Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu adroddiad gan ACau sydd wedi argymell y dylid gwarantu mewn statud darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cynulliad
Y llynedd, dyfarnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg bod y Comisiwn wedi bod yn torri ei gynllun iaith statudol trwy beidio â darparu'r ddogfen yn Gymraeg, sefyllfa a arweiniodd at dros 1,500 o bobl yn llofnodi deiseb.
Mae ACau wrthi'n ystyried Bil - Y Bil Ieithoedd Swyddogol - a fyddai'n newid eu polisi iaith. Dywed adroddiad y Pwyllgor Craffu:
"Rydym wedi ystyried yn ofalus iawn y dystiolaeth gan y tystion a'r Comisiynydd ynghylch a ddylid rhoi'r ddyletswydd i ddarparu Cofnod cwbl ddwyieithog (o'r Cyfarfod Llawn) ar wyneb y Bil. Rydym wedi ein hargyhoeddi ei bod yn briodol gwneud hynny. Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, rydym wedi ystyried y dystiolaeth helaeth o blaid y dull gweithredu hwn ... rydym [hefyd] yn cytuno gyda'r rhai sydd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd symbolaidd Cofnod y Trafodion i'r iaith Gymraeg, yn enwedig o ystyried ei statws yn Gofnod swyddogol prif sefydliad democrataidd Cymru."
"Os mai bwriad Comisiwn presennol y Cynulliad yw y dylid cyhoeddi Cofnod y Trafodion yn ddwyieithog bob amser, ni welwn reswm rhesymegol pam na ddylai'r ymrwymiad ymddangos ar wyneb y Bil. Credwn fod y dull gweithredu hwn yn fwy eglur ac yn fwy sicr na phe bai ymrwymiad yn ymddangos yn y Cynllun Ieithoedd Swyddogol."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar aelodau Comisiwn y Cynulliad i wrando ar farn y pwyllgor a newid y ddeddfwriaeth arfaethedig. Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau'r mudiad:
"Rydyn ni'n croesawu'r yr elfen hon yn yr adroddiad. Ni allai'r pwyllgor fod ddim cliriach - mae'n hanfodol fod y Bil yn gwarantu bod Cofnod swyddogol o drafodaethau'r Cynulliad ar gael yn gwbl Gymraeg. Dyna beth ddywedodd Bwrdd yr Iaith, pob person a gyflwynodd tystiolaeth lafar i'r pwyllgor, rhan helaeth o'r dystiolaeth ysgrifenedig a dros fil pum cant o lofnodwyr ein deiseb. Y cwestiwn nawr ydy a fydd Rhodri Glyn Thomas AC, a'i gyd-gomisiynwyr, yn derbyn barn glir y bobl neu beidio? Does dim ffordd ganol iddyn nhw - naill ai eu bod nhw'n rhoi'r sicrwydd diamheuol mewn statud neu ddim."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio'r corff arolygu addysg ESTYN am "geisio gosod agenda gwleidyddol" trwy annog awdurdodau lleol i ad-drefnu a chau ysgolion mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis:
"Dim ond ychydig o ddyddiau sydd ers yr etholiadau lleol, ac mae'r corff anetholedig ESTYN eisoes wedi ceisio gosod yr agenda gwleidyddol trwy ddweud wrth awdurdodau lleol fod yn rhaid cau ysgolion i gael gwared a lleoedd gwag. Dyma ran o batrwm cyfoes o gyrff anetholedig yn tanseilio democratiaeth gan honni o hyd "Nad oes dewis". Gwelwn Fanciau Canolog a'r IMF yn mynnu fod llywodraethau ledled y byd yn taflu pobl allan o waith a chwtogi ar wasanaethau er mwyn ad-dalu dyledion bancwyr gan nad oes dewis. Yng Nghymru, dyma ESTYN yn mynnu fod yn rhaid tanseilio cymunedau Cymraeg a dad-sefydlogi addysg y plant ifancaf er mwyn talu'r pris."
Cyngor Caerdydd yw'r gorau ymysg cynghorau sir de Cymru yn ei gefnogaeth i'r Gymraeg tra bod Merthyr yw'r gwaethaf, yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn gynharach eleni, holwyd cyfres o gwestiynau i 12 awdurdod lleol yn ne Cymru ynghylch gweithrediad y cynghorau mewn perthynas â'r Gymraeg megis gwasanaethau Cymraeg, addysg, a sgiliau iaith staff gan aelodau'r Gymdeithas. Casnewydd a Merthyr Tudful a sgoriodd waethaf gan dderbyn marc o 20% yn unig, tra oedd Caerdydd ar y blaen gyda 64%.
Fodd bynnag, nid oedd un o'r cynghorau wedi cyrraedd y safonau a ddisgwylir o dan y Mesur Iaith newydd, yn ôl Marc Phillips cyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a ddadansoddodd yr atebion ar ran Rhanbarth Morgannwg-Gwent y Gymdeithas.
Dywedodd yr arbenigwr iaith Marc Phillips:
"Teg dweud bod yna amrywiaeth sylweddol o awdurdod i awdurdod, ac er bod un yn dangos perfformiad cryfach na'r gweddill mewn sawl agwedd, does dim un yn cynnig perfformiad sydd yn debygol o fodloni'r safonau newydd y disgwylir iddynt gael eu gosod gan y llywodraeth, trwy'r Comisiynydd, maes o law."
"Roedd 6 o'r cynghorau wedi anfon ymatebion penodol i'r holiadur. Dewisodd y 6 arall peidio ag ateb yn uniongyrchol, ond yn hytrach i anfon copi o adroddiadau monitro eu Cynllun Iaith, fel y'i cyflwynwyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. ... mae ymateb yn y dull yma yn golygu nad yw rhai o gwestiynau'r Gymdeithas wedi cael eu hateb, ac anodd iawn yw sicrhau cymhariaeth deg a chyson rhwng y gwahanol awdurdodau yn yr un modd ag oedd yn bosibl gyda'r 6 arall."
Yn siarad am yr arolwg a gomisiynwyd gan ranbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dywedodd Ceri Phillips,.llefarydd hawliau'r mudiad bod y canlyniadau yn dangos bod angen gwelliant sylweddol ymysg cynghorau yn gyffredinol:
"Mae angen gwelliant sylweddol ymgysg y cynghorau hyn yn dilyn yr etholiadau. Mae'r arolwg gan ein haelodau yn y De yn amlygu'r gwasanaethau amrywiol iawn a ddarperir gan awdurdodau lleol. Caerdydd yw'r gorau ac ar y trywydd iawn, er bod gyda nhw ffordd bell i fynd eto, tra bod Merthyr yn hollol syflaenol ac yn annerbynniol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion bod Radio Beca wedi derbyn trwydded i ddarlledu radio yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro.
Dywedodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rwy'n falch iawn bod gan Radio Beca y drwydded newydd hon. Mae'n ddatblygiad arwyddocaol iawn. Cwrddon ni gyda swyddogion Ofcom [y rheolydd darlledu] ddoe i drafod y dirywiad yn yr allbwn Cymraeg ar y cyfryngau, a'r sefyllfa yn y Gorllewin yn benodol.
"Er bod y newyddion hwn yn bwysig, allwn ni ddim osgoi'r ffaith bod 'na nifer o gwmnïau radio sydd wedi torri yn ôl yn sylweddol ar eu horiau darlledu yn y Gymraeg ac sy'n ceisio mynd yn bellach. Rydyn ni'n gobeithio y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn edrych yn fanwl iawn ar y sefyllfa bryderus hon. Byddwn ni'n protestio tu allan i swyddfeydd Town and Country Broadcasting yn Arberth ar yr 8fed o Fai i dynnu sylw pellach at y broblem."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i bryderon Meri Huws am ei hannibyniaeth o'r Llywodraeth.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"'Dyn ni'n cytuno'n llwyr gyda phryderon y Comisiynydd am ei hannibyniaeth. Mae'n bwynt rydyn ni wedi ei godi gyda'r Gweinidog Leighton Andrews yn barod, ac yn bwynt y gwnaethon ni ei godi droeon cyn pasio'r Mesur yn y Cynulliad ddwy flynedd yn ôl. Ni ddylai fod rhaid i'r Comisiynydd edrych dros ei hysgwydd yn poeni bod y Llywodraeth yn mynd i dorri ar yr arian sydd ar gael iddi. Fan lleiaf, mae angen cyllideb sefydlog pedair blynedd arni. Mae ein trafodaethau gyda Leighton Andrews wedi bod yn adeiladol ac roedd yn cymryd ein pryderon o ddifrif; rwy'n credu y byddai'n agored i'r syniad o wneud rhagor i sicrhau ei hannibyniaeth ymarferol, a gobeithiwn y bydd Aelodau Cynulliad hefyd yn pwyso ar y Gweinidog i sicrhau bod ganddi annibyniaeth ymarferol go iawn.
"Mae swydd Comisiynydd y Gymraeg yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg, ei statws a chyfleoedd pobl i'w siarad. Mae mwyafrif helaeth pobl Cymru eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu."
Fe fydd rhagor o graffu ar y berthynas rhwng S4C a'r BBC yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (Dydd Mawrth, Ebrill 10fed) bod cynghrair newydd yn cael ei ffurfio gan undebau a mudiadau iaith.
Daeth y grwp i fodolaeth yn sgil y bartneriaeth ymgyrchu a ffurfiwyd yn ystod y frwydr yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C. Bwriad y grwp newydd yw i barhau i amddiffyn S4C a'i hannibyniaeth yn ogystal â goruchwylio safon y diwydiant teledu yng Nghymru. Mae aelodau y grwp yn cynnwys yr undeb BECTU, Undeb yr Ysgrifenwyr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fe ddywedodd Madoc Roberts o'r undeb BECTU: "Mae'r grwp newydd hwn yn gyfle i gadw llygaid barcud ar safon y diwydiant teledu yng Nghymru ac i graffu a sgriwtineiddio y berthynas rhwng S4C a'r BBC. Menter gadarnhaol yw hon, gyda'r bwriad o sicrhau fod S4C yn cynnig y ddarpariaeth gorau posibl i'w gwylwyr. Bydd y grwp yn galluogi unrhyw un sydd yn pryderu am ddyfodol darlledu yng Nghymru i godi unrhyw bryder sydd ganddynt."
Mae S4C yn wynebu toriad o dros nawdeg y cant i'w grant oddi wrth Lywodraeth Prydain, ac mae BBC Cymru yn dioddef oherwydd toriadau i wasanaethau Cymreig sy'n golygu bod 120 o swyddi mewn perygl o gael eu colli yng Nghymru yn y gorfforaeth. Ychwanegodd Madoc Roberts:"Fe wnaeth y Llywodraeth Prydain addo na fyddai'r BBC yn traflyncu S4C ac na fyddai'r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr yn gwneud niwed i safon cynhyrchu yng Nghymru. Mae'r ddau ddarlledwr yn wynebu toriadau mawr felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar safon y cynyrchiadau."
Llynedd fe wnaeth S4C dderbyn cytundeb oedd yn golygu mai'r BBC fyddai prif ffynhonnell ariannol y sianel.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod pryderon am y sianel o hyd: "Drwy ein hymgyrch llynedd fe wnaethom sicrhau fod rhyw fath o ddyfodol i'r sianel ond mae ei dyfodol yn ansicr o hyd. Cyfaddawd yn unig a gafwyd ar gyfer S4C felly mae'r gwaith yn parhau er mwyn sicrhau fod S4C yn parhau i gyfrannu at ddiwylliant llewyrchus a chreadigol darlledu."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dymuno'n dda i Meri Huws wrth iddi gychwyn ei swydd newydd fel y Comisiynydd cyntaf dros y Gymraeg.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydym yn dymuno yn dda i Meri Huws yn ei swydd. Gobeithiwn y bydd yn cymryd y cyfle i wneud y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg. Gyda chonsensws traws-bleidiol ac ymysg cymdeithas sifil dros sefydlu'r swydd, mae gyda hi gyfle euraidd i ddechrau o'r newydd a sicrhau fod y sytem newydd hon yn blaenoriaethu pobl.
"Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a'r Llywodraeth gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gwahaniaeth a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Dylem weld gwelliannau sylweddol i wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn addysg Gymraeg.
"Rydym yn disgwyl i'r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o'r Llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion.
