Beth mae Awdurdod Addysg yn ei wneud?
Mae Awdurdod Addysg Caerfyrddin yn...
- Trin ein pobl gyda dirmyg: Tu fewn i'w swyddfeydd - heb drafod gyda neb - maen nhw wedi ceisio penderfynnu pa ysgolion sydd i gau a pha gymunedau i farw. Gwnaethom nhw lansio'r strategaeth gyda sioe fawr a phythefnos wedyn ddechre trafod mewn Cyngor. Ffug yw'r trafod gan eu bod eisioes wedi lansio'r polisi pan nad oedd rhieni na llywodraethwyr wedi gweld eu rhestr o dargedau.
- Gweithredu fel Gwerthwyr Tai nid Addysgwyr: Maen nhw'n cydnabod fod safon yr addysg yn rhagorol yn yr ysgolion presennol. Trafod yn unig y maent yr adeiladau.
- Dinistrio ein cymunedau Cymraeg: Mae teuluoedd ifanc yn llawer llai tebyg o fyw mewn pentref heb ysgol na gwasanaeth. Bydd y cymunedau hyn yn wynnebu marwolaeth araf fel pentrefi henoed.
- Chwerthin ar ben canllawiau’r Cynulliad: Nid yn unig y mae'r Cyngor i roi ystyriaethau Addysg yn gyntaf, ac ystyried cau ysgolion ar gymunedau lleol. Maent hefyd i fod i chwilio am bob dull arall - fel creu ffederasiynau o ysgolion. Ond ym mhob achos, mae'r Swyddogion wedi cynnig yr un ateb - sef cau ysgolion a chreu nifer llai o ysgolion ardal canolog. Llai o ysgolion - llai o waeth i Swyddogion eu gweinyddu.
- Defnyddio ystriwiau brwnt i gario’r dydd: Fel cynnig dosbarth Meithrin llawn amser, a chyfleusterau gofal plant, mewn ysgolion canolog, dim ond os bydd pobl yn derbyn fod ysgolion eraill i gau. Wrth gwrs y dylai adnoddau ysgol fod ar gael i bawb yn y gymuned. Rheswm dros gadw ysgolion, nid eu cau nhw, yw creu ysgolion cymunedol.
- Twyll, Sbin, Twyll, Sbin: Dywedant nad oes penderfyniadau wedi'u cymryd, ac y bydd ymgynghori cyhoeddus. Ond nid ydynt yn y gorffennol wedi newid unrhyw benderfyniad sylfaenol o ganlyniad i ymgynghori - a fydd yn gyfyngedig i drafod manylion eu cynlluniau.
Yr unig beth a newidia safbwynt y Cyngor, fydd undod ac ewyllys ein pobl.
|