|
|
|
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Mudiad newydd i ddathlu’r Gymraeg a galw am ddeddfwriaeth
Mudiad ymbarel sy’n cynrychioli 19 o fudiadau sy’n gweithio i hybu ac yn gefnogol i’r iaith Gymraeg yw Mudiadau Dathlu’r
Gymraeg. Sefydlwyd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn 2007.
Y 19 mudiad sydd wedi ymrwymo i brif egwyddorion Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yw Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg, Cymuned, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Merched y Wawr, Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Urdd Gobaith Cymru, Cronfa Glynd?r, Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Chwlwm Cyhoeddwyr
Cymru. Mae dros 70,000 o aelodau yn perthyn i’r mudiadau yma, ac rydym yn amcangyfrif fod 100,000 a mwy o weithgareddau’n digwydd yn flynyddol.
|