"Gobeithiwn y bydd y Comisiynydd yn sicrhau hawliau i bobl Cymru i wasanaethau Cymraeg o safon drwy osod dyletswyddau clir ac uchelgeisiol ar gyrff a chwmnïau. Mae hefyd angen iddi daclo'r camwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, trwy sicrhau hawliau pobl i weithio yn Gymraeg. Gobeithiwn y gallwn droi sefydliadau Cymru yn ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair lle mae defnydd sylweddol o'r Gymraeg yn fewnol; mae hwn yn faes nad yw'r Cynulliad na'r Llywodraeth yn dangos arweiniad ar hyn o bryd."
Y drefn weithredu ynglyn a chyflwyno'n gwrthwynebiadau i gynnig Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc yn 2013.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol y Parc ger Bala. Bydd unrhyw wrthwynebiad i gau yr ysgol yn golygu trosglwyddo'r mater i'r Gweinidog addysg, Leighton Andrews i'w ystyried. Byddai ddisgyblion ac athrawon yr ysgol a holl drigolion y Parc yn ddiolchgar iawn petai chi'n gallu anfon llythyr yn gwrthwynebu cau yr ysgol. manylion isod:
Mae'n rhaid i bob gwrthwynebiad gael ei dderbyn yng Nghaernarfon cyn y 5ed o Ebrill
Rhaid i bob gwrthwynebiad gael ei gyfeirio at: Dewi R Jones, Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH.
Rhaid i'r gwrthwynebiadau gael eu cyflwyno trwy lythyr (Ni fydd y Cyngor yn derbyn e-bost)
Cadwch gopi o bob gohebiaeth a anfonir er mwyn inni fedru gwirio fod popeth a anfonir i Gaernarfon yn cael ei drosglwyddo i sylw Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru. Byddai'n dda hefyd i chi gyflwyno llun-gopi o'ch llythyr i Rhian Yn Ysgol y Parc (cyfeiriad isod) neu swyddogion y Pwyllgor Amddiffyn.
Byddwn yn cyflwyno nifer o'r llythyrau gwrthwynebu gyda'u gilydd mewn un pecyn i'r Swyddogion Addysg yng Nghaernarfon ar ddydd Llun 3ydd Ebrill. Os cytunwch i hyn gallwch gyflwyno eich llythyr gwreiddiol (a'r llun-gopi ar wahan) trwy y blwch postio arbennig a ddarperir i'r pwrpas yn yr Ysgol. Ysgol y Parc, Parc, Y Bala, LL23 7YW. Bydd angen gwneud hyn erbyn dydd Gwener 30ain o Fawrth.
Dywedodd Leanne Wood wrth gael ei hethol yn arweinydd ar Blaid Cymru mai ein cymunedau oedd un o'r prif bethau yr oedd hi a Phlaid Cymru am frwydro drostynt. Mae bygythiad i gau unrhyw ysgol yn fygythiad real i'r gymuned felly danfonwch neges at Leanne Wood hefyd: leanne.wood@wales.gov.uk
Fe fydd pentref yng ngogledd Cymru, lle mae'r ysgol leol o dan fygythiad, yn dod yn aelod cyntaf o gynghrair newydd i lobïo dros ddyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith heddiw (Dydd Sadwrn, Mawrth 17).
Cymuned y Parc, ger y Bala, fydd y cyntaf i ymuno â Chynghrair Cymunedau Cymru, menter Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd yn cael ei sefydlu er mwyn galluogi nifer o gymunedau Cymraeg i lobio'n rymus dros eu dyfodol. Fe gynhelir y lansiad yn ystod Diwrnod o Brotest yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i gyhoeddi rhybudd i gau Ysgol Y Parc. Fe ddangosodd y cyfrifiad diwethaf gwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan dros 70% o'r boblogaeth a disgwylir i ganlyniadau Cyfrifiad nesaf ddangos yr un dueddiad.
Fe fydd y Gymdeithas yn defnyddio eu "Taith Tynged yr Iaith", sydd yn rhan o ddathliadau eu hanner canmlwyddiant, ac yn teithio ar draws Cymru eleni i dynnu sylw at sefyllfa'r Gymraeg ar lefel gymunedol ac i annog cymunedau eraill i ddod yn rhan o'r gynghrair.
Dywedodd Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Sefydlwyd Merched y Wawr yn y Parc, sydd yn enghraifft o fudiad sydd wedi mynd o nerth i nerth gan gyfrannu yn sylweddol at ein cymunedau a'r Gymraeg. Gobeithiwn y bydd y gynghrair yr ydym yn ei dechrau heddiw yn gallu codi momentwm a llais dros gymunedau Cymraeg sydd yn wynebu argyfwng. Os yw'r iaith yn mynd i barhau fel iaith ffyniannus a hyfyw, mae rhaid i ni amddiffyn a thyfu'r nifer o gymunedau Cymraeg ei hiaith."
Ychwanegodd Penri Jones, ar ran ymgyrchwyr cymunedol y Parc:
"Mae'n cymunedau gwledig cynhenid Gymraeg yn prysur brinhau a dadfeilio... mae'r ardaloedd naturiol Gymraeg ar hyn o bryd yn wynebu gwir berygl o gael eu hamddifadu o bopeth. Yr ysgol leol bron yn ddieithriad fu, ac yw, craidd y gymuned wledig a phan gollir ysgolion cefn gwlad bydd clymau eraill yn sicr o ymddatod.
"Gwelaf sefydlu'r gynghrair... yn gam hanfodol i strategaeth cynnal a chadw'r llinyn arian sy'n cysylltu'r rhwydwaith sy'n weddill. ... mae ymgais ddiweledigaeth ddiweddar Cynghorau Cymru i gau'n hysgolion bach wedi amlygu realiti'r sefyllfa. Rhaid i'r ardaloedd Cymraeg eu hiaith ffynnu os ydym am weld unrhyw ddyfodol tymor hir llwyddiannus i'r iaith a'r diwyllant Cymraeg. "Ni fedir oni heuir," medd y ddihareb. Rhaid inni barhau i hau a meithrin egin ein hardaloedd gwledig doed a ddelo."
Wrth lansio'r gynghrair, mae'r Gymdeithas wedi croesawu pleidlais unfrydol yn y Cynulliad wythnos yma yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu'r grwp i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae Biliau cynllunio a datblygu cynaliadwy'r Llywodraeth yn cynnig cyfle i'r Llywodraeth wyrdroi'r patrwm lle mae buddiannau datblygwyr yn cymryd blaenoriaeth dros fuddiannau'r Gymraeg a'i chymunedau. Mi fyddwn yn erfyn ar y Llywodraeth dros y misoedd i ddod i dderbyn bod datblygiadau tai mewn nifer o lefydd yn y wlad yn niweidiol i'r iaith, ac ymrwymo i newid y system gynllunio i atal y patrwm hwnnw rhag parhau."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad strategaeth iaith Llywodraeth Cymru gan ddweud bod angen adnoddau ac ewyllys gwleidyddol i weithredu'r strategaeth.
Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r weledigaeth a'r nod gyffredinol yn ddigon canmoladwy a chalonogol, ond mae angen adnoddau ac ewyllys gwleidyddol er mwyn creu newid. Yng ngwlad y Basg, maent yn buddsoddi tua phedair gwaith mwy na ni yn eu hiaith. Mae'r Gymraeg mewn perygl yn ei chymunedau: mae ystadegau'n paentio darlun argyfyngus, ac mae angen gweithredu radical iawn er mwyn trawsnewid hyn."
"Mae defnydd y Llywodraeth ei hun o'r Gymraeg angen ei gwestiynu. Mae pob ceiniog sy'n cael eu gwario gan y Llywodraeth yn cael effaith ar yr iaith. Ond, ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o wariant y Llywodraeth yn cael effaith negyddol. Mae'r gwasanaeth sifil yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Saesneg ac mae hynny'n tanseilio defnydd y Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae angen gweithredu ar frys i wella sgiliau iaith y gwasanaeth sifil, a chynyddu defnydd mewnol o'r Gymraeg yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf"
"Er mwyn normaleiddio'r Gymraeg mae angen iddi fod yn iaith ar gyfer pob agwedd ar fywyd. Rydyn ni'n croesawu'r datganiad yn y strategaeth ynghylch gosod dyletswyddau o ran yr iaith ar gwmniau telathrebu a thrafnidiaeth, ond mae angen hefyd deddfu ar gwmniau mawr dylanwadol fel yr archfarchnadoedd a'r banciau, lle mae'r ddarpariaeth yn dameidiog iawn ar hyn o bryd: wrth i natur gwasanaethau newid, trwy symud ar-lein er enghraifft, gwelwn ddirywiad pellach yn y ddarpariaeth Gymraeg."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb gyda siom i benderfyniad Cyngor Gwynedd i barhau gyda'r cynlluniau i gau Ysgol y Parc, er gwaethaf problemau ariannol y cynllun.
Daw'r bleidlais yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau ei chyfraniad ariannol at brosiectau ysgolion newydd o 70% i 50% o 2014 ymlaen. Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu parhau gyda'r cynlluniau, er nad oes sicrwydd y bydd yr arian i gau'r ysgol ar gael iddynt.
Dywedodd llefarydd addysg y mudiad, Ffred Ffransis:
"Rydym yn gresynu at benderfyniad Cyngor Gwynedd heddiw i gadarnhau'r penderfyniad i gyhoeddi Rhybuddion Statudol i gau Ysgol Y Parc. Ar ôl cyhoeddi'r rhybudd, bydd mis ar gyfer gwrthwynebiadau a bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cefnogaeth lawn i'r Parc ac i unrhyw gymunedau eraill ym Meirion a fyddant am frwydro yn erbyn y rhybuddion i gau eu hysgolion. Byddwn yn cyhoeddi'n fyw ar Sianel 62 nos Sul yma ein cynlluniau i gefnogi'r Parc ac i godi gwrthwynebiad eang i'r bwriad i gau'r ysgol."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd - "Sianel 62" - penwythnos hon (8yh, Dydd Sul, 19eg Chwefror) fel rhan o'u dathliadau hanner canmlwyddiant.
Sianel 62 fydd y sianel Gymraeg newydd gyntaf ers 30 mlynedd pan fydd yn mynd ar yr awyr ar sianel62.com ddydd Sul yma. Bwriad y Gymdeithas yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh.
Yn ôl y trefnwyr y gobaith yw y bydd y sianel yn "llai fel Noson Lawen ac yn fwy o Noson Chwyldroadol". Mae'r Gymdeithas wedi sefydlu dau hwb i'r sianel, yng Nghaerdydd a Chaernarfon, ar gyfer y prosiect a darperir hyfforddiant ac offer i bobl sydd am gyfrannu ati.
Dywedodd Cydlynydd Sianel 62 Greg Bevan:
"Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd. Mi fydd y sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol."
"Sianel 'ifanc ei naws' fydd hi a phobol gyffredin yn y gymuned fydd yn datblygu'r syniadau a chynhyrchu'r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol. Wrth gwrs, gall sianel deledu fod yn fecanwaith dylanwadol a phwerus iawn, felly mae hwn yn gyfle digynsail i sefydlu'r strwythurau i rywbeth gall fod yn ganolog i waith y Gymdeithas am flynyddoedd i ddod. Mae llwyddiant y fenter yn ddibynnol ar bobl yn cyfrannu, felly cysylltwch gyda ni os gallwch fod o gymorth - greg@cymdeithas.org."
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Bydd y sianel yn llai fel 'Noson Lawen' ac yn fwy o Noson Chwyldroadol, gobeithio. Mae'n fenter gyffrous iawn, ac mae 'na groeso i unrhyw un gymryd rhan. Fe fydd lleisiau a chynnwys gwleidyddol a dychanol na allwch weld ar y sianeli teledu presennol. Bydd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu ein hanner canmlwyddiant yn cael eu darlledu, gan fod y sianel yn gyfle arall i ddiolch i'r holl bobl sydd wedi ymgyrchu dros yr iaith dros y degawdau."
Disgwylir i'r darllediad cyntaf gynnwys hanes teulu Caerdegog yn Ynys Môn, clipiau comedi, Tynged yr Iaith II a cherddoriaeth gan fandiau y bydd yn perfformio yn yr ?yl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid ym Mis Gorffennaf ymysg pethau eraill.
Fe gynhelir taith o gwmpas Cymru i dynnu sylw at y bygythiad i gymunedau Cymraeg eleni, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw (Dydd Llun, 13eg Chwefror).
Mae'r newyddion yn dod ar hanner canmlwyddiant anerchiad Saunders Lewis ar ddyfodol yr iaith - Tynged yr Iaith - a sbardunodd sefydlu'r mudiad iaith.
