrio rhag gorfod cynnig gwasanaeth dwyieithog."
Dywedodd Menna Machreth ymhellach:
"Ar Dachwedd 6 mae Osian Jones ein Trefnydd yn y Gogledd yn wynebu carchar am ei ran yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith. Ofnwn fod y Gorchymyn Iaith sydd gennym ar hyn o bryd mor wan fel na fydd gennym ddewis fel Cymdeithas ond dal ati gyda'n hymgyrch dor-cyfraith fydd yn sicr yn arwain at ragor o garchariadau."
Heddiw am 2 o'r gloch bydd tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod Peter Hain yng Nghaerdydd i drafod y Gorchymyn Iaith. Y tri ar ddirprwyaeth y Gymdeithas fydd Menna Machreth (Cadeirydd), Bethan Williams (Arweinydd Ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas) a Ffred Ffransis (Senedd Cymdeithas yr Iaith).
Dywedodd Menna Machreth ar ran dirprwyaeth y Gymdeithas:
"Byddwn yn pwysleisio fod y system o drin a thrafod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg wedi bod yn llafurus, hirwyntog a chymhleth. Byddwn yn mynnu hefyd fod Aelodau Seneddol wedi cael llawer gormod o ddylanwad dros y broses ac mai mater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai deddfu ar yr iaith Gymraeg fod. Rydym hefyd yn anfodlon iawn mai dim ond cwmnïau a chyrff sy'n derbyn £400,000 o arian cyhoeddus fydd yn gorfod darparu gwasanaethau dwyieithog ac yn mynnu fod y trothwy yn cael ei ostwng."
Dywedodd Menna Machreth ymhellach:
"Y gwir ydyw nad ydym wedi symud ymlaen llawer. Bydd ein hawliau ieithyddol fel Cymry Cymraeg yn dal yn eilradd a hynny nid yn unig mewn perthynas â'r sector breifat. Mae'r hawl i siarad Cymraeg yn y gweithle yn dal yn amwys er enghraifft ac ni chrybwyllir yr hawl i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n syndod i ni fod llywodraeth sydd wedi mynnu fod cwmnïau yn cydnabod hawl gweithwyr i isafswm cyflog a chydnabod hefyd hawliau'r anabl wedi methu yn llwyr a derbyn fod gan bobl Cymru hawliau ieithyddol. Fydd yna ddim heddwch ieithyddol yng Nghymru os mai'r Gorchymyn Iaith hwn yw'r peth gorau sydd ar gael. Ni wyddom eto beth fydd canlyniad ein cyfarfod hwn gyda Peter Hain ond yr ydym yn rhagweld y bydd hi'n drafodaeth ddi-flewyn ar dafod."
Ar raglen Good Morning Wales bore yma dywedodd Peter Hain ei fod yn falch fod Llywodraeth y Cynulliad, Swyddfa Cymru a San Steffan wedi canfod 'common sense solution' ynghylch y Gorchymyn Iaith. Yn ei farn ef mae'r Gorchymyn wedi cael ei wella yn ystod y broses ac nad oedd e'n awyddus i weld 'burden of regulation' ar fusnesau preifat ac mae'n credu fod busnesau wedi gwneud cymaint eisoes drwy ewyllys da. Dyna oedd y maen prawf yn ei farn ef felly, sicrhau nad oedd rhaid i gorfforaethau gymryd yr iaith o ddifrif a sicrhau na fydd Cymru fyth yn genedl wirioneddol ddwyieithog.
Doedd dim iot o wahaniaeth gan y Blaid Lafur am farn y busnesau preifat adeg cyflwyno'r lleiafswm cyflog, ond mae'n gyfleus iawn nawr a dyna ddweud y cyfan am eu 'sosialaeth'.