Gwrthododd menyw o Gaerdydd a'i phlant adael eu car mewn protest yn erbyn defnydd 'tocenistaidd' y Gymraeg gan Heddlu De Cymru heddiw.
Roedd Lleucu Meinir, 35, sy'n byw yn Stryd Llanmaes, Grangetown, wedi gwrthod talu dau docyn parcio oherwydd diffyg defnydd o'r Gymraeg gan yr awdurdod sydd wedi anfon gohebiaeth uniaith Saesneg iddi. Cafodd y car ei glampio gan swyddogion yn gweithredu ar ran y llys a heddiw roedden nhw'n bwriadu ei dynnu i ffwrdd a'i werthu mewn ocsiwn. Roedd y ddau docyn parcio gwreiddiol yn £60, ond gwrthododd hi dalu dirwy oherwydd bod yr heddlu wedi llenwi'r tocyn dwyieithog yn uniaith Saesneg.
Ar ôl pum awr o brotestio, cytunodd Ms Meinir dalu'r ddirwy ar ôl cynnig gan Uwch-arolygydd i drafod cynllun iaith yr heddlu. Bydd hi'n cyflwyno ei bil am dros £600 i swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw (2:30pm, 17 Awst) gan eu bod nhw wedi cymeradwyo Cynllun Iaith yr awdurdod.
Fe ddywedodd Lleucu Meinir, aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Cynhelir cyfarfod Cell Caerffili a Blaenau Gwent am 7.30pm, Nos Fercher Awst 11eg yn Y Sirhowy (Wetherspoon's), Stryd Fawr, Y Coed Duon, Caerffili NP12 1BA. (Map yma: http://stwnsh.com/cfrfd)
Mae llawer o bethau i'w trafod, felly gofynnir i bob aelod lleol wneud ymdrech i fynychu'r cyfarfod.
Os oes gennych unrhywbeth yr hoffech ei roi ar yr agenda, e-bostiwch fi ar barry@cymdeithas.org.
Barry Taylor
barry@cymdeithas.org
Cadeirydd Cell Caerffili/Blaenau Gwent
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Parti Lansio | Cwis y 2 Huw | Geiriau Protest gyda Dafydd Iwan a Gai Toms | Y Babell Wên dan ofal Elidir Jones | Troelli a Delweddu ar y cyd â Pictiwrs yn y Pyb | Carchar Dros Iaith gyda Jen Jeniro a Heather Jones | Meic Stevens, Huw M, Bob Delyn, Twmffat a llawer mwy...
Mwynha hwyl g?yl amgen Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn awyrgylch agos atat yn y clwb rygbi lleol, llai na hanner milltir o'r Maes. Dim ond lle i 150 felly archeba dy docyn yn sydyn! Bwyd a chroeso cynnes ar gael drwy'r dydd. Pwysa yma am fanylion llawn.
Cyfarfod Dyfodol Digidol i Gymru
Siaradwyr: Rhodri Williams (Ofcom), Rhodri Ap Dyfrig, Geraint Davies
3pm, Dydd Gwener Awst 6, Pabell y Cymdeithasau 2, Maes yr Eisteddfod
Bydd ymgyrchwyr Cymraeg yn protestio ar Faes yr Eisteddfod heddiw (3pm, Dydd Mercher, 4ydd Awst) oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar y Gymraeg, gan alw am wrthryfel gan wleidyddion yn dilyn methiant y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion.
Ychydig wythnosau'n ôl, galwodd pwyllgor trawsbleidiol am newidiadau mawr i gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad oherwydd diffyg egwyddorion yn y drafft. Dadleuodd Aelodau Cynulliad o bob plaid nad yw'r Mesur yn sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol, creu hawliau i'w defnyddio, na Chomisiynydd Iaith digon annibynnol ychwaith: ymrwymiadau allweddol yng nghytundeb Cymru'n Un.
Yn y brotest, bydd aelod Cymdeithas yr Iaith yn cerdded o gwmpas y maes fel y Comisiynydd Iaith newydd â hualau a pheli dur o gwmpas ei draed. Bydd y geiriau 'dim statws' a 'dim hawliau' ar y peli, yn dangos mai swydd anodd iawn fydd rôl y Comisiynydd heb egwyddor yn rhoi cyfeiriad a nod i'w waith.