Fe fydd ymgyrchwyr yn gyrru bws o gwmpas y wlad ar daith - a enwir ar ôl y ddarlith enwog - i godi ymwybyddiaeth o'r her i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg - gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001, ac mae'r mudiad yn mynd i roi prif ffocws eu gwaith ar wyrdroi'r cwymp hynny.
Bydd y daith yn dechrau ym mis Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri. Mae'r Gymdeithas yn annog grwpiau cymunedol a fyddai â diddordeb yn y daith i gysylltu â nhw ar post@cymdeithas.org. Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Hoffwn ymestyn cyfle i bawb sydd yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i ymuno â ni ar y daith ac awgrymu sut a lle y dylen ni ymgyrchu. Bydd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau'r Gymdeithas dros y pumdeg mlynedd ddiwethaf, ond hefyd i dynnu sylw at yr her sydd yn wynebu'r iaith ar lefel gymunedol."
"Fe wnaethon ni draddodi darlith Tynged yr Iaith 2 llynedd oedd yn dweud fod yr hanner can mlynedd diwethaf wedi golygu fod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg ac felly nawr rydym yn gofyn pa fath o ddyfodol fydd i'r iaith. Rydym am ei gweld fel iaith dydd i ddydd ein cymunedau ac er mwyn sicrhau hynny mae angen i bawb - o'n cynghorau cymuned reit lan i'r Cynulliad - sylweddoli bod angen trawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau. Yng Ngwlad y Basg, mae nifer o gymunedau wedi ffurfio cynghrair i annog digwyddiadau yn y Fasgeg a hefyd i lobio dros yr iaith honno. Dyna'r fath o fenter rydyn ni'n gobeithio ei hybu ar ein taith, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r problemau sydd yn ein wynebu."
Mae'r frwydr dros ddiogelu tir teulu o Ynys Môn yn ficrocosm o'r frwydr dros gymunedau Cymraeg, dyna oedd neges rali yn erbyn datblygu atomfa niwclear newydd yn y sir heddiw.
Fe wnaeth Richard Jones, aelod o deulu Caerdegog a ffermwr lleol sy'n wynebu colli tir oherwydd yr atomfa newydd annerch dros 200 o brotestwyr yn Llangefni yn rali "Nid yw Môn ar werth i Wylfa B" a drefnwyd gan PAWB (Pobl Atal Wylfa B) a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda chefnogaeth Greenpeace. Mae'r teulu lleol mewn brwydr fawr â'r datblygwr Horizon sydd eisiau adeiladu Wylfa B: gallai'r cwmni orfodi'r teulu i werthu'r tir iddyn nhw ar gyfer yr orsaf niwclear newydd.
Bwriad yr ymgyrchwyr oedd dangos cefnogaeth i Richard Jones a'i deulu a chodi ymwybyddiaeth o beryglon yr orsaf niwclear i'r amgylchedd a'r iaith Gymraeg. Mae datblygwyr hefyd yn bwriadu codi 6,000 o dai ar yr ynys, ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhybuddio y gallai'r datblygiad fod yn "hoelen olaf yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn", gan y bydd yn hybu mewnlifiad.
Mae'r mudiad iaith hefyd wedi codi cwestiynau am annibyniaeth yr asesiad o effaith ieithyddol y cynlluniau - asesiad a ariennir gan y datblygwyr. Yn siarad yn y rali, dywedodd Menna Machreth, llefarydd y Gymdeithas yng Ngwynedd a Môn:
"Mae hon yn frwydr ddewr gan deulu Caerdegog i gadw eu bywoliaeth a'u cartref rhag cwmni enfawr - gan wrthod rhoi caniatâd i Horizon archwilio tir y fferm. Bu'r fferm ym meddiant y teulu ers saith cenhedlaeth, a'r bwriad yw i Owain, mab y fferm i barhau â'r gwaith. Pe bai Horizon yn llwyddo i brynu 65 erw o dir y fferm, dyna fyddai diwedd Caerdegog fel uned yn cynnig bywoliaeth. Mae eu brwydr nhw yn rhan yn annatod o'r frwydr dros ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol yn y sir hon."
"Mae pawb yn dweud fod yr ynys gyfan o blaid niwclear, ond dyw hynny ddim yn dal d?r. Wylfa B fydd hoelen olaf yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Mae'r cyfrifiad nesaf yn mynd i ddangos dirywiad pellach yn y canran sy'n siarad Cymraeg yn yr ardal, a byddai mewnlifiad o 16,000 o bobl ar ben hynny yn andwyol i'r iaith a'i chymunedau ar yr ynys. Yr un hen hanes geir yma eto - Llywodraeth Prydain yn dweud gall cwmni preifat ddefnyddio'n adnoddau fel y mynnant. Pwy sy'n diogelu teulu Caerdegog? Ble mae eu hawliau nhw i oroesi? Ble mae'r gwleidyddion sy'n sefyll lan drostyn nhw?"
"Mae yna opsiynau eraill sut i wneud egni, sef egni gwyrdd, opsiwn a allai olygu ffyniant economaidd i'r Ynys yn hytrach nag aros mewn tlodi fel ar ôl yr Wylfa presennol."
Gorfododd trychineb Fukushima i wledydd gefnu ar ynni niwclear: yn Ewrop, mae'r Almaen, yr Eidal, Gwlad Belg a'r Swistir wedi penderfynu peidio â chodi gorsafoedd niwclear newydd, a chau gorsafoedd presennol. Yn ôl y cynlluniau, fe fyddai Wylfa B yn cynhyrchu bron i bedair gwaith mwy o drydan na'r orsaf bresennol ac yn creu gwastraff dwy waith poethach a dwy waith mwy ymbelydrol, gyda'r gwastraff ar y safle am 160 o flynyddoedd."
Ar ran PAWB, ychwanegodd Dr.Carl Clowes:
"Bydd 2012 yn flwyddyn bwysig i'r ymgyrch i atal Wylfa B. Yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, fydd hi ddim yn hawdd i Horizon godi'r cyfalaf angenrheidiol ar gyfer prosiect mor enfawr. Bydd Horizon yn cynnal ymgynghoriad cymunedol ar eu cynlluniau cyn bo hir, ond mae'r rali yn gyfle i bobl ddangos eu hochr ac i ymuno â ni, Cymdeithas yr Iaith a Greenpeace yn y gwaith o ddangos pa mor beryglus, eithriadol o ddrud, a bygythiol i iaith, diwylliant, cymuned ac amgylchedd mae ynni niwclear."
Arwyddodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, a Rhodri Glyn Thomas Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater.
Dywedodd Jonathan Edwards AS:
"Rydym wedi gweld yn ddiweddar gyda'r toriadau yng Nghyllideb S4C bod yn wir angen i ni gael reolaeth dros ddarlledu yng Nghymru, nid yw'n gwneud synnwyr bod y sector darlledu yng Nghymru yn agored i fygythiadau cyson gan lywodraeth nad oes arno fandad yng Nghymru"
Ategodd Rhodri Glyn Thomas AC:
"Mae darlledu yng Nghymru wedi wynebu ergyd ar ôl ergyd yn y flwyddyn diwethaf ac mae'n bryd i ni gymryd yr awenau i neud rhywbeth ynghylch y peth yn y Cynulliad."
Meddai Adam Jones, llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n falch bod cymaint o wleidyddion a sefydliadau ar hyd a lled Cymru yn cefnogi ein hymgyrch. Mae darlledu yng Nghymru yn wynebu dyfodol trychinebus os na wnawn ni rywbeth nawr. Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar agwedd San Steffan tuag at ddarlledu yn y ffordd y gwnaethon nhw ddi-ystyrru pobl Cymru a phwysigrwydd y sianel wrth benderfynu ar ei dyfodol. Yr unig ffordd i atal penderfyniadau annoeth yn y dyfodol yw sicrhau nad nhw sydd yn cael penderfynu ar y materion yma. Yr hyn sydd ei angen yw datganoli cyfrifoldeb fel y gallwn ni greu strwythur gref Gymreig i ddarlledu fydd yn rhoi blaenoriaeth i'n cymunedau. Mae'n bryd nawr i'n Haelodau Cynulliad sefyll lan a mynnu bod yr holl rymoedd dros ddarlledu yn dod yma i Gymru, a phwyso ar San Steffan nes bydd hynny'n digwydd."
Mae trefnwyr Hanner Cant, yr wyl gerddorol enfawr gaiff ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 13eg a'r 14eg o Orffennaf i nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50, wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o docynnau yn mynd ar werth am bris gostyngol dydd Gwener am hanner dydd.
Nos lun, yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru, dywedodd Huw Lewis, un o drefnwyr yr wyl:
"Bydd modd rhag-archebu tocynnau i'r wyl o Fawrth 1af ymlaen am £25 yr un - pris hynod o resymol - o'n gwefan arbennig hannercant.com"
"Ond fel cynnig arbennig ac fel ymateb i'r diddordeb eithriadol yn Hanner Cant, byddwn yn rhyddhau nifer cyfyngedig o docynnau - 250 ohonynt - ddydd Gwener yma (20fed Ionawr) am hanner dydd. Bydd modd prynu'r rhain am bris arbennig o £20."
"Felly os yw dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg am fachu ar y cyfle cyntaf i sicrhau tocyn i'r digwyddiad, sy eisoes wedi cael ei ddisgrifio fel gig mwya'r ddegawd, dylent daro draw i hannercant.com dydd Gwener yma."
Yn ogystal â'r cyhoeddiad pwysig ynglyn â thocynnau'r wyl, datgelwyd mai'r diweddaraf i ymuno â'r rhestr o artistiaid a fydd yn perfformio ym mis Gorffennaf yw'r 'Brawd Houdini' ei hun, Meic Stevens, un o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru ers y 1960au.
Mae trefnwyr Hanner Cant wedi bod yn cyhoeddi enw artist newydd bob wythnos ers wythnos gyntaf Awst 2011 a hwn oedd y 25ain cyhoeddiad.
Manylion cefndirol
Y Gymdeithas i "newid yn radical" yn 50 i ymateb i'r her, medd ei Chadeirydd
MAE pryder y bydd dyfodol cymunedau yn cael ei anghofio yn sgil digwyddiadau Prydeinig, yn ôl araith gan Gadeirydd y mudiad heddiw (Dydd Sadwrn, Ionawr 7fed).
Wrth i Gymdeithas yr Iaith, ddathlu ei phen-blwydd yn 50, bydd Bethan Williams, Cadeirydd y mudiad yn annerch aelodau mewn fforwm newydd - y Cyngor - heddiw (Dydd Sadwrn 7fed Ionawr) yn Aberystwyth gyda her iddynt newid.
Sefydlwyd y Gymdeithas yn sgil darlith Tynged yr Iaith Saunders Lewis, a ddarlledwyd ar Chwefror 13, 1962. Er bod Mr Lewis yn dod o safbwynt adain dde, gwrthodwyd y wleidyddiaeth honno gan sefydlwyr y Gymdeithas, sydd yn fudiad sosialaidd. Ychwanegodd Bethan Williams y bydd y Gymdeithas yn ffocysu llawer iawn mwy ar ddyfodol cymunedau Cymraeg yn y cyfnod i ddod, gan ddweud :
"Mewn blwyddyn o ddigwyddiadau Prydeinig, mae perygl y bydd dyfodol ein cymunedau yn cael ei anghofio. Ond allwn ni ddim fforddio i ddyfodol ein hiaith ar lefel gymunedol ddiflannu, gan fod y sefyllfa mor argyfyngus."
"Mae rhai pobl yn dweud fod brwydr y Gymraeg drosodd, ond nid ydym am weld y Gymraeg fel iaith ymylol, fel iaith addysg yn unig. Y llynedd, fe gyhoeddom ddarlith Tynged yr Iaith 2, yn dweud bod rhyw fath o ddyfodol i'r Gymraeg oherwydd brwydr yr hanner can mlynedd diwethaf. Nawr, wrth i ni gamu tuag at y cyfnod nesaf yn ein hymgyrchu ryn ni'n troi ein golygon at ein cymunedau, a sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn iaith ddydd-i-ddydd. Y cwestiwn mae'r ddarlith newydd yn ei gosod yw: ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl fydd y Gymraeg? Felly ein her ni dros y cyfnod nesaf fydd ymateb."
