Cadw Ein Hysgolion - Cadw Ein Hysgolion
nôl i'r hafanddalen - back to homepage

Hafan | Newyddion | Digwyddiadau | Gwybodaeth | Trafodwch | Dolenni | Cysylltwch
Home | News | Events | Information | Discuss | Links | Contact Us

FFORWM: Cadwn ein Hysgolion! CARMEL

Nos Iau Ionawr 13 - 7pm
Gwesty'r Stag & Pheasant
Carmel


Stag & Pheasant

Rydym yn eich gwahodd i gyfarfod sefydlu fforwm ymgyrchu dros ddyfodol ysgolion Pentref Sir Gâr, yn y Stag & Pheasant - Carmel, ar Nos Iaiu 13eg o Ionawr am 7yh.

Pwyswch yma am gyfarwyddiadau Multimap.com

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwahodd rhieni, llywodraethwyr a phobl o gymunedau sydd â’u hysgolion tan fygythiad i ddod ynghyd i sefydlu Fforwm i ymgyrchu dros Ysgolion Pentre Sir Gâr. Yr ydym yn gwahodd hefyd gynrychiolwyr o fudiadau ac undebau sydd â diddordeb yn y mater i fod yn bresennol. Bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael. Trefnwyd y brotest tu fas i Neuadd y Sir gan Gymdeithas yr Iaith gan fod angen ymateb buan i’r bygythiad gan y Cyngor Sir. Ond mae’r Gymdeithas yn teimlo’n gryf mai’r cymunedau dan fygythiad eu hunain ddylai arwain yr ymgyrch, ac felly rydym yn trefnu’r cyfarfod hwn i sefydlu fforwm cynrychioladol.

Rhagwelwn mai cyfarfod fydd hwn i roi cychwyn brys ar y gwaith ac i drefnu pwyllgor cynrychioladol i drefnu ymgyrchu. A wnewch chi felly hysbysu pawb yn eich cylch am y cyfarfod a cheisio sicrhau fod cynrychiolaeth dda yn bresennol.

Awgrymwn y canlynol fel agenda neu faes gwaith i’r cyfarfod, a rhoddwn argymhelliad i’w drafod o dan pob pwynt. Mae croeso i chwi ddanfon eich sylwadau am unrhyw newidiadau yr hoffech eu gweld at ffred@cymdeithas.com

AGENDA – ar ffurf drafft

1) Cyflwyno Adroddiadau gan Gymdeithas yr Iaith am y cefndir a’r sefyllfa bresennol o ran y bygythiad i ysgolion pentre Sir Gâr.

2) Sefydlu Amcan y Fforwm. Mae rhai wedi awgrymu y dylai fod yn fforwm ymgyrchu dros ddyfodol ein cymunedau yn ogystal â’n hysgolion, ac mae eraill wedi awgrymu y dylai democrateiddio’r Cyngor Sir fod yn nod. Argymhelliad – Y nod ddylai fod diogelu a datblygu ein hysgolion pentrefol yn ganolfannau addysg a datblgyu cymunedol.

3) Enw i’r Fforwm. Bydd hyn yn dilyn yn naturiol o’r drafodaeth am ei nod. Da fyddai ceisio meddwl ymlaen llaw am enw trawiadol i’r fforwm.

4) Cyfansoddiad neu Drefniadaeth y Fforwm. – sef y ffordd y bydd yn gweithredu. Gallai fod aelodaeth unigol neu aelodaeth i grwpiau ymgyrchu lleol. A fydd mudiadau’n aelodau o’r fforwm ? A ddylai fod pwyllgor neu gyfarfodydd agored ? Argymhelliad – Fod sefydlu pwyllgor rheoli’r fforwm gyda swyddogion canolog (cadeirydd, is-gadeirydd, ysgrifennydd, trysorydd etc) wedi’u hethol heno yn y cyfarfod agored a gofyn i bob grwp ymgyrchu lleol enwebu cynrychiolydd cyn diwedd y mis. Rhain fydd aelodau Pwyllgor Rheoli’r Fforwm ond bydd croeso i fudiadau sy’n cefnogi’r amcanion ddanfon sylwebwyr. Dylai’r pwyllgor gyfarfod ar ddechrau Chwefror a chyfarfod yn gyson i drefnu ymgyrchu a dylid cynnal Cyfarfod Agored i bawb o leiaf unwaith y chwarter.

5) Cyllid – sut fydd codi arian i gynnal y fforwm. Argymhelliad – Gofyn i bob grwp lleol wneud cyfraniad a sefydlu Cronfa ar gyfer Cyfeillion Ysgolion Pentrefol Sir Gâr ( sef cronfa ar gyfer cyfraniadau unigol).

6) Gwefan – a oes angen sefydlu gwefan arall neu barhau i ddefnyddio www.cadwneinhysgolion.com ?

(Ar ôl cymryd y penderfyniadau uchod)

7) Ethol Swyddogion Canolog i’r Fforwm – bydd angen meddwl ymlaen llaw am bosibiliadau.

8) RHAGLEN WAITH I’R FFORWM – Cyfle i bawb leisio barn mewn sesiwn agored am sut y dylai’r pwyllgor fynd ymlaen i drefnu ymgyrchu

9) SYMUD YMLAEN – Gosod dyddiadau ar gyfer cyfarfod cyntaf y pwyllgor ar ddechrau Chwefror, a’r Cyfarfod Agored nesaf. Gellid er enghraifft ystyried gwahodd Swyddogion y Cyngor Sir neu gynghorwyr i ddod i’r Cyfarfod Agored nesaf i’w croesholi.

10) CASGLIAD – tuag at gostau’r noson.

 

nôl i'r brig - back to the top