Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cynllun peilot a ddadleuant y gallai fod yn fodel ar gyfer adfywio cymunedauBydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cynllun peilot a ddadleuant y gallai fod yn fodel ar gyfer adfywio cymunedau Cymraeg ar draws y wlad yn Sioe Meirion heddiw.
Ar faes y sioe ger Harlech, bydd y Gymdeithas yn cyflwyno'r copi cyntaf o "Gynllun Adfywio Cymunedau Penllyn" i Eifion Davies ar ran Partneriaeth Penllyn (Cynghrair o Gynghorau Cymuned yn Ardal Y Bala).
Mewn datblygiad cyfochrog, bydd Bryn Fon a bandiau poblogaidd eraill yn chwarae mewn g?yl yn y Parc, ger Y Bala, fel rhan o'r frwydr i gadw eu hysgol ar agor a gynhelir ar Ddydd Llun G?yl Banc Awst (30ain Awst).
Mae'r Gymdeithas yn gobeithio y bydd cymunedau Cymraeg eraill yn ymgymryd â'r gwaith o lunio Cynlluniau Adfywio.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cerdded 70 o filltiroedd er mwyn dobarthu a llaw Cerdyn Post anferth o Dryweryn i gynghorwyr Gwynedd yng Nghaernarfon o flaen pleidlais dyngedfennol am ddyfodol ysgol sy'n gonglfaen i un o gymunedau pentrefol enwocaf Cymru.
Ar brynhawn Iau y 15ed o Orffennaf, bydd y Cyngor llawn yn pleidleisio ar ddyfdol yr ysgol yn y Parc, ger Y Bala, man geni Merched y Wawr. Ar y prynhawn Sul blaenorol, bydd Pwyllgor Amddiffyn Ysgol y Parc yn cynnal Rali Tryweryn 2010 ar yr argae i gofio'r gymuned a ddinistrwyd gan Gyngor Lerpwl ac i rybuddio fod ein Cyngor ein hunain yn bygwth cymuned arall yn awr trwy ddwyn yr ysgol.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwahodd pawb yn y rali i lofnodi Cerdyn Post anferth Tryweryn a'i gyfeirio at Gyngor Gwynedd. Yn dilyn y rali, bydd aelodau'r Gymdeithas yn cychwyn ar Daith Gerdded 70 o filltiroedd i gludo'r cerdyn post yn bersonol at Gynghorwyr Gwynedd gan gyrraedd Caernarfon ar gyfer rali tu allan i bencadlys y Cyngor am 1pm Iau 15ed. Pwysa yma i lawrlwytho taflen manwl y daith (pdf)
Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
"Wedi dwy flynedd, mae'n bryd i ni ddychwelyd at y ffordd yn dilyn y bygythiad newydd hwn i gymuned Gymraeg. Trist iawn yw ystyried mai Corfforaeth Lerpwl a ddinistriodd gymuned Gymraeg leol hanner canrif yn ol, ond yn awr y mae ein pobl ein hunain yn bygwth tanseilio cymuned Gymraeg trwy gau'r ysgol sy'n gonglfaen i fywyd Parc. Ar y ffordd, byddwn yn ymweld a phentrefi Cymraeg eraill yng Ngwynedd a Chonwy y mae bygythiad i'w hysgolion."
Heddiw mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad gorsaf radio Heart FM i symud eu canolfan ddarlledu sydd yn gwasanaethu Gwynedd a Môn o Fangor i Wrecsam.
Dywedodd Gerallt Roberts aelod o rhanbarth Gwynedd / Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
"Ers misoedd bellach mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod mewn deialog gyda swyddogion o Heart FM ynglýn a'n pryderon nad ydi'r orsaf yn adlewyrchu y gymuned y mae hi fod i wasanaeth, gan chware canran uchel iawn o ganeuon Saesneg. Teimlwn fel Cymdeithas na fydd y penderfyniad i symud canolfan ddarlledu yr orsaf o Fangor i Wrecsam yn gwneud dim i liniaru ein pryderon ynglýn a dyfodol yr orsaf fel fforwm rhanbarthol i drafod ac i adlewyrchu'r holl ystod eang o fywyd cyfrwng Cymraeg siroedd Gwynedd a Môn."
Bydd sefydliadau gwrth-Gymraeg yng ngogledd Cymru yn elwa o gynlluniau'r Llywodraeth i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yn ôl siaradwyr mewn rali ym Mhorthmadog heddiw (Dydd Sadwrn, 19eg Mehefin).
