Dyfodol Digidol
Mae newidiadau mawr ar droed yn y byd darlledu. Mae'n gyfnod cyffrous a chyfnewidiol wrth i bawb yn y maes geisio dirnad dyfodol y cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Mae'r chwyldro digidol yn cynnig cyfleoedd newydd i'r iaith Gymraeg, ond hefyd sawl her.
Mae’r oes ddigidol wedi cyrraedd ac mae’n rhaid i ni wneud yn siwr fod y Gymraeg ar flaen y gad yn y maes hwnnw. Dyw sianel deledu ddim yn ddigon, mae’r chwyldro o ganlyniad i’r we yn golygu fod pob math o gyfryngau ar gael ac mae angen gweld a chlywed â rhain drwy gyfrwng y Gymraeg.
Safbwynt Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ynglyn ag argyfwng y S4C:
Pwysa yma am y diweddaraf - Achub S4C
Beth sydd wedi digwydd?
Mae Jeremy Hunt wedi cyhoeddi y bydd toriadau i gyllid S4C ac y bydd y sianel yn cael ei hariannu drwy’r BBC. Mae’r cyhoeddiad hwn yn golygu fod y sianel mewn peryg mawr o golli gafael ar yr arian ac ar ei annibyniaeth.
Ymhellach, mae Llywodraeth San Steffan am newid deddf S4C felly maen nhw wedi rhoi S4C yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus – y mesur sy’n mynd i chwalu’r quangos – sy’n rhoi caniatad i’r Gweinidog newid arian neu hyd yn oed diddymu’r sianel pryd bynnag mae eisiau heb ganiatad y senedd.
Beth sydd angen newid?
Mae’n rhaid achub ein sianel Gymraeg. Gofynnodd arweinwyr prif bleidiau Cymru (Carwyn Jones, Ieuan Wyn Jones, Nick Bourne a Kirsty Williams) am adolygiad annibynnol o S4C er mwyn trafod ei dyfodol mewn amserlen mwy synhwyrol, ond anwybyddwyd eu llythyr gan David Cameron ac fe atebodd Jeremy Hunt gan wrthod hyd yn oed trafod y syniad o adolygiad. Mae hyn yn sarhad anferth ar Gymru.
Rhaid achub y sianel Gymraeg. Nid yw hyn yn golygu ein bod ni eisiau i S4C barhau fel y mae; mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn gofyn am newidiadau sylfaenol i’r sianel. Ond heb y strwythr iawn er mwyn sicrhau arian ac annibyniaeth – ni fydd dyfodol i’r Gymraeg ar y cyfryngau o gwbl!
Nid brwydro am y status-quo ydym felly; mae hwn yn gyfle i achub y sianel Gymraeg ond creu trefn newydd ar yr un pryd.
Rhaid cael S4C annibynnol - annibyniaeth olygyddol a rheolaethol fel mae buddiannau’r sianel sy’n cael ei rhoi yn gyntaf. Hefyd, rhaid cael sicrhad o arian tymor hir ar gyfer y sianel sef fformiwla gyllido. Fel hyn, ni fydd rhaid poeni bod rhaglenni Cymraeg yn gorfod cystadlu yn erbyn rhaglenni Saesneg, cam yn ôl i’r sefyllfa yn y saithdegau!
Rhaid cofio fod gwanhau S4C yn rhan o agenda’r toriadau enbyd mae’r Llywodraeth Doriaidd a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn eu cyflwyno. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y toriadau yn gyffredinol oherwydd y byddant yn dinistrio ein cymuendau.
Mae angen S4C newydd. Credwn mai’r ffordd ymlaen yw troi’r sianel yn gyhoeddwr aml-blatfform sy’n cynnwys sianel ac arlwy ar y we ac ymestyn i’r maes digidol. Mae anegn i S4C fod gynrychioli ac bod yn atebol i bobl a chymuendau Cymru. O ganlyniad, rhaid rhyddhau creadigrwydd bobl ifanc sy’n gweithio yn y diwydiant creadigol. Rhaid meddwl o ddifrif beth yw effaith economaidd S4C wrth iddi fuddsoddi ar hyd a lled Cymru a bod yn gyfrifol yngl?n â hynny.
Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod angen dêl ddarlledu deg ar gyfer Cymru – sianel annibynnol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg. Dylid ffederaleiddio’r BBC fel bod darpariaeth sy’n cynrychioli Cymru yn cael ei weld yn y Saesneg hefyd. Mae angen meddwl am weledigaeth tu hwnt i'r argyfwng hwn.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am:
- S4C ANNIBYNNOL Ni ddylai’r BBC na’r llywodraeth yn Llundain gael rheoli’r sianel Gymraeg, ac ni ddylai rhaglenni Cymraeg orfod cystadlu â rhaglenni Saesneg am arian.
- CYLLID DIGONOL Mae S4C yn wynebu toriadau i’w chyllid o dros 40% ac nid oes sicrwydd o arian i S4C ar ôl 2015. Mae angen fformiwla ariannu hir dymor wedi ei diogelu mewn deddf gwlad.
- S4C NEWYDD Gallai S4C fod yn perfformio’n well. Mae angen S4C amlgyfryngol sy’n atebol i bobl Cymru, a dylid datganoli grym dros ddarlledu i Gymru.
- S4C CYFRWNG CYMRAEG Dylai’r sianel fod yn uniaith Gymraeg; dyma sy’n ei gwneud yn unigryw ymysg holl sianeli eraill y byd.
Gwrthod talu'r Drwydded
Rydym yn gofyn i bobl wrthod talu'r drwydded er mwyn sicrhau annibyniaeth y sianel Gymraeg. Rhaid sicrhau:
- annibyniaeth olygyddol a rheolaethol y sianel
- fformiwla gyllido ar sail chwyddiant
Dyma beth sy'n mynd i sicrhau fod digon o arian ar gael i greu darpariaeth Gymraeg yn y lle cyntaf.
Beth gelli di wneud?
Mwy o wybodaeth
|