Parti Lansio | Cwis y 2 Huw | Geiriau Protest gyda Dafydd Iwan a Gai Toms | Y Babell Wên dan ofal Elidir Jones | Troelli a Delweddu ar y cyd â Pictiwrs yn y Pyb | Carchar Dros Iaith gyda Jen Jeniro a Heather Jones | Meic Stevens, Huw M, Bob Delyn, Twmffat a llawer mwy...
Mwynha hwyl g?yl amgen Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn awyrgylch agos atat yn y clwb rygbi lleol, llai na hanner milltir o'r Maes. Dim ond lle i 150 felly archeba dy docyn yn sydyn! Bwyd a chroeso cynnes ar gael drwy'r dydd. Pwysa yma am fanylion llawn.
Cyfarfod Dyfodol Digidol i Gymru
Siaradwyr: Rhodri Williams (Ofcom), Rhodri Ap Dyfrig, Geraint Davies
3pm, Dydd Gwener Awst 6, Pabell y Cymdeithasau 2, Maes yr Eisteddfod
Bydd ymgyrchwyr Cymraeg yn protestio ar Faes yr Eisteddfod heddiw (3pm, Dydd Mercher, 4ydd Awst) oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar y Gymraeg, gan alw am wrthryfel gan wleidyddion yn dilyn methiant y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion.
Ychydig wythnosau'n ôl, galwodd pwyllgor trawsbleidiol am newidiadau mawr i gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad oherwydd diffyg egwyddorion yn y drafft. Dadleuodd Aelodau Cynulliad o bob plaid nad yw'r Mesur yn sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol, creu hawliau i'w defnyddio, na Chomisiynydd Iaith digon annibynnol ychwaith: ymrwymiadau allweddol yng nghytundeb Cymru'n Un.
Yn y brotest, bydd aelod Cymdeithas yr Iaith yn cerdded o gwmpas y maes fel y Comisiynydd Iaith newydd â hualau a pheli dur o gwmpas ei draed. Bydd y geiriau 'dim statws' a 'dim hawliau' ar y peli, yn dangos mai swydd anodd iawn fydd rôl y Comisiynydd heb egwyddor yn rhoi cyfeiriad a nod i'w waith.
Bydd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud:
"Ni fydd unrhyw werth i fesur iaith sydd yn cael ei basio er mwyn rhoi tic mewn bocs. Rydyn ni dal yn disgwyl i'r Llywodraeth i wneud rhywbeth gwirioneddol dros y Gymraeg a dyma'r neges rydym ni wedi ei glywed wrth bobl yr wythnos hon yn yr Eisteddfod. Mae'n amser i'n gwleiddyddion gymryd y cyfle i sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol a rhoi hawliau yn y Mesur. Byddai hynny'n sail gref i ddyfodol y Gymraeg o Flaenau Gwent i Benllyn."
2pm, Dydd Llun, Awst 2il,
Pabell y Cymdeithasau 2
Maes yr Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy
Bydd Sian Howys yn traddodi darlith ar fywyd a gwaith y bardd a'r comiwnydd T.E. Niclas (Niclas y Glais) a bydd Hywel Griffiths o Gymdeithas yr Iaith a Rob Griffiths o'r Blaid Gomiwnddol yn amlinellu bwriadau Cymdeithas Niclas y Glais. Bydd y Gymdeithas yn tynnu sylw at waith Niclas, gwaith na dderbyniodd y sylw haeddiannol ar hyd y blynyddoedd ac sydd yn llawn o syniadau sosialaidd, gwrth-imperialaidd, rhyng-genedlaethol a heddychol. Mi fydd y Gymdeithas hefyd yn hyrwyddo ac yn trafod llenyddiaeth a diwylliant o safbwynt y chwith. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â hywel@cymdeithas.org
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyd-drefnu gigs Maes B Eisteddfod Blaenau Gwent eleni, ond rydym ni hefyd yn trefnu Gwyl Amgen yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy i redeg ynghyd â nosweithiau Maes B a mi fydd y parti lansio ar nos Sadwrn y 31 o Orffennaf.
Mwynha hwyl Wyl amgen Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn awyrgylch agos atat yn y clwb rygbi lleol, llai na hanner milltir o'r Maes. Dim ond lle i 150 felly archeba dy docyn yn sydyn! Bwyd -- a chroeso cynnes -- ar gael drwy'r dydd.