Bydd beirniadaeth lem o fethiannau ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr, i ddarparu gwasanaeth Cymraeg - nid oes un o'r cyfarwyddwyr y corff yn siarad Cymraeg. Mewn adroddiad diweddar gan bwyllgor Ewropeaidd o arbenigwyr, beirniadwyd y GIG yng Nghymru am fethu darparu gwasanaethau Gymraeg digonol.
Bydd y bardd Twm Morys a'r canwr Ceri Cunnington hefyd yn annerch y protest. Mae Mr Cunnington yn chwarae rhan y Comisiynydd Iaith y bwriedir ei sefydlu o dan y Mesur Iaith, gan ymweld â Superdrug i gynnal archwiliad i'w gwasanaethau Cymraeg.
Wrth feirniadu ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr, bydd yr ymgyrchydd lleol Bethan Russell Williams yn dweud:
"Mae Cynllun Iaith Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod allan ar gyfnod o ymgynghoriad yn ddiweddar ond mae ynddo , yn bryderus iawn , nifer fawr o enghreifftiau ble nad yw'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.
"Mae angen mynd i'r afael â'r diffygion yng Nghynllun Iaith y Bwrdd Iechyd gan fod ynddo nifer fawr o enghreifftiau ble nodir y bydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio i gynnig gwasanaeth 'pan fo'n bosibl' a 'phan fo'n addas'. Nid yw hyn yn ddigon da. Mae yn llawer rhy hawdd i'r gwasanaeth iechyd wrthod gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i ddefnyddwyr gwasanaeth a gwneud hynny gyda chymeradwyaeth Cynllun Iaith ddiffygiol."
Mae Cyngor Conwy wedi datgan 'nad oes dyfodol i gymunedau pentrefol Cymraeg' trwy gynnig cael gwared a chwech ysgol heddiw, yn ol Cymdeithas yr Iaith.
Yn ol eu Drafft-Gynllun Moderneiddio Ysgolion Cynradd - sydd yn destun ymgynghori tan Fedi 10ed - byddai ysgolion Cymraeg eu cyfrwng yn cau yn Llangwm, Capel Garmon, Rhydgaled, Llanfair Talhaiarn, Ysbyty Ifan a Phenmachno.
Meddai Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd:
"Dyma enghraifft eto o Awdurdod Lleol nad sydd a'r weledigaeth i ddatblygu'n hysgolion pentrefol yn beiriannau i adfywio ein cymunedau pentrefol Cymraeg. Mae bob amser yn haws gan fiwrocratiaid ganoli, a chynllunio mewn cyd-destun adrannol heb sylweddoli beth yw effaith eu penderfyniadau ar rannau eraill o waith y Cyngor. Beth yn y byd yw diben cael polisi iaith a pholisi adfywio cymunedau pan fydd adran arall o'r Cyngor yn tanseilio'n pentrefi Cymraeg?"
Mae pedwar ar ddeg o grwpiau iaith wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am newidiadau i'w chynlluniau am Fesur Iaith newydd. Mewn llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mae'r mudiadau - gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Chyfeillion y Ddaear ac arbennigwr Iaith Yr Athro Colin Williams - yn dweud:
"Mae'r iaith Gymraeg yn wynebu bygythiadau o bob tu: toriadau yng nghyllideb S4C, y Cynulliad yn torri'r cofnod dwyieithog, a dyfodol addysg Gymraeg yn y brifddinas. Mae diffyg hawliau ieithyddol a statws swyddogol i'r iaith Gymraeg wrth wraidd y bygythiadau."
"Rydym yn croesawu ymdrechion y Llywodraeth i ddatblygu deddfwriaeth i gadarnhau sefyllfa'r Gymraeg. Fodd bynnag, ers cyhoeddi'r Mesur Iaith Gymraeg drafft eleni mae mudiadau, cyfreithwyr ac arbenigwyr, wedi bod yn unfryd eu barn nad yw'r Mesur ar ei ffurf bresennol yn cyflawni addewidion y Llywodraeth."
Yn dilyn datganiad Cyngor Gwynedd am ddyfodol Ysgol y Parc Bala, gofynwn i aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas i ddod tu allan i Siambr Dafydd Orwig Caernarfon i brotestio yn erbyn cynlluniau Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc.
