|
||
|
Pryder cau ysgolion yn gynt (bbc.co.uk/cymru)Pryder cau ysgolion yn gynt Mae 'na bryder y gallai nifer o ysgolion bach sydd o dan fygythiad i gau oherwydd cynlluniau moderneiddio addysg gau yn gynt na'r disgwyl. Mae un o undebau'r athrawon yn galw ar gynghorau sir Cymru i newid y ffordd y mae nhw'n ymgynghori ar ddyfodol ysgolion bach. Fe gafodd Ysgol Gynradd Cwmgwili ger Cross Hands ei henwi gan Gyngor Sir Gaerfyrddin fel un o'r ysgolion allai gau dan eu cynlluniau i ad-drefnu addysg. Ond oherwydd yr ansicrwydd mae nifer o rieni eisoes wedi penderfynu symud eu plant i ysgolion eraill ym mis Medi sy'n golygu y gallai'r ysgol gau yn gynt. Mae UCAC yn dweud na ddylai cynghorau gyhoeddi enwau ysgolion sydd mewn perygl tan fod y broses ymgynghori wedi ei chwblhau. Ac mae 'na ofnau bod yr un peth yn digwydd mewn llefydd eraill o Gymru. Ysgol fach wrth ymyl y brif ffordd rhwng Pont Abraham a Cross Hands yw Ysgol Cwmgwili efo 25 o ddisgyblion yno. Ond y tymor nesa fe fydd y nifer wedi gostwng i naw. Mae nifer o'r rhieni wedi penderfynu na fydd eu plant yn dychwelyd yno ac yn ôl rhieni eraill cynllun ad-drefnu addysg Sir Gaerfyrddin sydd ar fai. "Unwaith bo chi'n gwybod bod ysgol yn cau mae'n cael effaith," meddai'r cynghorydd lleol, John Edwards. "Mae'r rheini sydd efo plant yn Ysgol Cwmgwili wedi symud nhw'n barod ac mae rhieni plant a fyddai wedi dod yma yn meddwl os fydd yr ysgol yn cau mewn blwyddyn neu ddwy ei bod yn well eu hanfon i ysgol na fydd yn cau." Un o'r rhieni sy'n teimlo'n gryf am y sefyllfa yw Llinos Evans ac mae am i'w mab aros yn yr ysgol ond dyw hi ddim yn gweld bai ar rieni eraill am symud eu plant. "Ar hyn o bryd mae shwt ansicrwydd o fewn y gymdeithas rhwng rhieni a'r plant. "Mae rhai wedi penderfynu symud y plant cyn i'r ysgol gau ac mae hyn yn drueni ond wedyn allwch chi ddim eu beio. "Mae ganddyn nhw hawl i wneud eu dewis ond mae'r cyngor wedi bod mor dan din." Yn ôl Gruff Hughes o undeb athrawon UCAC maen nhw wedi dod ar draws y broblem hon o'r blaen. "Rydan ni'n ymwybodol bod hyn wedi digwydd yn y gorffennol lle mae'r rheini yn cael yr argraff bod yr ysgol o dan fygythiad i gau. "Mae hyn yn achosi pryder i ni gan bod y rhieni yn gwneud gwaith yr awdurdod o gau ysgolion." Mae'r undeb felly yn galw am newid y ffordd mae awdurdodau lleol yn ymgynghori ynglŷn â dyfodol ysgolion. "Mae UCAC yn teimlo'n gryf iawn na ddylai'r awdurdodau wneud datganiadau cyhoeddus yn enwi ysgolion sy'n cael eu hystyried i gau tan y bydd y drefn wedi ei wneud o drafod gyda'r ysgolion. "Fe ddylai'r ffeithiau cywir fod ar gael gyntaf gan bod awgrymiadau yn codi ofn ar rieni." Mae Ioan Hefin o Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr yn cytuno. "Os yw'r broses yn niweidiol a lot o bobl yn cytuno gyda beth yw byrdwn y ddarpariaeth ar gyfer gwella addysg yn y sir, pam nad yw nhw'n ail asesu, yn ymgynghori cyn dechrau ar amserlen. "Edrych ar y sefyllfa yn hollol naturiol ac yn reddfol a chreu awyrgylch chwarae teg i bob ysgol a phob disgybl." Erbyn hyn mae'r cyngor yn ystyried cau Ysgol Cwmgwili yn gynt. Mewn datganiad dywedodd Robert Blewitt, Pennaeth Polisi a Pherfformiad Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin mai bwriad y cyngor wrth ad-drefnu addysg oedd datblygu portffolio o ysgolion sy'n addas at anghenion yr 21ain ganrif, sy'n ymarferol, sydd wedi eu lleoli yn y mannau gorau i wasanaethu'r cymunedau presennol, sydd ag adeiladau a chyfleusterau da, ac sy'n cael eu defnyddio mewn modd effeithiol ac effeithlon. Pwysleisiodd fod y cyngor wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer ystyried dyfodol ysgolion yn sgil y galw arnyn nhw i wneud hynny.
|
| nôl i'r brig - back to the top | ||||