Bydd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud:
"Ni fydd unrhyw werth i fesur iaith sydd yn cael ei basio er mwyn rhoi tic mewn bocs. Rydyn ni dal yn disgwyl i'r Llywodraeth i wneud rhywbeth gwirioneddol dros y Gymraeg a dyma'r neges rydym ni wedi ei glywed wrth bobl yr wythnos hon yn yr Eisteddfod. Mae'n amser i'n gwleiddyddion gymryd y cyfle i sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol a rhoi hawliau yn y Mesur. Byddai hynny'n sail gref i ddyfodol y Gymraeg o Flaenau Gwent i Benllyn."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyd-drefnu gigs Maes B Eisteddfod Blaenau Gwent eleni, ond rydym ni hefyd yn trefnu Gwyl Amgen yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy i redeg ynghyd â nosweithiau Maes B a mi fydd y parti lansio ar nos Sadwrn y 31 o Orffennaf.
Mwynha hwyl Wyl amgen Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn awyrgylch agos atat yn y clwb rygbi lleol, llai na hanner milltir o'r Maes. Dim ond lle i 150 felly archeba dy docyn yn sydyn! Bwyd -- a chroeso cynnes -- ar gael drwy'r dydd.
Sadwrn 31 Gorffennaf Parti Lawnsio:
Y Betti Galws
John Grindell a Becca White
Hufen Iâ Poeth
Pop Budur
£5, 7.30pm-1am
Sul 1 Awst Cwis y Ddau Huw:
Huw Stephens
Huw Evans
DJs
£4, 5.30pm-12am
Llun 2 Awst Geiriau Protest:
Dafydd Iwan
Gai Toms
Just Like Frank
Jibincs
Gair i Gell: atgofion carchar Osian Jones a Ffred Ffransis
£8, 7.30pm-12.30am
Mawrth 3 Awst Y Babell Wên:
Noson Stand-yp dan ofal Elidir Jones
Noel James / Gez Couch
Iestyn Jones / DJ Hefin Jones
a gwesteion arbennig o'r byd llenyddol
ar y cyd â Tu Chwith
£4, 7.30pm-12.30am
Mercher 4 Awst Troelli a Delweddu
ar y cyd â Pictiwrs yn y Pyb
Yucatan
PSI
Matta
Cymdeithas y Rhyfeddod
£6, 7.30pm-12.30am
Iau 5 Awst Carchar Dros Iaith:
Jen Jeniro
Heather Jones
Y Cyfoes
DJs Potter a Lugg
Lansio prosiect i ganfod a chofnodi pawb sydd wedi bod i garchar dros yr iaith
£8, 7.30pm-1am
Gwener 6 Awst
Meic Stevens
Huw M
Adrift
Ryan Kift
£8, 7.30pm-1am
Sadwrn 7 Awst
Bob Delyn
Twmffat
Candelas
Gildas
DJ Swci Boscawen
£8, 7.30pm-1am
BWYD YN Y CLWB RYGBI
Brecwast 8-10.30am @£3.95
Cinio 12-3pm (2 pryd am £10)
Bwyd nos 6-9pm
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o "adael plant mewn limbo" oherwydd y penderfyniad i wrthod gadael i Gyngor Caerdydd symud Ysgol Treganna i adeilad fwy o faint er mwyn darparu ar gyfer y galw cynyddol.
Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n hollol annheg fod yn rhaid i'r plant ddioddef oherwydd anallu gwleidyddion i ddyfeisio atebion cyfiawn i rai sy'n dymuno addysg Gymraeg ac i gymunedau lleol. Dylai pawb ddod at ei gilydd gyda'r nod o sicrhau ysgol gyfrwng Cymraeg ym mhob cymuned o Gaerdydd fel na ddaw pwysau gorlenwi yn y dyfodol."
"Mae'n warthus bod llawer o rieni Cymraeg a di-Gymraeg sydd am i'w plant dderbyn addysg Gymraeg yn cael eu gadael mewn limbo wrth fod un haen o lywodraeth yn beio'r llall. Mae'r sefyllfa hon yn cael ei hailadrodd mewn nifer o lefydd eraill yng Nghymru - megis Rhydaman - hefyd."