Heddiw cyflwynodd hanner cant o fyfyrwyr a darlithwyr cyfrwng Cymraeg Siarter i Brifysgol Bangor oedd yn mynegi eu pryder am driniaeth y Gymraeg yn y sefydliad.
Daw hyn yn dilyn misoedd, os nad blynyddoedd, ansicr i'r Gymraeg yn y Brifysgol gyda gweld dirywiad mewn addysg Gymraeg, erydu ar weinyddiaeth ddwyieithog, a nifer o unigolion di-Gymraeg yn cael eu penodi i swyddi uwch yn y sefydliad.
Pen-llanw'r pryder oedd y bygythiad i gau pum adran sydd a 40% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ynddynt, ynghyd a methiant y Brifysgol i hysbysebu swydd y Prifathro newydd fel un lle mae'r Gymraeg yn sgil angenrheidiol.
Bydd llyfr newydd sydd yn esbonio hanes degawd o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddechrau mileniwm newydd yn cael ei lansio yng Nghaernarfon heddiw.
Sbardun cyhoeddi'r llyfr hwn oedd rhannu'r rhai o'r cannoedd o lythyrau a chardiau a dderbyniodd Osian Jones tra yn HMP Altcourse yn ystod Rhagfyr 2009 am ei ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Bydd y llyfr ar werth am £4.95 o siopau llyfr Cymraeg ar hyd a lled Cymru, neu o swyddfa Gogledd Cymdeithas yr Iaith, 10 Stryd y Plas, Caernarfon - 01286 662908
Mae'r myfyrwyr wedi cynhyrfu! Mae ymgyrchu brwd ar droed yng Nghaerdydd, Bangor ac Abersytwyth. Bu sawl cyfarfod wythnos hyn eisoes yn y prifysgolion hyn, ac mae'r myfyrwyr am ail-afael yn y gweithgarwch gwleidyddol oherwydd nad yw sefyllfa'r Gymraeg yn dderbyniol yn y prifysgolion ar hyn o bryd.
Nos Fawrth, Mawrth 16eg, roedd noson gyntaf Taith Coleg Ffederal Cymraeg sef cyfarfod mae celloedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn eu yn eu prifysgolion i drafod y syniad o Goleg Ffederal Cymraeg a beth rydyn ni fel myfyrwyr, darlithwyr a'r gymdeithas ehangach eisiau ohono. Roedd Dr Simon Brooks a Dr Richard Wyn Jones wedi dod i'r cyfarfod i drafod addysg Gymraeg yng Nghaerdydd gyda'r myfyrwyr.
Mae'r sefyllfa addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn waeth nag unrhyw brifysgol arall sy'n drueni mawr gan fod cyn gymaint o fyfyrwyr sy'n medru'r Gymraeg yn mynychu'r Brifysgol. Dim ond yn yr Adran Gymraeg y gellid dilyn cyrsiau drwy'r Gymraeg ac mewn rhai adrannau fel Cerddoriaeth neu Wleidyddiaeth eraill gellir cael un seminar/tiwtorial drwy'r Gymraeg. Mae'r Brifysgol yn anwybyddu eu Cynllun Iaith Gymraeg, a datgelwyd y ffaith syfrdanol nad oes gan y brifysgol gyfieithydd hyd yn oed!!
Un o'r rhesymau nad oes symud ymlaen wedi bod yw absenoldeb unrhyw bwysau o du'r myfyrwyr. Nid oes gan fyfyrwyr Cymraeg lais yn yr Undeb Myfyrwyr na'r Brifysgol, fel y mae gan Aberystwyth UMCA a Bangor UMCB. Roedd y syniad o gael Undeb Myfyrwyr Cymraeg yn amlwg wedi dal dychymyg y myfyrwyr ac ers y cyfarfod maen nhw wedi mynd ati ddechrau'r ymgyrch i gael Undeb fydd â swyddog cyflogedig. Darllenwch y stori ar wefan Golwg 360: http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_10751.aspx
Bydd sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn gam allweddol ymlaen i newid agweddau gwarthus y Brifysgol tuag at y Gymraeg gan roi llais a threfniadaeth i'r myfyrwyr i fedru gwthio am addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar Fawrth 17eg, bu cyfarfod cell bywiog iawn yn Neuadd JMJ ym Mangor. Mae pryder mawr ymhlith myfyrwyr oherwydd bod adrannau sy'n darparu addysg Gymraeg yn mynd i gael eu cau gan y Brifysgol. Mae 40% o fyfyrwyr yr adrannau hynny yn Gymry Cymraeg. Mae Prifysgol Bangor yn marchnata eu hunain fel y lle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ond y realiti yw fod myfyrwyr wedi gorfod brwydro am fodiwlau yn yr adran Hanes ac maen nhw'n cau adrannau fel yr Adran Astudiaethau Crefydd a'r Gwyddorau Cymdeithasol sef yr unig lefydd yn y byd lle gellir astudio'r pynciau hyn drwy'r Gymraeg! Mae'r Brifysgol yn torri eu cynllun iaith yn gyson, a'r arwydd amlycaf yw'r banc Satander sydd wedi agor o fewn y llyfrgell ond yn uniaith Saesneg.