Sadwrn 31 Gorffennaf Parti Lawnsio:
Y Betti Galws
John Grindell a Becca White
Hufen Iâ Poeth
Pop Budur
£5, 7.30pm-1am
Sul 1 Awst Cwis y Ddau Huw:
Huw Stephens
Huw Evans
DJs
£4, 5.30pm-12am
Llun 2 Awst Geiriau Protest:
Dafydd Iwan
Gai Toms
Just Like Frank
Jibincs
Gair i Gell: atgofion carchar Osian Jones a Ffred Ffransis
£8, 7.30pm-12.30am
Mawrth 3 Awst Y Babell Wên:
Noson Stand-yp dan ofal Elidir Jones
Noel James / Gez Couch
Iestyn Jones / DJ Hefin Jones
a gwesteion arbennig o'r byd llenyddol
ar y cyd â Tu Chwith
£4, 7.30pm-12.30am
Mercher 4 Awst Troelli a Delweddu
ar y cyd â Pictiwrs yn y Pyb
Yucatan
PSI
Matta
Cymdeithas y Rhyfeddod
£6, 7.30pm-12.30am
Iau 5 Awst Carchar Dros Iaith:
Jen Jeniro
Heather Jones
Y Cyfoes
DJs Potter a Lugg
Lansio prosiect i ganfod a chofnodi pawb sydd wedi bod i garchar dros yr iaith
£8, 7.30pm-1am
Gwener 6 Awst
Meic Stevens
Huw M
Adrift
Ryan Kift
£8, 7.30pm-1am
Sadwrn 7 Awst
Bob Delyn
Twmffat
Candelas
Gildas
DJ Swci Boscawen
£8, 7.30pm-1am
BWYD YN Y CLWB RYGBI
Brecwast 8-10.30am @£3.95
Cinio 12-3pm (2 pryd am £10)
Bwyd nos 6-9pm
Bydd haid o fôr-ladron ifainc yn dilyn map trysor draw at bafiliwn Cyngor Ceredigion wrth fod Cymdeithas yr Iaith yn dod â'r frwydr am ddyfodol ysgolion Pentrefol Cymraeg i faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Llun, Mai 31ain).
Bydd y Gymdeithas yn portreadu swyddogion Cyngor Ceredigion yn fôr-ladron unllygeidiog sydd wedi adeiladu eu cestyll drudfawr eu hunain ar yr arfordir yn Aberystwyth ac Aberaeron ac yn awr yn ymosod ar cymunedau gwledig i geisio dwyn trysorau o drigolion lleol.
Esboniodd trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd:
"Mae'r plant yn ymwisgo fel môr-ladron unllygeidiog i symboleiddio fod swyddogion Ceredigion o hyd yn gallu gweld un ateb yn unig, sef cau ein hysgolion a chanoli addysg. Mae bygythiad i o leiaf 15 o ysgolion pentrefol yng Ngheredigion, ac mae hyn yn rhan o broblem sy'n wir fygythiad i'n cymunedau gwledig Cymraeg trwy'r wlad."
Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y Llywodraeth
Cafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.
Cyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:
Cafwyd ymateb da iawn wrth Gynghorwyr Sir a'r gynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau mewn cyfarfod arbennig i drafod sut i greu Cymuned Gymraeg Gynaliadwy. Bu Carl Clowes yn sôn sut y llwyddodd Antur Aelhaearn i osod yr hinsawdd briodol ar gyfer adfywio cymuned Gymraeg. Esboniodd Ffred Ffransis am gynllun newydd, Cynllun Adfywio Cymunedol, sy'n cael ei ffurfio ar hyn o bryd wrth i Gymdeithas yr Iaith gydweithio â chymunedau Penllyn. Amcan y cynllun yw i gymuned grymuso ei hun drwy gynllunio dros eu cymuned, gan fedru defnyddio'r cynllun fel arf i allu ymateb yn holistig i ddatblygiadau neu fygythiadau i'r gymuned. Bu ymatebion cadarnhaol gan Dylan Edwards (Cynghorydd Lleol) a Dyfed Edwards (Arweinydd Cyngor Gwynedd) a'r gynulleidfa o dros 100 o bobl, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn gobeithio y bydd cymunedau eraill â diddordeb i gydweithio ar gynllun tebyg. Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd grwp ymgyrch Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith:
'Yn y cyfarfod hwn roeddwn yn edrych am ffyrdd o rymuso a sbarduno ein cymunedau lleol fel eu bod yn eu hadfywio eu hunain a hynny oddi mewn i ganllawiau y Cynlluniau Datblygu Lleol.'
Protest 'Mae'r amser yn dod i Ben...' Pwerau llawn dros y Gymraeg i Gymru.
Roedd 200 o bobl wedi ymuno â Chymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod i rybuddio Llywodraeth y Cynulliad fod yr amser yn prinhau i fedru trosglwyddo'r pwerau dros y Gymraeg cyn yr etholiad nesaf. Rhybuddiwyd fod y Gweinidog Treftadaeth yn euog o beidio gwneud mwy i sicrhau Gorchymyn mwy eang, a'r Ysgrfenydd Gwladol yn euog o rwystro taith y Gorchymyn.
Fe wnaeth degau o fynychwyr y brotest weithredu'n uniongyrchol ar faes yr Eisteddfod, drwy osod sticeri ar stondin Llywodraeth y Cynulliad. Roedd y sticeri yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg. Bu Sian Howys yn siarad tu allan i stondin y Llywodraeth:
'Yr her i'r Gweinidog Treftadaeth yw i ddeddfu er mwyn gwneud gwahaniaeth fel y mae deddfu wedi gwneud gwahaniaeth mewn meysydd eraill o anghydraddoldeb. Os ydym ni eisiau gweld mwy o hawliau i'r Gymraeg, rhaid i ni eu enwi nhw, eu cywilyddio nhw a'u herio nhw bob gam o'r ffordd.'