Bydd hi'n dadlau y gallai strwythur Cymdeithas yr Iaith Gymraeg newid mewn ffordd 'radical' yn ystod y flwyddyn a bod angen i'r mudiad fod yn llawer mwy agored a chynhwysol yn y dyfodol. Fe fydd Ms Williams yn dweud:
"Mae hen bryd i'r Gymdeithas dderbyn bod rhaid trafod dyfodol ein mudiad, a gwneud ymdrechion pellach i sicrhau ein bod ni'n gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol posib. Mae rhaid i ni fod yn agored ac yn barod i newid er lles y Gymraeg, lle bynnag mae hynny yn ein harwain fel mudiad. Nid ydym yn fodlon gweithredu yn arwynebol fel y quangos a'r sefydliadau, sydd yn ticio blychau felly mae'n rhaid i'r broses adnewyddu hon fod yn hollol gynhwysol ac agored. Mae angen i ni ymestyn allan at bawb sy'n poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, nid unrhyw clique neu ddilyn yr un hen fformiwla achos ein bod ni'n gyfforddus gyda fe."
"Mae angen i ni, fel mudiad, drafod yn agored gydag ein haelodau, cefnogwyr a phawb sy'n poeni am ddyfodol y Gymraeg a'i chymunedau sut y gallwn ni gryfhau. Mae llawer iawn wedi newid yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, ac mae rhaid i ni fod yn barod i newid hefyd. Nid yw'r Gymdeithas erioed wedi ofni herio'r 'status quo'."
Mewn neges i aelodau ar ddechrau blwyddyn hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae ei chadeirydd, Bethan Williams, wedi rhybuddio y bydd canlyniadau'r Cyfrifiad - a ryddheir ym 2012 - yn tanlinellu'r argyfwng sy'n wynebu'n cymunedau Cymraeg.
Bydd dathliadau swyddogol hanner canmlwyddiant y Gymdeithas yn cychwyn fis Chwefror 50 mlwyddyn yn union ar ôl i Saunders Lewis draddodi'i ddarlith radio 'Tynged yr Iaith'. Yn ystod y misoedd diwethaf mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi 'Tynged yr Iaith 2' sydd yn gosod allan camau nesaf y frwydr. Esboniodd Bethan Williams:
"Oherwydd yr holl waith ac ymgyrchu dros y 50 mlynedd diwethaf, gallwn ni fod yn sicr y bydd y Gymraeg yn goroesi. Y cwestiwn yn awr yw pa fath o ddyfodol a fydd i'r iaith ? Ai iaith diwylliant lleiafrifol yn ei gwlad ei hun fydd i'r Gymraeg, neu iaith pob dydd cymunedau byw ac iaith y gellir ei defnyddio ym mhob rhan o fywyd: Ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl?"
"Bydd canlyniadau'r Cyfrifiad a ryddheir yn ystod 2012 yn tanlinellu maint yr argyfwng yn ein cymunedau Cymraeg. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn rhyddhau ein cynlluniau gweithredol i geisio parhad i'r cymunedau hyn ac i helpu cymunedau eraill hefyd i gyflawni eu potensial i fod yn gymunedau Cymraeg."
Ni fydd gan Gymru ei henw fel parth ar y we oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ôl mudiad iaith sydd wedi erfyn ar Weinidogion i newid eu meddwl heddiw.
Mewn apêl at y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan pryder am effaith ieithyddol methu â sicrhau'r parth lefel-uchaf ".cymru" , fel '.com' neu '.uk' ar y we.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau proses dendro i ennill ei chefnogaeth swyddogol i gais am enw i Gymru ar y we. Ac er bod dogfen tendro Llywodraeth Cymru yn annog ceisiadau am enwau yn y ddwy iaith, nid oes sicrhad y llwyddiff cwmni gyda'r ddau gais o flaen y corff rhyngwladol ICANN. ICANN fydd yn penderfynu ar unrhyw gais am enw parth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru; gyda'r gystadleuaeth ryngwladol yn dechrau o Ionawr 12fed.
Mewn pôl diweddar, ffafriodd mwyafrif yr enw ".cymru" yn hytrach na ".wales". Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog wedi awgrymu ei fod yn cefnogi enw Saesneg yn unig. Dywedodd Adam Jones, llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"... gwir hanfod sicrhau parth i Gymru oedd creu ardal i gymuned ieithyddol y Gymraeg, gweler ".cat" o Gatalwnia fel enghraifft berffaith. Trwy ofyn am enw .wales byddai holl bwynt cael y parth yn cael ei golli. Fel mudiad rydym wedi ymgyrchu'n frwd dros sicrhau parth i Gymru ynghyd â mudiadau eraill... Mae felly yn peri cryn ofid i ni bod y llywodraeth wedi gwneud penderfyniad heb ymgynghori na thrafod gyda phobol Cymru."
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn amlwg, mae presenoldeb y Gymraeg ar y we yn bwysig iawn, mae rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn colli'r cyfle hwn i wneud ein hiaith unigryw yn un weledol yn rhyngwladol. Rydym wedi gweld agwedd negyddol tuag at yr iaith mewn gohebiaeth ddiweddar gan weision sifil yr Adran Busnes [Llywodraeth Cymru]. Ar y llaw arall, mae Leighton Andrews wedi dangos cryn gefnogaeth i ddatblygu'r iaith ar-lein. Rydyn ni'n gobeithio y bydd e'n fodlon camu mewn i achub y dydd a sicrhau bod "dot cymru" yn digwydd. Mae'n fater pwysig i statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol a'i delwedd ar draws y byd."
"FFARS LWYR", dyna asesiad damniol ymgyrchwyr iaith o wasanaethau Cymraeg Cyngor Merthyr, mewn cwyn swyddogol at yr arolygwr awdurdodau lleol, wedi i'r awdurdod lansio gwefan uniaith Saesneg.
Mewn llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhuddo'r Cyngor o doriadau cyson a difrifol o'i gynllun iaith. Mabwysiadodd y Cyngor ei gynllun iaith gyntaf yn ôl yn 1998, ond yn ôl y gr?p pwyso, mewn cyfarfod diweddar rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Cyngor cyfaddefodd swyddogion y Cyngor ei fod yn torri'r Cynllun Iaith yn rheolaidd, gyda ffurflenni, negeseuon ffôn a gohebiaeth swyddogol yn anwybyddu ymrwymiadau i ddwyieithrwydd .
Mae wedi dod i'r amlwg hefyd nad yw'r awdurdod yn adrodd ar bob gwyn ysgrifenedig oddi wrth gynghorwyr a Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan fynnu nad yw cwynion o'r fath yn cwrdd â rheoliadau a gweithdrefnau swyddogol y Cyngor.
Mae Jamie Bevan, aelod o'r Gymdeithas sy'n byw ym Merthyr Tudful, wedi ysgrifennu'r cwyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
"Rydym wedi gweld addewidion am flynyddoedd y bod pethau yn gwella yn y Cyngor o ran y Gymraeg ond mae hyd yn oed adroddiad y Cyngor ei hun yn cyfaddef nad ydyw wedi cyflawni bron dim o'i gynllun Iaith. Mae'n hen bryd i Fwrdd yr Iaith mynd i'r afael a'r sefyllfa a mynnu gorchymyn o orfodaeth gan y Gweinidog. Mae'n bryder mawr nad yw un o'r cwynion rydw i a phobol eraill Merthyr wedi eu cyfeirio at y Swyddog penodol wedi'i hystyried yn gwynion swyddogol."
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r Cyngor yn ffars lwyr - mae cymaint o'u ffurflenni yn uniaith Saesneg, ac mae'r wefan yn jôc. Aeth un o'n haelodau mewn a gofyn i wneud cwyn yn Gymraeg, ond doedd dim ffurflenni cwyno ar gael yn Gymraeg! Mae'r ffaith bod y wefan yn uniaith Saesneg yn adlewyrchu'r agwedd a methiant llwyr i gyflawni hyd yn oed y gwasanaethau Cymraeg mwyaf sylfaenol.
"Nid oes esgus gan Gyngor Merthyr. Pob blwyddyn, mae chwe chant o blant Merthyr yn mynd i Ysgol Rhydywaun ac felly yn gwbl ddwyieithog wrth iddynt adael ysgol, ond dyw'r Cyngor ddim yn gwneud defnydd o'r sgiliau hynny. Mae yna gwestiynau mawr am Fwrdd yr Iaith yn y llanast yma. Sut ydyn nhw wedi gadael i'r Cyngor bennu lan fel hyn?"
Mae'r mudiad pwyso wedi ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn gofyn iddynt gynnal ymchwiliad llawn i mewn i Gyngor Merthyr.
Wrth alw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i nifer o gerddorion Cymru wrth iddynt fynd ar streic am y tridiau nesaf.
Meddai Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Nid yn unig ein bod am weld grym dros ddarlledu yn dod yma i Gymru ond fod strwythur Gymreig a Chymraeg yn cael ei greu sydd yn blaenoriaethu ac yn gwneud yn fawr o'n cymunedau. Rydyn ni wrthi'n ceisio cael cefnogaeth trawstoriad o wleidyddion a phobl yn y diwydiant i'n galwadau drwy ofyn iddynt arwyddo ein datganiad. Mae'r ffaith fod Cymru yn cael ei hystyried yn rhanbarth o fewn y diwydiant darlledu yn codi problemau o hyd a byddai datganoli rheolaeth dros ddarlledu i Gymru yn golygu fod Cymru yn cael ei chymryd o ddifrif."
"Dylai'r BBC gefnogi a hybu cerddoriaeth Gymraeg. Gan fod y BBC yn talu cerddorion drwy y PRS (Performing Rights Society), mae cerddorion Cymraeg yn derbyn hyd at 35 gwaith llai o arian na cherddorion Saesneg, mae hynny'n warth. Yn fwy na hynny mae'n ei gwneud yn anodd iawn i wneud bywoliaeth o ganu yn Gymraeg sydd yn golygu bod llai o gerddoriaeth Gymraeg ar gael i wrandawyr."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gymunedau sydd mewn peryg o golli eu hysgolion i "ddal eu tir" gan ddweud y gall gwaredigaeth ddod o gyfeiriad annisgwyl.
O ganlyniad i gynlluniau a gyhoeddwyd ddoe gan y Llywodraeth am gytundeb "amlinellol" i ddatblygu ac adeiladu ysgolion newydd, mae nifer o gymunedau gwledig Cymraeg yn ofni y caiff eu hysgolion nhwythau eu haberthu. Yng Ngheredigion, mae bygythiad i gau pob un ysgol gynradd o fewn 8 milltir i Landysul. Yng Ngwynedd, mae bygythiad i ysgolion yn Y Parc, Llanfachreth a Rhydymain. Yn Sir Gaerfyrddin y mae bygythiad i ysgolion Llansadwrn a Llanwrda ymhlith eraill.
Mewn neges a ddanfonir at rieni yn yr ysgolion hyn, mae Angharad Clwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith yn eu hannog i ddal eu tir. Dywed
"Y berygl fwyaf yw y gall rhieni a chymunedau lleol brofi dadrith llwyr yn yr holl broses gan gredu na bydd eu llais a'u dymuniadau fyth yn cael eu derbyn. Gallai rhywrai o ganlyniad "dderbyn yr anochel" a dechrau symud eu plant at ysgolion canolog gan beri fod "ysgolion yn cau eu hunain" fel y mae swyddogion yn hoffi dweud. Gallai rhieni gredu nad oes unrhyw blaid ar ol i'w cynrychioli yn yr etholiadau yn y Wanwyn."
Ond fe ychwanega Ms Clwyd
"Mewn gwirionedd, fe all yr ysgolion sy'n dal eu tir lwyddo o hyd oherwydd y gall gwaredigaeth ddod o gyfeiriad annisgwyl. Mae'r llywodraeth wedi rhoi cytundeb "amlinellol" yn unig ar gyfer y datblygiadau newydd a bydd y gyllid yn ddibynnol ar allu Awdurdodau Lleol i ffurfio cynlluniau busnes call a chael hyd i 50% o'r gost eu hunain. Byddwn yn cysylltu ag arweinwyr y cynghorau i bwyntio allan mai opsiwn gwell o lawer i drethdalwyr fydd iddynt gydweithio gyda chymunedau mewn nifer o achosion i gael datblygiadau llai o faint gan ddefnyddio nifer o'r safleoedd presennol mewn ysgolion aml-safle. Mae'n bosibl iawn y cawn ni gefnogaeth gan Swyddogion Cyllid y cynghorau ac fe all hynny achub nifer o'r ysgolion sy'n dal yn gadarn,"
Arwyddodd yr Aelod Cynulliad Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater.
