Cadw Ein Hysgolion - Cadw Ein Hysgolion
nôl i'r hafanddalen - back to homepage

Hafan | Newyddion | Digwyddiadau | Gwybodaeth | Trafodwch | Dolenni | Cysylltwch
Home | News | Events | Information | Discuss | Links | Contact Us

Cyfarfod Carmel

Mi roedd dros 30 o ysgolion wedi’u cynrychioli yn y cyfarfod yng Ngharmel heddiw. Fel gŵr gwadd, mi roedd Cris Tomas o Ysgol Hermon wedi crynhoi’r ymgyrch aflwyddiannus i gadw Ysgol Hermon ar agor mewn ffordd hynod o ddiddorol. Serch hynny, mi ddaeth nifer o wersi pwysig ynglyn â ffyrdd posib i ni weithredu fel Fforwm.

Mi roedd yr ymgyrch wedi costio’n ddrud iddyn nhw – fel un ysgol unigol. Mi fydd gan y Fforwm nifer o fanteision wrth gynrychioli cymaint o ysgolion.

Penderfynwyd cynnal nifer o deithiau noddedig dros y Pasg i ddechrau ar y broses o godi arian i’r Fforwm.

Cytunwyd gan bawb i gynnal protest yn Neuadd y Sir i ymateb i unrhyw gadarnhad am ba ysgolion sydd ar y rhestr cymal cyntaf wrth y Cyngor.

 

nôl i'r brig - back to the top