Cadw Ein Hysgolion - Cadw Ein Hysgolion
nôl i'r hafanddalen - back to homepage

Hafan | Newyddion | Digwyddiadau | Gwybodaeth | Trafodwch | Dolenni | Cysylltwch
Home | News | Events | Information | Discuss | Links | Contact Us

Cyfarfod â Mark James, Meryl Gravell a Vernon Morgan.

Cytunwyd ar gyfarfod rhwng Ioan Hefin a Mark James, Meryl Gravell a Vernon Morgan ar Ebrill 5ed yn neuadd y Sir.

Er gwaetha ymdrechion Vernon Morgan i bwysleisio taw gwelliannau addysgol sydd wrth wraidd y cynllun, ac ymateb Mark James taw nid arbed arian yw’r nod (i’r gwrthwyneb gan fod y cynllun yn mynd i gostio 1.9 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn); gosodwyd darlun llawer mwy cywir oddiwrth arweinydd y Cabinet.

Yn ôl Meryl Gravell, ni fydd ardaloedd sy’n brwydro yn erbyn y cynllun (drwy’r FForwm neu ar wahan), neu ardaloedd gyda chynghorwyr Plaid Cymru sy’n anghytuno, yn elwa dim o’r buddsoddiad newydd.

Mae’n hollol amlwg taw gêm yw’r cyfan iddyn nhw. Mae dangos ystyriaethau addysgol a chymunedol ffals yn esgus i guddio’r gwirionedd.

Mae’n ddigon amlwg hefyd fod y cymalau cyntaf o’r strategaeth wedi’u hen benderfynu ac mi fydd nifer o ysgolion yn gorfod aros am flynyddoedd cyn clywed eu tynged. Yn y cyfamser, d’oes dim ystyriaeth ar gyfer ysgolion lle mae’r plant yn chwilio am ysgolion ‘saff’ am eu haddysg, y moral yn dirywio, adnoddau yn dod i ben a’r ysgol yn gwaedu i farwolaeth. Mi fydd nifer o blant y sir yn diodde’ am gyfnod cyfan eu haddysg gynradd oherwydd strategaeth y sir.

Danfonodd Ioan Hefin y canlynol atant wedi'r cyfarfod:

Unwaith eto, ga’i ddiolch i’r tri ohonoch am yr amser a’r gwrandawiad pnawn Mawrth.

Tybed a fydd hi’n bosib i chi ystyried y pwyntiau canlynol yn sgil yr hyn a ddywedwyd yn ystod y cyfarfod.

1. Mae’n hollol amlwg eich bod yn unfrydol ac yn gadarn iawn ynglŷn â’ch dull o weithredu, ac mae hyn yn sicr yn wahanol i gyngor sy’n ddiog ac yn ddifater. Mae rhaid felly sicrhau teilyngdod penderfyniadau mawr sy’n siŵr o gael effaith eang ar strwythur ein cymunedau am weddill ein hoes - ac oes ein plant. Braf yw gweld arweinwyr y Sir yn dilyn awgrymiadau’r cynulliad gyda shwd gymaint o arddeliad. A yw hi’n bosib nad yw’r cynulliad yn berffaith gywir ym mhob penderfyniad neu ddeddf? Beth sydd o le mewn canolbwyntio ar gryfderau a rhinweddau’r Sir sy’n hollol unigryw ac yn werth amddiffyn - er gwaetha awgrymiadau’r cynulliad?

Mae 'na wahaniaeth pendant rhwng yr anawsterau sy’n wynebu’r ysgolion trefol a’r ysgolion cymunedol. Lle mae’r gwahaniaeth yn yr MEP ynglŷn â’r driniaeth?
Braf oedd clywed wrth yr arweinydd na fydd ysgolion yn cau, a bod angen canolfannau yn ein cymunedau ar gyfer dysgu gydol oes. Pam nad yw hyn yn glir i ni fel aelodau’r cyhoedd? Dwi’n siŵr y bydd y syniad ein bod ni fel fforwm yn cynnig syniadau i chi ynglŷn â gwella’r defnydd o’r adeiladau gwerthfawr sy’n gwasanaethu’n pentrefi yn cael ymateb positif iawn.

2. Mae’n ymddangos i mi mai un o’r pwyntiau mwya’ amlwg ynglŷn â’r effaith negyddol yr MEP yw’r ansicrwydd sy’n perthyn i’r amserlen wyth/deng mlynedd nesa’. Dwi’n derbyn eich pwynt bod ambell i athro / prifathro yn canmol y datblygiadau posib allan o glyw'r rhieni a’r llywodraethwyr, ond mae 'na nifer helaeth o athrawon sy’n becso’n ddwfn am eu dyfodol. Mi fydd ysbryd y staff yn gwywo heb sicrwydd am eu dyfodol. Mi fydd safon yr addysg yn diodde’ i nifer o blant sy’n mynd drwy’r system yng CA1 a CA2. Mae niwed parhaol wedi’i blannu’n barod. Allwn ni gael cyhoeddiad gennych cyn diwedd y flwyddyn academaidd ynglŷn â’r ysgolion ni fydd yn rhan o’r cymalau cyntaf (ac felly’n saff am y pum mlynedd nesa o leia’)?

