Gwynedd-Môn
Ers dwy flynedd bellach, mae Rhanbarth Gwynedd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn ELWa sef y corff cyllido addysg bellach yng Nghymru. Bwriad ELWa yn y pen draw yw cau bob chweched dosbarth a chael pawb i deithio i Goleg Trydyddol, megis Meirion Dwyfor neu Goleg Menai. Mae hyn yn fygythiad go iawn i ysgolion Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Brynrefail a Syr Huw Owen. Cynhaliwyd cyfarfod fis Medi diwethaf, lle cafwyd llond neuadd i gefnogi'r syniad o 6ed Dosbarth, a chafwyd cyfarfod yng Nghaernarfon fis Mai cyn tynnu sylw at y mater yn Eisteddfod yr Urdd, Llangefni. Ymddengys ein bod wedi llwyddo i raddau gan fod ELWa wedi atal eu cynlluniau am 2 flynedd. Ond gohirio'r bygythiad yw hwn, nid ei ddileu - disgwyl inni flino a distewi.
Ymgyrchoedd a Gweithgareddau Eraill
- Buom yn brysur yn pwyso ar y Parc Cenedlaethol yn Eryri i roi blaenoriaeth i bobl leol.
- Buom yn gwrthwynebu McDonalds.
- Buom yn gwrthwynebu HSBC a oedd yn cau canghennau lleol.
- Rydym wedi bod yn trefnu taith gerdded flynyddol.
- Rydym wedi cael stondin yng Nghaerfon yn casglu enwau a rhannu taflenni.
Cyfarfodydd Rhanbarth
Rydym fel rhanbarth yn ceisio cyfarfod yn fisol neu bob deufis - ran amlaf ym Mhorthmadog neu Fangor. Mae croeso i bawb, nid oes rhaid bod yn aelod o'r Gymdeithas. i ddarganfod pryd a ble mae'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal.
Gelli di helpu?
Mae angen cyson am dynnu sylw at ddiffygion y Gymraeg ym mhob maes, ac rydym angen cefnogaeth. Er mai yng Ngwynedd a Môn mae'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg, yma mae'r bygythiad mwyaf hefyd. Felly os oes gennych amser i'w roi, mae digon o waith i'w wneud! Os gelli di helpu cysyllta gyda Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn Angharad Tomos
|