Nid yw'r myfyrwyr yn mynd i ddioddef y sefyllfa bellach; mae'r gell yn credu'n gryf mai rôl y Brifysgol yw gwasanaethu ardal Bangor ac mae hynny'n golygu dyletswydd at y Gymraeg.
Bydd 'Taith Coleg Ffederal Cymraeg' yn Aberystwyth heno yng nghwmni Steffan Prys (Llywydd UMCA), Dr Hywel Griffiths (darlithydd Daearyddiaeth) a Dr Bleddyn Owen Huws (Adran Gymraeg).
I orffen, hoffwn gynnig rhai tips i'r celloedd Prifysgol sy'n adfywio ac i'r Undeb Myfyrwyr Cymraeg newydd:
- mae cyfarfod gyda'ch gilydd yn gyson yn holl bwysig i gadw momentwm i fynd ac i rannu syniadau a sbarduno eich gilydd.
- esboniwch i eraill am beth yw'r broblem; casglwch enghreifftiau a thystiolaeth o'r anghyfiawnder yn bwysig ac ni all bobl anwybyddu hynny.
- peidiwch dweud a dim gwneud! Mae'r gwneud yn bwysig iawn ac yn rhoi cyfle i bobl eraill i ymuno a gorfodi'r Brifysgol i ymateb.
- efallai bydd pobl yn hoffi gwneud rhai pethau yn fwy na'i gilydd, er enghraifft, un yn hoffi'r gwaith o fynd drwy'r cynllun iaith ac un yn dda wrth drefnu protest a chael myfyrwyr i fynychu. Gwych! Defnyddiwch sgiliau pobl.
- mynnwch y gorau i'r Gymraeg! Rydych chi yn gallu newid y sefyllfa.
- Siaradwch â darlithwyr am gyngor. Mae'n nhw'n deall y Brifysgol ac yn gwybod sut mae pethau'n gweithio felly byddan nhw'n gallu helpu lot!
Diwrnod o Weithdai Polisi i edrych ar syniadau cyffrous ymgyrchu yn 2010
Caffi Caban, Brynrefail
10am-6pm, Dydd Sadwrn, Ionawr 02, 2010
Amserlen:
10 y.b. Cyrraedd
10:30am: Yr Ymgyrch Ddeddf Iaith - y dyfodol Dan arweiniad Sian Howys
Sesiwn i edrych ar y ffordd ymlaen i'r ymgyrch i weddnewid sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru ac ystyried ein ymgyrchoedd am y flwyddyn nesaf yn ymwneud â gwersi nofio i blant, bancio ar-lein a ff
12:30 y.b. Cinio
1:30 y.h. Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy Dan arweiniad Ben Gregory
Rydym wedi clywed am ôl-troed carbon, ond beth am ôl-troed ieithyddol? Sut gall cymunedau arfogi eu hunain i fod yn gynaliadwy yn ieithyddol? Byddwn yn trafod y cyswllt rhwng yr agenda gwyrdd a'r agenda ieithyddol.
3:30 y.h. Cyfryngau Newydd Dan arweiniad Rhodri ap Dyfrig
Bydd Rhodri yn rhoi cyd-destun o ddatblygiadau yn y Gymraeg ym myd ffilm a'r cyfryngau newydd a byddwn yn trafod y ffordd ymlaen.
Mae Osian Jones yn cael ei rhyddhau o'r carchar ac yn dod 'nôl i Gymru!
Dere i'w groesawu adref.
Ble? Gorsaf Drenau Bangor, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 1LZ
Pryd? 1pm, Dydd Mawrth, 8fed o Ragfyr
Mae cwmnïau anfoesol yn cael rhwydd hynt i gymryd ein harian heb ystyried ein hanghenion ni yma yng Nghymru. Dydy'r Llywodraeth yn gwneud braidd dim i wella'r sefyllfa ac yn gwrthod rhoi'r hawl llawn i ni ddefnyddio'r Gymraeg.
