Cri o'r galon gan Grav
Mewn neges i Rali CADWN EIN HYSGOLION ddydd Mercher 8fed Rhagfyr, mae Ray Gravell yn canu clodydd ysgolion pentrefol gan ganmol yr addysg gyflawn a gaiff plant yn yr ysgolion hyn a phwysleisio eu rol ganolog yn cynnal ein cymunedau. Mae Grav yn ymbil ar gynghorwyr Sir Gâr i bwyllo cyn rhwygo'r galon allan o gymaint o gymunedau'r Sir.
Fel rhiant sydd yn ymwybodol o’r gwerthoedd y mae Ysgolion llai eu maint yn hybu yn y gymuned, mae’n codi arswyd arnaf i feddwl bod nifer o’r Ysgolion hynny mewn perygl o ddiflannu.
Ysgolion cefn gwlad yw calon cymaint o bentrefi, yn Meithrin ac yn hybu y gwerthoedd hynny sydd yn hanfodol i unrhyw gymuned. Nid yn unig eu bod yn cynnig addysg gyflawn a chynhwysfawr i blant y gymuned, mae’r Ysgolion hynny yn ganolbwynt i gymaint o weithgareddau sydd yn tynnu trigolion pentre, trigolion o amrywiol gefndir, at ei gilydd er lles y gymuned honno.
Bob tro y mae ysgol fach leol yn cau, mae fel rhwygo’r galon o’r gymuned, felly rwy’n ymbil ar y Cynghorwyr i ystyried yn ddwys cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Diolch
Ray Gravell
Rhiant
|