|
|
|
Powys
|
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir Powys ar ddyfodol nifer o ysgolion gwledig yn y Sir. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:
"Yr ydym yn cydymdeimlo yn arw â rhieni a phlant yn ysgolion Thomas Stephens ym Mhontneddfechan ac Ysgol Gynradd Llangurig sy'n wynebu cael eu cau. Ond ar yr un pryd mae'r penderfyniad i drafod ymhellach ynglyn a dyfodol Ysgolion Llanfihangel yng Ngwynfa ac Efyrnwy ac i ohirio penderfyniad am Ysgol Carno yn newyddion da iawn."
"Beth sydd yn iachus am y penderfyniad hwn yw fod Cyngor Sir Powys yn wahanol i Gynghorau Sir eraill yng Nghymru, ac yn arbennig Cyngor Sir Gaerfyrddin yn trafod dyfodol ysgolion gyda'r cymunedau lleol yn hytrach na'u cau gan ymddwyn yn fympwyol ac anemocrataidd gan anwybyddu barn y bobl leol yn llwyr."
4 Hydref 2007
|
|
|
Am 11.00am ddydd Mawrth (19/7), bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal piced o bafiliwn Cyngor Sir Caerfyrddin ar faes y Sioe Frenhinol Gymreig yn Llanelwedd. Byddwn yn tynnu sylw at yr eironi mai Sir Caerfyrddin sy'n noddi'r sioe eleni sy'n benllanw ymdrechion ei cymunedau gwledig, ac eto fod y Cyngor Sir yn cesio cau degau o'u hysgolion pentrefol.
19 Gorffennaf 2005
|
Mwy...
|
|
Fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth neithiwr yn glynu sticeri ar siopau cadwyn, banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn y dref. Roedd y sticeri hyn yn galw am 'Ddeddf Iaith Newydd' .Ymysg y siopau a dargedwyd roedd Woolworth, Barclays, Abbey, Burtons, Subway a Dorothy Perkins.etc. Roedd hyn yn dilyn ymgyrch debyg yn Aberteifi a’r Trallwng yn gynharach yn yr wythnos.
27 Mai 2005
|
Mwy...
|
Does dim cofnodion o'r rhanbarth yma eto.
13 Gorffennaf 2004
|
|
|
 |
|