Cynllunio logo y Coleg Ffederal ar Faes yr Eisteddfod
Ar Ddydd Llun 3ydd Awst, roedd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
'Er mwyn cynyddu'r ymwybyddiaeth fod y Coleg ar fin dod o'r diwedd, rydym yn trefnu'r gystadleuaeth logo ar gyfer y sefydliad nwydd, gan wahodd pobl i alw yn ein huned ar Faes yr Eisteddfod trwy'r wythnos i lunio cynigion.'
Daeth dros 200 o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i brotest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala heddiw, lle cyflwynwyd ddeiseb brys wedi'i arwyddo gan gefnogwyr yn yr wyl. Byrdwn y neges oedd yr angen i brysuro gyda'r gwaith o drosglwyddo pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru. Fe wnaeth Big Ben deithio yr holl ffordd o Lundain i gymryd rhan yn yr orymdaith o uned Cymdeithas yr Iaith i uned llywodraeth y Cynulliad.
Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
''Rydym yn cyflwyno ein neges yn hollol glir i'r Llywodraeth, sef bod amser yn mynd yn brin ac felly bod angen trosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros y Gymraeg o San Steffan i Gymru heb ragor o oedi. Mae amser trafod wedi dod i ben, mae angen i ni weld y Llywodraeth yn gweithredu er mwyn i ni gael hawliau llawn i ddefnyddio'r Gymraeg.''
Uned Cymdeithas yr Iaith
Maes Eisteddfod Genedlaethol y Bala
2pm, Dydd Gwener 7fed Awst
Mae'r amser yn dod i Ben...
Mae'r broses o drosglwyddo pwerau o San Steffan i'r Cynulliad yn llawer rhy araf. Os na fydd y Gorchymyn Iaith wedi ei basio cyn yr etholiad, fe fydd rhaid dechrau'r broses lafurus hon eto ac ni fydd amser gan y Cynulliad i basio mesur cyn diwedd y tymor presennol.
San Steffan yn mynnu llusgo traed ar bwnc yr iaith
Mae'r ffaith ein bod ni yn gorfod mynd at Lundain a begian am bwerau dros y Gymraeg yn brawf o'n israddoldeb fel cenedl. A nawr ein bod yn cael y cyfle i drosglwyddo'r pwerau dros y Gymraeg i Gymru, mae aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn ceisio eu gorau glas i lusgo traed fel na fydd y Gorchymyn yn cael ei basio am amser hir. Mae eu adroddiad diweddar yn dangos pa mor wrthwynebus ydyn nhw tuag at hawliau iaith a chryfhau statws y Gymraeg yng Nghymru.
Peter Hain a'i system LCO
Os na fydd yr LCO'n cael ei basio, bydd hyn yn dangos faint o ffars yw'r broses ac yn embaras mawr i Peter Hain, yr Ysgrifennydd Gwladol. Dyma gyfle felly i fynnu mwy yn y Gorchymyn oherwydd fod gymaint o bwysau ar y Llywodraeth i ddangos fod y system yn gweithio.
Ydi Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud digon?
Cyhoeddwyd adroddiad canmoladwy gan y Cynulliad yn galw am drosglwyddo'r holl bwerau dros y Gymraeg i Gymru. Ond y cwestiwn mawr yw hyn: a yw Alun Ffred Jones a Rhodri Morgan yn mynd i ddilyn yr egwyddor hwn a mynnu Gorchymyn ehangach a chryfach er mwyn y Gymraeg? Neu a ydyn nhw'n mynd i fodloni ar y drafft presennol?
Mae angen cryfhau'r elfennau hyn o fewn y Gorchymyn Iaith:
- dylai'r Gorchymyn gynnwys pwerau dros bob corff neu gwmni sy'n cynnig gwasanaeth i'r cyhoedd, er mwyn medru cynnwys archfarchnadoedd fel Tesco mewn mesur iaith. Dim ond cyrff a chwmnïau sy'n derbyn £200,000 o arian cyhoeddus sydd yn y Gorchymyn ar hyn o bryd, felly hawl amodol yn unig mae'r Gorchymyn yn ei addo
- mae angen cael gwared ar anghysondebau o fewn y Gorchymyn, e.e. cynnwys trenau ond nid bysus
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Fesur Iaith Cyflawn o'r Gorchymyn Iaith a fydd yn cynnwys:
- statws swyddogol i'r Gymraeg
- hawliau cyflawn ar draws bob sector
- Comisiynydd Iaith Gymraeg
Daeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:
"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn. Ein gobaith ni yw y bydd y syniadau sy'n deillio o'r cyfarfod heddiw, nid yn unig yn berthnasol i Benllyn ond yn rhai y gall pobl sy'n byw mewn cymunedau Cymraeg ar hyd a lled Cymru eu defnyddio. Mae'n rhaid i bawb sy'n poeni am ddyfodol ein cymunedau fynnu'r p?er i ddiogelu'r dyfodol hwnnw. Gwelwn y cyfarfod hwn fel man cychwyn i weithgarwch fydd yn ymestyn drwy Gymru gyfan."
