Cadw Ein Hysgolion - Cadw Ein Hysgolion
nôl i'r hafanddalen - back to homepage

Hafan | Newyddion | Digwyddiadau | Gwybodaeth | Trafodwch | Dolenni | Cysylltwch
Home | News | Events | Information | Discuss | Links | Contact Us

PRIF GYFLE DEMOCRATIAETH

Mae rhieni-lywodraethwyr sy’n aelodau o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau y bydd y Pwyllgor yn cael trafod a mynegi barn yn eu cyfarfod fory (10am Iau 16/12) ar y strategaeth ddinistriol a allai arwain at gau hyd at ddeugain o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.

Mae cyfansoddiad y pwyllgor yn golygu fod posibiliad y gallai bleidleisio dros wrthwynebu’r strategaeth. Ymhlith y 15 aelod y mae 8 o Llafur/Annibynnol a’r gweddill o Blaid Cymru, rhieni/llywodraethwyr a chynrychiolwyr eglwysig. Mae’r cyn-Gyfarwyddwr Addysg, Keith Davies – y gwyddys nad yw’n gwbl fodlon ar y strategaeth – yn un o’r aelodau Llafur.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon neges heddiw at bob aelod yn gofyn iddynt fynnu chwe mis o drafod trwy’r sir am holl egwyddorion y strategaeth yn hytrach nag ymfodloni ar ymgynghori lleol statudol yn unig ar fanylion sut i gau ysgolion. Yn eu llythyr (copi yn yr atodiad), dywed y Gymdeithas nad yw’r Cyngor erioed wedi cael trafod y polisi newydd o gau bron pob ysgol bentrefol Gymraeg. Dywed ymhellach y bydd y polisi yn terfynu – heb drafodaeth na phleidlais – yr holl bolisi addysg Gymraeg o ysgolion pentrefol categori “A” ac yn rhoi yn ei le bolisi newydd o ddewis rhwng ffrydiau Cymraeg a Saesneg. “Nid oes unrhyw ystyriaeth, trafodaeth na phleidlais ar gam mor sylfaenol yn ôl i addysg Gymraeg.”

DIENYDDIWR

Dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis, nad yw’n syndod fod y Cyngor wedi’i chael yn anodd dod o hyd i Gymry Cymraeg i ymgeisio am swydd Cyfarwyddwr Addysg i weithredu polisi mor adweithiol. “Mae’n amlwg eu bod yn bwriadu dod â rhywun i mewn o du allan i Gymru fel dienyddiwr i gael gwared â’r ysgolion a’r cymunedau trafferthus hyn. Cyfarfod y Pwyllgor Craffu yw’r cyfle gorau i atal y Cyngor rhag yr ymosodiad hwn ar ei bobl ei hun.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ffred Ffransis : 01559-384378 / 07798 713801

 

nôl i'r brig - back to the top