Dywedodd Nia Williams, sydd yn rhiant i blant yn Ysgol Treganna:
"Rydyn ni'n gandryll. Mae'r ysgol yn fwy na gorlawn. Mae'r Cynulliad yn cyfiawnhau'r anffafriaeth ieithyddol sy'n bodoli yng nghymuned Treganna. Mae adnoddau ac adeiladau'r ysgol yn annigonol i gwrdd ag anghenion addysgol."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn benderfynol o gefnogi rhieni sydd am sicrhau a chryfhau addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, boed hynny yn ein pentrefi gwledig neu yn ein prifddinas.
Cynhelir cyfarfod Cell Caerffili a Blaenau Gwent am 7pm, Nos Fawrth Mai 11eg yn Y Sirhowy (Wetherspoon's), Stryd Fawr, y Coed Duon, Caerffili NP12 1BA.
Mae'r myfyrwyr wedi cynhyrfu! Mae ymgyrchu brwd ar droed yng Nghaerdydd, Bangor ac Abersytwyth. Bu sawl cyfarfod wythnos hyn eisoes yn y prifysgolion hyn, ac mae'r myfyrwyr am ail-afael yn y gweithgarwch gwleidyddol oherwydd nad yw sefyllfa'r Gymraeg yn dderbyniol yn y prifysgolion ar hyn o bryd.
Nos Fawrth, Mawrth 16eg, roedd noson gyntaf Taith Coleg Ffederal Cymraeg sef cyfarfod mae celloedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn eu yn eu prifysgolion i drafod y syniad o Goleg Ffederal Cymraeg a beth rydyn ni fel myfyrwyr, darlithwyr a'r gymdeithas ehangach eisiau ohono. Roedd Dr Simon Brooks a Dr Richard Wyn Jones wedi dod i'r cyfarfod i drafod addysg Gymraeg yng Nghaerdydd gyda'r myfyrwyr.
Mae'r sefyllfa addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn waeth nag unrhyw brifysgol arall sy'n drueni mawr gan fod cyn gymaint o fyfyrwyr sy'n medru'r Gymraeg yn mynychu'r Brifysgol. Dim ond yn yr Adran Gymraeg y gellid dilyn cyrsiau drwy'r Gymraeg ac mewn rhai adrannau fel Cerddoriaeth neu Wleidyddiaeth eraill gellir cael un seminar/tiwtorial drwy'r Gymraeg. Mae'r Brifysgol yn anwybyddu eu Cynllun Iaith Gymraeg, a datgelwyd y ffaith syfrdanol nad oes gan y brifysgol gyfieithydd hyd yn oed!!
Un o'r rhesymau nad oes symud ymlaen wedi bod yw absenoldeb unrhyw bwysau o du'r myfyrwyr. Nid oes gan fyfyrwyr Cymraeg lais yn yr Undeb Myfyrwyr na'r Brifysgol, fel y mae gan Aberystwyth UMCA a Bangor UMCB. Roedd y syniad o gael Undeb Myfyrwyr Cymraeg yn amlwg wedi dal dychymyg y myfyrwyr ac ers y cyfarfod maen nhw wedi mynd ati ddechrau'r ymgyrch i gael Undeb fydd â swyddog cyflogedig. Darllenwch y stori ar wefan Golwg 360: http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_10751.aspx
Bydd sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn gam allweddol ymlaen i newid agweddau gwarthus y Brifysgol tuag at y Gymraeg gan roi llais a threfniadaeth i'r myfyrwyr i fedru gwthio am addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar Fawrth 17eg, bu cyfarfod cell bywiog iawn yn Neuadd JMJ ym Mangor. Mae pryder mawr ymhlith myfyrwyr oherwydd bod adrannau sy'n darparu addysg Gymraeg yn mynd i gael eu cau gan y Brifysgol. Mae 40% o fyfyrwyr yr adrannau hynny yn Gymry Cymraeg. Mae Prifysgol Bangor yn marchnata eu hunain fel y lle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ond y realiti yw fod myfyrwyr wedi gorfod brwydro am fodiwlau yn yr adran Hanes ac maen nhw'n cau adrannau fel yr Adran Astudiaethau Crefydd a'r Gwyddorau Cymdeithasol sef yr unig lefydd yn y byd lle gellir astudio'r pynciau hyn drwy'r Gymraeg! Mae'r Brifysgol yn torri eu cynllun iaith yn gyson, a'r arwydd amlycaf yw'r banc Satander sydd wedi agor o fewn y llyfrgell ond yn uniaith Saesneg.