Dr Carl Clowes, Ffred Ffransis, Dyfed Edwards (Arweinydd Cyngor Gwynedd) Cadeirydd - Menna Machreth
Pabell y Cymdeithasau
Maes Eisteddfod Genedlaethol y Bala
2pm, Dydd Mercher 5ed Awst
Dewch i glywed mwy am y cynllun peilot hwn lle mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cydweithio â chymunedau Penllyn i lunio Cynllun Adfywio Cymunedol.
Y ffactorau sy'n milwrio yn erbyn ein cymunedau...
Bu ymgyrchu caled ym mro'r Eisteddfod yn ystod y ddwy flynedd diwethaf i geisio sicrhau dyfodol ysgolion pentrefol lleol sy'n ganolbwynt i fywyd y cymunedau. Daeth yn amlwg fod y bygythiad i'r ysgolion yn arwydd o wendid mwy sylfaenol yn ein cymunedau pentrefol Cymraeg.
Mae ymwybyddiaeth wedi tyfu o'r ymgyrch i ddiogelu ysgolion pentrefol Cymraeg gan amlygu bod angen cynlluniau ehangach i ddiogelu'r cymunedau pentrefol eu hunain. Mae'n gylch dieflig. Mae'r sefyllfa addysg yn gysylltiedig â'r diffyg tai fforddiadwy neu dai ar rent, all-lifiad pobl ifanc o'n cymunedau, economi lleol a thrafnidiaeth.
Amcanion
Ein hamcan yw cynorthwyo cymunedau i greu cynlluniau holistaidd a fydd yn tynnu'r holl elfennau o gymuned Gymraeg ynghyd. Amcan y Cynlluniau Adfywio Cymunedau Lleol fydd datrys sut fydd mynd ati i wireddu hyn yng nghyd-destun Llanuwchllyn, Parc a chymunedau pentrefol eraill ym Mhenllyn.
Bydd ein Cynlluniau Adfywio Cymunedau Lleol hefyd yn gallu bod yn ddigon hyblyg i ymwneud â materion perthnasol i ddyfodol y cymunedau nad sydd fel arfer yn rhan o drefn gynllunio gonfensiynol - neu'n gallu edrych ar y materion o bersbectif gwahanol e.e. pa newidiadau y mae eu hangen ym mhob maes er mwyn rhoi'r cyfle ymarferol i bobl ifainc wneud eu dyfodol oddi fewn i'r cymunedau pentrefol hyn?
Dewch gyda ni!
Dewch i'r cyfarfod arbennig hwn i glywed sut hwyl mae cymunedau Penllyn yn ei gael wrth lunio eu Cynllun Adfywio ar gyfer eu cymunedau.
Os oes diddordeb gennych chi yn y Cynllun hwn, neu os byddai diddordeb gan eich cymuned chi mewn creu cynllun o'r fath, cysylltwch â Hywel Griffiths: hywel@cymdeithas.org
Am 2pm Llun 3ydd Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Mewn man arall o'r uned, bydd aelodau eraill yn cynllunio logo ar ffurf digidol ar gyfrifiadur. Bydd y Gymdeithas yn cyflwyno'r syniad gorau ar ddiwedd yr wythnos i Lywodraeth y Cynulliad gan ofyn iddynt anfon gwobr at yr enillydd !
Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis " Mae'n bwysig iawn fod y Coleg Ffederal Cymraeg yn cychwyn yn swyddogol y flwyddyn nesaf yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Er mwyn cynyddu'r ymwybyddiaeth fod y Coleg ar fin dod o'r diwedd, rydym yn trefnu'r gystadleuaeth logo ar gyfer y sefydliad nwydd, gan wahodd pobl i alw yn ein huned ar Faes yr Eisteddfod trwy'r wythnos i lunio cynigion. Yr ydym hefyd wedi agor cofrestr myfyrwyr ar gyfer y coleg - yn cynnwys myfyrwyr ar gyfer blynyddoedd i ddod ac hefyd ar gyfer pobl a hoffent ddilyn cyrsiau tan y Coleg Cymraeg yn eu cymunedau."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu wythnos lawn o weithgarwch gyda'r nos ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Ond fe fydd y tair noson gyntaf (gynhelir ym Maes Tafod wrth ymyl y Ganolfan Hamdden), tra'n apelio at bawb yn sicr o apelio yn arbennig at yr Eisteddfodwyr hynny sy'n cofio'r Blew a 'Maes B' yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 1967.