Beth oedd 'gwobr' Osian Jones am sefyll i fyny i'r cwmnïau hyn ac amddiffyn hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg? Mis o garchar.
Bydd yn cael ei ryddhau bore dydd Mawrth yr 8fed o Ragfyr, ac yn dychwelyd i Fangor am 1pm ar y trên.
Bydd ymgyrchydd iaith yn cael ei rhyddhau o garchar yn Lerpwl heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 8) ar ôl iddo brotestio yn erbyn diffyg gwasanaethau Cymraeg siopau mawrion y stryd fawr yng ngogledd Cymru.
Cyn iddo adael y carchar, fe rybuddiodd Mr Jones y 'gallai'r degawd nesaf gweld dinistriad y Gymraeg fel iaith gymunedol' os nad oedd newidiadau mawr yn y gyfraith i 'adael yr iaith fyw'. Disgwylir y bydd torf o gefnogwyr yng Ngorsaf Trên Bangor i'w groesawu yn ôl i'r wlad.
Carcharwyd Osian Jones, 32 mlwydd oed o Ddyffryn Nantlle am 28 diwrnod ar ddiwedd mis Tachwedd - y ddedfryd hiraf i actifydd Cymraeg ers 1991. Fe beintiodd e sloganau ar siopau Boots a Superdrug yng Nghaernarfon, Bangor a Llangefni.
Mae ymgyrchydd iaith Gymraeg wedi mynd i'r carchar am fis heddiw (Dydd Mercher, Tachwedd 25) yn sgil gwrandawiad gerbron llys ynadon Caernarfon.
Ym mis Ebrill 2008, protestiodd Osian Jones, o Ddyffryn Nantlle, yn erbyn rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Superdrug a Boots, er mwyn dangos nad oedd gwasanaethau Cymraeg digonol ganddynt.
Roedd y weithred yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Cymraeg yn galw am weddnewid y sector breifat sy'n arglwyddiaethu bywydau o ddydd i ddydd, ac yn galw am ddeddf iaith a fyddai'n cynnwys y siopau hyn er mwyn normaleiddio'r iaith Gymraeg yng Nghymru.
Ar ôl y ddedfryd dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth:
"Roedd Osian wedi gweithredu'n uniongyrchol oherwydd nad oes gan dinasyddion Cymru yr hawl i weld ac i ddefnyddio'r Gymraeg o'u cwmpas. Mae system sydd yn rhoi elw cwmnïau rhyngwladol o flaen hawliau siaradwyr Cymraeg yn gwbl annheg. Nid yw'r cwmniau sydd â diffyg parch affwysol tuag at y Gymraeg yn haeddu iawndal, yn hytrach, nhw sy'n ddyledus i bobl Cymru am wneud yr iaith Gymraeg yn anweledig."
Ar Dachwedd y 25AIN mi fydd Osian Jones trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd yn cychwyn ei gyfnod o 28 diwrnod yn y carchar am weithredu yn erbyn cwmnïau Boots, Superdrug, Mataln a PC World fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am Fesur Iaith Cyflawn.
Fe wnaeth siopwyr Bangor dderbyn anrheg Nadolig cynnar oddi wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor Dydd Sadwrn, Tachwedd 14 wrth i dros 100 o brotestwyr ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim yng nghanol y dre.
Yn troi slogan Boots ar ei phen, roedd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh". Fe wnaeth Boots hefyd elwa o weithwyr newydd, wedi'u darparu gan y Gymdeithas, a oedd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i bobl yng nghanol y dre.
Roedd y protestwyr yn cynnal rali i gefnogi Osian Jones sydd yn wynebu carchariad ar ôl cwyno am ddiffyg darpariaeth Cymraeg gan siopau yng ngogledd Cymru.
Siaradwyr:
Angharad Tomos
Menna Machreth
Bethan Williams
Gerallt Roberts
Cai Niclas
Adloniant - Y Lembo
Bydd Osian ei hun yn y carchar ar Dachwedd 14 pan gynhelir rali ym Mangor yn ei gefnogi. Galwn ar i bawb ohonoch ddod draw i'r rali honno i ddangos eich cefnogaeth i'w safiad.