Dywedodd Peter Black AC dros y De Orllewin:
"Cred y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod darlledu Cymreig wedi dioddef oherwydd diffyg archwiliad digonol. Credwn bod rôl i'r Cynulliad Genedlaethol a'r Llywodraeth Cymreig i reoleiddio a mynnu i'r darlledwyr rhoi cyfrif o'r ffordd maent yn gweithredu. Dyna pam rydym yn cefnogi datganoli pwerau ychwanegol o San Steffan er mwyn hwyluso'r gwaith."
Meddai Chris Holley Arweinydd Cyngor Abertawe sydd hefyd yn cefnogi'r galwadau:
"Dwi'n cefnogi'r syniad y dyla pobol Cymru cael mwy o fewnbwn mewn i benderfyniadau sy'n effeithio ar gwasanaethau teledu a radio yng Nghymru."
Mae gwleidyddion o Gwent wedi cwrdd ag ymgyrchwyr ym Mhontypwl heddiw i ddatgan eu cefnogaeth i ddatganoli pwerau dros y cyfryngau i Gymru.
Arwyddodd AC Lindsay Whittle a'r Cynghorydd Jeff Rees ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater.
Dywedodd Lindsey Whittle Aelod Cynulliad dros y De-ddwyrain:
"Rydw i'n gefnogol iawn o'r galwadau i ddatganoli pwerau dros ddarlledu. Mae'n bwysig iawn bod penderfyniadau yngl?n â gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru."
Meddai Jeff Rees cynghorydd lleol yn Nhorfaen sydd hefyd yn cefnogi'r datganiad:
"Mae angen rheolaeth yng Nghymru dros ddarlledu er mwyn creu marchnad er mwyn i gwmnïau cynhyrchu lleol allu cynhyrchu rhaglenni, bydd yn creu swyddi ac arian i bobol yng Nghymru a'r economi Cymreig yn ei gyfanrwydd."
Mae nifer o Gymry amlwg wedi arwyddo deiseb sydd yn galw ar y Llywodraeth i adalw'r Cynlluniau Datblygu Lleol er lles y Gymraeg.
Mae pryder gwirioneddol y bydd y cynlluniau yma yn arwain at ddatblygiadau tai anaddas, diangen oherwydd nad ydynt wedi eu seilio ar anghenion presennol y cymunedau. Ymysg y bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yw'r awduron Dewi Prysor, Catrin Dafydd, Angharad Blythe a Dr Mererid Hopwood, a'r cerddorion Geraint Lovgreen, Steve Eaves, Ceri Cunnington, Lleuwen Steffan a Gwyneth Glyn.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog eu haelodau i lofnodi deiseb ar wefan y Cynulliad cyn iddi gau ar ddiwedd y mis. Mae'r ddeiseb yn galw am "holl CDLl ... gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.". Cyflwynwyd y ddeiseb gan nifer o grwpiau sy'n cyd-weithio er mwyn newid y gyfundrefn cynllunio bresennol, ymysg y grwpiau mae gr?p Deffro'r Ddraig a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'n holl bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn deall dyfnder y gwrthwynebiad i'r Cynlluniau Datblygu Lleol yma. Dydyn nhw ddim yn mynd i'r afael a'r problemau sydd yn wynebu cymunedau Cymru. Yn hytrach mae'n bosib iawn y byddant yn gwaethygu sefyllfa'r Gymraeg wrth i niferoedd anaddas o dai gael eu hadeiladu."
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n croesawu'r newyddion y bydd Cofnod dwyieithog yn cael ei ddarparu eto, mae'n dangos bod ymgyrchu miloedd o bobl wedi dechrau dwyn ffrwyth. Fodd bynnag, mae'r cynlluniau hefyd yn parhau i drin y Gymraeg yn israddol gan fod rhaid aros am bum diwrnod i gael fersiwn Cymraeg, yn groes i'r arfer rhwng 2005 a 2009. Yn amlwg, gan fod y Comisiwn wedi tanwario o tua £2 miliwn eleni, nid yw'r anghyfartaledd hwn yn fater o gost ond ewyllys gwleidyddol."
"Mae hefyd yn achosi cryn bryder i ni fod y Comisiynwyr wedi gwrthod argymhelliad Bwrdd yr Iaith i sicrhau mewn statud y bydd yna Gofnod Cymraeg. Byddwn ni'n gofyn felly i ACau wella'r Bil Ieithoedd Swyddogol yn ystod y broses ddeddfu er mwyn cael y sicrhad hynny."
Mae ymgyrchwyr wedi codi amheuon am yr asesiad effaith iaith a gomisiynwyd ynghylch yr atomfa niwclear newydd arfaethedig ar Ynys Môn.
Mae'r pryderon yn dilyn y newyddion mai'r cwmni a ddatblygir Wylfa B benderfynodd ar bwy fydd yn gwneud yr astudiaeth, yn hytrach nag awdurdodau cynllunio. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu'r ffaith bod datblygwyr yr atomfa, Horizon, yn ariannu ei asesiad effaith iaith ei hun, gan ddadlau ei bod yn bygwth annibyniaeth yr ymchwil.
Mae'r grwp pwyso hefyd wedi ysgrifennu at y cwmni a gyflogwyd gan y datblygwyr i asesu effaith iaith ei ddatblygiad, CDN Planning, i ofyn pam bod gwefan y cwmni yn uniaith Saesneg.
Fe fydd y mudiad yn cynnal rali ar ddechrau'r flwyddyn newydd yn Llangefni (21ain Ionawr 2012) i dynnu sylw at y pryderon am yr atomfa newydd. Meddai Menna Machreth, llefarydd Gwynedd-Mon, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Os mae'n wir mai datblygwyr sy'n ariannu'r asesiad iaith yma, byddai fe'n gywilyddus. Dylai asesiadau o effaith datblygiadau fel Wylfa B ar yr iaith Gymraeg fod yn gwbl ddiduedd. Mae'n amser i bobl ddeffro a gweld mor andwyol fydd y datblygiad hwn i'r iaith Gymraeg ar Ynys Môn a Gwynedd. Eisoes bu honiadau fod cwmni Horizon yn 'bwlio' ffermwyr yn ardal y datblygiad i werthu'r tir iddynt, a dylem gefnogi teulu Caerdegog sy'n gwrthod gwerthu'r tir maent wedi ei ffermio ers cenedlaethau.
"'Dyn ni'n ar ddeall bod hyd at dri chwarter o'r swyddi yn gysylltiedig ar unrhyw orsaf niwclear newydd ar yr Ynys yn mynd i fynd i bobl o tu allan i Ogledd Cymru. Bydd datblygiadau tai wrth y miloedd yn dilyn. Pam derbyn yn slafaidd gynlluniau San Steffan am orsaf niwclear pan fedrwn ni ddangos dychymyg a chreu economi werdd ein hunain?"
Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt newid y rheolau sy'n caniatáu datblygwyr i gomisiynu a thalu am astudiaethau iaith o'u datblygiadau eu hunain.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges at Gyngor Sir Powys o flaen cyfarfod yfory (Dydd Mawrth 22/11) i'w rhybuddio nad ydynt yn gweithredu'n gyfreithlon o ran eu cynlluniau i gwtogi ar addysg uwchradd Gymraeg. Bydd y Cyngor llawn yfory'n trafod argymhelliad i gyfyngu addysg gyfrwng-Gymraeg chweched dosbarth i 3 safle yn unig trwy'r sir.
Mewn neges at arweinydd y Cyngor, dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
"Byddai terfynu'n syth addysg Gymraeg yn chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn debygol o fod yn anghyfreithlon ar sawl cyfri. Yn gyntaf, ni ellid gwneud hyn heb ymgynghoriad statudol llawn gan y byddai cam o'r fath yn newid natur yr ysgol. Pe na bai addysg Gymraeg ar gael yn y chweched dosbarth, byddai disgyblion iau hefyd yn llawer llai tebygol o ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ail, byddai argymhelliad y Cyngor yn terfynu addysg chweched dosbarth Cymraeg yn Llanfyllin er y byddai addysg chweched dosbarth Saesneg yn parhau. Dyna ragfarnu clir yn erbyn disgyblion Cymraeg eu hiaith."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi deiseb Deffro'r Ddraig sydd yn galw am ad-alw holl Gynlluniau Datblygu Lleol drwy Gymru oherwydd pryder fod tai di-angen yn cael eu codi. Bydd y ddeiseb yn cau ganol dydd y 30ain o Dachwedd.
Chwaraewyd gêm rygbi tu allan i'r Senedd heddiw yn y gobaith y gellir pasio'r grymoedd dros ddarlledu i Gymru wrth i wleidyddion Bae Caerdydd drafod S4C.
Lansiodd Cymdeithas yr Iaith ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru, gan fynnu ei bod yn bryd i Aelodau Cynulliad godi llais am hyn. Bydd gan yr ymgyrchwyr iaith ddatganiad, a fydd yn mynd i nifer o rannau o Gymru, o dan y pennawd 'gadwech i ni daclo darlledu yng Nghymru'.
Mae'r mudiad wedi codi nifer o bryderon ynghylch sefyllfa'r Gymraeg yn y byd darlledu yn ddiweddar megis y bygythiad y bydd Radio Ceredigion yn cael gwared a'i allbwn Cymraeg, penderfyniad Llywodraeth San Steffan i wrthod amodau Cymraeg ynghylch teledu lleol, y cwtogiadau o 40% i gyllideb S4C a'r diswyddiadau yn BBC Cymru.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae darlledu yng Nghymru yn wynebu dyfodol trychinebus os na wnawn ni rywbeth nawr. Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar agwedd San Steffan tuag at ddarlledu yn y ffordd y gwnaethon nhw ddi-ystyrru pobl Cymru a phwysigrwydd y sianel wrth benderfynu ar ei dyfodol. Yr unig ffordd i atal penderfyniadau annoeth yn y dyfodol yw sicrhau nad nhw sydd yn cael penderfynu ar y materion yma. Yr hyn sydd ei angen yw datganoli cyfrifoldeb fel y gallwn ni greu strwythur gref Gymreig i ddarlledu fydd yn rhoi blaenoriaeth i'n cymunedau. Mae'n bryd nawr i'n Haelodau Cynulliad sefyll lan a mynnu bod yr holl rymoedd dros ddarlledu yn dod yma i Gymru, a phwyso ar San Steffan nes bydd hynny'n digwydd."
'Cyfle i ddweud diolch', dyna sut mae ymgyrchwyr S4C wedi disgrifio achos llys yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans o flaen Ynadon ym Mhontypridd heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd).
Ers Hydref llynedd, mae dros gant a hanner o ymgyrchwyr, megis y canwr Bryn Fôn a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, wedi datgan eu bwriad i wrthod talu'r drwydded deledu. Bu gweithredoedd Jill ac eraill yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn cynlluniau i gwtogi grant S4C o 94% ac uno'r sianel â'r BBC.
Yn siarad cyn yr achos llys, dywedodd Jill Evans ASE:
"Mae'r cytundeb diweddar rhwng y BBC ac S4C yn golygu bod yna sicrwydd ariannol yn y dyfodol agos, yn ogystal ag elfen o annibyniaeth olygyddol, ac, am y rheswm hwnnw, rwyf wedi penderfynu y bydda i'n talu fy nhrwydded deledu unwaith eto. Mae'r ymgyrch wedi gwneud gwahaniaeth.
"Bygythiodd penderfyniad byrbwyll Llywodraeth San Steffan fodolaeth S4C ac oedd yn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg ei hun. Dyna pam gwrthodais i dalu fy nhrwydded deledu fel rhan o'r ymgyrch. Fe fydd S4C yn wynebu cwtogiad pob blwyddyn tan 2017 a doedd dim ymgynghoriad gyda Llywodraeth Cymru na phobl Cymru. Bu'r sefyllfa fel pe na ddigwyddodd datganoli.
"Parha'r ymgyrch i sicrhau darlledu Cymraeg a Saesneg safonol yng Nghymru ac yn ganolog i hynny yw'r gofyniad i ddatganoli'r cyfrifoldebau dros ddatganoli i Gymru."
Ddydd Sadwrn diwethaf, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y byddant yn gofyn i'w cefnogwyr ddechrau talu eu trwydded deledu eto, er bydd nifer dal yn ymddangos gerbron Ynadon dros yr wythnosau nesaf.
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y Sul, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan y bydd yn cynghori aelodau i ddechrau talu eu trwydded deledu eto.