Fe gafodd Dafydd Iwan ganu yn y Pafiliwn mewn cyngerdd gyda'r nos yn yr Eisteddfod honno ac roedd hynny'n chwyldroadol ar y pryd a 'Chân yr Ysgol' yn dal yn gymharol newydd Fe fydd yn bleser cael croesawu Dafydd yn ôl i Eisteddfod y Bala eleni. Ef fydd y prif atyniad ar nos Sadwrn cyntaf yr ?yl, ac mae hynny yn gwbwl briodol gan fod gwreiddiau Dafydd yn Llanuwchllyn.
Ddeugain mlynedd union yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 1969 ac yntau yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y pryd, roedd Dafydd Iwan yng nghanol un o stormydd gwleidyddol mwyaf ei fywyd gan ei fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch peintio arwyddion ac yn arwain yr ymgyrch yn erbyn yr Arwisgo. Mae rhywun yn gobeithio y caiff Eisteddfod dawelach yn y Bala eleni. Yn ei gefnogi ar y noson mae Lowri Evans a Candelas a'r compare fydd Dilwyn Morgan.
O'i huned (rhif 401 - 402) ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn arwain yr ymgyrch dros Gymunedau Cymraeg Cynaliadwy.
Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Ni ellir dianc rhag y ffaith fod yr Eisteddfod eleni yn agos iawn at Lyn Tryweryn. Boddi Cwm Celyn yn y chwedegau achosodd i'r Cymry sylweddoli o ddifrif pa mor ddiamddiffyn a bregus oedd eu cymunedau, ac mor fawr y perygl a wynebai'r iaith Gymraeg. Er bod llawer i frwydr wedi ei hennill dros y deugain a mwy o flynyddoedd ers boddi'r cwm mae'n rhaid cydnabod fod dyfodol ein cymunedau Cymraeg mewn sefyllfa fwy argyfyngus nac erioed."
"Dyna pam yr ydym wedi dewis 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' fel thema i uno'n gweithgareddau yn yr Eisteddfod, a'r cyfarfod cyhoeddus am 2 o'r gloch brynhawn dydd Mercher ym Mhabell y Cymdeithasau yn ganolbwynt i'r cyfan. Gwahoddwn y cyhoedd i lunio Logo i'r Coleg Ffederal Cymraeg, fydd fe obeithir yn dechrau cropian ymhen dwy flynedd. Ac unwaith eto bydd yr ymgyrch Ddeddf Iaith yn bwrw ei chysgod drosom. Rhaid sicrhau fod y pwerau digonol yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn yr Etholiad Cyffredinol neu fe fydd yn rhaid cychwyn ar yr holl waith eto. Nid yw amser o'n plaid. Bydd protest am 2 bnawn Gwener. Ar ôl ymgyrchu ar y Maes bydd cyfle i ymlacio yn ein gigs gyda'r nos o'r Sadwrn 1af i'r Sadwrn olaf yn 'Pabell Tafod' (ger y Ganolfan Hamdden) ac ar y nos Fawrth yn y Plas Coch."
Heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.
Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.
Erbyn Mehefin 5ed, bydd Pwyllgor Craffu'r Cynulliad yn cyflwyno adroddiad i'r Gweinidog Treftadaeth am y Gorchymyn Iaith Gymraeg.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith y Gymdeithas:
"Gyda g?yl ieuenctid fwyaf Ewrop ar garreg eu drws, mae'n rhaid herio'r Pwyllgor Craffu i feddwl am hawliau pobl ifanc Cymru i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn cyflwyno arwyddion ffyrdd gyda negeseuon arnynt i'r Pwyllgor Craffu oherwydd os na fydd y Gorchymyn Iaith yn ddigon eang, bydd y Llywodraeth wedi dewis rhwystro'r ffordd i'r Gymraeg."
Ar Ddydd Gwener, Mai 29ain am 12pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd i bwysleisio fod y Coleg Cymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru gan wahodd darpar fyfyrwyr i gofrestru â'r Coleg.
Wrth i ni aros am adroddiad Robin Williams a fydd yn argymell model o'r Coleg Ffederal Cymraeg i'r Gweinidog Addysg yn fuan iawn, mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych ymlaen at sefydlu'r Coleg ac yn gwahodd disgyblion ysgol ac oedolion sydd am ddilyn cyrsiau addysg barhaus i gofrestru ar gwrs o'u dewis.
Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Disgwyliwn y bydd myfyrwyr yn gallu cofrestru gyda'i sefydliad uwch daearyddol yn ogystal â'r Coleg Ffederal Cymraeg os ydyn nhw'n cymryd cwrs a ariennir gan y Coleg Cymraeg. Drwy agor y gofrestr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2009, rydym yn adeiladu momentwm tuag at sefydlu'r coleg. O'r cychwyn cyntaf, rhaid i fyfyrwyr a darlithwyr deimlo perchnogaeth dros y Coleg Ffederal Cymraeg.'
Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.
Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg. Cofiwch brynu y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau a'u darllen.
1pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Protest: Hawl i Rentu!
Uned Cymdeithas yr Iaith
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008
Hywel Griffiths, Iestyn ap Rhobert.
