tafod.jpg hafan cymdeithas.com
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Croeso i adran Gwreiddiwch yn y Gymuned.

Cei weld yma y newyddion diweddaraf, yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill, yn ogystal a'r holl ddogfennau ac erthyglau sy’n berthnasol i'r ymgyrch Gwreiddiwch yn y Gymuned.

Beth yw Ymgyrch Gwreiddiwch yn y Gymuned?

Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith, mae dyfodol yr iaith Gymraeg, fel iaith fyw, yn mynd law yn llaw gyda’n gallu i adeiladu cymunedau cynaladwy - mewn ardaloedd gwledig a threfol - ym mhob rhan o Gymru. Mae sicrhau bod yr economi leol yn cyfrannu tuag at ffyniant cymunedau a’u gallu i reoli eu dyfodol eu hunain yn hanfodol yn hyn o beth.

Mae’r pwyslais presennol ar ganoli gweinyddiaeth a swyddfeydd wedi arwain at golli nifer o swyddi lleol. Ymhellach, mae’r twf di-rwystr yn nylanwad nifer o gwmniau mawr, megis yr archfarchnadoedd, wedi niweidio seiliau cynhenid yr economi leol. Golyga hyn, fod y cyfoeth yn ogystal â’r grym, yn llifo i ffwrdd o’r gymuned.

Ymgyrch newydd yw ymgyrch Gwreiddiwch yn y Gymuned sy’n cael ei llywio gan grŵp a sefydlwyd yn sgil cynnig i Gyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ym mis Mawrth 2004. Mae’r broses o osod nodau penodol i’r ymgyrch ar y gweill ond rhagwelir y byddwn yn gweithredu ar sawl ffrynt, megis:

  • Ymgyrchu i sicrhau bod gwariant a chymorthdaliadau awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn cyfrannu cymaint â phosibl at ffyniant cymunedau lleol.
  • Pwyso am asesiadau o impact datblygiadau megis archfarchnadoedd newydd ar gymunedau lleol a rhagolygon y Gymraeg.
  • Gwreiddiwch Yma i Werthu Yma – lle bydd cwmnïau mawr yn sefydlu neu eisoes mewn ardal yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau, pwyso ar iddynt weithio mewn ffordd sy’n rhoi budd i’r cymunedau lleol e.e. gwerthu cynnyrch lleol, defnyddio gwasanaethau lleol, gwasanaethu eu canghennau yng Nghymru o ddepots a swyddfeydd gweinyddol Cymreig, parchu hawliau’r gymuned leol i gael gwaith ar amodau teg a gwasanaeth yn y Gymraeg.

Beth gelli di wneud?

Rho wybod os oes unrhyw enghraifft amlwg yn dy ardal di o ddatblygiad fydd yn tynnu arian o’r economi leol, neu os gwyddost am gwmni neu gorff cyhoeddus sy’n anwybyddu cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau lleol gan ganiatâu i arian lifo allan o’r economi leol.

Ymuna yn yr Ymgyrch

Er mwyn cyfrannu at yr ymgyrch, darganfod beth yw'r camau nesaf, ymaelodi â’r grwp Gwreiddiwch yn y Gymuned cysyllta â (Cadeirydd Grwp Gwreiddiwch yn y Gymuned).

Deunydd Ymgyrchu


Digwyddiadau'r Ymgyrch
Rhagor...

Newyddion o'r Ymgyrch
Banc Lleol y Byd - Ond nid i Benygroes
10 Medi, 2003
Mwy o newyddion...

Dogfennau Perthnasol
Gwreiddiwch yn y Gymuned: Papur Trafod
Awst 2003
Rhagor...

Erthyglau Perthnasol
Gwreiddiwch yn y Gymuned: Ymgyrch lobio Bwydydd Cyflym
Chwefror 2004
Rhagor...

Pethau ar y We
Fideo - 'Welsh Not' yn Morrisons Caergybi
9 Mai, 2009


Archif yr Ymgyrch
Pob cofnod am yr ymgyrch hwn


nôl i'r brig