Mae Ynadon Pwllheli wedi gohirio'r gwrandawiad am bythefnos tan 25 Tachwedd i Lys Ynadon Caernarfon.
Mewn protest arhosodd Osian ac aelodau'r Gymdeithas tu fewn i adeilad y Llys am awr gan atal eu gweithgareddau, ac ymunodd 50 arall tu allan yn gweiddi 'Hawliau Iaith':
Meddai Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n greulon iawn bod yr Ynadon wedi gohirio'r amser am bythefnos eto, er eu bod eisoes wedi penderfynu ar y ddedfryd o garchar."
"Eu hesgus yw eu bod am gysylltu a chyflogwyr Osian, ond ni Cymdeithas yr Iaith yw ei gyflogwyr, ac wrth gwrs ni fyddwn ni'n tynnu unrhyw ddirwy o'i gyflog. Byddwn ni i gyd yn ôl yng Nghaernarfon mewn pythefnos."
Ar ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd, yn ymddangos o flaen llys ynadon Pwllheli i dderbyn mis o garchar.
Fe'i dedfrydwyd am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World ym Mangor rai misoedd yn ôl fel rhan o ymgyrch genedlaethol i geisio ehangu'r Gorchymyn Deddfu ar yr iaith Gymraeg oedd yn cael ei drafod ar y pryd. Meddai Osian Jones:
"Mae'n warthus i feddwl fod y cwmnïau hyn yn dod i Gymru heb ystyried y Gymraeg o gwbl. Mae'n nhw'n ddigon bodlon derbyn ein harian ond mae'n galwadau yn cael eu hanwybyddu. Rydyn ni wedi bod yn gohebu gyda'r cwmnïau hyn, ac eraill, ers cymaint o amser ond dydyn nhw'n gwrando dim. Mae'n bryd codi yn erbyn cwmnïau mawr sy'n sathru ar ein hawliau''
Ychwanegodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
''Mae'r Gorchymyn iaith yn bell o fod yn rhoi mwy o hawl i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg. Does dim sôn o gwbl am y busnesau y bu Osian yn eu targedu yn y Gorchymyn iaith felly mae'r Llywodraeth yn dal i rwystro'n ffordd i'r Gymraeg ar y stryd fawr.''
Gofynnwn i bob un ddangos cefnogaeth i Osian drwy fod yn bresennol yn ei achos llys ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd ym Mhwllheli am 9.30. Mwy o wybodaeth am yr Achos Llys yma...
Mi fydd Osian Jones - trefnydd Cymdeithas yr iaith yn y gogledd - yn mynd gerbron Llys Ynadon Pwllheli ar Dachwedd y 6ed am 9.30 y bore, lle bydd yn cychwyn ar ei gyfnod o 28 diwrnod yn y carchar am ei weithred yn erbyn cwmnïau Boots, Superdrug, Matalan a PC World.
Gweithredodd Osian drwy beintio sloganau a gosod sticeri ar siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World, a oedd yn datgan nad oedd ei hawliau ieithyddol ef yn cael eu parchu o gwbl yn y siopau yma, yn galw am Fesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat, ac yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg.
Today Cymdeithas yr Iaith Gymraeg held a picket at the Plaid Cymru Conference at 'Venue Cymru, Llandudno, Saturday September 12.
The picket was held because the LCO on the Welsh language as it stands is an obstacle to full linguistic rights in Wales. It was also an opportunity for Cymdeithas to show its frustration because large High street shops such as Boots, Super drug and Tesco have not been included in the LCO.
Mi fuodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedu cynhadledd Plaid Cymru yn "Venue Cymru" Llandudno heddiw, dydd Sadwrn Medi 12 fed.
Buodd yr aelodau yn picedu oherwydd fod y Gorchymyn Iaith fel ac y mae yn rhwystro'r ffordd tuag at hawliau ieithyddol cyflawn, ac i ddangos eu rhwystredigaeth na fydd cwmniau megis Tesco, Boots a Superdrug nac unrhyw siop stryd fawr arall yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith.
Cafodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd, ddedfryd o fis o garchar wedi ei ohirio gan Lys Ynadon Pwllheli heddiw, am greu difrod troseddol i eiddo siopau PC World a Matalan ym Mangor, wedi iddo godi sticeri a phosteri ar y siopau ym mis Mai, yn galw am Fesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat, ac yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg.
Daeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:
"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn. Ein gobaith ni yw y bydd y syniadau sy'n deillio o'r cyfarfod heddiw, nid yn unig yn berthnasol i Benllyn ond yn rhai y gall pobl sy'n byw mewn cymunedau Cymraeg ar hyd a lled Cymru eu defnyddio. Mae'n rhaid i bawb sy'n poeni am ddyfodol ein cymunedau fynnu'r p?er i ddiogelu'r dyfodol hwnnw. Gwelwn y cyfarfod hwn fel man cychwyn i weithgarwch fydd yn ymestyn drwy Gymru gyfan."
Am 2pm Llun 3ydd Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Mewn man arall o'r uned, bydd aelodau eraill yn cynllunio logo ar ffurf digidol ar gyfrifiadur. Bydd y Gymdeithas yn cyflwyno'r syniad gorau ar ddiwedd yr wythnos i Lywodraeth y Cynulliad gan ofyn iddynt anfon gwobr at yr enillydd !
Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis " Mae'n bwysig iawn fod y Coleg Ffederal Cymraeg yn cychwyn yn swyddogol y flwyddyn nesaf yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Er mwyn cynyddu'r ymwybyddiaeth fod y Coleg ar fin dod o'r diwedd, rydym yn trefnu'r gystadleuaeth logo ar gyfer y sefydliad nwydd, gan wahodd pobl i alw yn ein huned ar Faes yr Eisteddfod trwy'r wythnos i lunio cynigion. Yr ydym hefyd wedi agor cofrestr myfyrwyr ar gyfer y coleg - yn cynnwys myfyrwyr ar gyfer blynyddoedd i ddod ac hefyd ar gyfer pobl a hoffent ddilyn cyrsiau tan y Coleg Cymraeg yn eu cymunedau."
Gigs Steddfod y Bala 2009
Pabell Tafod ger y Ganolfan Hamdden
Tocynnau: Awen Meirion, y Bala / Palas Print, Caernarfon (Mis Gorffennaf ymlaen)
Swyddfa Cymdeithas yr Iaith 01970 624501 / Stondin ar faes yr Eisteddfod.
Sadwrn 1 Awst 7yh-1yb, £10
Dafydd Iwan
Lowri Evans
Candelas
Compere Dilwyn Morgan
Sul 2 Awst Noson Cwch Banana 7yh-1yb, £9
Meic Stevens
Brigyn
Heather Jones
Mawrth 4 Awst Yn y Plas Coch 7yh-1yb, £5
Gareth Bonello
Al Lewis
Noson Meic Agored
DJ Coch a Du
Mercher 5 Awst Parti maes-e.com a Gwisg ffansi gwallgo! Pump tocyn i Ffair y Bala i'r gwisgoedd gorau 7yh-1yb, £8
Derwyddon Dr Gonzo
Y Wyrligigs
Pwsi Meri Mew
Creision Hud
Byd Dydd Sul
DJ Fuzzy Felt
Iau 6 Awst 7yh-1yb, £8
Gwibdaith Hen Fran
Fflur Dafydd
Dan Lloyd
Slapar
Adrift
DJ Bustach
Gwener 7 Awst Noson Sbrigyn Ymborth 7yh-1yb, £9
Sibrydion
Cowbois Rhos Botwnnog
Jen Jeniro
Eitha Tal Ffranco
Bob
Y Promatics
DJ Hefin Jones
Sadwrn 8 Awst Ffair y Bala 12yh-1yb, £12
Bob Delyn
Gai Toms
Mr Huw
Plant Duw
Yucatan
Yr Ods
Ryan Kift
Alun Gaffey
Y Ffrwydron
Endaf Presley
Madre Fuqueros
Y Bandana
PSI, Lembo
Dyl Mei
Daz Tandy
Mae Maes Carafannau swyddogol y Steddfod (a'r adran bebyll sy'n rhan o'r maes carafannau) yn llawn. Ond, bydd maes carafannau a maes pebyll ar gael i chi yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. Dyma'r manylion:
Maes Carafannau (Clwb Rygbi)
Ar dir Clwb Rygbi'r Bala
Archebwch le drwy ffonio Plas Coch ar 01678 520309
Maes Pebyll (Maes Huw)
Llanfor, 2 munud cerdded o'r steddfod
Cyfleusterau sylfaenol - Tai Bach a chyflenwad d?r
cyswllt: Huw ar 07815 188769
Nid Cymdeithas yr Iaith sydd yn gyfrifol am y meysydd uchod.