Mynd â’r alwad dros ‘Hawl i Rentu’ at Uned Llywodraeth y Cynulliad lle’r codir Ty Unos.
Mae’n ffasiynol iawn i’r holl bleidiau gwleidyddol son am “dai fforddiadwy” y dyddiau hyn. Mae datblygwyr yn cael caniatad i godi nifer mawr o dai drud a di-angen ar yr amod fod ychydig o dai “fforddiadwy” yn eu plith. Fel arfer ychydig iawn o drigolion lleol all fforddio’r tai “fforddiadwy”.
Un ateb tuag at sicrhau cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau yw cynnydd mawr yn y nifer o unedau i’w rhentu. Symud tuag at sefydlu “Hawl i Rentu” i bobl leol yn lle hen bolisi Thatcher o “Hawl i Brynu”. Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch!
• Oherwydd anhawster cael morgais, dyma unig gyfle llawer i gael cartre yn eu cymuned
• Mae prisiau tai’n disgyn, felly mae’n fwy ymarferol i Gynghorau brynu tai ar werth a’u rhentu i bobl leol.
• Rhaid fod y tai ar rent yn y mannau iawn yn ein cymunedau – nid mewn stadau canolog yn unig.
• Rhaid fod y tai o’r mathau sy eisiau – yn cynnwys unedau ar gyfer pobl ifainc.
• Rhaid wrth system deg i osod tai i bobl leol
• Gall trefniadau rhan-berchnogaeth fod yn rhan o’r cynllun “Hawl i Rentu”
Nid dyma’r holl ateb i broblem sicrhau cartrefi yn ein cymunedau, ond bydd yn gam mawr ymlaen ar gyfer y rhai mwyaf anghenus yn ein cymunedau ac ar gyfer pobl ifainc sy’n ceisio penderfynu a oes dyfodol iddynt yn eu cymunedau.
Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch – dewch i weld yr arddangosfa yn uned y Gymdeithas ar faes y Steddfod, a dewch i orymdeithio gyda ni i fynd a’r alwad at Lywodraeth y Cynulliad!
Ac i ddilyn...
2.15pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Gweithdy Cymunedau Rhydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Mae ymgyrch Hawl i Rentu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio yn yr eisteddfod. Bydd yn ymgyrch weithredol er mwyn sicrhau bod un cyfran o’n polisiau ni i amddiffyn ein cymunedau Cymraeg yn cael ei weithredu. Mae’n gofyn am weithgarwch gan aelodau o bob ardal o Gymru, felly dewch draw i’r uned i glywed am y cynlluniau, i drafod ac i ddysgu am ein polisiau.
Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.
1pm, Dydd Iau, 7fed o Awst
Protest: Mesur Iaith – Y Rhybudd Olaf!
Uned Cymdeithas yr Iaith
Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008
Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl cyhoeddiad am fanylion Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol y Llywodraeth ar yr iaith Gymraeg. Dyma'r cyfle gorau posib am ddegawd arall a mwy i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn derbyn yr hawl i weld, clywed a defnyddio'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd. Mae'r cwmnïau amlwladol sydd yn gwneud biliynau o bunnoedd o elw o gymunedau Cymru yn gwbwl anystyriol o'r iaith Gymraeg ac yn gwbwl amharchus o hawlia eu cwsmeriaid. Mae profiad y ddegawd ddiwethaf wedi dangos yn glir na ellid sicrhau hawliau ym maes y Gymraeg heb orfodaeth trwy ddeddfwriaeth - dyma'r cyfle i sicrhau hyn unwaith ac am byth. Rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth sicrhau statws swyddogol i'r iaith Gymraeg, sefydlu Comisiynydd Iaith gref ac annibynnol, a sefydlu hawliau i bawb o bobl Cymru.
Ac i ddilyn...
2.15pm, Dydd Iau, 7fed o Awst
Gweithdy Deddf Iaith Newydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Mae gweithgaredd Cymdeithas yr Iaith ar fater deddf iaith newydd yn gofyn am amrywiaeth o ddulliau ymgyrchu a lobio. Mae’r ymgyrch weithredol i drawsnewid cwmnïau uniaith Saesneg y sector breifat drwy sticeri, picedi a gweithredu uniongyrchol yn ei anterth. Ar yr un pryd, rydym ni’n cynnal cyfarfodydd lobio rheolaidd gyda’r llywodraeth i geisio sicrhau bod unrhyw ddeddf iaith newydd yn un gwerth ei chael. Er mwyn ymuno a’r ymgyrch neu i drafod dulliau o weithredu, dewch draw i’r uned!
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.
3pm, Dydd Mercher, 6ed o Awst
Cyfarfod Cyhoeddus: Coleg Ffederal Cymraeg – Ymgyrch Pawb!
Pabell y Cymdeithasau
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008
Hywel Griffiths, Menna Machreth, Einir Young, Ieuan Wyn
Cyfle i bawb roi tystiolaeth dros Goleg Ffederal Cymraeg. Gwahoddir y rhai fydd yn cymryd y penderfyniadau i ddod i wrando arnoch chi.