Nid yw'r myfyrwyr yn mynd i ddioddef y sefyllfa bellach; mae'r gell yn credu'n gryf mai rôl y Brifysgol yw gwasanaethu ardal Bangor ac mae hynny'n golygu dyletswydd at y Gymraeg.
Bydd 'Taith Coleg Ffederal Cymraeg' yn Aberystwyth heno yng nghwmni Steffan Prys (Llywydd UMCA), Dr Hywel Griffiths (darlithydd Daearyddiaeth) a Dr Bleddyn Owen Huws (Adran Gymraeg).
I orffen, hoffwn gynnig rhai tips i'r celloedd Prifysgol sy'n adfywio ac i'r Undeb Myfyrwyr Cymraeg newydd:
- mae cyfarfod gyda'ch gilydd yn gyson yn holl bwysig i gadw momentwm i fynd ac i rannu syniadau a sbarduno eich gilydd.
- esboniwch i eraill am beth yw'r broblem; casglwch enghreifftiau a thystiolaeth o'r anghyfiawnder yn bwysig ac ni all bobl anwybyddu hynny.
- peidiwch dweud a dim gwneud! Mae'r gwneud yn bwysig iawn ac yn rhoi cyfle i bobl eraill i ymuno a gorfodi'r Brifysgol i ymateb.
- efallai bydd pobl yn hoffi gwneud rhai pethau yn fwy na'i gilydd, er enghraifft, un yn hoffi'r gwaith o fynd drwy'r cynllun iaith ac un yn dda wrth drefnu protest a chael myfyrwyr i fynychu. Gwych! Defnyddiwch sgiliau pobl.
- mynnwch y gorau i'r Gymraeg! Rydych chi yn gallu newid y sefyllfa.
- Siaradwch â darlithwyr am gyngor. Mae'n nhw'n deall y Brifysgol ac yn gwybod sut mae pethau'n gweithio felly byddan nhw'n gallu helpu lot!
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol y mudiad yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn Hydref 24 gan gyhoeddi fod 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn dechrau am 10.30 y bore a'r Rali Flynyddol am 2 y prynhawn.
Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Yr oeddem yn falch iawn felly o gael gwahoddiad gan ein haelodau ym Merthyr Tudful i gynnal Cyfarfod Cyffredinol 2009 yn y dref honno. Mae Merthyr Tudful wedi chwarae rhan allweddol yn hanes Cymru ond fe fydd pwyslais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y dyfodol dyna pam yr ydym wedi dewis Chwyldro Newydd yn y Cymoedd fel y thema i'n gweithgareddau ar Hydref 24ain."
"Byddwn yn trafod nifer o gynigion yn ystod y cyfarfod cyffredinol gan gynnwys cynnig ynghylch datblygiad tai andwyol Bodelwyddan, ac a ddylem ni gefnogi trefi sy'n ceisio rhwystro Tesco rhag dod i mewn i'w cymuned. Fe fyddwn yn cyflwyno Swyddog Cyfathrebu newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a benodwyd yn ddiweddar, Colin Nosworthy."
Heddiw am 2 o'r gloch bydd tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod Peter Hain yng Nghaerdydd i drafod y Gorchymyn Iaith. Y tri ar ddirprwyaeth y Gymdeithas fydd Menna Machreth (Cadeirydd), Bethan Williams (Arweinydd Ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas) a Ffred Ffransis (Senedd Cymdeithas yr Iaith).
Dywedodd Menna Machreth ar ran dirprwyaeth y Gymdeithas:
"Byddwn yn pwysleisio fod y system o drin a thrafod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg wedi bod yn llafurus, hirwyntog a chymhleth. Byddwn yn mynnu hefyd fod Aelodau Seneddol wedi cael llawer gormod o ddylanwad dros y broses ac mai mater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai deddfu ar yr iaith Gymraeg fod. Rydym hefyd yn anfodlon iawn mai dim ond cwmnïau a chyrff sy'n derbyn £400,000 o arian cyhoeddus fydd yn gorfod darparu gwasanaethau dwyieithog ac yn mynnu fod y trothwy yn cael ei ostwng."
