Cadw Ein Hysgolion - Cadw Ein Hysgolion
nôl i'r hafanddalen - back to homepage

Hafan | Newyddion | Digwyddiadau | Gwybodaeth | Trafodwch | Dolenni | Cysylltwch
Home | News | Events | Information | Discuss | Links | Contact Us

Trafodaeth cyffredinol ynglyn â'r Ymgyrch

Trafodwch yr Ymgyrch sir-eang. Oes gyda chi unrhyw syniadau?

Pwyswch ar 'Sylwadau' isod i ddarllen sylwadau eraill, ac i ychwanegu sylwad.

 

Sylwadau

Dyma ddangos mor arwynebol yw Cymreictod Cyngor Sir Gâr - maen nhw'n enwi eu cronfa datblygu cymunedol yn brosiect "Milltir Sgwâr" ond yn ceisio cau Ysgol Rhydcymerau.

Mae'n siwr nad ydyn nhw'n gweld na deall yr eironi. Yr un modd, ddeallon nhw ddim arwyddocâd cau Ysgol Griffith Jones Llanddowror. Rhain sy'n gwarchod ein hetifeddiaeth Gymraeg !!!!

Postiwyd gan Ffred Ffransis ar November 11, 2004 12:05 AM

Nid yn unig rhieni a phlant bob ysgol gynradd y sir y dylai ymgyrchu yn erbyn y cynllun hwn,ond pawb sy'n ymwybodol o ddemocratiaeth yn Sir Gaerfyrddin. Nid mater o wleidydd mohoni bellach,ond mater o herio'r holl sistem ei hun rhag colli ein hawlion i leisio barn ar ein dyfodol.Magwyd a hybwyd addysg ein plant mewn ysgolion sy'n draddodiadol yn uchel eu safonau a'u hagwedd,yn rhan bwysig o'r gymuned a'n pentrefi,ac yn eu paratoi yn drwyadl ac mewn ffordd dwym galon am y byd mawr. Rydym bob un yn cofio ein hamser yn yr ysgol gynradd,a blin iawn fydd gweld ysgolion mawr,amhersonol yn cymryd eu lle. Unwaith eto, cynllun i arbed arian fydd hwn,ac fe goller y sir un o'i gemau gwerthchweil. Mae'r gofynnion ar y Sir yn hollol ormod ar hyn o bryd,a'r broses o wneud penderfyniadau ar ein rhan,yn gudd.Nid dyma yw dymuniad ei bobol o gwbwl,felly gwnewch ymdrech i gefnogi ymgyrch Cymdeithas yn eich niferion uchel.

Postiwyd gan Helen Thomas ar November 19, 2004 09:42 PM

O ganlyniad i'r newidiadau y mae'r sir am ei wneud i'w Cynllun Addysg hir-dymor, mae'r pryderon yn ei gylch yn mynd i dyfu'n aruthrol . Rwy'n drigolwraig yn Cross Hands a'r tebygrwydd yw fydd yna Ysgol Gynradd fawr yn cael ei sefydlu yma i dderbyn y plant hynnu o Gwmgwili a Chefneithin.Mae'r Sir wedi targedi Cross Hands fel man twf,ac o ganlyniad mae na broblemau yn codi yma oherwydd twf traffic,ac effaith datblygu ar yr amgylchedd.
Mae'r trigolion wedi ymdrechu'n frwd i dynnu sylw'r sir at yr effeithion yma,ond yn anffodus,nid ydynt yn gwrando,ac nid ydynt yn ymgynghori yn uniongyrchol gyda'r trigolion ynglun a'i pryderon am ddyfodol y pentre, (O rhan poblogaeth pentre yw hon o hyd,nid tref, fel y mae'r sir yn mynnu ei bod).Mae'r agwedd yma yn hollol groes graen i ofynnion y Ddeddf Llywodraeth Lleol 2000.Mae'r swyddogion wedi addo fydd yna gysylltu yn cymryd lle, ond nid yw addewidion y sir hon yn llesol iawn i lawer ohonom.
Os sefydlir ysgol gynradd o faint yma,bydd na broblemau ychwanegol yn codi ynglun a'r nifer ychwanegol o geir a thraffig fydd yn cludo plant i'r ysgol, yn siwr o waethygu'r sefyllfa bresennol.Mae na ymgyrch ar y gweill yn barod yn yr ardal hon oherwydd colled bysiau i gludo plant i'r ysgolion uwchradd.!
Mae bobol y pentre wedi penderfynnu ei fod yn anodd dros ben i "wneud bisnes" gyda'r Cyngor Sir----mae'n debyg iawn i saethu darts bychain at wal fawr o dur,yn hytrach na wal o frics. Mae'n amhosib.Rwy'n siarad fel un sy wedi brwydro ar y blaenllaw ers lawer dydd dros y gymuned,ac ers sefydlu Cyngor Sir Caerfyrddin,rydym wedi colli'r drefn democratiaeth er gwaethaf yr hawl i bleidleisio.
Efallai y mae gan y Gymdeithas fwy o rim i wneud gwahaniaeth,felly rwy'n cefnogi'r ymgyrch gant y cant. Mae mwy o ymgyrchion yn codi drwy'r sir oherwydd atgasedd trigolion at y "sistem" ei hun,a'r pwer sy gan y rheini nad etholwyd i ffasiynnu ein dyfodol. Does dim amdani nawr ond i ddod at ein gilydd.

Bob lwc i'r ymgyrch ac i ymdrechion y Gymdeithas mewn cyfnod anodd a phenbleth dros ben.

Postiwyd gan Helen Thomas ar November 19, 2004 10:03 PM

Fel rhiant sydd yn ymwybodol o’r gwerthoedd y mae Ysgolion llai eu maint yn hybu yn y gymuned, mae’n codi arswyd arnaf i feddwl bod nifer o’r Ysgolion hynny mewn perygl o ddiflannu.

Ysgolion cefn gwlad yw calon cymaint o bentrefi, yn Meithrin ac yn hybu y gwerthoedd hynny sydd yn hanfodol i unrhyw gymuned. Nid yn unig eu bod yn cynnig addysg gyflawn a chynhwysfawr i blant y gymuned, mae’r Ysgolion hynny yn ganolbwynt i gymaint o weithgareddau sydd yn tynnu trigolion pentre, trigolion o amrywiol gefndir, at ei gilydd er lles y gymuned honno.

Bob tro y mae ysgol fach leol yn cau, mae fel rhwygo’r galon o’r gymuned, felly rwy’n ymbil ar y Cynghorwyr i ystyried yn ddwys cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Postiwyd gan Ray Gravell ar December 6, 2004 10:48 AM
nôl i'r brig - back to the top