3. Braf oedd clywed y Cyfarwyddwr Addysg yn datgan ei gred taw gwella safonau addysgiadol yw gwreiddyn pob penderfyniad yn yr MEP. Mae patrwm asesu Estyn wedi newid yn ddiweddar wrth asesu’r “athro” i asesu gwerthoedd y “dysgu”. Mae hwn yn sylweddol iawn wrth ystyried cyfrwng y dysgu - boed hynny mewn ysgol fach neu beidio. Os felly, pam gosod y bygythiad “mi fydd ardaloedd sy’n protestio gyda “Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gar”, neu sy’n rhan o ardal cynghorwyr sy’n datgan pryderon/amheuon ynglŷn â’r cynllun, yn siŵr o golli allan ar unrhyw fuddsoddiad yn eu hysgol”? Penderfyniadau addysgiadol heb ragfarn? Ar draws y Sir yn gyfartal?

4. Yn sgil datganiad y prif weithredwr ni fydd y newidiadau yn arbed arian i’r cyngor (i’r gwrthwyneb), mi fyddwn yn falch iawn i dderbyn eich gwahoddiad i ymweld ag ysgolion Bro Brynach a Chwm Aman. A oes angen i chi gysylltu â’r ysgolion i roi rhybudd?

5. Trueni na fyddwch yn fodlon ystyried cyfarfod ag aelodau’r Fforwm, ond mi fyddwn yn derbyn eich gwahoddiad i gynnig aelodau unigol i ddod i osod cwestiynau ar ran y Fforwm. Mae ‘na groeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd.

Gobeithio y gallwch ystyried ac ymateb i’r pwyntiau uchod.

Ioan Hefin

A derbyniodd yr ymateb yma gan Vernon Morgan:

Annwyl Ioan Hefin

O ran yr hyn a ddisgrifir gennych fel “penderfyniad unedig a dogmatig i fwrw ymlaen â’r rhaglen Moderneiddio’r Ddarpariaeth Addysg”, ategir y penderfyniad hwnnw gan y gweithdrefnau priodol a fabwysiedir gan y Cyngor. Mae’r rhaglen wedi cael ei datblygu dros gyfnod sylweddol o amser, ac mae’n un o’r themâu canolog yn nogfennau polisi allweddol yr Awdurdod. Yn yr un modd â phob polisi, ymgynghorwyd yn helaeth ynghylch y polisi hwn, ac yn unol â’r broses ddemocrataidd, parheir i gynnal archwiliadau priodol a fydd yn rhoi sylw iddo. Byddai’n anarferol pe bai uwch-wleidyddion neu uwch-swyddogion yn dewis peidio â chydymffurfio â phenderfyniadau’r Cyngor. Bûm yn gwrando’n astud ar eich sylwadau ar raglen ‘Taro Naw’, ac roeddynt yn ddefnyddiol i mi gan i chi egluro eich safbwynt o ran yr agenda a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

Yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddyletswydd statudol i roi cyfeiriad strategol i bob un o’r dau ar hugain o Awdurdodau Unedig yng Nghymru. O ran ein perthynas â Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae rheidrwydd ar y Cyngor i “ddarparu gwasanaethau sy’n cyrraedd safonau penodol – o ran costau ac ansawdd – yn y modd mwyaf economaidd, effeithlon ac effeithiol.” Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i’r holl raglenni a fabwysiedir gan y Cyngor, gan gynnwys strategaeth Moderneiddio’r Ddarpariaeth Addysg.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn gwadu’r cyfleoedd sydd ar gael i ymdrin ag achosion yn wahanol, a hynny yn ôl amgylchiadau lleol. Mae’r gwahaniaethau hyn ar eu mwyaf amlwg wrth gymharu gwasanaethau ardaloedd gwledig â gwasanaethau ardaloedd trefol. Rwyf o’r farn fod yr Awdurdod yn ceisio gweithredu polisi o’r fath mewn modd sensitif. Wedi dweud hynny, mae bron yn amhosibl plesio pawb drwy’r amser.

Yn yr un modd ag unrhyw raglen sy’n ymwneud â newid, byddwn yn gwneud ein gorau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb sydd â diddordeb ynddi. Cododd y mater hwn yn ystod ein trafodaeth, ac rwyf yn eich sicrhau y byddwn yn ailedrych ar ein strategaeth er mwyn rhoi gwybod i bobl am ein cynlluniau mewn modd agored a thrylwyr.

O ran eich cynnig i ymweld ag Ysgol Bro Brynach ac Ysgol Cwm Aman, a fyddech cystal â chysylltu â’r penaethiaid er mwyn rhoi agenda clir iddynt. Drwy wneud hyn, gellir sicrhau bod pawb sy’n gweithio yn yr ysgolion yn gallu paratoi’n drylwyr, a gellir sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’u hamser prin.

Diolch am gymryd cymaint o ddiddordeb yn addysg plant a phobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin. Rwyf yn credu fod polisïau’r Awdurdod wedi cael eu llunio gyda’r bwriad o sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i les y rhai sy’n derbyn addysg.

Vernon Morgan

 

nôl i'r brig - back to the top