Dywedodd Menna Machreth ymhellach:
"Y gwir ydyw nad ydym wedi symud ymlaen llawer. Bydd ein hawliau ieithyddol fel Cymry Cymraeg yn dal yn eilradd a hynny nid yn unig mewn perthynas â'r sector breifat. Mae'r hawl i siarad Cymraeg yn y gweithle yn dal yn amwys er enghraifft ac ni chrybwyllir yr hawl i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n syndod i ni fod llywodraeth sydd wedi mynnu fod cwmnïau yn cydnabod hawl gweithwyr i isafswm cyflog a chydnabod hefyd hawliau'r anabl wedi methu yn llwyr a derbyn fod gan bobl Cymru hawliau ieithyddol. Fydd yna ddim heddwch ieithyddol yng Nghymru os mai'r Gorchymyn Iaith hwn yw'r peth gorau sydd ar gael. Ni wyddom eto beth fydd canlyniad ein cyfarfod hwn gyda Peter Hain ond yr ydym yn rhagweld y bydd hi'n drafodaeth ddi-flewyn ar dafod."
Heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.
Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.
Erbyn Mehefin 5ed, bydd Pwyllgor Craffu'r Cynulliad yn cyflwyno adroddiad i'r Gweinidog Treftadaeth am y Gorchymyn Iaith Gymraeg.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith y Gymdeithas:
"Gyda g?yl ieuenctid fwyaf Ewrop ar garreg eu drws, mae'n rhaid herio'r Pwyllgor Craffu i feddwl am hawliau pobl ifanc Cymru i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn cyflwyno arwyddion ffyrdd gyda negeseuon arnynt i'r Pwyllgor Craffu oherwydd os na fydd y Gorchymyn Iaith yn ddigon eang, bydd y Llywodraeth wedi dewis rhwystro'r ffordd i'r Gymraeg."
RALI FAWR
Hawl i Fesur Iaith Cyflawn: Pwerau Llawn dros y Gymraeg i Gymru
Y Senedd, Bae Caerdydd
2pm, Mai 16
Adam Price AS
Hywel Teifi Edwards
Angharad Mair
Catrin Dafydd
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi bydd rhai o'r pwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru. Rydym ni eisiau gweld yr HOLL bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo yn LLAWN o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Os caiff y Cynulliad y pwerau hyn, byddant yn gallu pasio mesur a fydd yn creu sefyllfa mwy cyfartal i'r Gymraeg yng Nghymru.
Rydym yn galw am fesur fydd yn cynnwys:
1. statws swyddogol i'r Gymraeg
2. hawliau cyflawn i'r Gymraeg
3. Comisiynydd Iaith Gymraeg
Daeth dros 300 i rali a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw. Bwriad y rali oedd i dynnu sylw at y ffaith nad yw'r Gorchymyn Iaith yn ei ffurf bresennol yn mynd digon pell.
Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
''Ni fydd y Gorchymyn iaith, fel y mae yn awr, yn gwneud gwahaniaeth digonol i fywyd pobl Cymru o ddydd i ddydd, mae angen trosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg yma i Gymru. Rydyn ni'n falch iawn fod rhai o wynebau amlwg Cymru wedi datgan cefnogaeth i'n galwadau drwy siarad yn y rali neu drwy roi'u henwau ar hysbyseb ar gyfer y rali.''
Dywedodd Hywel Teifi Edwards wrth annerch y rali:
"Ni'r Cymry sydd wedi creu problem yr iaith, a ni'r Cymry yn ein Senedd sy'n mynd i ffeindio'r ateb teg i'r broblem honno."