Bydd y mudiad yn parhau i ymgyrchu i sicrhau dyfodol cryf i deledu yng Nghymru drwy alw am ddatganoli darlledu i Gymru. Fe fydd aelodau o'r mudiad yn ymgynnull tu allan i'r Senedd wythnos nesaf (12:30yp, Dydd Mawrth, 8fed o Dachwedd) i bwyso ar wleidyddion ym Mae Caerdydd cyn dadl ar S4C yn y siambr.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Drwy fod cynifer wedi gwrthod talu eu trwydded deledu cafwyd enillion a fydd yn cynnig rhywfaint o sicrwydd i S4C ac roedd hynny diolch i frwdfrydedd a pharodrwydd ein haelodau i ymgyrchu dros y flwyddyn ddiwethaf. Fe fu cryn drafodaeth yn ystod y cyfarfod ac fe ddaethon ni i'r casgliad i barhau i ymgyrch drwy ddulliau eraill. Rydym yn diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch hyd yn hyn, ac yn galw arnynt i ymuno â ni yn y cyfnod nesaf o ymgyrchu."
"Gwrthwynebwn y cytundeb a gyhoeddwyd wythnos ddiwethaf; fait accompli sydd wedi ei orfodi ar bobl Cymru heb drafodaeth ddemocrataidd o ran dyfodol S4C. Rydym yn siomedig fod awdurdod S4C wedi bod yn barod i gydweithio mewn gorfodi cytundeb o'r fath arnom."
Ychwanegodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith:
"Nid ydym yn derbyn y cytundeb annemocrataidd rhwng y BBC ac S4C sydd wedi diystyru pobl Cymru yn gyfan gwbl. Credwn yn gryf y dylai awdurdod S4C a'r BBC fod wedi hyrwyddo proses o ymgynghori gyda gwylwyr y sianel yn hytrach na phenderfynu ar eu liwt eu hunain. Mae'r cytundeb hwn yn pwysleisio'r angen i ddatganoli darlledu i Gymru fel nad yw llywodraeth Prydain a'r BBC yn Llundain, sydd wedi dangos eu bod yn deall dim am ddarlledu yng Nghymru, yn cael gwneud penderfyniadau ar hap am ddyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg."
"Byddwn yn pwyso nawr ar ein Haelodau Cynulliad a phartïon eraill sydd yn ymwneud â'r byd darlledu i gymryd o ddifrif yr her sydd yn ein hwynebu yng Nghymru a chefnogi ein galwad i ddatganoli darlledu i Gymru."
Daeth penderfyniad hefyd i gydweithio gydag undebau a mudiadau eraill yng Nghymru er mwyn sefydlu awdurdod cysgodol S4C a fydd yn bwrw golwg dros waith y sianel er mwyn osgoi sefyllfa debyg i'r un a welwyd eleni.
Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - Jamie Bevan, Colin Nosworthy a Bethan Williams - wedi torri ar draws trafodaeth yn Nhy'r Cyffredin ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus fydd yn effeithio yn uniongyrchol ar ddyfodol S4C.
Wrth iddynt gael eu hebrwng allan o'r siambr dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r holl drafod sydd wedi bod ar ddyfodol S4C wedi bod yn broses annemocrataidd sydd wedi digwydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac fe gafodd pobl Cymru eu heithrio yn gyfan gwbl o'r drafodaeth. Yn wir mae'r holl broses yn dangos yn glir i ni fod angen datganoli y grymoedd dros ddarlledu i Gymru."
Bydd Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod dydd Sadwrn nesaf yn Aberystwyth ac yno fe geir trafodaeth lawn ar sut i symud ymlaen gyda'r ymgyrch hon.
Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydym yn credu fod y penderfyniad yn un annemocrataidd gan na fu ymgynghori â phobl Cymru ynghylch y cynlluniau ar gyfer dyfodol y sianel. Dyna pam rydym yn dweud mai'r unig opsiwn bellach yw datganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru fel bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yng Nghymru ac er lles Cymru."
Ymgyrchu'n dwyn ffrwyth
"Mae natur y bartneriaeth a gyhoeddwyd heddiw yn dangos fod ymgyrchu miloedd o bobl Cymru dros y misoedd diwethaf wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o dan yr amodau a osododd Jeremy Hunt, ac yn golygu fod y sefyllfa'n llawer iawn gwell nac y byddai fel arall. Rhaid nodi, o dan y cynlluniau hyn, ni fydd S4C yn parhau fel darlledwr annibynnol gan mai darlledwr arall fydd yn penderfynu ei chyllideb."
"Yn wahanol i'r BBC, S4C a Llywodraeth Llundain, rydym ni yn ymgynghori gyda'r sawl sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i wrthod talu'r drwydded deledu, ac yn eu gwahodd i gyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith Ddydd Sadwrn 29ain, neu i anfon eu barn atom cyn i ni ddod i benderfyniad ynghylch dyfodol yr ymgyrch."
Meddai Adam Jones, llefarydd darlledu'r mudiad iaith:
"Trwy gydol y broses hon, rydyn ni wedi galw ar i'r gwleidyddion a'r darlledwyr i wrando ar lais bobl Cymru, ond dyw hynny heb ddigwydd. Rydyn ni wedi ennill consesiwn heddiw, ond dyw'r trafodaethau rhwng darlledwyr tu ôl i ddrysau caeedig heb fod yn ddemocrataidd. Pobl tu allan i Gymru sydd yn penderfynu ar ddyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg, dyna pam mae'n angenrheidiol bod y cyfrifoldeb dros ddarlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru.
"Mae arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru, degau o fudiadau, Archesgob Cymru a degau o filoedd o bobl yn gwrthwynebu'r hyn sy'n digwydd. Rydym wedi ennill y ddadl am yr angen am fformiwla arian mewn statud er mwyn sicrhau bodolaeth ac annibyniaeth S4C, a phob pleidlais Gymreig ar y mater, yn San Steffan ac yn y Cynulliad. Ond dyw'r cynlluniau dal heb ei newid."
"Fe fyddwn ni'n ystyried oblygiadau'r cyhoeddiad heddiw yn bellach yn ein cyfarfod Senedd ddydd Sadwrn. Fodd bynnag, dros bedair blynedd, mae'r llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94%, ac mae BBC heddiw wedi cynnig cwtogiadau i'w cyfraniad hwythau ar ôl 2015.
"Mae'r BBC wedi amseru ei gyhoeddiad diwrnod cyn pleidlais yn San Steffan ar ddyfodol S4C, mae'n siomedig gweld enghraifft arall o barodrwydd y gorfforaeth i weithredu yn wleidyddol yn hytrach nag yn annibynnol."
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo'r BBC o weithredu yn 'annemocrataidd' trwy baratoi i gyhoeddi manylion am ddyfodol S4C tra bod trafodaethau San Steffan yn parhau.
Disgwylir i'r BBC gyhoeddi cynnig am gyllido S4C rhwng 2015 a 2017, er nad oes grym statudol iddynt wneud hynny gan fod unrhyw gytundeb yn dibynnu ar ganiatâd Seneddol. Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae'r gorfforaeth yn Llundain yn 'ymddwyn fel cwn bach y Llywodraeth' wrth lofnodi cydgynllun sydd yn gadael i'r BBC benderfynu ar gyllideb y sianel a chytuno i drefniant llywodraethol heb ganiatad S4C nag eu gwylwyr.
Y llynedd, fe gytunodd y BBC i fargen sydd yn caniatáu i Lywodraeth Prydain gwtogi ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, o £101 miliwn yn 2010-11 lawr i £7 miliwn yn 2014/15, ac ariannu'r sianel trwy'r ffi drwydded o 2013/14 ymlaen - toriad o dros 40% mewn termau real i gyllideb y sianel yn ei gyfanrwydd.
Mewn llythyr agored i Ymddiriedolaeth y BBC, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Bethan Williams yn dweud:
"Ysgrifennwn atoch i fynegi pryder am y ffaith eich bod yn bwriadu cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dyfodol S4C yn y dyfodol agos heb ymgynghori â phobl Cymru a thra bod proses Seneddol yn mynd yn ei flaen. Ni fu mewnbwn gan bobl Cymru na gwleidyddion Cymru yn y Cynulliad felly credwn fod y cynlluniau yr ydych yn eu trafod yn annilys ac yn annemocrataidd..."
Parha lythyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth alw am ohirio'r penderfyniad dros gynnig neu gytundeb ynghylch dyfodol unig sianel deledu Gymraeg y byd er mwyn cynnal adolygiad llawn o S4C:
"Hyd yma mae'r BBC wedi llwyddo i anwybyddu consensws trawsbleidiol y Pwyllgor Materion Cymreig trwy weithredu cynlluniau yn groes i'w hargymhellion... Bydd y cynlluniau yr ydych yn bwriadu eu cyhoeddi'n groes i'r broses ddemocrataidd ac felly ni ddylent gael eu cyhoeddi. Yn hytrach, fe ddylech alw am adolygiad llawn ac annibynnol o S4C, fel y mae nifer o fudiadau wedi galw amdano, ac aros hyd y nes bod penderfyniad teg yn cael ei wneud ar sail hynny."
Ychwanegodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"O'r dechrau, mae'r BBC wedi ymddwyn fel cwn bach y Llywodraeth yn Llundain. Yn hytrach nag amddiffyn y Gymraeg a darlledu yng Nghymru yn gyffredinol, mae rheolwyr y gorfforaeth yn Llundain wedi penderfynu anwybyddu'r galwadau trawsbleidiol. Ers hynny, mae eu cynrychiolwyr yng Nghymru wedi ceisio dadlau eu bod yn ceisio gwneud y gorau gyda'r hyn sydd wedi eu gorfodi arnynt gan y Llywodraeth. Wel, nid yw hynny'n wir, fel dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol o flaen ASau, fe gytunodd y BBC i'r fargen hon 'yn rhydd'."
Mae'r cynlluniau ar gyfer S4C wedi eu beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, dau bwyllgor San Steffan, degau o undebau a mudiadau iaith a degau o filoedd o bobl sydd wedi llofnodi deiseb, mynychu ralïau ac ysgrifennu at wleidyddion. Fe dderbyniodd ASau dros 1,200 o e-byst yn gwrthwynebu'r cynlluniau o fewn mater o ddiwrnodau cyn pleidlais pwyllgor ychydig wythnosau yn ôl.
Fe gyflwynodd Archdderwydd Cymru a chyn Aelod Cynulliad Owen John Thomas ddeiseb a lofnodwyd gan dros 1,500 o ymgyrchwyr yn galw am gofnod cwbl Gymraeg o drafodion y Cynulliad heddiw.
Wrth i'r Cynulliad ymgynghori ar ei Fil Ieithoedd Swyddogol, fe fydd yr ymgyrchwyr yn galw am sicrhad ar wyneb y Bil y bydd y Cofnod llawn ar gael yn Gymraeg. Mae'r Bil fel mae wedi'i ddrafftio yn eithrio'r Cynulliad o unrhyw gyfrifoldeb i ddarparu dogfennau yn y Gymraeg, gyda hynny yn dibynnu ar gynnwys eu cynllun iaith. Fe fu'r Cofnod ar gael yn Gymraeg ers creu y Cynulliad tan 2009, ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dod i'r casgliad bod y Cynulliad yn torri'r gyfraith gyda'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.
Fe ddywedodd Archdderwydd Cymru T. James Jones:
"Cefnogaf ddeiseb Cymdeithas yr Iaith gan fy mod yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Amcan yr Orsedd yw hyrwyddo, meithrin a chefnogi'r defnydd o'r iaith Gymraeg ym mywyd a gwaith y genedl. Credaf fod yr amcan hwn yn gydnaws â bwriad y ddeiseb. Er mwyn i'r iaith ffynnu rhaid iddi gael yr un statws statudol â'r Saesneg. Dyna pam y dylai Cofnod y Cynulliad fod yn ddwyieithog, gyda sicrhad mewn statud ym Mil arfaethedig y Cynulliad."
Ychwanegodd Catrin Dafydd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Os yw'r gwleidyddion yn ein Cynulliad o ddifrif am wneud y Gymraeg yn ganolog i waith y corff, peth hollol sylfaenol yw sicrhau mewn statud bod Cofnod eu trafodion ar gael yn Gymraeg. Mae'n codi'r cwestiwn: pam fod swyddogion wedi llunio Bil drafft sydd yn eithrio'r Cynulliad rhag gorfod darparu dogfen mor bwysig â hyn yn ddwyieithog? Newid i'r Bil hwnnw yw'r unig ffordd o sicrhau nad oes rhaid codi'r ymgyrch yma eto. Mae pob corff a chwmni yng Nghymru yn edrych tuag at ein gwleidyddion yng Nghaerdydd am arweiniad ar y Gymraeg, os na allan nhw gyflawni ar ein rhan, fe fydd y Gymraeg yn dioddef ym mhob rhan o fywyd."