Addawodd y Llywodraeth Glymblaid yn nogfen “Cymru’n Un” sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Cafodd y flwyddyn gyntaf ei gwastraffu. Nawr bydd y Llywodraeth yn sefydlu “Grwp Llywio Coleg Cymraeg” ac yn cynnal “Cynhadledd i Ran-ddeiliaid” i lunio’r ffordd orau ymlaen. Mae’n sicr mai’r Sefydliadau Addysgol – sydd mor geidwadol ac yn gwrthwynebu newidiadau wrth reddf – fydd y rhan fwyaf o’r rhan-ddeiliaid hyn. Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu:
• Fod angen cyflymu’r broses rhag colli’r cyfle hanesyddol trwy fod y sefydliadau addysg uwch yn ceisio gohirio symudiadau.
• Fod angen cytundeb yn syth ar yr egwyddorion gwaelodol – sef bod angen statws annibynnol, siarter, llif arian annibynnol a chofrestr myfyrwyr ar y coleg.
• Ein bod i gyd yn rhan-ddeiliaid yn y ddelfryd o Goleg Cymraeg. Felly, yn y sesiwn hon fe fyddwn yn taflu drysau eu cynhadledd nhw yn agored i bobl Cymru. Gwahoddwn Aelodau a swyddogion perthnasol y Cynulliad i fod yn bresennol i glywed eich tystiolaeth a sicrhawn fod eich barn – yn y sesiwn hon a datganiadau wedyn – yn cael ei chyfleu mewn modd grymus i’r “gynhadledd” a drefnir gan y Llywodraeth.
MAE HWN YN BWNC RHY BWYSIG I’W ADAEL I’R SEFYDLIAD!
Ac i ddilyn...
4.15pm, Dydd Mercher, 6ed o Awst
Gweithdy Coleg Ffederal ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Yn ddiweddar mae lobio gan aelodau o grwp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod cynlluniau’r llywodraeth nad oedd yn cadw at addewid Cymru’n Un i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg wedi cael eu hailystyried. Dyna ddangos beth allwn ni gyflawni yn y maes yma, maes sydd yn hynod berthnasol i bobl Cymru, yn enwedig myfyrwyr a disgyblion ysgol. Er mwyn dysgu mwy am yr ymgyrch acer mwyn trafod yr egwyddorion a’r dulliau ymgyrchu dewch draw i’r uned!
Bydd Cymdeithas yr iaith yn gweithredu ar faes yr Eisteddfod er mwyn agor i'r bobl yr ymgyrch a'r ddadl am Goleg Ffederal Cymraeg. Mae'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi cyhoeddi sefydlu Gweithgor - i'w gadeirio gan Robin Williams - er mwyn astudio gwahanol fodelau ar gyfer Coleg Ffederal Cymraeg ac felly wireddu un o addewidion sylfaenol dogfen "Cymru'n Un" Llywodraeth y Cynulliad.
Am 1 o'r gloch heddiw (Dydd Llun Awst 4) bydd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth, yn un o nifer ddaw i lansiad llyfr ar statws gyfreithiol iaith Gymraeg ym Mhabell y Gymdeithas (unedau 906 -908). Mae'r llyfr 'Hawl i'r Gymraeg' gan Gwion Lewis, sy'n un o ysgolheigion disgleiriaf ei genhedlaeth, yn edrych ar hawliau ieithyddol y Cymry Cymraeg yng nghyd-destun cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ei lyfr mae Gwion Lewis yn dadlau na fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod ein hawl ddiymwad i siarad a defnyddio'r Gymraeg. Ei obaith yw y bydd y llyfr nerthu ac yn cryfnau yr alwad am Fesur iaith newydd.
Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fydd yn siarad yn y cyfarfod gyda gyda Cynog Dafis: "Dyma lyfr anhepgor y bydd yn rhaid i'r Gweinidog Treftadaeth ei ddarllen ar ei union a hithau yn amser tyngedfennol yn yr ymgyrch dros Fesur Iaith newydd."
Y lleoliad am yr wythnos fydd Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, gyda tri llawr o adloniant yn cael eu cynnal o nos Sadwrn drwodd i nos Sadwrn a dau gig gwahanol yn cael eu cynnal bob nos. Mae'r llawr gwaelod yn dal 210 yn unig a'r llawr canol/uchaf 260 - felly cysylltwch â'r brif swyddfa i archebu tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan - 01970 624501 neu post[AT]cymdeithas[DOT]org .
Am 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.
Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo mur Deddf Iaith Newydd a dangos eu cefnogaeth am ddeddf iaith gyflawn.
Cynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un". Yn union fel y mae perygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau gan gwmnïau preifat mawr i'w hesgusodi o anghyfleustra Deddf Iaith newydd, y mae hefyd berygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau Sefydliadau Addysg Uwch i beidio a newid y statws quo trwy sefydlu Coleg Cymraeg grymus. Yn hytrach na Choleg Cymraeg aml-safle gyda'r holl rym a chyllid i sicrhau darpariaeth lawn o addysg uwch Gymraeg trwy'r sefydliadau ac yn ein cymunedau, y mae perygl na bydd ond cwango bach i di-nod i rannu cyllid bach ychwanegol i sicrhau ychydig o gyrsiau Cymraeg ychwanegol.
28 Mai 2008
|
Mwy...
Ar derfyn gorymdaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn am 3pm heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i “atal y gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”
"O Ddifri Dros y Gymraeg" yw'r thema sy'n clymu gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghonwy a rhif uned Cymdeithas yr Iaith yw 85 – 86.
Am 2.yp, heddiw bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest tu allan i gangen yr Wyddgrug o archfarchnad Tesco yn galw ar y cwmni i fabwysiadu nifer o fesurau penodol a fydd yn sicrhau bod eu canghennau ledled Cymru yn cynnig mwy na'u defnydd tocenisitig presennol 'r Gymraeg.
Cyfarfod Deddf Eiddo -‘Ardal yr Wyddgrug: Rhybudd i Gymru Gyfan’
Astudiaeth achos o ddatblygiadau tai anaddas
3pm, 06/08/07, Pabell Cymdeithasau, Maes yr Eisteddfod
Mae Urdd Gobaith Cymru yn galw am adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg. Nod yr Urdd yw sicrhau y cyfle trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru i ddatblygu’n unigolion cyflawn, a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol. Er mwyn creu’r amgylchfyd gorau i’r mudiad allu cyflawni hyn, mae’n amserol, bedair mlynedd ar ddeg wedi’r Ddeddf Iaith ddiwethaf, i adolygu’r ddeddfwriaeth, ac i ystyried cyflwyno gwelliannau iddi i’w gwneud yn fwy perthnasol i Gymru heddiw.
Am y tro cyntaf erioed, cynhelir Llys Droseddol ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf. Trefnir y Llys Iawnderau Cymunedol gan Gymdeithas yr Iaith am 12.00 Llun 28ain Mai tu allan i uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar y maes.
Am 10am bore heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith wys yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin i bedwar o brif gynghorwyr a swyddogion y Cyngor Sir. Cafodd Mark James (Prif Weithredwr), Vernon Morgan (Cyfarwyddwr Addysg), Meryl Gravell (Arweinydd y Cyngor) a Martin Morris (Dirprwy Arweinydd) eu gwysio i ymddangos gerbron Llys Iawnderau Cymunedol a gynhelir am 12.00 Llun y 28ain o Fai yn uned y Cyngor Sir ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mewn llythyr at Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi addo y byddant yn cadw at reolau'r Maes y flwyddyn nesaf ac yn arbennig at reol rhif 33 sy'n datgan:
Bydd 'Y Stig' yn gwneud ymddangosiad ar Faes yr Eisteddfod heddiw Ar ei feic modur yn barod i ruthro at Neuadd y Sir Caerfyrddin gyda llond blwch o negeseuon yn cefnogi ysgol bentre sydd wedi’i lleoli tua 12 milltir o’r maes. 'Y Stig' yw’r gyrrwr rasio di-enw sy’n profi ceir ar y rhaglen deledu 'Top Gear'. Bydd yn ymddangos heddiw ar y maes ar ei feic modur ar derfyn cyfarfod protest gan Gymdeithas yr Iaith gyda helmed tywyll yn cuddio’i wyneb.
Am 2pm heddiw, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg rali brotest yn galw am Ddeddf Iaith Newydd. Dechreuodd y brotest tu allan i uned Cymdeithas yr Iaith, lle cafwyd anerchiad gan Dafydd Iwan, llywydd Plaid Cymru, cyn i'r dorf orymdeithio draw at uned y Blaid Lafur.
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir am 2 o’r gloch heddiw ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno drafft o Ddeddf Iaith Newydd. Gwneir hyn fel cyfraniad pellach i’r drafodaeth gynyddol ynglyn â’r angen am ddeddfwriaeth iaith gryfach.
Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd rhagbrofion ledled Cymru, ac erbyn hyn gellir cyhoeddi’r 4 band fydd yn brwydro am deitl grwp ifanc gorau Cymru. Y bandiau sydd wedi cyrraedd y ffeinal yw Gloria a’r Creiond Piws (enillwyr rhagbrawf Llyn), Zootechnics (enillwyr rhagbrawf Caernarfon), Amlder (enillwyr rhagbrawf Caerfyrddin), ac yn olaf Eusebio (enillwyr rhagbrawf Crymych).
Bydd nos Iau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe eleni yn ddathliad o gerddoriaeth hip-hop Cymraeg wrth i'r arloeswyr yn y maes, Llwybr Llaethog, berfformio set arbennig yng Nghlwb Barons i ddathlu 20 mlynedd ers iddyn nhw ryddhau'r deunydd rap cyntaf yn yr iaith.