Cadw Ein Hysgolion - Cadw Ein Hysgolion
nôl i'r hafanddalen - back to homepage

Hafan | Newyddion | Digwyddiadau | Gwybodaeth | Trafodwch | Dolenni | Cysylltwch
Home | News | Events | Information | Discuss | Links | Contact Us

Trafodwch eich ymgyrch lleol.

Maesybont, Cwmgwili, Milo, Llansawel, Talyllychau, Caio, Brechfa, Rhydcymerau, Carwe, Ponthenri, Trap, Cwmifor / Manordeilo, Llansadwrn,, Capel Iwan, Cynghordy, Cilycwm, Cefnbrynbrain, Bancffosfelen, Mynyddcerrig, Llangyndeyrn, Llansaint, Idole/Cwmffrwd, Blaenau, Mynyddygarreg, Llanarthne, Pentywyn, Llanedi, Cefneithin, Drefach, Gorslas, Ffairfach.

Pwyswch ar 'Sylwadau' isod i ddarllen sylwadau eraill, ac i ychwanegu sylwad.

 

Sylwadau

Mae ofid mawr da ni yma yn Llangain - i ni mor agos i'r dre a'r Ysgol Saesneg Treioan - ond dy ni ddim am creu panic yn y pentre.Mae 'da ni prifathrawes newydd 'dynamic' ac mae rhifau'r plant yn cynyddu. Mae adeilad modern gyda pob math o weithgareddau yn mynd mlaen. Rhieni yn cant y cant yn erbyn uno gyda ysgol Treioan.

Achos mae'r feithrin mor cryf ni wedi penderfynnu peidio dod a'r plant i'r Rali. Mae'r ddeiseb wedi mynd mas gyda pob rhiant a phob aleod o staff - mae da ni yn personol dros cant o enwau. Ni wedi sicrhau cefnogaeth Menter Bro Myrddin trwy law Iwan Evans i cryfhau'r yndrech yn lleol.

Mae Noson Lawen yn y pentre nos yfory (19/11) a ni'n golygu dosbarthu ffurflennu'r rali & casglu rhagor o enwau i'r ddeiseb. Mae arwyddion ar y prif-ffordd trwy'r pentre yn hysbysebu'r rali.
Aeth lythyr i'r Cyfarwyddwr Addysg, Alun Davies ac i arweinydd y cyngor, Meryl Gravell y diwrnod gaeth y strategi eu hysbysebu gynta - dim un o nhw wedi bod digon cwrteus i gydnabob bod nhw wedi derbyn y lythyr heb son am ymateb.

Postiwyd gan Roger Van Praet ar November 19, 2004 12:30 AM

Wedi cael ateb wrth y Cyfarwyddwr Addysg - Alun Davies, yn gwrthod ein gwahoddiad i ymweld ar ysgol Llangain - dim synnwyr myna te! Hefyd yn tynnu sylw at y faith taw nid nawr yw'r amser cymryd gwrthwynebiadau & sywladau - dwy'n cytuno Mr Davies, yr amser ymgynghori & drafod oedd cyn cyhoeddu'r Strategi Lladd Cymunedau Lleol.

Postiwyd gan Roger Van Praet ar November 21, 2004 11:17 AM

Rydw i'n credu ei fod yn syniad hollol hurt i cau ysgolion llai y sir, yn enwedig am y rhesymau mae'r cyngor rhoi: bod yr adeiladau yn hen gyda toiledau allanol a bod yr ysgolion ddim yn cyfrannu i anghenion y gymuned.Does dim ots os mae'r adeiladau ychydig yn hen, y peth sy'n bwysig yw safon y dysgu, ac mae'r ail reswm just yn hollol anghywir.
Cyn ddisgybl o ysgol Llangain (14)

Postiwyd gan Carys V.P ar November 23, 2004 09:59 PM

Mae'r plant, rhieni & plant Ysgol Llangin wedi casglu 702 o enwau ar hyn o bryd. Dioch yn fawr i bawb am eich cefnogaeth. Trwy gwybod i ni dim ond 2 sydd wedi gwrthod.

Postiwyd gan Roger Van Praet ar December 1, 2004 03:53 PM

Plant, rhieni & staff Ysgol Llangain oedd y neges diwetha fod i dweued!

Postiwyd gan Roger Van Praet ar December 1, 2004 04:04 PM

Mae ymdrechion Llangain yn rhoi hwb i bob cymuned arall sy a'u hysgolion o dan fygythiad.Mae'r Gymdeithas eisioes wedi gofyn am chwe mis o drafodaeth cymdeithasol cyn i'r cyngor llawn drafodi'r Cynllun. A oes unrhyw aelod o'r Bwrdd Gweithredol,neu Barti neu gynghorwr yn ddigon dewr i alw am y drafodaeth,er mwyn sicrhau democratiaeth yn y Sir?

Postiwyd gan Helen Thomas ar December 2, 2004 07:45 PM
nôl i'r brig - back to the top