Deddf Iaith Newydd
Mesur Arfaethedig y Gymraeg (2010)
Mae Llywodraeth Cymru 'wedi torri ei haddewidion' ac yn trio 'camarwain y cyhoedd' gyda'i mesur iaith Gymraeg wrth hawlio bod y mesur yn arwain at hawliau i wasanaethau Cymraeg a chadarnhau statws swyddogol i'r Gymraeg.
Addawodd Llywodraeth Llafur-Plaid Cymru yn nogfen Cymru'n Un y byddent yn cadarnhau "statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg, hawliau ieithyddol ...", ond mae'r ffaith nad yw'r mesur yn delifro ar yr addewidion hyn i bobl Cymru wedi cythruddo Cymdeithas yr Iaith. Pwysa ar y dolenni isod i ddarllen mwy.
Mesur arfaethedig (pdf) - Memorandwm esboniadol (pdf) - Ymateb Cymdeithas yr Iaith - Arwydda'r Ddeiseb
Statws i'r Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd i Gymru. Rydym yn galw am ddeddf a fydd yn ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern ac yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd.
Pwysa ar y dolenni i'r dde am ddeunydd ymgyrchu, y straeon newyddion diweddaraf, digwyddiadau, dogfennau, erthyglau a llawer mwy yn ymwneud â'r ymgyrch Deddf Iaith Newydd.
Ar hyn o bryd, os ydyn ni eisiau rhywbeth yn Gymraeg - bil ffôn er engrhaifft, neu ffurflen - mae'n rhaid gofyn amdano ac yn aml does dim ar gael! Serch hynny, fe ddylai'r pethau hyn fod ar gael yn ddwyieithog i bawb yng Nghymru. Ni ddylai siaradwyr Cymraeg orfod mynd allan o'i ffordd i ofyn am wasaneth yn eu hiaith eu hunain, neu fodloni ar ddefnyddio'r Saesneg, gan nad oes gwasaneth Cymraeg ar gael. O ganlyniad, mae angen Deddf Iaith Newydd i sicrhau fod pob math o wasanaethau ar gael yn ddwyieithog.
Wrth gwrs, nid dyma unig ymgyrch Cymdeithas yr Iaith - ceir rhai eraill ym maes addysg a thai hefyd - ond does dim amheuaeth fod hon yn ymgyrch bwysig.
Cefndir
Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros Ddeddf Iaith i sicrhau fod pob cyhoeddiad a hysbysiad swyddogol yn dod yn naturiol ddwyieithog heb orfod gofyn. Ar ol ymgyrchu caled, gorfodwyd y Llywodraeth Geidwadol i ymateb. Serch hynny, ei ymateb oedd rhannu pobl Cymru trwy gynnig cyn lleied ag oedd modd. Pasiwyd Deddf Iaith wan!
Nid yw Deddf Iaith 1993 yn:
- rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg
- sicrhau gwasaneth Cymraeg gan y sector breifat
- sicrhau lle i'r Gymraeg yn y chwyldro technolegol
Am hynny mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Iaith Newydd!
Nôl ym 1993 roedd Rhodri Morgan yn cefnogi dadl Cymdeithas yr Iaith - gwrthododd gefnogi Deddf Iaith 1993. Dyma oedd ei eiriau bryd hynny:
"The Government calls this a Welsh Language Bill, but it would be better described as a Welsh Language Quango Bill. What one could call a Quango for the lingo ...... We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language messure when we are in Government."
Erbyn hyn, ac yntau yn Brif Weinidog Cymru, mae Rhodri Morgan wedi newid ei feddwl!
Ymuna yn yr Ymgyrch
Bydd y Gymdeithas yn parhau i ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd a thros hawliau cyfartal i'r Gymraeg. Er mwyn cyfrannu at yr ymgyrch, darganfod beth yw'r camau nesaf, neu ymaelodi â'r grŵp Deddf Iaith cysyllta â Bethan Williams (Cadeirydd Grwp Ymgyrch Deddf Iaith Newydd).
|