Cadw Ein Hysgolion - Cadw Ein Hysgolion
nôl i'r hafanddalen - back to homepage

Hafan | Newyddion | Digwyddiadau | Gwybodaeth | Trafodwch | Dolenni | Cysylltwch
Home | News | Events | Information | Discuss | Links | Contact Us

Polisiau gwrth Gymreig y Cyngor yn peri i Gymry Cymraeg beidio ymgeisio am swydd Cyfarwyddwr Addysg

Mae Cymdeithass yr Iaith wedi ymateb i gyhuddiad a wnaed gan y Cyng Martin Morris (dirprwy arweinydd y Cyngor mewn Datganiad i'r Wasg heddiw) fod y Gymdeithas a chyrff eraill yn ei gwneud yn anos i'r Cyngor gael y person gorau i'r swydd ar gyfer gweithredu eu cynlluniau uchelgeisiol mewn addysg trwy ddweud mai polisiau gwrth-Gymreig y Cyngor ei hun sy'n peri i Gymry Cymraeg feddwl ddwywaith cyn ymgeisio am swydd Cyfarwyddwr Addysg.

Dywedodd Ffred Ffransis (Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg):

"Mae eu cynlluniau uchelgeisiol honedig mewn addysg yn golygu cau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg a distrywio'r cymunedau hyn. Mae hyn yn amlwg yn gwneud i ymgeiswyr Cymraeg galluog ail-feddwl cyn ymgeisio am swydd Cyfarwyddwr Addysg. Anodd iawn yw cael hyd i Ddienyddwyr cyhoeddus y dyddiau hyn."

"Dyw hi ddim yn wir chwaith fod rhwyg rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn y Cyngor - mae eu gweinyddiaeth bron yn gyfangwbl Saesneg, a disgwylir i'r Cyfarwyddwr Addysg weinyddu'n Saesneg."

"Ymddengys fod gan arweinwyr y Cyngor ymdeimlad dwfn o israddoldeb gan gredu fod yn rhaid cael hyd i'r 'person gorau am y swydd' o du allan. Dyma sarhad ar genedl sydd mor falch o'i haddysg."

 

nôl i'r brig - back to the top