Dywedodd siaradwraig arall, y ddarlledwraig Angharad Mair:
"Rwy'n galw ar bobl fel fi sydd wedi bod yn ddigon breintiedig a lwcus i fwynhau gyrfa lewyrchus yn yr iaith Gymraeg - diolch i ymgyrchu dewr a diflino pobl eraill - i ddangos cefnogaeth i'r frwydr yma i sicrhau dyfodol yr iaith. Mae angen i ni gyd ddatgan yn glir wrth yr aelodau seneddol sydd wedi eu hethol i'n cynrychioli ni ein bod ni'n mynnu mai'r unig le moesol a chyfiawn i wneud penderfyniadau am yr iaith Gymraeg yw yma yng Nghymru ac mae angen deddf flaengar newydd ar frys i sicrhau sefyllfa gyfartal i'r iaith er mwyn ei diogelu ar gyfer y dyfodol."
Yn siarad hefyd, roedd Jake Griffiths, Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a ddywedodd:
"Mae'r iaith Gymraeg yn achos gwbl Gymreig. Gan fod mwy o bwerau'n cael eu datganoli i'r Cynulliad, mae'n rhaid sicrhau bod hawliau dros unrhyw ddeddfau yn ymwneud a'r iaith Gymraeg yn nwylo'r Cynulliad yng Nghymru yn hytrach nag yn San Steffan."
Un arall a oedd yn siarad yn y rali oedd Catrin Dafydd, a ddywedodd:
"Gyda deng mlynedd cyntaf datganoli y tu cefn i ni, mae'r amser wedi dod i sicrhau ein bod ni'n cael deddfu ar faes sy'n unigryw i Gymru, yn ein gwlad ni ein hunain. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb sydd wedi dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw, a'r bobol hynny, a'u llywodraeth, ddylai fod ar hawl i benderfynu ar ei dyfodol hi, a neb arall."
Hefyd yn siarad roedd Adam Price o Blaid Cymru.
Danfonodd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr hefyd ddatganiad yn cefnogi'r angen i drosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg i Gymru.
Bydd yr ymgyrch i ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith (LCO) yn dod i'w benllanw Ddydd Sadwrn Mai 16eg pan fydd Rali Fawr yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am 2pm tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd.
Caiff y Rali ei gynnal ar adeg tyngedfennol oherwydd mae Cymdeithas yr Iaith wedi clywed bydd aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfarfod â'r Pwyllgor Cymhwysedd Deddfwriaethol Rhif 5 (iaith Gymraeg) ar Ddydd Llun, Mai 18fed.
Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Ers i'r Gorchymyn gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror, mae consensws gref wedi datblygu ymysg pleidiau gwleidyddol y Cynulliad a'r gymdeithas ehangach, fod angen i'r holl bwerau dros y Gymraeg gael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na bodloni ar y Gorchymyn fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd."
"Os na fydd yr holl bwerau yn cael eu trosglwyddo, yna bydd San Steffan yn rhwystro'r ffordd i'r Gymraeg yng Nghymru drwy rwystro y Cynulliad rhag creu Mesur Iaith Cyflawn."
Y siaradwyr yn y Rali fydd Adam Price AS, Hywel Teifi Edwards, Angharad Mair (Wedi 7) a Catrin Dafydd (awdures).
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu canlyniadau'r arolwg a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith heddiw, sy'n dangos pwysigrwydd yr iaith i dros 80% o bobol Cymru. Mae'r arolwg yn dangos y gefnogaeth enfawr i normaleiddio'r Gymraeg, a'r awydd i greu Cymru ddwyieithog. Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae canlyniadau'r arolwg hon yn dystiolaeth bellach o'r dyhead ymysg dinasyddion Cymru, i fod yn wlad wirioneddol ddwyieithog. Rhaid cael Mesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat yn ei chyfanrwydd er mwyn gwireddu hyn. Cyn i'r Cynulliad fedru creu deddfwriaeth o'r fath, rhaid ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith er mwyn datganoli'r pwerau'n llawn o San Steffan i Gymru. Mae degawdau o geisio annog y sector breifat i ddefnyddio'r Gymraeg yn wirfoddol wedi methu'n llwyr, felly rhaid deddfu i roi hawl i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, gan gynnwys y byd busnes."
Rhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).
Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa, ac mae Cymdeithas yr Iaith eisiau tynnu sylw at y ffaith nad yw'r busnesau y mae pawb yn eu defnyddio o ddydd i ddydd wedi'u cynnwys.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:
"Dydy rhan helaeth y sector breifat ddim yn cael ei gynnwys yn y Gorchymyn iaith a felly mae'r Gorchymyn yn rhwystro rhag cael hawliau iaith yng Nghymru. Cred Cymdeithas yr Iaith fod angen ymhelaethu arno fel bod pwerau llawn dros y Gymraeg yn symud i Gaerdydd."
Am 9.30 dydd Mawrth Mawrth 17 fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg. Rhoddir y dystiolaeth ar ran y Gymdeithas gan Menna Machreth (Cadeirydd), Sioned Haf (Swyddog Ymgyrchoedd) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith). Yn eu tystiolaeth fe fydd y Gymdeithas yn pwysleisio'r angen fod yn rhaid i'r Gymraeg gael statws swyddogol yng Nghymru. Fe fydd hefyd yn pwysleisio'r angen am hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac yn galw am Gomisiynydd Iaith.
Yn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad. Un o'r rhain yw Caerdydd
Y Duke of Clarence, Caerdydd (map) am 7.30pm ar yr 16eg o Fawrth gyda Leanne Wood (Aelod o Bwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith), Aled Elwyn (Strata Matrix), Yr Athro Colin H Williams. Cadeirydd: Sioned Haf.
Pwrpas y fforwm yw i roi cyfle i'r gynulleidfa leisio'u barn a chael bod yn rhan o broses drafod y Gorchymyn iaith, felly estynnwn wahoddiad i bob un sydd eisiau'r cyfle i fynnu'i hawl i'r Gymraeg. Bydd adroddiadau o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at y Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad sy'n craffu'r Gorchymyn Iaith.
Yn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad, sef:
Yr Institiwt, Caernarfon (map) am 7.30pm ar yr 12fed o Fawrth gyda Dafydd Iwan (Llywydd Plaid Cymru), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith) Aran Jones (Cymuned). Cadeirydd: Osian Jones.
Canolfan y Morlan, Aberystwyth (map) am 7.30pm ar y 12fed o Fawrth gyda Rebecca Williams (UCAC) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith). Cadeirydd: Dafydd Morgan Lewis.
Y Duke of Clarence, Caerdydd (map) am 7.30pm ar yr 16eg o Fawrth gyda Leanne Wood (Aelod o Bwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith), Aled Elwyn (Strata Matrix), Yr Athro Colin H Williams. Cadeirydd: Sioned Haf.
Y Boar's Head, Caerfyrddin (map) am 7pm ar yr 20fed o Fawrth gydag Adam Price (Aelod Seneddol), Hywel Griffiths (Cymdeithas yr Iaith), Cynrychiolydd o Fentrau Iaith Cymru. Cadeirydd: Bethan Williams.
Pwrpas y fforymau yw i roi cyfle i'r gynulleidfa leisio'u barn a chael bod yn rhan o broses drafod y Gorchymyn iaith, felly estynnwn wahoddiad i bob un sydd eisiau'r cyfle i fynnu'i hawl i'r Gymraeg. Bydd adroddiadau o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at y Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad sy'n craffu'r Gorchymyn Iaith.
Yn dilyn bron i flwyddyn o ymgyrchu yn erbyn cwmnïau yn y sector breifat bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yn y Brifddinas ar stryd fawr mwyaf Cymru heddiw i dynnu sylw'r busnesau mawr a'r Llywodraeth am yr angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith:
"Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros y misoedd diwethaf gan lobio a gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn cwmnïau. Hyd yn hyn does fawr ddim gwelliant wedi'i weld o gwbl."
Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.
Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg. Cofiwch brynu y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau a'u darllen.
1pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Protest: Hawl i Rentu!
Uned Cymdeithas yr Iaith
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008
Hywel Griffiths, Iestyn ap Rhobert.
Mynd â’r alwad dros ‘Hawl i Rentu’ at Uned Llywodraeth y Cynulliad lle’r codir Ty Unos.
Mae’n ffasiynol iawn i’r holl bleidiau gwleidyddol son am “dai fforddiadwy” y dyddiau hyn. Mae datblygwyr yn cael caniatad i godi nifer mawr o dai drud a di-angen ar yr amod fod ychydig o dai “fforddiadwy” yn eu plith. Fel arfer ychydig iawn o drigolion lleol all fforddio’r tai “fforddiadwy”.
