Ceredigion
Cynllun Datblygu Unedol
Mae'r Cynllun Datblygu Unedol gyda'r bwriad ynddo i godi 6,500 o dai
wedi bod yn hofran yn fygythiol dros Geredigion ers blynyddoedd. Bu'r
Gymdeithas yn arwain y gwrthwynebiad i'r Cynllun hwn drwy
ymgyrchu,trefnu gweithredoedd tor-cyfraith, cyfarfodydd cyhoeddus a
chyhoeddi dogfennau ar y pwnc. Llwyddwyd i greu consensws eanga
gwrthwynebiad cadarn i'r CDU.
Gwrthwynebu Maer
Fe wrthwynebodd y Gymdeithas yr ymgyrch dros Faer gan y teimlem nad
dyma'r ateb i broblemau'r sir. Ni fyddai Maer etholedig ohono ei hun yn
gallu dileu na newid y Cynllun Datblygu Unedol. Mater i'r cynghorwyr
fyddai hynny. Credai'r Gymdeithas y dylai'r grym dros eu dyfodol aros yn
nwylo y cymunedau lleol. Nid oedd trosglwyddo y cyfrifoldeb i Faer ond
yn amddifadu'r cymunedau o'r grym hwnnw. Yr oedd y modd y cafodd Ceredigion ei redeg dros y blynyddoedd diwethaf yn ddigon o rybudd rhag rhoi gormod o rym yn nwylo un dyn.
Symud Ymlaen
Ond bellach mae'r refferendwm ac etholiadau'r Cyngor Sir drosodd ond mae
problemau Ceredigion gyda ni o hyd. Fe drefnodd y Gymdeithas gyfarfod
cyhoeddus tu allan i bencadlys y Cyngor Sir ddiwedd Mehefin lle gosodwyd
yr her i'r Cyngor newydd i weithredu yn fwy effeithiol dros y Gymraeg.
Dros y deng mlynedd diwethaf gwelwyd mwy o ddirywiad yn y niferoedd sy'n
siarad Cymraeg yng Ngheredigion nac mewn unrhyw ardal arall o Gymru.
Aeth y canran i lawr 10% fel nad oedd erbyn 2001 ond cwta 50% o
boblogaeth y sir yn siarad Cymraeg. Mae llawer mwy na'r Cynllun
Datblygu Unedol yn gyfrifol am y dirywiad hwn. Ym mis Medi fe fydd y
Gymdeithas yn cyhoeddi Siar ter fydd yn galw ar i'r Cyngor yn gweithredu
o blaid y Gymraeg ym mhob maes polisi. Dylid sicrhau fod polisiau
gwahannol adranna'r Cyngor yn ystyried yr egwyddorion canlynol:
- yr angen i normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg drwy'r sir
- yr angen i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg drwy'r sir
- yr angen i sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau Cymraeg drwy'r sir.
Dymunwn weld yr egwyddorion hyn yn cael eu rhoi ar waith yn y meysydd
polisi a ganlyn:
- Gweinyddiaeth Fewnol
- Addysg
- Tai a Chynllunio
- Datblygu Economaidd
- Trafnidiaeth
Yr ydym am weld Cynlluniau Gweithredu Lleol ynn cael eu mabwysiadu
hefyd. Byddai hyn yn digwydd drwy gydweithrediad rhwng y Cyngor Sir a'r
Cynghorau Bro a Thref yn yr ardal.
Angharad Clwyd yw Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion a bydd y Rhanbarth yn cwrdd ar y nos Fawrth olaf o bob mis yng Ngwesty'r castell Aberystwyth. Am fwy o fanylion cysyllta gyda Angharad
|