Bu Aelod Cynulliad Rhyddfrydol yn cefnogi galwadau ymgyrchwyr iaith i ddatganoli cyfrifoldeb dros S4C i Gymru mewn rali dros ddyfodol darlledu yn Wrecsam Dydd Sadwrn, Medi 8fed.
Mae'r galwadau yn dilyn newyddion bod dros 100 o swyddi yn mynd i gael eu colli yn y BBC yng Nghymru ar ben y cynlluniau a gyhoeddwyd y llynedd i'r Llywodraeth dorri ei grant i S4C o 94% dros y pedair blynedd nesaf.
Bu cyn-arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru Aled Roberts, Cynghorydd Plaid Cymru Marc Jones, ymgyrchydd lleol Nia Lloyd ac AS Wrecsam Ian Lucas yn annerch rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddyfodol darlledu yng Nghymru a fydd yn dechrau tu allan i stiwdios y BBC yn y dref.
Yn siarad yn rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bu Aled Roberts AC yn disgrifio'r cynlluniau ar gyfer S4C fel 'bygythiad' i ddyfodol yr iaith Gymraeg:
"Mae yna gryn dipyn o gytuno ymhlith pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ynghylch cadw S4C yn annibynnol a dylai gwleidyddwyr San Steffan cymeryd sylw o'r safbwynt yma. Nid yw'n dderbyniol bod penderfyniadau ynghylch dyfodol ein hunig sianel Cymraeg i'w cymeryd yn Llundain yn ol datganiad diweddar y Gweinidog. Fe ddylai bod fformiwla wedi ei gytuno ynghylch ariannu'r sianel o 2015 ymlaen a bod penderfyniadau gweithredu yn cael eu cymeryd gan rheolwyr S4C. Mae'r sianel yn arf yn y frwydr i sefydlu Cymru fel gwlad dwyieithog a mae'r cynlluniau presennol yn fygythiad i'n cynlluniau i ddwyn mwy o'n plant i fyny yn Gymry Cymraeg am eu bod yn bygwth parhad y sianel."
Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rwy'n falch bod aelodau o bob plaid yng Nghymru yn fodlon beirniadu'r cynlluniau annoeth ar gyfer S4C. Er bod yna gonsensws cryf yma yn erbyn y cynlluniau, nid yw hynny'n llwyddo i newid y penderfyniadau yn San Steffan ar hyn o bryd. Mae'r toriadau i'r BBC ac S4C yn gwneud yr achos dros ddatganoli darlledu i Gymru yn gryfach nag erioed o'r blaen.
"Mae'r rheolwyr y BBC yn honni eu bod yn achub S4C, corfforaeth sydd yn wynebu toriadau eu hunain ac newydd gyhoeddi y byddan nhw'n torri 2,000 o swyddi. Maen nhw hefyd yn gwneud cynlluniau gyda'r llywodraeth am ddyfodol S4C tu ol i gefn y sianel er mwyn penderfynu ar gyllideb y sianel a'i chymryd drosodd. Wel, os hyn yw'r BBC a'r llywodraeth yn achub S4C pa obaith sydd yna? Mae'n ymgyrch dros y flwyddyn ddiwetha wedi bod a neges amlwg - nid yw pobl Cymru eisiau'r cynlluniau hyn. A'n neges ni i'r BBC heddiw yw: diolch - ond dim diolch."
Ychwanegodd AS Llafur dros Wrecsam Ian Lucas:
"Mae S4C yn rhan hanfodol o fywyd yng Nghymru, mae rhaid ei diogelu a'i datblygu. Nid oes ymddiried gyda ni o gwbl bod gan Lywodraeth y DU dealltwriaeth o bwysigrwydd y sianel wrth ystyried y ffordd maen nhw wedi ymdrin â'r mater hwn."
Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru yn Wrecsam Marc Jones:
"Cafodd S4C ei greu oherwydd grym protest ar hyd a lled Cymru. Mae o'n sianel a'i wreiddiau'n ddyfn yn ein cymunedau - yn cyflogi cannoedd drwy gwmniau annibynnol bach ac yn arloesi efo rhaglenni fel Sgorio a Superted. Ond dros y chwarter canrif diwethaf, collwyd y cyswllt allweddol hynny ac aeth S4C yn gorfforaeth hunan-bwysig oedd yn bwydo ychydig o gwmniau corfforaethol mawr eraill. Mae'r argyfwng presennol yn gyfle i ail-gysylltu'n sianel ni - Sianel Pobl Cymru - efo'r cymunedau unwaith eto."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benodiad Comisiynydd y Gymraeg newydd, Meri Huws.
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydym yn croesawu'r ffaith bod yna benodiad, gobeithiwn y bydd Meri Huws yn cymryd y cyfle i gydnabod y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg. Edrychwn ymlaen at gwrdd â hi yn fuan, yn dilyn ein cyfarfod cyffredinol yn Wrecsam dros y Sul, er mwyn iddi wneud y gorau o'r ddeddfwriaeth newydd yn syth.
"Rydym yn disgwyl i'r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o'r Llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion. Mae cyfle i wireddu hyn gyda'r swydd newydd hon a dyna fydd yr her felly i'r Comisiynydd.
"Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a'r Llywodraeth gallwn ni wneud gwahaniaeth. Gobeithiwn y bydd yn bosib gwella gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg."
"Gobeithiwn y bydd y Comisiynydd yn sicrhau hawliau i bobl Cymru i wasanaethau Cymraeg o safon drwy osod dyletswyddau clir ac uchelgeisiol ar gyrff a chwmnïau. Mae hefyd angen iddi daclo'r camwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, trwy sicrhau hawliau pobl i weithio yn Gymraeg. Gobeithiwn y gallwn droi sefydliadau Cymru yn ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair lle mae defnydd sylweddol o'r Gymraeg yn fewnol; mae hon yn faes nad yw'r Cynulliad na'r Llywodraeth yn dangos arweiniad ar hyn o bryd."
Fe gaiff Llywodraeth Cymru ei rhybuddio am yr effaith ieithyddol o ail-strwythuro cynghorau lleol wythnos nesaf (Dydd Sadwrn, 8fed Hydref).
Mae'r pryderon ieithyddol yn dilyn anfodlonrwydd awdurdodau lleol gyda chynlluniau i orfodi newidiadau arnynt. Yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (ar yr 8fed o Hydref), disgwylir i aelodau resynu'r penderfyniad i benodi comisiynwyr i redeg gwasanaethau lleol.
Cyfeiria'r aelodau yn benodol at y sefyllfa yn Ynys Môn ble mae dau allan o dri chomisiynydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddi-Gymraeg ac yn methu cyflawni eu gwaith drwy'r Gymraeg.
Yn siarad cyn y cyfarfod yn Wrecsam ddydd Sadwrn nesaf, dywedodd Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cymryd camau i wella sefyllfa'r iaith o fewn awdurdodau lleol wrth ystyried yr ail-drefnu, ond mae newidiadau i awdurdodau lleol ar y trywydd anghywir ar hyn o bryd. Mae penodi comisiynwyr na allant wneud eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg i redeg y cyngor yn Ynys Môn yn uniongyrchol niweidiol i'r iaith ac yn rhoi'r argraff nad yw'r llywodraeth yn ystyried y Gymraeg o ddifrif.
"Wrth i'r llywodraeth ym mae Caerdydd ystyried gwneud newidiadau pellach i awdurdodau lleol, mae'n rhaid iddynt ystyried yr effaith ar y Gymraeg. Dyna pam mae'r drafodaeth yn ein cyfarfod cyffredinol yn Wrecsam yn amserol iawn.
"Gall symudiad tuag at uno gwasanaethau cyhoeddus a chreu'n ymarferol Gynghorau Rhanbarthol danseilio polisi clodwiw Cynghorau fel Gwynedd o weinyddu yn Gymraeg. Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg, yn hytrach na dangos ffrynt dwyieithog yn unig i'r cyhoedd."
Fe fydd ymgyrchwyr iaith yn trafod sefydlu grwp i oruchwylio gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar ôl dechreuad 'anweledig' i'r corff yn nhyb y grwp pwyso.
Un o addewidion Llywodraeth Cymru blaenorol oedd sefydlu corff annibynnol, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i astudio trwy'r iaith ym mhrifysgol. Fe ddilynodd y datblygiad fethiant sefydliadau presennol i gynyddu eu darpariaeth.
Fe ddechreuodd myfyrwyr cyntaf y Coleg Cymraeg ar eu gwaith am y tro cyntaf yr wythnos hon, ond yn ôl cynnig a drafodir yng nghyfarfod cyffredinol y Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Wrecsam (Dydd Sadwrn, 8fed o Hydref), ni fu digon o sylw i'r digwyddiad hanesyddol. Mae'r ymgyrchwyr hefyd yn nodi gyda chryn bryder fod rhethreg y Coleg yn son am 'ehangu cyfleon' yn hytrach nag yn cyffroi darpar-fyfyrwyr i fod yn rhan o fentr newydd hanesyddol.
Yn ôl Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ar ôl degawdau o ymgyrchu dros sefydlu coleg o'r fath ni ddylid colli'r cyfle'n awr:
"Mae dechreuad y Coleg wedi bod yn ddi-fflach, fe ddechreuodd myfyrwyr cyntaf y Coleg yn swyddogol ychydig ddiwrnodau yn ôl, ond ni sylwodd neb. Nid yw hynny yn dderbyniol, gan ystyried yr holl ymgyrchu a fu dros sefydlu coleg o'r fath.
"Mae 'na sôn am greu rhagor o gyfleoedd, ond dyna'r hen rethreg. Dyna yn union pam rydyn ni'n pryderu nad yw'r "coleg" hwn ond yn ymestyniad o'r drefn bresennol. Trefn sydd o dan reolaeth y sefydliadau addysgol presennol - yn lle bod yn gychwyn cyffrous newydd i addysg uwch Gymraeg."
Yn wyneb hyn, mae ymgyrchwyr yn mynd i drafod sefydlu Bwrdd Cyfarwyddwyr Cysgodol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda'r gorchwylion o fwrw golwg dros weithgarwch y Coleg, cynnig cynlluniau ar gyfer datblygiad y Coleg a gweithredu fel Ombwdsman i fyfyrwyr - neu ddarpar-fyfyrwyr - sy'n profi anawsterau yn eu hymwneud a'r Coleg.
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Edrychaf ymlaen at glywed nifer o siaradwyr yn rhannu eu safbwyntiau am hyn. Mae'r Coleg Cymraeg yn rhywbeth rydyn ni fel mudiad wedi gwthio amdano fe am ddegawdau. Yn amlwg, mae aelodau'r grwp addysg yn nodi nifer o bethau maen nhw'n teimlo sydd yn mynd o'i le gyda'r Coleg. Fe fydd gan unrhyw un sydd yn ymaelodi â'r Gymdeithas cyn ein cyfarfod cyffredinol ar 8fed Hydref yn Wrecsam gyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth."
Mae pum aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dringo i ben to pencadlys S4C ym Mharc Ty Glas, Llanisien bore heddiw gyda larymau a chwibanoglau mewn ymdrech i gael swyddogion y Sianel i gymryd dyfodol S4C yn fwy difrifol. Mae nifer o aelodau eraill yn picedu'r adeilad ar ôl treulio gwylnos yn y fangre neithiwr.
Fe fydd yr ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel sefyll lan yn erbyn cynlluniau'r BBC a'r Llywodraeth a ddaw â'r sianel fel darlledwr annibynnol i ben. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y BBC a'r Llywodraeth gytundeb newydd a fydd yn golygu y bydd gan y gorfforaeth reolaeth lwyr dros gyllideb S4C wedi 2015.
Mae grwp o ymgyrchwyr iaith wedi dechrau gwylnos o flaen pencadlys S4C heno i dynnu sylw at y bygythiadau i'r sianel.
Fe fydd yr ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel sefyll lan yn erbyn cynlluniau'r BBC a'r Llywodraeth a ddaw â'r sianel fel darlledwr annibynnol i ben. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y BBC a'r Llywodraeth gytundeb newydd a fydd yn golygu y bydd gan y gorfforaeth reolaeth lwyr dros gyllideb S4C wedi 2015.