Un ateb tuag at sicrhau cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau yw cynnydd mawr yn y nifer o unedau i’w rhentu. Symud tuag at sefydlu “Hawl i Rentu” i bobl leol yn lle hen bolisi Thatcher o “Hawl i Brynu”. Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch!
• Oherwydd anhawster cael morgais, dyma unig gyfle llawer i gael cartre yn eu cymuned
• Mae prisiau tai’n disgyn, felly mae’n fwy ymarferol i Gynghorau brynu tai ar werth a’u rhentu i bobl leol.
• Rhaid fod y tai ar rent yn y mannau iawn yn ein cymunedau – nid mewn stadau canolog yn unig.
• Rhaid fod y tai o’r mathau sy eisiau – yn cynnwys unedau ar gyfer pobl ifainc.
• Rhaid wrth system deg i osod tai i bobl leol
• Gall trefniadau rhan-berchnogaeth fod yn rhan o’r cynllun “Hawl i Rentu”
Nid dyma’r holl ateb i broblem sicrhau cartrefi yn ein cymunedau, ond bydd yn gam mawr ymlaen ar gyfer y rhai mwyaf anghenus yn ein cymunedau ac ar gyfer pobl ifainc sy’n ceisio penderfynu a oes dyfodol iddynt yn eu cymunedau.
Nawr mae’r amser i lansio’r ymgyrch – dewch i weld yr arddangosfa yn uned y Gymdeithas ar faes y Steddfod, a dewch i orymdeithio gyda ni i fynd a’r alwad at Lywodraeth y Cynulliad!
Ac i ddilyn...
2.15pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Gweithdy Cymunedau Rhydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Mae ymgyrch Hawl i Rentu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio yn yr eisteddfod. Bydd yn ymgyrch weithredol er mwyn sicrhau bod un cyfran o’n polisiau ni i amddiffyn ein cymunedau Cymraeg yn cael ei weithredu. Mae’n gofyn am weithgarwch gan aelodau o bob ardal o Gymru, felly dewch draw i’r uned i glywed am y cynlluniau, i drafod ac i ddysgu am ein polisiau.
Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.
1pm, Dydd Iau, 7fed o Awst
Protest: Mesur Iaith – Y Rhybudd Olaf!
Uned Cymdeithas yr Iaith
Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008
Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl cyhoeddiad am fanylion Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol y Llywodraeth ar yr iaith Gymraeg. Dyma'r cyfle gorau posib am ddegawd arall a mwy i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn derbyn yr hawl i weld, clywed a defnyddio'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd. Mae'r cwmnïau amlwladol sydd yn gwneud biliynau o bunnoedd o elw o gymunedau Cymru yn gwbwl anystyriol o'r iaith Gymraeg ac yn gwbwl amharchus o hawlia eu cwsmeriaid. Mae profiad y ddegawd ddiwethaf wedi dangos yn glir na ellid sicrhau hawliau ym maes y Gymraeg heb orfodaeth trwy ddeddfwriaeth - dyma'r cyfle i sicrhau hyn unwaith ac am byth. Rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth sicrhau statws swyddogol i'r iaith Gymraeg, sefydlu Comisiynydd Iaith gref ac annibynnol, a sefydlu hawliau i bawb o bobl Cymru.
Ac i ddilyn...
2.15pm, Dydd Iau, 7fed o Awst
Gweithdy Deddf Iaith Newydd ar Uned Cymdeithas yr Iaith
Mae gweithgaredd Cymdeithas yr Iaith ar fater deddf iaith newydd yn gofyn am amrywiaeth o ddulliau ymgyrchu a lobio. Mae’r ymgyrch weithredol i drawsnewid cwmnïau uniaith Saesneg y sector breifat drwy sticeri, picedi a gweithredu uniongyrchol yn ei anterth. Ar yr un pryd, rydym ni’n cynnal cyfarfodydd lobio rheolaidd gyda’r llywodraeth i geisio sicrhau bod unrhyw ddeddf iaith newydd yn un gwerth ei chael. Er mwyn ymuno a’r ymgyrch neu i drafod dulliau o weithredu, dewch draw i’r uned!
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.