Mewn llythyr at Huw Jones, Cadeirydd S4C, fe ysgrifennodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'n gliriach nag erioed bod y sianel fel darlledwr annibynnol ar fin diflannu. Rydym wedi dweud ers cyhoeddi'r cynllun gwreiddiol na fyddai S4C yn cadw ei hannibyniaeth, ac mae hynny'n fwy sicr nag erioed yn dilyn y penderfyniadau diweddaraf. Mae'r BBC ei hun yn wynebu toriadau felly bydd yn anodd iawn i'r gorfforaeth ariannu'r sianel; o gael pennu'r gyllideb beth fydd yn gwarchod buddiannau S4C? Bydd S4C yn cystadlu am gyllideb gyda rhaglenni Saesneg y BBC a does dim posib y bydd y gorfforaeth yn ystyried sianel mae wedi'i llyncu dros ei chynnyrch ei hun."
"Mae'r llywodraeth a'r BBC wedi dangos eisoes nad ydynt yn ystyried nac yn parchu'r sianel na Chymru - nid oeddech yn gwybod am y penderfyniad yma nes iddo gael ei ryddhau yn gyhoeddus... Gofynnwn felly i chi [rheolwyr S4C] ymuno a chodi llais gan dynnu allan o drafodaethau gyda'r BBC. S4C fydd y brawd bach a fydd yn cael ei ddiystyru bob tro."
"Wrth edrych i'r dyfodol rhaid sicrhau y bydd y sianel yn ffynnu ac yn gallu cynnig y ddarpariaeth orau i'w chynulleidfa. Er mwyn galluogi hynny gofynnwn i chi alw ar y llywodraeth i dynnu'r sianel o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus er mwyn gwarchod plwraliaeth ac annibyniaeth darlledu yma yng Nghymru. Tynnwyd Channel 4 o'r Mesur felly nid oes rheswm na ddylid gwneud yr un peth gyda S4C. Byddai gwneud y ddau beth hyn yn rhoi neges glir i lywodraeth San Steffan a'r BBC - nad yw S4C yn fodlon cael ei sathru a bod y sianel yn fodlon brwydro dros ddyfodol darlledu yng Nghymru a thros ei chynulleidfa."
Mae'r cynlluniau ar gyfer S4C yn golygu bod y llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, a gofyn i'r BBC gyfrannu at gost y gwasanaeth a chymryd drosodd rhedeg y sianel. Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynlluniau, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, yr Archesgob Cymru Barry Morgan, dau bwyllgor San Steffan, a degau o filoedd o bobl wedi mynegi eu gwrthwynebiad.
Yn ei feirniadaeth o'r cynlluniau ar gyfer S4C yn gynharach eleni dywedodd Archesgob Cymru, Barry Morgan:
"Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud yngl?n a dyfodol S4C fe ddylid cynnal arolwg annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr i ddyfodol y Sianel. Mae arweinwyr pob un o'r pedair prif Blaid yng Nghymru wedi galw am hyn ac mae'n hanfodol fod y safbwynt unedig hwn yn cael ei ystyried."
"Pan sefydlwyd S4C yn y lle cyntaf yr oedd deddfwriaeth gwlad oedd yn ei gwarchod rhag ymyrraeth wleidyddol. Ond yn awr, o basio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe gollir yr amddiffyniad hwnnw."
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i ymddiriedolwr y BBC ymddiswyddo ar ôl i'r darlledwr llofnodi cytundeb a fydd yn golygu y bydd ganddyn nhw reolaeth lwyr dros gyllideb S4C.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu pwrpas swydd Elan Closs Stephens, y cynrychiolydd o Gymru ar Ymddiriedolaeth y BBC, gan fod y corff wedi gwthio penderfyniad a fydd yn rhoi dyfodol S4C yn y fantol heb ymgynghori gyda phobl Cymru.
Mae'r cytundeb, a gafodd ei ryddhau ar ddiwedd sesiwn San Steffan cyn cynadleddau'r pleidiau, yn gadael i'r BBC benderfynu cyllideb S4C gan ddatgan "in financial years 2015/16 and 2016/17 funding will be for the BBC to determine,". Yn gynt, dadleuodd cyfarwyddwyr y BBC nad oedd S4C yn cael ei chymryd drosodd, er i adroddiad trawsbleidiol ddod i'r casgliad bod y model "sounded more like a takeover than a partnership".
Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Nid oes amheuaeth bellach, fe gollwn ni ein hunig sianel deledu Gymraeg os nad yw pethau yn newid. Stopio'r sianel rhag diflannu yw'r flaenoriaeth nawr. Yn dilyn cytundeb twyllodrus arall gan y BBC a'r Llywodraeth, mae rhaid gofyn beth mae cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC yn ei wneud. Mae rhaid i Elan Closs Stephens ystyried ei dyfodol.
"Mae'n ymddangos nad yw'r un o'r ddau barti wedi ystyried o gwbl y goblygiadau i S4C a'r Gymraeg - mae'n gywilyddus bod y BBC a'r Llywodraeth yn gallu ymddwyn fel hyn. Bellach, mae'n gwbl glir bod holl sôn rheolwyr y BBC a gwleidyddion y Llywodraeth am annibyniaeth S4C yn eiriau cwbl wag."
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r newyddion hyn yn dangos yn glir bod y BBC a'r Llywodraeth yn dweud celwyddau wrth honni eu bod nhw am sicrhau dyfodol ac annibyniaeth y sianel a'u haddewid i drafod yn agored unrhyw gynlluniau cyn gwneud penderfyniad. Mae'n amlwg mai'r peth pwysicaf i'r BBC yw sicrhau eu dyfodol eu hunain ac mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw i arbed arian does a ddel - a hynny ar draul S4C.
"Ar yr un pryd ag yr oedd Gweinidog y Llywodraeth yn honni o flaen ASau fod S4C yn saff yn eu dwylo, fe wnaethon nhw ryddhau dogfen gyda chynlluniau i'w dinistrio hi. Cynlluniau na fu unrhyw ymgynghori yn eu cylch gyda phobl Cymru. Mae'n gwbl groes i addewidion y ddau gorff. Pe byddai ASau wedi bod yn ymwybodol o'r cytundeb hwn cyn y bleidlais i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus ddoe, mae'n gwbl bosib y gallem ni fod wedi ennill."
"Y BBC nawr fydd yn penderfynu ar gyllideb S4C. Mae'r syniad y gallai ein hunig sianel deledu Gymraeg fod yn annibynnol o dan amgylchiadau o'r fath yn hollol gyfeiliornus. Mae'r Llywodraeth yn torri ei grant i'r sianel o 94% eisoes, mae'r newyddion hyn yn golygu y bydd rhagor o doriadau ar y ffordd. Mae'r sefyllfa yn argyfyngus a gallai'r sianel diflannu."
Mae cynlluniau i S4C yn golygu bod y llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, a gofyn i'r BBC gyfrannu at gost y gwasanaeth a chymryd drosodd rhedeg y sianel. Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynlluniau, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, yr Archesgob Cymru Barry Morgan, dau bwyllgor San Steffan, a degau o filoedd o bobl wedi mynegi eu gwrthwynebiad.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi addo brwydro ymlaen dros ddarlledu Cymraeg ar ôl colli cais i achub S4C o 1 bleidlais yn Nhy'r Cyffredin heddiw.
Mynegwyd siom am benderfyniad Glyn Davies AS (Ceidwadwr, Sir Drefaldwyn) a Stephen Crabb AS (Ceidwadwr, Preseli Penfro) oherwydd iddynt anwybyddu barn eu cyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol a feirniadodd y cwtogi a'r newidiadau i'r sianel mewn adroddiad trawsbleidiol yn gynharach eleni.
Enillwyd y bleidlais ymysg Aelodau Seneddol o Gymru ar y pwyllgor i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus o dair pleidlais i ddwy. Dim ond pleidleisiau ASau o Loegr sicrhaodd fwyafrif bychan i'r Llywodraeth.
Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Er gwaethaf y consensws eang yng Nghymru sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau hyn, mae pleidleisiau ASau o Loegr wedi llwyddo i wthio'r cynlluniau trwyddo. Mae democratiaeth Brydeinig wedi ein bradychu."
"Er hynny rhaid i ni ddal ati gyda'r frwydr i sicrhau dyfodol ein sianel deledu Cymraeg er gwaethaf cynlluniau a frysiwyd gan y llywodraeth fydd yn golygu eu bod yn arbed 94% o'r arian yr oeddynt yn ei wario ar S4C a rhoi'r sianel dan y BBC."
"Rydym wedi ymgyrchu dros S4C newydd o'r dechrau felly yr her i'r sianel nawr a'r sawl sy'n gweithio iddi yw i sefyll i fyny ac ymladd dros ei dyfodol."
Torrodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar draws y gweithgareddau wedi'r bleidlais gan weiddi "Mae hyn yn sarhad ar bobl Cymru" cyn cael ei hebrwng o'r ystafell. Mae hi yn awr yn cael ei chwestiynu gan yr heddlu.
Mae nifer o fudiadau wedi gwneud apêl munud olaf at ASau i bleidleisio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer S4C yfory (Dydd Iau, Medi 15).
Mae tri Aelod Seneddol, y Rhyddfrydwr Mark Williams, Aelod Llafur Susan Elan Jones a Hywel Williams o Blaid Cymru, wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus mewn ymdrech i dynnu S4C allan o'r Mesur. Fe fydd pleidlais ar y gwelliant yfory yn San Steffan.
Mae'r cynlluniau yn golygu bod y llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, a gofyn i'r BBC gyfrannu at gost y gwasanaeth a chymryd drosodd rhedeg y sianel. Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynlluniau, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, yr Archesgob Cymru Barry Morgan, dau bwyllgor San Steffan, a degau o filoedd o bobl wedi mynegi eu gwrthwynebiad.
Yn gynharach eleni, ysgrifennodd 24 o fudiadau, gan gynnwys Undeb yr Ysgrifenwyr, yr NUJ, UCAC a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, at wleidyddion yn gofyn iddynt dynnu S4C allan o'r Mesur. Fe ddywedodd David Donovan, o'r Undeb BECTU, a llefarydd ar ran y gr?p "Achub S4C":
"Mae cynllun yr Ysgrifennydd Diwylliant, a wnaethpwyd mewn 48 awr, wedi ei wrthwynebu gan ddau bwyllgor T?'r Cyffredin; pedwar arweinydd y pleidiau yng Nghymru; dros 13,000 o lofnodwyr deiseb, 24 mudiad o Gymru, Archesgob Cymru Barry Morgan, yn ogystal â miloedd o bobl sydd wedi mynychu degau o ralïau a chyfarfodydd ar draws Cymru. Ond hyd at heddiw, dyw'r gwleidyddion ddim wedi gwrando."
"Y rheswm dros y gwrthwynebiad yw nad ydym yn sôn am unrhyw sianel deledu ond unig sianel deledu Gymraeg y byd, sianel y bu raid brwydro drosti. Carcharwyd dwsinau o bobl, gwrthododd dros fil o bobl dalu am eu trwydded deledu, ac roedd un unigolyn yn barod i ymprydio hyd farwolaeth yn yr ymgyrch i sefydlu'r sianel dros dri deg mlynedd yn ôl. Mae Channel 4 wedi ei eithrio o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus, felly pam ddim S4C?"
Ychwanegodd Swyddog Cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg, Ceri Owen:
"Ers ei sefydlu, bu S4C yn gonglfaen i ddiwylliannau Cymru ac yn fuddsoddiad unigryw yn yr iaith Gymraeg a'r diwydiant cyfryngol. Chwaraeodd ran ganolog wrth normaleiddio'r iaith Gymraeg yng Nghymru, o sicrhau fod plant yn clywed yr iaith Gymraeg tu allan i'r ysgol, i fedru cynhyrchu rhaglenni o safon ryngwladol. Rydyn ni'n gofyn i'r ASau felly bleidleisio dros dynnu S4C allan o'r Mesur yn llwyr, byddai hynny'n caniatáu amser i gynnal adolygiad a thrafodaeth gyhoeddus ystyrlon ar ddyfodol y sianel."
Mewn llythyr at Llywodraeth Prydain, galwodd Archesgob Cymru ar i'r Llywodraeth ail-ystyried ei gynlluniau:
"Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud yngl?n a dyfodol S4C fe ddylid cynnal arolwg annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr i ddyfodol y Sianel. Mae arweinwyr pob un o'r pedair prif Blaid yng Nghymru wedi galw am hyn ac mae'n hanfodol fod y safbwynt unedig hwn yn cael ei ystyried.
"Pan sefydlwyd S4C yn y lle cyntaf yr oedd deddfwriaeth gwlad oedd yn ei gwarchod rhag ymyrraeth wleidyddol. Ond yn awr, o basio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe gollir yr amddiffyniad hwnnw."